|
Os ydych yn cael problemau wrth ddarllen y bwletin hwn, ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin |
If you have problems reading this bulletin, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin |
BwletinCymru OrganigRhif 70, 2 Awst 2007Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg |
BulletinOrganic WalesNo. 70, 2 August 2007A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk |
|
Digwyddiadau Hysbysebion Adborth
|
|
|
Sioe Frenhinol Cymru, Gorffennaf 23-26 Er gwaethaf y glaw trwm a’r mwd y tu allan, ac weithiau y tu mewn, i’n pabell, cawsom Sioe ryfeddol o lwyddiannus, gydag oddeutu 30 o ymholiadau am drawsnewid organig. Ymhlith ein ‘ymwelwyr swyddogol’ yr oedd Marianne Fischer Boel, Comisiynydd Amaethyddiaeth yr UE, ac Edward Perkins, Llywydd y Sioe eleni. Yn ôl y ffigurau swyddogol, cafwyd dros 200,000 o ymwelwyr a wynebasai oediadau hir a’r risg o gael eu ceir wedi eu llusgo allan o’r mwd ar y diwedd. Mawr werthfawrogwyd ein lluniaeth ysgafn, a roddwyd gan ‘Clipper Coffee’, ‘Kettles Chips’ a Duchy Originals’ gan ymwelwyr a gwarchodwyr y stondin fel ei gilydd. Llongyfarchiadau i Caws Cenarth am eu llwyddiant yn y dosbarthiadau llaeth.
Cyfleoedd i gael nawdd Mae’r 18 o bartneriaethau lleol, newydd ledled Cymru wedi cael caniatâd i baratoi eu cynlluniau busnes ar gyfer y tair blynedd, 2008-2010. Daw’r nawdd o Echelau 3 a 4 o’r cynllun datblygu gwledig ar gyfer Cymru, 2007-2013, sy’n cynnwys hyd at £103 miliwn er mwyn noddi gweithgareddau sy’n ymwneud â mentrau bwyd ac amaeth-amgylcheddol lleol, twristiaeth, hyfforddiant a sgiliau, treftadaeth wledig a llawer o bethau eraill yn ogystal. Mae Canolfan Organig Cymru yn cefnogi’r cynigion ar gyfer prosiectau a’r partneriaethau lleol drwy ddarparu gwybodaeth - os oes gennych syniad organig da, cysylltwch â ni. Cliciwch yma i gael gwybodaeth bellach.
Y Rheoliad Organig Newydd Ceir rheoliad newydd, sef Rheoliad Cyngor (Cymuned Ewropeaidd) Rhif 834/2007, 28 Mehefin 2007, ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig. Mae’r rheoliad newydd yn diddymu Rheoliad 2092/91, ond nid oes eto gytundeb ynglŷn â’r manylion. Cyfarfu is-grŵp o’r Grŵp Strategaeth Organig ar 24 Gorffennaf er mwyn edrych ar y goblygiadau i amaethyddiaeth Gymreig, a chytunwyd ar rai materion y dylai Defra eu codi yn ystod y trafodaethau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch â Sue Fowler.
Cynhadledd cynhyrchwyr organig Dyddiad pwysig ar gyfer eich dyddiadur: bydd cynhadledd flynyddol y Cynhyrchwyr Organig yn cael ei chynnal eleni ar 18 Hydref ar Faes y Sioe Frenhinol. Ein testun eleni yw 'Newid yn yr Hinsawdd a Chynaladwyedd - gall cynhyrchu organig wneud gwahaniaeth.'
