Os ydych yn cael problemau wrth ddarllen y bwletin hwn, ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin

If you have problems reading this bulletin, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Bwletin

Cymru Organig

Rhif 78,  1 Ebrill 2008

Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru 

I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg

Bulletin

Organic Wales

No. 78,  1 April 2008

A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales 

Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk

Mynd yn syth at yr adran:

 

Cymru organig  
Ffermio  

Bwyd a’r defnyddiwr  

Ymchwil

Digwyddiadau   Hysbysebion   Adborth

 

Go straight to section

 

Organic Wales  
Farming  

Food and consumer  

Research 

Events     Adverts   Feedback

 

Cymru organig

 

Yn ôl i'r brig

 

Cymru a GM

Bydd cynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwahardd cnydau GM o Gymru. Bydd y rheolaethau newydd, os cânt eu mabwysiadau, yn gwahanu Cymru oddi ar Loegr trwy weithredu egwyddor 'y llygrwr sy'n talu', a fydd yn rhoi terfyn hyd yn oed ar arbrofion cae. Western Mail

 

Sioe Frenhinol Cymru 21-24 Gorffenaf 2008

Bydd Canolfan Organig Cymru unwaith eto yn llogi lle yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad. Dylai unrhyw gwmni neu sefydliad sydd â diddordeb mewn ymuno â ni gysylltu â Carolyn Wacher, ccw@aber.ac.uk.

 

Organic Wales

 

Back to top

 

Wales and GM

Proposals by the Welsh Assembly Government will effectively ban genetically modified crops from Wales. New regulations, if adopted, will set Wales apart from England in applying a strict “polluter pays” principle that will put an end even to trial plantings. Western Mail

 

Royal Welsh Show 21-24 July 2008

Organic Centre Wales will, once again, be taking a space in the Countryside Care Area. If any companies or organizations would be interested in joining us, please get in touch with Carolyn Wacher, ccw@aber.ac.uk.

Ffermio

 

Yn ôl i'r brig

 

Digwyddiadau Canolfan Organig Cymru

Bydd sesiwn ar gyfleoedd mewn garddwriaeth organig yn cael ei gynnal yn y prynhawn yn ‘Peepout Farm’, Sir Benfro, ym mis Mai (gweler Digwyddiadau). Mae’r galw am gynnyrch garddwriaethol organig Cymreig yn parhau i fod yn gryf tra bo’r sylfaen cyflenwi yng Nghymru yn dal i fod yn fach. Mae’r sesiwn hwn yn archwilio’r cyfleoedd sylweddol sy’n bodoli ar gyfer cynhyrchwyr ffrwythau a llysiau organig, ac yn edrych yn realistig ar y sialensiau a’r peryglon sydd ynghlwm wrthynt. Y mae wedi ei anelu at dyfwyr organig sy’n dymuno ehangu, tyfwyr organig sy’n ystyried trawsnewid organig, a ffermwyr da byw (confensiynol ac organig) sy’n ystyried arallgyfeirio trwy droi at arddwriaeth.

 

Gwefan Cynghrair y Tyfwyr Organig

Mae gan y Gynghrair wefan newydd yn www.newoga.org.uk. Mae gan y gymdeithas, sy’n flwydd oed, 120 o aelodau ac y mae’n cynhyrchu cylchgrawn chwarterol ,sef The Organic Grower. Y mae hefyd yn trefnu digwyddiadau.

 

Fferm Cwmrath

Yn y Western Mail, ceir hanes Phil a Hilary Rogers o ‘Cwmrath Farm’ yn Summerhill, ger Amroth. Yn denantiaid yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, troesant at ffermio organig yn 2001 ac aethant ati i sefydlu Pembrokeshire Coast Organic Meat yn 2006. Stori Yn ddiweddar, defnyddiasant grant Rhaglen Adwerthu Gwledig Llywodraeth Cynulliad Cymru i droi hen feudy yn siop y fferm a’r pentref. Ymwelodd Elin Jones â’r siop hon yn ddiweddar.

