Cynnal iechyd
anifeiliaid a diogelwch bwydydd mewn ffermio organig (SAFO):
Amcan prosiect rhwydwaith SAFO sy'n derbyn arian gan
yr UE yw gwella diogelwch bwyd ac iechyd anifeiliaid o fewn systemau
cynhyrchu da byw organig yng ngwledydd cyfredol a darpar wledydd yr
Undeb Ewropeaidd. Bydd hyn yn digwydd trwy broses o gyfnewid a
throsglwyddo canlyniadau a chasgliadau ymchwil ymhlith ymchwilwyr,
gwneuthurwyr polisïau, ffermwyr a'r gymuned ehangach sydd â
diddordeb ym maes ffermio organig, gan gynnwys y cwsmeriaid. Bydd y
prosiect hefyd yn gefn i ddatblygu safonau yr UE ar gynhyrchu da byw.