Arolygon sectorau organig y farchnad Cymreig Mae cyfres o arolygon y farchnad sydd yn ymdrin â'r sectorau cig, llaeth, garddwriaeth a cnydau grawn yng Nghymru wedi'u cyhoeddi gan y Ganolfan gyda chefnogaeth y Cylliad Datblygu Amaeth-Fwyd. Maent yn dangos bod twf yn para, gyda 3% o ddefaid a gwartheg, 5% o dir fferm, 8% o dir âr a thros draean o dir garddwriaethol yng Ngymru o dan reolaeth organig yn 2005. Mae'r galw hefyd wedi tyfu ar draws bob sector, yn ôl data TNS a'r Soil Association, gyda phrinderau yn arbennig yn y sectorau garddwriaeth a chnydau grawn, a phrisiau uwch ar gyfer cig a llaeth. Mae'r adroddiadau yn dangos bod angen: * mentrau sy'n hybu cynhyrchiad mewn ardaloedd penodol * datblygu marchandoedd lleol a hybu cynhyrchion ag hunaniaeth Gymreig, * cefnogi grwpiau cynhyrchwyr fel modd i sicrhau prisiau gwell gan yr amlmanwerthwyr ac * ymchwilio i botensial allforion rhai cynhyrchion megis oen ysgafn. Cafwyd cyfraniadau gan bartneriad y Ganolfan ADAS, IRS ac ORCEF, yn ogystal ag HDRA, HCC a MLC. Mae crynodebau a'r adroddiadau llawn ar gael gan y Ganolfan ac ar y wefan yn www.organic.aber.ac.uk/markets.
|
Royal Welsh Show July 23rd-26th Despite the torrential rain, mud outside and sometimes inside the marquee we had a surprisingly successful Royal Welsh Show, with about 30 serious enquiries about organic conversion. Our ‘official visitors’ included the EU Agriculture Commissioner, Marianne Fischer Boel, and this year’s President of the RWAS, Edward Perkins. According to the official figures there were over 200,000 visitors, who faced the long queues with varying degrees of patience and risked having their cars pulled out at the end. Our refreshments, donated by Clipper Coffee, Kettles Chips, Duchy Originals and many others were much appreciated by stand holders and visitors alike. Congratulations to Caws Cenarth for their success in the dairy classes.
Funding opportunities The 18 new local partnerships around Wales have been given the go-ahead to prepare their business plans for the three-year period 2008-2010. The funding comes from Axis 3 and 4 of the rural development plan for Wales, 2007-2013, which includes up to £103 million in support for activities relating to local food and agri-environmental initiatives, tourism, training and skills, rural heritage and much more besides. OCW is working to support the project proposals and local partnerships with information – if you have a good organic-related idea, get in touch. Click here for further details.
New Organic Regulation There is new Council Regulation (EC) No 834/2007 of 28 June 2007 on organic production and labelling of organic products. The new regulation repeals Regulation 2092/91, but the details are yet to be agreed. A sub-group of the Organic Strategy Group met on 24th July to look at implications for Welsh agriculture, and agreed some issues to request that Defra raise during the negotiations. If you have queries or comments contact Sue Fowler.
Organic producers' conference An important date for your diary: the annual Organic Producers’ Conference will be held this year on 18th October at the Royal Welsh Showground. Our topic this year is 'Climate Change and Sustainability - Organic production can make a difference.'
Welsh organic market sector reviews A series of market reviews covering the Welsh organic meat, dairy, horticulture and arable sectors, have been published by OCW with support from the Agri-Food Development Fund. They show continued growth, with 3% of Welsh cattle and sheep, 5% of farm land, 8% of arable land and more than a third of horticultural land in Wales managed organically in 2005. Demand has also been growing across all sectors, according to data from TNS and the Soil Association, with supply shortages particularly in the horticulture and arable sectors, and increased prices for meat and milk. The reports have identified the need: * for initiatives to help develop production in specific areas, * to develop local markets for and promote products with a Welsh identity, * to support producer groups as a means of securing improved prices from multiple retailers, and * to investigate the potential for exports of some products such as light lambs. OCW partners ADAS, IRS and ORCEF, as well as HDRA, HCC and MLC contributed to the reports. Both executive summaries and full reports are available from OCW and on the website at www.organic.aber.ac.uk/markets.