 

Really Welsh

Mae’r Really Welsh Trading Company yn Sir Forgannwg yn tyfu cennin pedr a llysiau yn gonfensiynol, ond y maent hefyd yn gwerthu cynnyrch organig sy’n cynnwys moron a madarch shiitake. Gweler Farmers Guardian.

 

Cyfrifiannell carbon

Cyfrifiannell rhad ac am ddim sydd i’w gael ar y we yw CALM. Y mae’n dangos y cydbwysedd rhwng allyriannau blynyddol ac atafaeliad carbon ar gyfer busnesau sy’n gysylltiedig â’r tir. Ewch i http://calm.circlesquared.com.

 

Arbed ynni

Mae Warwick HRI wedi cynhyrchu adroddiad sy’n dwyn y teitl “Direct energy use in agriculture: opportunities for reducing fossil fuel inputs”. Dywed bod amaethyddiaeth yn gyfrifol am 0.8% o gyfanswm allyriannau carbon y DU, ac y mae’n gwneud argymhellion a fedrai leihau allyriannau o 15% erbyn 2015. Y mae hefyd yn galw am ddefnyddio mwy o ffynonellau ynni amgen. Organic Inform

 

Arwerthiannau da byw

Bydd arwerthiannau da byw McCartney's yn cael eu cynnal nesaf ar 10 Ebrill, 1 Mai, 10 Gorffenaf. Ffoniwch 01874 622386 i gael manylion.

Bydd arwerthiannau organig Gwerthiannau Da Byw'r Trallwng yn cael eu cynnal ar 7 Ebrill a 5 Mai. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion.

Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiannau organig rheolaidd. I gael manylion, ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com

 

Farming

 

Back to top

 

OCW events

An afternoon session on opportunities in organic horticulture will be held at Peepout Farm, Pembrokeshire, in May (see Events). Demand for Welsh organic horticulture produce remains very strong while the supply base in Wales remains small. This event explores the considerable opportunities that exist for producers of organic fruit and veg while taking a realistic look at the challenges and risks involved. It is aimed at existing organic growers looking to expand, conventional growers considering organic conversion and livestock farmers (conventional and organic) considering diversification into horticultural production.

 

Organic Growers Alliance website

The OGA has a new website at www.newoga.org.uk. The organisation, which is a year old, has a membership of 120 and produces a quarterly journal The Organic Grower, as well as organizing events.

 

Cwmrath Farm

The Western Mail profiles Phil and Hilary Rogers of Cwmrath Farm at Summerhill, near Amroth. Tenants of the National Trust, they went organic in 2001 and set up Pembrokeshire Coast Organic Meat in 2006. They recently used a Welsh Assembly Government Rural Retail Programme grant to convert a cow shed into a farm shop and village stores, which was recently visited by Elin Jones.

 

Really Welsh

The Really Welsh Trading Company in Glamorgan grows daffodils and vegetables conventionally, but also trades organic carrots, shiitake mushrooms and other produce. See Farmers Guardian

 

Carbon calculator

CALM is a free web-based calculator which shows the balance between annual emissions and carbon sequestration for land-based businesses. Go to http://calm.circlesquared.com.   

 

Saving energy

Warwick HRI has produced a report titled “Direct energy use in agriculture: opportunities for reducing fossil fuel inputs”. It finds that agriculture is responsible for 0.8% of total UK carbon emissions, and makes recommendations that could reduce emissions by 15% by 2015. It also calls for the use of more alternative energy sources. Organic Inform

 

Livestock sales

McCartney's next organic auctions will be held on 10 April, 1 May, 10 July. Call 01874 622386 for details.

Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 7 April and 5 May. Call 01938 553438 for details.

Carmarthen Livestock Centre hold regular organic auctions. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.

