Beth yw bwyd organig?:
|
Ystyr gyfreithiol sydd i'r term organig, wrth
sôn am fwyd. Mae'n golygu bod y bwyd wedi cael ei dyfu a'i brosesu
yn unol â rheolau arbennig.
Mae mwy o wybodaeth am y Safonau ar
y tudalen hwn ar wefan DEFRA. |
 |
Gweler hefyd: Beth yw ffermio organig?
|
Felly sut ydw i'n gwybod ei
fod yn organig?
Gwnewch yn siŵr fod y gair 'organig'
ar y label
- ac edrychwch ar y logo
 |
|
Beth
mae'r Safonau organig yn ei ddweud?
Lles anifeiliaid:
-
Rhaid bod digon o le
gan anifeiliaid, gan gynnwys moch a dofednod, i ymddwyn yn naturiol
-
Rhaid bod gan yr holl stoc
fynediad i dir pori lle bo modd
-
Ni chaniateir bwydo
gwartheg cig a godro'n ddwys na defnyddio cewyll ieir caeth
-
Dim rhoi gwrthfiotigau'n
rheolaidd, ond mae rhaid trin anifeiliaid sy'n sâl, er mwyn osgoi
dioddefaint
|
 |
|
Tyfu cnydau:
-
Mae tyfu gwahanol gnydau yn
yr un ardal yn golygu nad oes cyfle gan blâu ac afiechydon i gynyddu
o dymor i dymor
-
Ni chaniateir gwrteithiau
nitrogen artiffisial a chyfyngir defnydd gwrteithiau mwynol eraill
-
Mae ffermwyr yn cynyddu
ffrwythlondeb y pridd drwy ddefnyddio tail a meillion
-
Ni chaiff ffermwyr organig
ond ddefnyddio nifer fach o blaleiddiaid a hynny o dan amgylchiadau
arbennig yn unig
-
Ni chaniateir
chwynleiddiaid ar ffermydd organig
|
 |
Ar
ôl faint o amser mae ffermwyr yn gallu cynhyrchu anifeiliaid a chnydau organig?
-
Ar
ôl i fferm ddechrau trosi i gynhyrchu'n organig, mae'n cymryd o leiaf ddwy
flynedd nes y gall y cynhyrchion gael ei werthu'n organig.
-
Rhaid i ffermwyr
gydymffurfio â Safonau unwaith eu bod yn dechrau trosi, ac er mwyn sicrhau hyn, maent yn cael eu harchwilio bob blwyddyn ac mae eu cynnyrch yn cael ei drwyddedu
Beth am
GMs?
Beth am bris bwyd organig?
 |
- Mae'r dulliau sy'n cael eu defnyddio gan ffermwyr organig yn
golygu y gall costau llafur fod yn uwch
- Yn gyffredinol, mae'r ffermwyr yn cael llai o gynnyrch na fermwyr
confensiynol, felly er mwyn aros mewn busnes, rhaid iddynt dderbyn
pris uwch am eu cynnyrch
- Gall fod yn ddrud cynhyrchu bwyd i anifeiliaid sydd wedi cael ei
dyfu'n organig
- Gall bwydydd organig wei'u prosesu fod yn ddrutach na bwydydd
confensiynol oherywydd bod cost y cynhwysion yn uwch a gall
cyfyngiadau organig eraill arwain at gostau uwch
- Weithiau, gall swmp llai a'r pellteroedd hirach a all fod ynghlwm
â bwydydd organig ffres a phrosesedig godi costau cynhyrchu a
marchnata
- Yn yr un modd ag unrhyw gynnyrch, pan fydd y galw'n uchel a'r
cyflenwad yn isel, bydd y pris yn codi ac ychydig iawn o reolaeth
sydd gan y ffermwr dros hyn!
|
Sut alla i
ddod o hyd i fwyd organig am bris rhesymol?
-
Yn aml, gellwch chi brynu'n
uniongyrchol oddi wrth y cynhyrchydd. Gall hyn fod drwy cynlluniau
blwch, o farchnadoedd y ffermwyr, gwerthu ar-lein, archebu drwy'r
post neu siopau fferm
-
Gall cynnyrch fod yn
rhatach yn ei dymor
-
Mae'r rhan fwyaf o
archfarchnadoedd a siopau cyfanfwyd yn gwerthu cynnyrch organig: os
nad ydych yn gallu dod o hyd iddo, gofynnwch amdano!
-
Trwy baratoi eich bwyd eich
hunan ac osgoi bwyd hynod brosesedig, efallai, at ei gilydd, na
fyddwch yn talu mwy na'r hyn y byddwch yn ei dalu am fwyd anorganig
-
I ddarganfod lle y gellwch
brynu bwyd organig, llawrlwythwch ein llyfryn 'Yn
lleol ac organig' neu edrych ar ein
tudalen manwerthu neu ein
rhestr busnesau organig yng
Nghymru
|

Llun: Janet Baxter |
Beth am
ansawdd bwyd organig?