|
|
Y Cynllun Ffermio Organig Rydym yn disgwyl cael clywed y bydd y cynllun OFS yn ail-agor yn fuan, felly, cofiwch edrych ar ein tudalennau polisi a fydd yn cael eu diweddaru cyn gynted ag y gwneir y datganiad. Dylai’r rheini sy’n aros am daliadau blynyddol OFS fod yn ymwybodol y bydd yn rhaid aros yn hirach am daliadau yng nghyswllt dyddiadau oddi ar fis Mai, a hynny gan fod yn rhaid gwirio’r hawliadau yn erbyn Ffurflen Gais Sengl 2007. Os yw’r croeswiriadau yn amlygu unrhyw broblemau, cysylltwch â’r swyddfa ar unwaith fel y gellir gwneud y taliad yn gynt.
Tir Gofal a Thir Cynnal Yn Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos ddiwethaf, datganodd Elin Jones, y Gweinidog newydd dros Faterion Gwledig, fod y cynlluniau Tir Gofal a Thir Cynnal wedi eu hailagor, ac y dylai ffermwyr a wnaethai gais iddynt gael gwybod yn fuan pa un ai y buont yn llwyddiannus ai peidio. Datganiad i’r wasg.
A ydych yn defnyddio Rotenone? Mae’n debyg y bydd y drwydded ar gyfer defnyddio rotenone yn fasnachol yn cael ei dynnu’n ôl, oni bai y gwneir apêl am ‘ddefnydd hanfodol’. Os yw’r cynnyrch hwn yn hanfodol ar gyfer eich busnes, cysylltwch â Sue Fowler yng Nghanolfan Organig Cymru cyn gynted â phosibl.
Gwobr cadwraeth Y mae angen ymgeiswyr ar gyfer Gwobr Cadwraeth ‘Silver Lapwing’ Rhwydwaith Cenedlaethol FWAG. Cysylltwch â FWAG i gael ffurflenni ymgeisio (01341 421456) – mae’n rhaid i’r rhain, ynghyd â deunydd ategol, gyrraedd swyddfeydd FWAG erbyn 28 Medi 2007.
Cyrsiau CEVAS Os yw ysgolion yn ymweld â’ch fferm, neu pe carech iddynt ymweld â’ch fferm, gall cwrs CEVAS roi ichi’r hyfforddiant angenrheidiol er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer y fath ymweliadau, cysylltu’r ymweliad â’r cwricwlwm, a chyfathrebu gyda phlant ac athrawon. Mae pob cwrs yn para dau i dri diwrnod, a gellir cael cymorth ychwanegol gan diwtor i gynhyrchu portffolio ar gyfer ei achredu gan y Rhwydwaith Coleg Agored. Trefnir y cyrsiau gan FACE mewn partneriaeth â Choleg Cymunedol YMCA Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch fan hyn neu gysylltu â Jane Powell.
Gwefan FACE Erbyn hyn, ceir gwefan ddwyieithog ar gyfer FACE yng Nghymru, a gobeithiwn y bydd y wefan hon yn codi proffil addysg ffermio a chefn gwlad mewn ysgolion: gweler www.face-cymru.org.uk. Mae’n cynnwys cronfa ddata o ffermydd sy’n croesawu ymweliadau ysgol (gweler tudalen y ffermwyr, a thudalen yr athrawon). Pe carech i’ch fferm gael ei rhestru yma, e-bostiwch Jane Powell.
Prosiect peilot ucheldir Cymru Mae ucheldiroedd Cymru yn profi cyfnod o newid, gydag incymau fferm a bioamrywiaeth wledig dan fygythiad. Yn arbennig, y mae angen gwella rheolaeth llifogydd, a chefnogi diwylliant a threftadaeth wledig. Mae Prosiect Pumlumon yn fenter a arweinir gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn sy’n cwmpasu 40,000 hectar ac sy’n amcanu at helpu cymunedau lleol i gynhyrchu gwasanaethau ecosystem hanfodol a bwyd o safon mewn amgylchedd naturiol drwy ddatblygiad mentrau megis cynllun amaeth-amgylcheddol arloesol. Bydd hyn y darparu taliadau ar gyfer cynhyrchion amaethyddol ac amgylcheddol newydd, ac yn creu marchnadoedd newydd ar gyfer cynhyrchion o ansawdd uchel yr ychwanegwyd gwerth atynt. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Liz Lewis-Reddy ar 07902 800382.