 

Bwyd a'r defnyddiwr

 

Yn ôl i'r brig

 

Bwyd o Bwys – Lleol, Organig a Chynaliadwy

Dydd Sadwrn, 5 Ebrill, 12-4, Morlan, Aberystwyth Mae Canolfan Organig Cymru, mewn cydweithrediad â Mudiad Trawsnewid Tref Aberystwyth, yn trefnu digwyddiad a fydd yn edrych ar y materion cymhleth sy’n pennu pa ddewisiadau a wnawn wrth brynu bwyd - gan gynnwys prisiau, cynaladwyedd, a pha un ai yw’r bwyd dan sylw ar gael ai peidio. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth, neu e-bostiwch Carolyn Wacher yng Nghanolfan Organig Cymru.

 

Cludiant awyr

Yn dilyn yr ymgynghoriad y llynedd, y mae’r Soil Association yn awgrym y gellir cludo cynnyrch organig mewn awyrennau o hyd, a hynny ar yr amod fod y cludiant hwnnw yn cwrdd â meini prawf masnach deg, bod busnesau yn monitro eu defnydd o gludiant awyr ar gyfer cynnyrch organig, a bod ganddynt gynllun ar gyfer lleihau faint o gynnyrch y maent yn ei gludo yn y fath fodd. Ceir manylion llawn yn: www.soilassociation.org/airfreight.

 

Plaladdwyr

Mae taflen newydd i gwsmeriaid gan y Pesticides Action Network, Pesticides on a Plate, yn esbonio peryglon plaladdwyr mewn bwyd, a sut mae'u hosgoi. Lawrlwythwch yma

 

Ar y We

www.pembrokeshirecoastorganicmeats.co.uk cig eidion a chig oen o fferm Cwmrath, gweler Ffermio uchod.

 

Food and consumer

 

Back to top

 

Food Matters – Local, Organic and Sustainable

Saturday 5 April, 12-4, Morlan, Aberystwyth Food Matters – Local, Organic and Sustainable: Organic Centre Wales, in conjunction with the Aberystwyth Transition Town movement, is organising this event at the Morlan Centre, Aberystwyth on Saturday, 5 April 2008. It will look at the complex issues that determine our food choices, including price, availability and sustainability. Click here for more information, or e-mail Carolyn Wacher at Organic Centre Wales

 

Air freight

Following last year's consultation, the Soil Association is suggesting that organic produce could still be air freighted, provided it met fair trade criteria, that businesses monitor the use of air freight for organic produce, and that they have a plan for reducing the amount they air freight. These proposals are now out for consultation until 30 May. Full details at: www.soilassociation.org/airfreight.

 

Pesticides

A new consumer leaflet from the Pesticides Action Network, Pesticides on a Plate, explains how the dangers of pesticides in food and how to avoid them. Download here.

 

On the Web

www.pembrokeshirecoastorganicmeats.co.uk beef and lamb from Cwmrath farm, see Farming above

Ymchwil

 

Yn ôl i'r brig

 

Llawlyfr diogelwch ac ansawdd bwyd organig

Golygwyd gan J Cooper, C Leifert, Prifysgol Newcastle, y DU ac U Niggli, FiBL, y Swistir.