-
Mae bwyd organig yn cynnwys
llai o waddodion y plaleiddiaid sy'n cael eu defnyddio mewn
amaethyddiaeth gonfensiynol, felly wrth brynu cynnyrch organig mae'n
llai tebygol y bydd eich bwyd yn cynnwys y gwaddodion hyn
-
Mae ymchwil yn awgrymu y
gall ffrwythau a llysiau organig gynnwys, ar gyfartaledd, lefelau
uwch o fitamin C a mwynau pwysig eraill
-
Ni chaniaeteir rhoi
gwrthfiotigau'n rheolaidd i anifeiliaid fferm
-
Ni chaniateir ond tua 30 o
ychwanegion, fel halen a phowdwr codi, mewn bwyd organig prosesedig,
o'u cymharu â mwy na 290 o ychwanegion a ganiateir mewn bwyd
anorganig prosesedig
-
Ni chaniateir seimiau
hydrogenaidd, sydd yn gysylltiedig â chlefyd y galon, mewn bwydydd
organig prosesedig
-
Cafwyd bod lefel uwch o
omega-3 ac asidau brasterog hanfodol eraill mewn buchod organig sydd
wedi cael eu bwydo
ar gyfrannau uwch o laswellt a meillion
-
Dylai deiat iach fod yn
gytbwys gan gynnwys digon o ffrwythau a llysiau ffres. Gall
deiat, organig neu beidio, syn'n llawn bwydydd hynod brosesedig,
gynnwys lefelau afiach o siwgrau, seimiau dirlawn neu halen
|
 |
Ar gyfer taflen wybodaeth y Soil Association
am fwydydd organig mewn perthynas â maeth a iechyd
cliciwch
yma.
 |
Ydy
ffermio organig yn llesol i'r
amgylchedd?
-
Mae astudiaethau wedi
dangos, ar gyfartaledd, fod ffermydd organig sefydledig yn cynnal
niferoedd uwch ac amrywiaeth fwy toreithiog o adar, planhigion
gwyllt, pryfed a bywyd gwyllt arall, na ffermydd anorganig
-
Mae'r Safonau yn annog
ffermwyr organig i gynnal gwrychoedd, coed a chyrion caeau er mwyn
diogelu bywyd gwyllt
-
Mae defnydd ynni, ar
arbennig ynni sy'n gysylltiedig â gwneud gwrtaith a phlaleiddiaid,
yn tueddu i fod yn is o lawer ar fermydd organig
|
Ar gyfer crynodob o fanteision
amgylcheddol ffermio organig gan Defra,
cliciwch yma
Beth
yw dyfodol ffermio organig yng Nghymru?
-
Datblygodd Llywodraeth
Cynulliad Cymru gynllun gweithredu organig ym 1999, o flaen Lloegr
a'r Alban, ac mae'n dal i gefnogi ffermwyr organig
-
Mae Llywodraeth Cynulliad
Cymru yn annog darparu mwy o fwyd wedi'i gynhyrchu yng Nghymru, gan
gynnwys bwyd organig, mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau cyhoeddus
eraill
-
Mae cwmniau bwyd mawr yn
buddsoddi'n gynyddol mewn cynnyrch organig newydd, yn aml gyda
chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Canolfan Organig
Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad CYmru i hybu ffermio
organig. Gweler yr adran adran polisi
|
:
Llun: Jeremy Moore
|
|
Sut alla i gael gwybod mwy am
fwyd a ffermio organig a bod yn rhan o'r dyfodol organig yma? |

|
Llun: Treehouse Aberystwyth |
-
Ceisiwch ragor o wybodaeth am fwyd a ffermio organig gan un o'r
cyrff niferus sydd yn ei gefnogi. Ceir rhai ar y rhestr isod:
-
Gofynnwch am fwyd organig os na chewch chi ddod o hyd iddo mewn siop
neu dŷ bwyta
-
Ymwelwch â marchnadoedd y fermwyr a phrynwch oddi wrth gynhyrchwyr
organig yn uniongyrchol
-
Tyfwch eich bwyd organig eich hunain a dechreuwch domen gompost.
Dyma'r fordd orau i sicrhau bod eich cynnyrch yn rhydd o
blaleiddiaid. Am wybodaeth gweler gwefan
Garden Organic
-
Ewch
ati i weld a oes fferm organig gerllaw sy'n croesawu ymweliadiau gan
y cyhoedd:
gweler rhestr y Soil Association
yma
-
Ffoniwch Linell Gymorth
Canolfan Organig Cymru am fwy o wybodaeth 01970 622100
|
|
English
Yn
ôl i'r brig
|