Dyddiau tatws Bydd dau ddigwyddiad yn cyflwyno datblygiadau mewn bridio er mwyn gwrthsefyll y clwy tatws: un ym Mangor ar 2 Awst, a’r llall yn canolbwyntio ar gynhyrchu organig yn Llanrhystud ar 8 Awst. Gweler Digwyddiadau, isod.
Gweithiwr fferm y flwyddyn Cyhoeddwyd yn y Sioe Frenhinol fod Jim Morris, sy’n gweithio i Eira a Lawrence Harries yn Abercych sy’n adnabyddus am eu cwmni Daioni, wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Gweithiwr Fferm y Flwyddyn NFU Cymru/Natwest. Western Mail
Cymdeithas y Tyfwyr Organig (OGA) Gellir gwerthu copïau o gylchgrawn yr OGA, sef 'The Organic Grower' (sy’n rhad ac am ddim i aelodau) i bobl nad sy’n aelodau o’r gymdeithas am bris o £2.50 gan gynnwys pacio a phostio. Cysylltwch â Roger Hitchings.
Arwerthiannau da byw Mae McCartney's yn cynnal arwerthiannau da byw organig yn Aberhonddu ar y dyddiadau canlynol: 23 Awst, 13 Medi ac 1 Tachwedd. Ffoniwch 01874 622386 i gael manylion. Mae Welshpool Livestock Sales yn bwriadu cynnal arwerthiannau organig ar 10 Medi ac 12 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion. Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiannau organig yn rheolaidd. I gael rhagor o fanylion, ffoniwch Caerfyrddin ar 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu anfonwch e-bost at carmarthen@auctionmarts.com.
Ar y We www.farmingpages.com gwefan o Iwerddon sy’n ymwneud â ffermio’n gyffredinol. |
Organic Farming Scheme We are expecting an announcement of the re-opening of the OFS scheme shortly, so keep an eye out, or check our policy pages which will be updated as soon as the announcement is made. Those awaiting OFS annual payments, please be aware there are delays in payments for those with anniversary dates from May onwards, as the claims have to be checked against the 2007 SAF (Single Application Form). If the cross checks highlight any issues, please respond at once to the office which will mean the payment can be made more quickly.
Tir Gofal and Tir Cynnal Elin Jones, the new Minister for Rural Affairs, announced at the Royal Welsh Show last week that the Tir Gofal and Tir Cynnal schemes had been reopened, and that farmers who had applied to them should soon know if they had been successful. News release.
Do you use Rotenone? It is likely the licence for commercial use of rotenone will be withdrawn, unless a plea is made for ‘essential use’. If this product is important for your business, please contact Sue Fowler at OCW as soon as possible.
Conservation award Entries are requested for the FWAG Cymru National Grid Silver Lapwing Farm Conservation Award. Contact FWAG to get entry forms (01341 421456) – these must arrive, with supporting material, at FWAG offices by 28th September 2007.
CEVAS courses If you have school visits on your farm, or would like to, a CEVAS course can give you the necessary training in preparing for visits, linking to the curriculum and communicating with children and teachers. Each course runs for 2-3 days with additional tutor support available to produce a portfolio for Open College Network accreditation. The courses are organized by FACE in partnership with the YMCA Community College Wales. For more information click here or contact Jane Powell.
FACE website There is now a bilingual website for FACE in Wales, which we hope will raise the profile of farming and countryside education in schools: see www.face-cymru.org.uk. It includes a database of farms which welcome school visits (see the farmers page, and the teachers page). If you would like your farm to be listed here, please e-mail Jane Powell.