Mae cynhyrchiant a gwerthiant bwyd organig wedi cynyddu’n sydyn dros y ddau ddegawd diwethaf, ond os yw hyder cwsmeriaid i barhau’n uchel, dylid eu sicrhau ynglŷn â diogelwch, ansawdd a manteision iechyd bwydydd organig. Fe fydd y llyfr 500 tudalen hwn, gyda 22 o benodau gan awduron o wahanol rannau o Ewrop a gogledd America, yn ganllaw awdurdodol ar gyfer bobl broffesiynol a chynhyrchwyr. Mae Rhan 1 yn darparu cyflwyniad i ansawdd a diogelwch sylfaenol gyda phenodau ar ffactorau sy’n cael effaith ar werth maeth bwyd, sicrwydd ansawdd a disgwyliadau cwsmeriaid. Mae Rhan 2 yn trafod materion sy’n ymwneud ag ansawdd a diogelwch elfennol mewn perthynas â chynhyrchiant porthiant organig ar gyfer da, gan gynnwys effeithiau patrymau bwydo a hwsmonaeth ar gynhyrchion llaeth, dofednod a phorc. Mae penodau eraill yn trafod dulliau o reoli a lleihau heintiadau a pharasitiaid mewn da byw. Mae Rhan 3 yn ymdrin â’r prif faterion sy’n ymwneud ag ansawdd a diogelwch mewn perthynas â chynhyrchiant bwydydd cnwd organig, megis y dulliau agronomegol a ddefnyddir i gynhyrchu cnydau a’u heffeithiau ar eu hansawdd o ran maeth, yn ogystal â’u heffeithiau posibl ar iechyd. Mae rhan olaf y llyfr yn canolbwyntio ar sicrhau ansawdd a diogelwch drwy’r gadwyn fwyd drwyddi draw, gan gynnwys strategaethau ôl-gynhaeaf i leihau halogiad, a materion moesegol megis masnach deg. Daw’r penodau olaf i ben drwy adolygu strategaethau sicrwydd ansawdd sy’n ymwneud â sectorau bwyd organig penodol. Manylion cyhoeddi

 

Marchnata casgliadol

Bydd prosiect yr Undeb Ewropeaidd, sef 'Encouraging collective farmers marketing initiatives', yn cynnal ei gynhadledd olaf ar 8 Mai 2008 ym Mrwsel. Gweler www.cofami.org 

 

Research 

 

Back to top

 

Handbook of organic food safety and quality

Edited by J Cooper, C Leifert, Newcastle University, UK and U Niggli, FiBL, Switzerland

Production and consumption of organic food has increased rapidly over the past two decades but if consumer confidence is to remain high, the safety, quality and health benefits of organic foods must be assured. This 500-page book, with 22 chapters by authors from around Europe and north America, will be an authoritative guide for professionals and producers.

Part 1 provides an introduction to basic quality and safety with chapters on factors affecting the nutritional quality of foods, quality assurance and consumer expectations. Part 2 discusses the primary quality and safety issues related to the production of organic livestock foods including the effects of feeding regimes and husbandry on dairy products, poultry and pork. Further chapters discuss methods to control and reduce infections and parasites in livestock. Part 3 covers the main quality and safety issues concerning the production of organic crop foods, such as agronomic methods used in crop production and their effects on nutritional and sensory quality, as well as their potential health impacts. The final part of the book focuses on assuring quality and safety throughout the food chain, including post-harvest strategies to reduce contamination, and ethical issues such as fair trade. The final chapters conclude by reviewing quality assurance strategies relating to specific organic food sectors.

Publication details

 

Collective marketing

The EU project 'Encouraging collective farmers marketing initiatives' is holding its final conference on 8 May 2008 in Brussels. See www.cofami.org

 

Digwyddiadau

 

Yn ôl i'r brig

 

Mae rhoi gwybod i ni’n gynnar yn ein helpu i sicrhau na fydd digwyddiadau yn cael eu canslo oherwydd niferoedd isel.

 

05 Ebrill 12.00-4.00 Bwyd o Bwys: Lleol, Organig a Chynaliadwy - Sut ydym yn dewis? Mynediad rhad ac am ddim. Digwyddiad cyhoeddus, gydag arddangosion a siaradwyr yn y Morlan, Aberystwyth. Carolyn Wacher, 01970 621852

10 Ebrill Homeopathi ar lefel y Bwtsias - Diwrnod 1 £325 am gwrs tridiau sy’n cynnwys dysgu, llawlyfrau a thapiau adolygu. Duchy Home Farm, Tetbury, Swydd Gaerloyw. Cysylltwch â Chris Lees yn mclees@connectfree.co.uk.

22 Ebrill 1.45-4.30 Gweithdy Fferm Agored ar y Sul: sut i agor eich fferm i’r cyhoedd. www.farmsunday.org Hafod y Llan, Canolfan Deilan Las, Craflwyn, Beddgelert, Caernarfon, Gwynedd. Ffoniwch LEAF ar 02476 413911 neu e-bostiwch carol.cartwright@leafuk.org

23 Ebrill 1.45-4.30 Gweithdy Fferm Agored ar y Sul: sut i agor eich fferm i’r cyhoedd. www.farmsunday.org Fferm Coleg Gelli Aur, Gelli Aur, Caerfyrddin. Ffoniwch LEAF ar 02476 413911 neu e-bostiwch carol.cartwright@leafuk.org 

01 Mai Homeopathi ar lefel y Bwtsias - gweler 10 Ebrill.

08 Mai 1.45-4.30 Gweithdy Fferm Agored ar y Sul: sut i agor eich fferm i’r cyhoedd. www.farmsunday.org Blaen-y-Cwm, Dolau, Llandrindod Wells Powys. Ffoniwch LEAF ar 02476 413911 neu e-bostiwch carol.cartwright@leafuk.org 

8 Mai 10.00 - 17.30 Gweithdy Biodynamig Cyflwyniadol gydag Andre a Monique Kleinjans. Dewch â dillad addas ar gyfer yr awyr agored a phecyn bwyd gyda chi. Pris £30 / £25 consesiynol. Responsive Earth Trust, Plasdwbl, Mynachlog Ddu, Clunderwen, Sir Benfro SA66 7SD. Biodynamic Agricultural Association. 01453 759501.

15 Mai 2.00 - 5.00 Cyfleoedd mewn garddwriaeth organig ar gyfer tyfwyr a chynhyrchwyr da byw sy’n ystyried arall gyfeirio. Peepout Farm, Portfield Gate, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3LS Tony Little OCW 01970 622248

17 Mai 10.00 - 17.30 Gweithdy Biodynamig Cyflwyniadol gyda Bernard Jarman. Dewch â dillad addas ar gyfer yr awyr agored a phecyn bwyd gyda chi. Pris £30 / £25 consesiynol. Menter y Felin Uchaf, Rhoshirwaun, Pwllheli, LL53 8HS. Biodynamic Agricultural Association. 01453 759501. 

29 Mai Homeopathi ar lefel y Bwtsias - Diwrnod 3. Gweler 10 Ebrill.

10 Mehefin 9.00 - 4.00 Gwell Maeth, Gwell Dysgu, Gwell Dyfodol. Y Gynhadledd Genedlaethol ar Faeth Plant. Rhagor o fanylion. Caerdydd. Ffôn: 01633 432330 Ffacs: 01633 432331 E-bost: trainingdyscovery@newport.ac.uk 

 

Mwy o ddigwyddiadau yn www.organic.aber.ac.uk/events

Events

 

Back to top

 

EARLY NOTIFICATION HELPS US TO ENSURE EVENTS ARE NOT CANCELLED DUE TO LOW NUMBERS

 

05 April 12.00-4.00 Food Matters: Local, Organic and Sustainable - How do we choose Free of charge. Public event, with exhibits and speakers Morlan, Aberystwyth Carolyn Wacher , 01970 621852

10 April Homeopathy at Wellie Level - Day 1 £325 for 3 day course inc all teaching, manuals and revision tapes. Duchy Home Farm, Tetbury, Glos. Chris Lees at mclees@connectfree.co.uk for more information or to book.