Pilot uplands project Welsh uplands are undergoing a time of change, with farm incomes and rural biodiversity under threat. There is a particular need to improve flood management and support rural culture and heritage. The Pumlumon Project is a venture spearheaded by the Montgomeryshire Wildlife Trust covering 40,000ha, which aims to help local communities to produce vital ecosystem services and quality food in a rich natural environment through the development of initiatives such as an innovative agri-environment scheme. This will provide payments for new agricultural and environmental products and create new markets for quality value-added products. For more information please contact Liz Lewis-Reddy on 07902 800382.
Potato days Two events will present progress in breeding for blight resistance: one in Bangor on 2 August, and then other concentrating on organic production at Llanrhystud on 8 August. See Events, below.
Farm employee of the year Jim Morris, who works for Daioni producers Eira and Lawrence Harries in Abercych, was runner-up in the NFU CYmru/Natwest Welsh Farm Employee of the Year, announced at the Royal Welsh. Western Mail
Organic Growers Association Copies of the OGA magazine 'The Organic Grower', which are free with membership, can also be sold to non-members at a price of £2.50 incl. p&p. Please contact Roger Hitchings.
Livestock auctions McCartney's are holding organic livestock auctions in Brecon on the following dates: 23 August, 13 September and 1 November. Call 01874 622386 for details. Welshpool Livestock Sales plan organic auctions on 10 September and 12 November. Call 01938 553438 for details. Carmarthen Livestock Centre regularly hold organic auctions. For more details phone Carmarthen on 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.
On the Web www.farmingpages.com a general farming site from Ireland. |
|
Gwobrau Gwir Flas Cyhoeddwyd gwobrau Gwir Flas 2007 yn Sioe Frenhinol Cymru. Yn awr yn eu chweched flwyddyn, y mae’r gwobrau yn cydnabod safon, newyddbethau a rhagoriaeth yn niwydiant bwyd a diod Cymru gyda rhagor na 500 o gynhyrchion a gwasanaethau yn cael eu beirniadu bob blwyddyn. Mae’r rownd beirniadu busnesau ar gyfer cwmnïau ar restr fer wedi ei dileu fel bo’r pwys yn gyfan gwbl ar flas. Ceir hefyd gategorïau newydd wedi eu seilio ar grwpiau cynnyrch penodol yn ogystal â gwobrau am ddatblygiad cynaliadwy, rheolwr siop sy’n arwr lleol, a chyflawniadau oes. Gweler Gwir Flas i gael rhagor o wybodaeth, neu ffoniwch 0800 085 3663 neu e-bostiwch truetaste@quadrant.uk.com i gael ffurflen gais drwy’r post. Dyddiad cau: 17eg Awst.
Pythefnos Organig Mae’n amser dechrau cynllunio digwyddiadau ar gyfer dathliad organig y flwyddyn hon rhwng 1 ac 16 Medi. Y thema yw 'Wake up to an organic breakfast'. Manylion yn www.soilassociation.org/organicfortnight.
Arddangosfa gelf Bydd Georgina Barney yn agor ei harddangosfa 'GB Farming in Powys', sy’n ffrwyth taith hir o amgylch ffermydd ym Mhrydain Fawr, yn fferm organig Penlanole ger Llandrindod ar 8 Medi. I gael manylion cliciwch yma.
Ôl troed amgylcheddol cadwyni bwyd Cynhaliodd y Fforwm Etheg Bwyd gyfarfod i ystyried hyn ac y mae’r adroddiad ar gael yn www.foodethicscouncil.org o dan “’Food Miles’ or ‘Food Minutes’ Is sustainability all in the timing?” . Mae’n trafod amrywiadau tymhorol a’r defnydd o ynni mewn perthynas â chludiant. Lawrlwytho’r adroddiad.