22 April 1.45-4.30 Open Farm Sunday workshop: find out about opening your farm to the public. www.farmsunday.org Hafod y Llan, Canolfan Deilan Las, Craflwyn, Beddgelert, Caernarfon, Gwynedd Call LEAF on 02476 413911 or email carol.cartwright@leafuk.org 

23 April 1.45-4.30 Open Farm Sunday workshop: find out about opening your farm to the public. www.farmsunday.org Gelli Aur College Farm, Gelli Aur, Carmarthen Call LEAF on 02476 413911 or email carol.cartwright@leafuk.org 

01 May Homeopathy at Wellie Level. See 10 April.

08 May 1.45-4.30 Open Farm Sunday workshop: find out about opening your farm to the public. www.farmsunday.org Blaen-y-Cwm, Dolau, Llandrindod Wells Powys Call LEAF on 02476 413911 or email carol.cartwright@leafuk.org 

08 May 10.00 - 17.30 Biodynamic Introductory Workshop with Andre & Monique Kleinjans. Bring suitable outdoor clothing and packed lunch. Cost £30 / £25 conc. Responsive Earth Trust, Plasdwbl, Mynachlog Ddu, Clunderwen, Pembrokeshire SA66 7SD. Biodynamic Agricultural Association. 01453 759501.

15 May 2.00 - 5.00 Opportunities in organic horticulture event for existing growers and livestock producers considering diversification. Peepout Farm, Portfield Gate, Haverfordwest, Pembs SA62 3LS Tony Little  OCW 01970 622248

17 May 10.00 - 17.30 Biodynamic Introductory Workshop with Bernard Jarman. Bring suitable outdoor clothing and packed lunch. Cost £30 / £25 conc. Menter y Felin Uchaf, Rhoshirwaun, Pwllheli, LL53 8HS. Biodynamic Agricultural Association. 01453 759501.

29 May Homeopathy at Wellie Level - Day 3. See 10 April. 

10 June 9.00 - 4.00 Better Nutrition, Better Learning, Better Futures. The National Children's Nutrition Conference. More details.Cardiff. Tel: 01633 432330 Fax: 01633 432331 Email: trainingdyscovery@newport.ac.uk.

 

More events at www.organic.aber.ac.uk/events

Hysbysebion

 

Yn ôl i'r brig

 

Ar werth

30 bel mawr o silwair organig, ardal Llandysul. Cysylltwch â John Savage 01239 851528.

Tri llo organig Hereford X a dau Beef Shorthorn X. 9-11 mis oed, wedi'i sugno'n unigol. Gogledd Penfro. David 01994 419296.

38 bel mawr gwywair toriad cyntaf 2007. Ardal Narberth/Crymych. Ffon 01437 563255.  [31/3/08]

Wyth o wartheg Aberdeen Angus gyda lloi Aberdeen Angus. I gyd yn lloia am y 4ydd tro. Angen gwirioneddol i leihau’r gyr. Gogledd Morgannwg. 01443 412949. [20/03/08]

Mamogiaid Beulah wynebfrith wedi eu cofrestru; 14 ohonynt yn dair blwydd oed ac 1 yn hen (cyflwr da iawn) gyda 21 o ŵyn croesfrid Charollais wrth eu cwt. (Mae16 ohonynt yn ŵyn benyw ac fe fyddant yn tyfu i fod yn famogiaid magu da iawn). Ardystiwyd gan y Soil Assoc. Ffôn. Beth Rees 01824 702663 (Rhuthun, gogledd Cymru). [18/03/08]

100 o fêls crwn o silwair organig toriad 1af 2007. Ffoniwch: 01545 560322 (ger Cei Newydd yng Ngheredigion). [06/03/2008]

Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251

Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk.

Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. 

Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).

 

Yn eisiau

Aradr bychan addas ar gyfer hen fergie T20. alastair.leith@innovate-trust.org.uk.  [26/03/08]

Porfa aeaf ar gyfer 200 o wyn benyw mynydd Cymreig wedi eu cneifio. Ffoniwch 01558 650361 [20/03/08]

Porfa aeaf ar gyfer 2008/09 ar gyfer 100-150 o ŵyn Mynydd Cymreig benywaidd. Ffoniwch: 01650 531251. [26/02/08]

Help urgently required with lambing and gardening (small scale veg) near Brecon/Llandovery. We are 220 acre sheep, beef, pig and egg farm and have recently opened farm shop and tea room – thus over stretched! Accommodation available.

Contact: liz@abercottages.co.uk 01874 636797

 

I'w osod

Tir âr, porfa, adeiladau 17erw + 7 erw o goetir. Addas ar gyfer amrywiaeth o fentrau - llysiau, moch, dofednod, madarch ayyb. Ger Narberth. Ar lethr esmwyth sy’n wynebu’r de. Ardystiwyd gan y Soil Association a Thir Gofal. panickyanarchy@yahoo.co.uk [05/03/08]

 

Amrywiol

Mae Graig Producers Wales & Borders wedi cynrychioli buddiannau ei 280 o aelodau ac wedi marchnata eu cynnyrch am ragor na 10 mlynedd. Y mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol gyda Graig Producers South West and Caledonian Organics, gyda phŵer marchnata cydweithrediadol dros 500 o ffermwyr organig sy’n aelodau. Mae bod yn aelod yn dod â sawl mantais yn ei sgil. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.graigproducers.co.uk neu i gael manylion ynglŷn â sut i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb parhaol]

 

Yr holl hysbysebion i’w cael yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Advertisements

 

Back to top

 

For sale

30 big bales of organic silage, Llandysul area. Contact John Savage 01239 851528.

Three Hereford cross and two Beef Shorthorn cross organic calves. 9-11 months old, single suckled. North Pembs. Contact David on 01994 419296. [31/3/08]

38 big bales 2007 haylage first cut. Narberth/Crymych area. Tel 01437 563255.  [31/3/08]

8 Aberdeen Angus cows with Aberdeen Angus calves at foot. All 4th calvers. Genuine herd reduction. North Glamorgan. 01443 412949. [20/03/08]

Registered Beulah Speckled Face ewes; 14 three year old and 1 aged (v.g.c) with 21 Charollais cross lambs at foot.(16 are ewe lambs and will make lovely breeding ewes) Soil Assoc. certified. Tel. Beth Rees 01824 702663 (Ruthin, N. Wales). [18/03/08]

100 round bales of organic 2007 1st cut silage. Contact no. 01545 560322 (nr New Quay Ceredigion). [06/03/2008]

Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert]

Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert]

Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert]

Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge).

 

Wanted

Small plough suitable for old fergie T20. alastair.leith@innovate-trust.org.uk  . [26/03/08]

Winter tack for 200 shorn welsh mountain ewe lambs. please call 01558 650361. [20/03/08]

Winter grazing 2008/09 for 100-150 Welsh Mountain ewe lambs. Please Contact on. 01650 531251. [26/02/08]

Help urgently required with lambing and gardening (small scale veg) near Brecon/Llandovery. We are 220 acre sheep, beef, pig and egg farm and have recently opened farm shop and tea room – thus over stretched! Accommodation available.

Contact: liz@abercottages.co.uk 01874 636797

 

To let

Arable land, grazing, buildings 17acres + 7 woodland. Suit variety of enterprises - vegetables, pigs, poultry, mushrooms etc. Nr. Narberth. Gentle south facing slope. S.A. certified and Tir Gofal. panickyanarchy@yahoo.co.uk; [05/03/08]

 

Miscellaneous

Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk.  [permanent advert]

 

All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Adborth

 

Yn ôl i'r brig

 

Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ym mis Mai. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn. 01970 622248.

   Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill.

   Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo.

   Mae rhifynnau blaenorol yn www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Feedback

 

Back to top

 

Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. The next issue will be published in May. For more information contact Organic Centre Wales, Institute of Rural Sciences, University of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248.

   The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications.

   Please forward this newsletter to anyone who might be interested.

   Previous issues are at www.organic.aber.ac.uk/bulletin