Ar y We www.organicfoodee.com cylchgrawn organig ar-lein www.stayhealthonline.com o’r diwedd, dyma roi rhesymau clir paham y dylem fwyta bwyd organig!
|
True Taste Awards The 2007 True Taste awards were announced at the Royal Welsh Show. Now in their sixth year, the awards recognise quality, innovation and excellence in the Welsh food and drink industry with more than 500 products and services judged each year. The business judging round for shortlisted companies has been removed so the emphasis is entirely on taste. There are also new categories based on specific product groups as well as awards for sustainable development, local hero store manager and lifetime achievement. See True Taste for further information or ring 0800 085 3663 or email truetaste@quadrant.uk.com for a entry form by post. Closing date: 17th August.
Organic fortnight It's time to start planning events for this year's organic celebration, on 1-16 September. The theme is 'Wake up to an organic breakfast'. Details at www.soilassociation.org/organicfortnight.
Art exhibition Georgina Barney will launch her exhibition 'GB Farming in Powys' which is the result of a long journey around farms in Great Britain, at Penlanole organic farm near Llandrindod Wells on 8th September. For details click here
Environmental footprint of food chains The Food Ethics Forum held a meeting to look at this and the report is available at www.foodethicscouncil.org under “’Food Miles’ or ‘Food Minutes’ Is sustainability all in the timing?”. It debates the issue of seasonality and energy use for transport. Download report.
On the Web www.organicfoodee.com online organic magazine www.stayhealthonline.com at last, a clear explanation of why we should eat organic food! |
|
Cynhadledd COR Gwahoddir erthyglau i gynhadleddn nesaf y Colloquium of Organic Researchers, 17-19 Mawrth 2008 yn Cirencester. Dyddiad cau 1af Hydref. Gweler www.organicresearchers.com.
Mae bwyd organig yn cynhyrchu gwell llaeth o’r fron Yn ôl ymchwil o’r Swistir a gyhoeddwyd yn y British Journal of Nutrition, y mae llaeth mamau sy’n bwyta cig a chynhyrchion llaeth organig yn cynnwys lefelau uwch o asidau brasterog llesol. Gweler Food Navigator.
Lleihau gollyngiadau methan mewn anifeiliaid Dywed cynhyrchwyr yn IGER fod bwydo anifeiliaid ar ddiet treuliadwy o weiriau llawn siwgr, meillion gwyn a phys ceirw yn helpu i leihau gollyngiadau methan. Guardian
Fflafonoidau mewn tomatos Canfu astudiaeth yng Nghaliffornia fod mwy o fflafonoidau mewn tomatos organig. Cynyddai’r effaith hwn gyda threigliad amser, gan gyrraedd uchafswm ymhen saith mlynedd ar ôl trawsnewid organig. Gwefan yr Organic Center a Gwefan y BBC.
Rhwydwaith WISE Dyma gyfle i fusnesau gael mynediad i wybodaeth a chyfleusterau Prifysgol Cymru Bangor, Aberystwyth ac Abertawe. Gweler www.wisenetwork.org.
IGER a Phrifysgol Aberystwyth i gyfuno I gael manylion ynglŷn â’r cyfuno, a gwblheir yn 2008, gweler www.unoigerpca.com.
|
COR conference Papers are invited for the next Colloquium of Organic Researchers conference, 17-19 March 2008 at Cirencester. Closing date 1st October. See www.organicresearchers.com.
Organic food makes better breast milk The breast milk of mothers consuming organic rather than conventional meat and dairy products contains higher levels of beneficial fatty acids, according to Swiss research published in the British Journal of Nutrition. See Food Navigator.
Reducing livestock methane emissions Researchers at IGER say that feeding farmed animals a highly digestible diet of grasses high in sugars, white clover and birdsfoot trefoil helps reduce methane emissions. Guardian
Flavonoids in tomatoes A study in California has found that concentrations of flavonoids in tomatoes were considerably higher as a result of organic management. This effect increased with time, reaching a maximum seven years after conversion. The Organic Center website and BBC website.
WISE network This is an opportunity for businesses to access the knowledge and facilities of the University of Wales Bangor, Aberystwyth and Swansea. See www.wisenetwork.org.
IGER and Aberystwyth University to merge For details of the merger, to be complete in 2008, see www.igeruwamerger.com.
|
|
02 Awst Diwrnod Agored: Gwydnwch yn erbyn malltod mewn tatws, Canolfan Ymchwil Henfaes, Bangor. David Shaw 07906 710714 www.calu.bangor.ac.uk. 06 Awst 12.30 - 4.00 'Datblygu rhwydwaith garddwriaeth ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru'. Trigonos, Plas Baladeulyn, Caernarfon, LL54 6BW Richard Grover 01286 882388 08 Awst 11.00 am Treialon Tatws Diwrnod Agored ADAS / CALU / Canolfan Organig Cymru, Tynyrhelyg, Llanrhystud, SY23 5EE Sian Lloyd – I gadw lle, ffoniwch 01974 282229 04 Medi Cymdeithas Tyfwyr Organig – Lansiad Cymreig a Chyfarfod Cymdeithasol dan arweiniad Mike Westrip, + barbiciw. Tro o amgylch gardd gegin â chlawdd o’i chwmpas yn y prynhawn. Gwersylla yn bosibl. £10 i aelodau ac £20 i’r rheini nad sy’n aelodau. Penpont, ger Aberhonddu, LD3 8EU. Ffôn: 01253 790046 neu e-bostiwch: ogaevents@gwnhome.demon.co.uk. 07-09 Medi ‘The Spirit of Land, Sea & Soil: an exploration of our Celtic Heritage and how the soil sustains us’. £140 (gan gynnwys prydau). St Martin's, Ynysoedd Sili. Jess Standing. Manylion llawn: www.biodynamic.org.uk. 14 Medi Diwrnod moch yn y goedwig. Lawrlwytho taflen wybodaeth. Elan Valley Hotel, Rhayader Charles Morgan 01874 610100 neu PONT@grazinganimalsproject.org.uk. 10 + 17 Hydref Cwrs CEVAS: croesawu ymweliadau gan ysgolion. Manylion i ddod. Gardd Fotaneg, Caerfyrddin. Jane Powell 01970 622248. 18 Hydref Cynhadledd Cynhyrchwyr Organig, Llanelwedd. Carolyn Wacher, 01970 622248. 18 Hydref Cynhadledd Cynhyrchwyr Organig, Llanelwedd.
Rhagor o ddigwyddiadau yn www.organic.aber.ac.uk/events |
02 August Open Day: Resistance to late blight in potatoes Henfaes Research Centre, Bangor. David Shaw 07906 710714 www.calu.bangor.ac.uk. 06 Aug 12.30 - 4.00 'Developing a horticulture network for North West Wales'. Trigonos, Plas Baladeulyn, Caernarfon, LL54 6BW Richard Grover 01286 882388 08 August 11.00 am Potato Trials Open Day ADAS / CALU / OCW Tynyrhelyg, Llanrhystud, SY23 5EE Sian Lloyd - To reserve a place please phone 01974 282229 04 Sept Organic Growers Alliance Welsh Launch & Social hosted by Mike Westrip, + barbeque. Walled kitchen garden tour in afternoon. Camping possible. £10 OGA members or £20 non-members. Penpont, nr Brecon, LD3 8EU. Tel: 01253 790046 or e-mail: ogaevents@gwnhome.demon.co.uk. 07-09 Sept The Spirit of Land, Sea & Soil: an exploration of our Celtic Heritage and how the soil sustains us. £140 (including meals) St Martin's, Isles of Scilly. Jess Standing e-mail: office@biodynamic.org.uk, Full details: www.biodynamic.org.uk, 14 September Pigs in woodland day. Download flyer. Elan Valley Hotel, Rhayader Charles Morgan 01874 610100 or PONT@grazinganimalsproject.org.uk 10 + 17 October CEVAS course: hosting school visits. Details to follow. Botanic Garden, Carmarthen. Jane Powell 01970 622248. 18 October Organic Producers Conference, Llanelwedd. Carolyn Wacher, 01970 622248.
More events at www.organic.aber.ac.uk/events |
|
Ar werth Stoc Organig 2 o heffrod Duon Cymreig Pedigri yn gofyn tarw. Defaid magu: Beulah X a Swartble X wyneb-frith. Yr anifeiliaid wedi eu lleoli yng Ngogledd Orllewin Cymru. J a J Robertson 01248 421 661. [20/07/07] Fferm Gymysg Organig wedi ei hen sefydlu yng Ngogledd Orllewin Cymru yn dymuno sefydlu partneriaeth gydag unigolyn neu deulu. Ystyrir pob opsiwn. Efallai y byddai’n gweddu i ffermwr ifanc sydd newydd raddio. Cysylltwch â J a J Robertson 01248 421 661. [20/07/07] Porthiant llaith wedi ei seilio ar rawn a chodlysiau, Organig 100%. Gellir ei brynu mewn symiau bychain. Ar gael yn ardal Sir Benfro. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch: 07815 738676. 12 hwch organig ac 1 baedd organig a wobrwywyd yn Sioe Frenhinol Cymru 2006. Pob un yn feichiog, diolch i’r baedd, a disgwylir iddynt ddod â moch bach ymhen 3 wythnos – 4 mis. Wedi eu cofrestru gyda’r SA. Cysylltwch â Neil ar 01550 740670 neu e-bostiwch pigs@penrhiwuchaf.co.uk, [hyd 1 Hydref] Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251 Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk. Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).
Yn Eisiau Porfa aeaf organig ar gyfer 160 o ŵyn benyw rhwng Hydref ac Ebrill. Ffoniwch:07970 794495 [19/07/07]
Amrywiol Mae Cynhyrchwyr Graig Farm wedi cynrychioli buddiannau rhagor na 200 o aelodau sy’n ffermio drwy ddull organig ledled Cymru a’r Gororau, ac wedi marchnata eu da am ragor na 10 mlynedd. Daw llawer o fanteision eraill i’r rhai sy’n ymaelodi. I gael rhagor o wybodaeth a manylion i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, ffacs 01597 851920 neu e-bost producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb parhaol]
Yr holl hysbysebion i’w cael yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml
|
For sale Organic Stock 2 Pedigree Welsh Black bulling heifers Breeding ewes: speckled face Beulah X and Swartble X. All stock North West Wales based. J and J Robertson 01248 421 661. [20/07/07] Established Organic Mixed Farm in NW Wales seeks partnership with individual or family. All options considered. Might suit recently qualified young farmer. Please contact J and J Robertson 01248 421 661. [20/07/07] A cereal and legume based moist feed, 100% organic, can be purchased in small quantities available in the Pembs area. For more information contact:07815 738676. [19/07/07] 12 organic sows 1 organic (converted boar) Champion RWS 2006 all in pig to boar and due to farrow 3 weeks-4 months time. SA registered. For details phone Neil on 01550 740670 or e-mail pigs@penrhiwuchaf.co.uk, [permanent advert to 1 Oct] Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert] Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert] Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert] Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge). [permanent advert]
Wanted Organic winter grazing required for 160 ewe lambs between October and April. Contact: 07970 794495 [19/07/07]
Miscellaneous 'Graig Farm Producers' has represented the interests of its more than 200 organic farming members across Wales and the Borders, and marketed their livestock for over 10 years. There are many other advantages to membership. For more information and application details ring 01597 851704, fax 01597 851920 or e-mail producers@graigfarm.co.uk. [permanent advert]
All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml |
|
Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ar ddechrau mis Medi. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn. 01970 622248. Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill. Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo. Mae rhifynnau blaenorol yn www.organic.aber.ac.uk/bulletin |
Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. The next issue will be published in early September. For more information contact Organic Centre Wales, Institute of Rural Sciences, University of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248. The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications. Please forward this newsletter to anyone who might be interested. To see previous issues, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin |