Os ydych yn cael problemau wrth ddarllen y bwletin hwn, ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin

If you have problems reading this bulletin, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Bwletin

Cymru Organig

Rhif 82,  6 Awst 2008

Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru 

I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg

Bulletin

Organic Wales

No. 82,  6 August 2008

A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales 

Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk

Mynd yn syth at yr adran:

 

Cymru organig  
Ffermio  

Bwyd a’r defnyddiwr  

Ymchwil

Digwyddiadau   Hysbysebion   Adborth

 

Go straight to section

 

Organic Wales  
Farming  

Food and consumer  

Research 

Events     Adverts   Feedback

 

Cymru organig

 

Yn ôl i'r brig

 

Sioe Frenhinol Cymru

Cawsom Sioe ragorol - diolch i’r tywydd braf, daeth 236,284 o ymwelwyr i’r Sioe, sef y nifer uchaf erioed bron â bod. Yr oedd cryn ddiddordeb mewn bwyd a ffermio organig, a derbyniodd y Gwasanaeth Gwybodaeth am Drawsnewid Organig ragor na 60 o ymholiadau. Daeth llawer i’n derbyniad, a thrwy garedigrwydd Patchwork Pate, cawsiau Hafod, Caws Cenarth a Sanclêr, a Knobbly Carrot, cafodd ein gwesteion wledd o luniaeth organig. Yn ogystal, cawsom win organig gan Vintage Roots. Diolch o galon i bawb a roddodd o’u hamser i sicrhau bod y babell Bwyd a Ffermio Organig yn llwyddiant. Rydym yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf yn barod!

 

Ymweliad brenhinol

Yn ddiweddar, agorodd Tywysog Cymru laethdy gwneud caws ym Mwlchwernen Fawr ger Llanbedr Pont Steffan, lle mae Sam a Rachel Holden yn cynhyrchu eu caws newydd, Hafod, o laeth a gynhyrchwyd ar y fferm. Wales Online

 

Gŵyl Fwyd Y Fenni 20-21 Medi

Am y tro cyntaf, bydd Canolfan Organig Cymru yn cymryd rhan yn yr Ŵyl bwysig hon, a hynny mewn tair prif ardal: Bwyd Organig ar gyfer Pawb ar dir y Castell gyda Gerard Baker, cyflwynydd y Food Programme ar Radio 4, lle bydd prydau blasus yn cael eu paratoi gyda chynhwysion lleol; trafodaeth yn y Borough Theatre ar ‘The End of Cheap Food’, gyda Tim Lang, George Monbiot, Kevin Morgan a Nic Lampkin; a lansiad y trydydd argraffiad o’n Cyfeiriadur Organig gyda chymorth Barney Haughton, prif gogydd bwyty Bordeaux Quay ym Mryste. I gael rhagor o wybodaeth, gweler www.abergavennyfoodfestival.com.

 

Ymgynghoriadau Llywodraeth Cynulliad Cymru

Mae nifer o ymgynghoriadau pwysig yn agored ar hyn o bryd, gan gynnwys ymgynghoriad ar ddyfodol Ffermio a Bwyd. Gweler gwe-dudalennau’r Cynulliad neu adran polisi Canolfan Organig Cymru. Gallwch ymateb yn uniongyrchol, neu gyfranu at ymatebion y sector organig drwy gysylltu â Sue Fowler neu roi sylwadau ar y drafftiau a fydd ar gael ar Wefan Canolfan Organig Cymru oddi ar 15 Awst.

 

Cyngor Cefn Gwlad Cymru

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn bwriaadu penodi un aelod newydd ar gyfer y Cyngor oddi ar 1 Ionawr 2009. Rhagor o wybodaeth. I gael pecyn gwybodaeth a rhagor o fanylion, cysylltwch â’r Uned Penodiadau Cyhoeddus, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Ffôn: (029) 2082 3042/3068, ffacs (029) 2082 6869 neu e-bost: publicappointments@wales.gsi.gov.uk.

 

Yn y newyddion

Mae Canolfan Organig Cymry yn awr yn cynhyrchu datganiadau rheolaidd i’r wasg, yn ogystal â chynhyrchu colofn bob pythefnos yn y Western Mail, ac erthyglau technegol ar gyfer papurau bro. Isod, rhestrir erthyglau diweddar sy’n ymwneud â ffermio organig yng Nghymru:

Great organic switchover points to a new agricultural revolution, Western Mail, 10 Gorffennaf

Key changes on way for the organic farming sector, Western Mail, 15 Gorffennaf

Organic action plan on target, Western Mail 15 Gorffennaf

Farming Connect revamped to boost Welsh businesses, Farmers Guardian, 17 Gorffennaf

More are going organic in Wales, Farmers Guardian, 18 Gorffennaf

Rhodri Morgan, First Minister of Wales : We are willing and eager to make our own decisions Agence Bretagne Presse, 30 Gorffennaf

 

Organic Wales

 

Back to top

 

Royal Welsh Show

We had a fantastic Show, helped of course by the welcome return of the sun and a near record attendance of 236,284 visitors. There was a great deal of interest in organic food and farming and we had 60 serious enquiries to the Organic Conversion Information Service. Our reception was very well attended and we provided our guests with generously donated organic produce from Patchwork Pate, cheeses from Hafod, Caws Cenarth and Sancler, produce from Knobbly Carrot. Llanllyr as well as organic wine from Vintage Roots. Our thanks to all those who worked hard to make the Organic Food and Farming marquee a success and we are already looking forward to next year!

 

Royal visit

The Prince of Wales recently opened the new cheese-making dairy at Bwlchwernen Fawr near Lampeter, where Sam and Rachel Holden are making their new cheese, Hafod, from milk produced on the farm.  Wales Online

 

Abergavenny Food Festival 20-21 September

For the first time, OCW will be participating at this important food event in three main areas: Organic Food for All in the Castle grounds, with Gerard Baker from the Radio 4 Food Programme, with delicious meals made from organic ingredients; a debate in the Borough Theatre on ‘The End of Cheap Food’, with Tim Lang, George Monbiot, Kevin Morgan and Nic Lampkin; and the launch of third edition of our directory, Where to Buy Organic and Local with participation by Barney Haughton, organic enthusiast and Chef of Bordeaux Quay restaurant, Bristol. For more information see www.abergavennyfoodfestival.com

 

Welsh Assembly Government consultations

There are a number of important Welsh Assembly Government consultations open at the moment, including one on the future of Farming and Food. See the Assembly’s web pages or OCW policy section. You can respond directly, or feed into the organic sector responses by contacting Sue Fowler or commenting on drafts of which will be available on the OCW website from 15 August.

 

Countryside Council for Wales

The Welsh Assembly Government is seeking to appoint one new member to the Council from 1 January 2009. More information. For an application pack and further details, please contact Public Appointments Unit, Welsh Assembly Government, Cathays Park, Cardiff, CF10 3NQ.  tel (029) 2082 3042/3068, fax (029) 2082 6869 or e-mail: publicappointments@wales.gsi.gov.uk.

 

In the news

Organic Centre Wales is now producing regular press releases, as well as contributing a fortnightly column in the Western Mail and technical articles for the regional press. Some recent press coverage of organic farming in Wales is listed below.

Great organic switchover points to a new agricultural revolution, Western Mail, 10 July

Key changes on way for the organic farming sector, Western Mail, 15 July

Organic action plan on target, Western Mail 15 July

Farming Connect revamped to boost Welsh businesses, Farmers Guardian, 17 July

More are going organic in Wales, Farmers Guardian, 18 July

Rhodri Morgan, First Minister of Wales : We are willing and eager to make our own decisions Agence Bretagne Presse, 30 July

Ffermio

 

Yn ôl i'r brig

 

Y Cynllun Ffermio Organig (CFfO)

Yr oedd cryn ddryswch parthed ffurflenni cais a hawliadau ar y Ffurflen Gais Sengl ar gyfer y CFfO eleni. Gall ffermwyr wneud cais ar unrhyw adeg o’r flwyddyn; yr hyn sy’n wahanol i’r hen drefn yw nad yw’r hawliad ar gyfer taliadau bellach yn cael eu gwneud flwyddyn union ar ôl ymuno â’r cynllun – yn hytrach, fe’i gwneir ar y ffurflen Ffurflen Gais Sengl (ICAS) nesaf ar ôl ichi gael eich derbyn i’r cynllun.

    Mae’r dyddiad cau (sef 31 Gorffennaf) ar gyfer cyflwyno tystysgrifau a ffurflenni cais y CFfO ar gyfer yr hawliadau a wnaed ar Ffurflen Gais Sengl Mai 2008 wedi mynd heibio. Mae’r niferoedd mawr sydd wedi ymuno â’r cynllun yn ystod 07/08 wedi codi pryderon ynglŷn â’r gyllideb. Felly, y mae’n bosibl y byddai’n well gan ffermwyr sydd eisiau trawsnewid wneud cais i Lywodraeth Cynulliad Cymru cryn amser o flaen llaw ar ffurflen gais y CFfO (ar gael gan eu Swyddfeydd Rhanbarthol), ac yna gallant wneud trefniadau ar gyfer ardystiad organig unwaith iddynt dderbyn cynnig gan y Cynulliad.

 

Awgrymiadau gan staff y Ganolfan Datblygu Tir Glas (IBERS)

Mae’r haf yn prysur fynd heibio ac y mae’r tywydd poeth a gawsom yn ddiweddar yn golygu bod cnydau, yn enwedig cnydau grawn, wedi aeddfedu’n sydyn fel eu bo’n barod i’w cynaeafu yn gynt na’r disgwyl. Fel y mae cnydau silwair yn cael eu dwyn ymaith ac adloddion yn ymddangos, y mae’n syniad da rhoi ŵyn sydd wedi eu diddyfnu neu dda ifanc allan i bori ar yr adloddion. Mae adloddion hefyd yn ddelfrydol ar gyfer taenu tail a biswail. Yn ystod yr haf, y mae manteision hyn yn hynod o amlwg - mae hyd at 90% o’r nitrogen a daenir ar wyneb y tir yn cael ei golli i’r atmosffer ar ddyddiau poeth. Lleiheir hefyd llygredd yn yn gwair, sydd yn caniatau i'r da bori yn gynt na'r arfer. O gofio pwysigrwydd porthiant o ansawdd da, y mae hi’n awr yn amser da i fwrw golwg ar laswellt ac ystyried gor-hau, yn enwedig ar gaeau silwair lle mae’r glastir yn agored. Cofiwch mai mis Awst yw’r mis hwyraf i hau meillion os ydyw i sefydlu mewn da bryd cyn y gaeaf.

 

Pryderu am gostau ynni?

Mae Canolfan Organig Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiectau i wella perfformiad a chynaliadwyedd ffermydd organig. Cam pwysig yw sicrhau eich bod yn gwybod yn union faint o rywbeth yr ydych yn ei ddefnyddio, boed yn danwydd, yn ddŵr neu’n faetholion. Yng nghyswllt tanwydd, y mae hyn yn dechrau gydag asesiad manwl o’r tanwydd sydd gennych, yna monitro’r defnydd ohono - mae tanc gyda mesurydd yn gwneud hyn yn haws o lawer. Yng nghyswllt dŵr, cadwch lygaid ar eich mesuryddion a’ch anfonebau. Yng nghyswllt maetholion, mesurwch gynnwys tail a silwair o ran maeth, a sicrhewch eich bod yn cynnal profion pridd rheolaidd. Mae Canolfan Organig Cymru wedi cynhyrchu holiadur syml i’ch helpu i weld sut yr ydych yn dod yn eich blaen yn hyn o beth. Mae’n ymdrin â meysydd eraill yn ogystal, megis eich lles eich hunain. Rhowch gynnig arni yn www.fit4future.org.uk

 

Gwobr gweithiwr fferm

Mae Jim Morris, sy’n gweithio i Eira a Laurence Harris yn Sir Benfro, wedi dod yn ail yng nghystadleuaeth Gweithiwr y Flwyddyn NFU Cymru am yr ail flwyddyn yn olynol. News Wales

 

Effeithlonrwydd y gadwyn fwyd

Mae Canolfan Organig Cymru yn paratoi cais am Nawdd Datblygu Gwledig i gefnogi’r sector organig yng Nghymru. Y mae’n canolbwyntio ar bum prif faes: 1. Hybu dyfeisgarwch, 2. Gwybodaeth i gwsmeriaid a datblygu delwedd, 3. Datblygu marchnadoedd (caffael cyhoeddus, arlwyo, allforio ac eco-dwristiaeth organig), 4. Gwella gwybodaeth a 5. Rhoi sylw i broblemau strwythurol allweddol mewn marchnadoedd. Cysylltwch â Sue Fowler neu Nic Lampkin os ydych eisiau cymryd rhan neu os ydych eisiau inni wneud rhywbeth ar eich rhan.

 

Iechyd yng Nghymru wledig

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn edrych ar syniadau i siapio dyfodol gofal iechyd yn y Gymru wledig drwy ddatblygu Cynllun Iechyd Gwledig. Carent gael eich syniadau ynglŷn â: 1. sut i wella gwasanaethau iechyd yng nghefn gwlad Cymru, a 2. beth yw eich prif bryderon am wasanaethau iechyd yng nghefn gwlad? Gallwch anfon e-bost atynt: rural.health@nliah.wales.nhs.uk.

 

Sioeau a Digwyddiadau

Bydd stondin gan Canolfan Organig Cymru yn y sioeau amaethyddol canlynol:

12/13 Awst Sioe Ynys Môn, Sir Fôn, yn yr un babell â CALU

19-21 Awst: Sioe Sir Benfro. Hwlffordd - POG Group

21 Awst: Sioe Sir y Fflint a Sir Ddinbych – yn nhrelar Cyswllt Ffermiot.

 

Ffermwr o Gymru yn ceisio am wobr cadwraeth

Mae Peter Davies sy’n rhedeg Slade Farm, yn Gymro sydd wedi cyrraedd y rownd derfynnol yng Ngwobr ‘Nature of Farming’ yr RSPB. Adroddir am waith da Peter yn y Western Mail. Y mae dau o’r pedwar sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn ffermwyr organig. Edrychwch ar y ffermydd eraill a rhowch eich pleidlais yn: www.rspb.org.uk/farmvote

 

Gwobr Busnes Ceredigion

Mae’r wobr hon yn agored i fusnesau a chwmnïau yng Ngheredigion. Ceir rhagor o wybodaeth yn: www.ceredigionbusinessawards.co.uk.

 

Ymweliadau gan ysgolion

Dewch i weld sut y gallwch weithio gydag ysgolion ar gwrs hanner diwrnod rhad ac am ddim ger Aberhonddu ar 12 Medi. Bydd yr un cwrs yn cael ei gynnal ger Aberystwyth hefyd. Gweler Digwyddiadau, isod.

 

Arwerthiannau da byw

Bydd Marchnaty Pontarfynach yn cynnal ei arwerthiant organig cyntaf ar ddydd Sadwrn, yr 20fed o Fedi. Gweler Digwyddiadau, isod.

Bydd arwerthiant organig nesaf McCartney's yn cael eu cynnal ar 21 Awst. Ffoniwch 01874 622386 i gael manylion.

Bydd Arwerthiannau Da Byw’r Trallwng yn cynnal eu harwerthiannau organig nesaf ar 8 Medi, 20 Hydref ac 17 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion.

Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiannau organig yn rheolaidd. I gael manylion, ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177. Yn ogystal, gallwch anfon e-bost at carmarthen@auctionmarts.com

 

Farming

 

Back to top

 

Organic Farming Scheme (OFS)

There was unfortunate confusion concerning application forms and claims on the SAF for the OFS this year. The OFS does not have an application window, so farmers can apply at any time of the year; the change from the old administration is that the claim for payment is no longer made on the anniversary of joining the scheme, but is made on the next SAF (IACS) form following your acceptance into the scheme.

    The deadline of 31 July for submission of certificates and OFS application forms for the claims made on the May 2008 SAF has passed. The large numbers entering the scheme during 07/08 has caused concerns over the budget, so farmers wishing to go into conversion may prefer to apply well in advance to WAG on an OFS application form (available from their Divisional Office) and then can arrange for certification once they receive an offer letter from the Welsh Assembly Government.

 

Tips from Grassland Development Centre staff (IBERS)

The summer is rapidly passing and the changeable weather means that the crops, particularly cereals, may have ripened quickly in the recent heat as be ready to harvest for crimping sooner than you think. As silage crops come off and aftermaths are available it’s a good idea to give weaned lambs or youngstock priority access to clean grazing. Aftermaths are also prime candidates for muck and slurry applications and in the summer, the benefits of slurry injection are particularly apparent - up to 90% of N that is surface spread is lost to the atmosphere on hot sunny days. Contamination of the grass is also reduced, meaning that its possible to graze stock sooner following application. Given the importance of quality forage (grazed and ensiled) now is a good time to check swards and consider oversowing especially on silage fields where the swards are open. Remember August is the very latest date to sow clover if it is to establish in time for the winter.

 

Worried about energy costs?

OCW has been working on projects to increase the performance and sustainability of organic farms. An important step is simply knowing how much of something you are using, be it fuel, water or nutrients. For fuel, this starts with an accurate assessment of fuel in the store, then monitoring its use – a bunded, metered tank makes this much easier. For water, check meters and check your invoices. For nutrients, be aware of offtake in silage and crops, measure the nutrient content of manures and slurries and ensure you are regularly soil testing. OCW has produced a simple questionnaire to help you see how you are doing on these points and other areas such as your own well-being. Have a go at www.fit4future.org.uk.

 

Farmworker award

Jim Morris, who works for Eira and Laurence Harris in Pembrokeshire, is runner-up in the NFU Cymru Empoyee of the Year award for the second year running. News Wales

 

Supply chain efficiencies

OCW is working up a proposal to apply for Rural Development Funds to support the organic sector in Wales. The proposal focuses on five main areas of work: 1. Driving innovation, 2. Consumer information and image development, 3. Developing markets (public procurement, catering, export and organic eco-tourism), 4. Improving intelligence and 5. Addressing key structural problems in markets. Please get in touch with Sue Fowler or Nic Lampkin if you want to be involved or want us to do something on your behalf.

 

Rural health

The Welsh Assembly Government is looking at ideas to shape the future of health care in rural Wales by developing a Rural Health Plan - and wants to hear your ideas on: 1. Your suggestions to improve health services in rural Wales, and 2. What are your main concerns about health services in rural Wales? You can email them on rural.health@nliah.wales.nhs.uk

 

Shows and Events

OCW will have a present at the forthcoming agricultural shows: 12/13 Aug Ynys Môn Show, Anglesey, in the same marquee as CALU

19-21 Aug Pembrokeshire Show Haverfordwest - POG Group

21 Aug Flint & Denbigh Show - in the Farming Connect trailer.

 

Welsh farmer up for UK conservation award

Peter Davies of Slade Farm, profiled in the Western Mail, is the Welsh finalist in the RSPB ‘Nature of Farming’ Award. Two of the four finalists are organic farmers. See the other farms and give your vote at: www.rspb.org.uk/farmvote.

 

Ceredigion Business Award

This is open to businesses and organisations operating in Ceredigion. More information: www.ceredigionbusinessawards.co.uk

 

School visits

Come and find out about working with schools on a free half-day course near Brecon on 12 September. There will also be one near Aberystwyth. See Events, below.

 

Livestock sales

Devil’s Bridge Auction Mart is having their first ever organic sale on Saturday 20 September. See Events, below.

McCartney's next organic auction will be held on 21 August. Call 01874 622386 for details.

Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 8 September, 20 October and 17 November. Call 01938 553438 for details.

Carmarthen Livestock Centre holding regular organic livestock marts. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.

 

Bwyd a'r defnyddiwr

 

Yn ôl i'r brig

 

Ymgyrch yr UE

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi lansio ymgyrch i hysbysu cwsmeriaid ynghylch manteision bwyd organig. Fe fydd yr ymgyrch yn canolbwyntio ar bobl ifanc er mwyn sicrhau marchnad ar gyfer bwyd organig yn y dyfodol. Prif slogan yr ymgyrch yw: "Bwyd Organig: Llesol i fyd natur, llesol i chi." Gweler wefan yr ymgyrch.

 

Difrod a achosir gan weddillion plaladdwyr

Yn dilyn methiant rhai cnydau llysiau ar ôl defnyddio compost a brynir ac a oedd yn cynnwys aminopyralid, mae'r Pesticides Safety Directorate wedi gwahardd gwerthu, cyflenwi a defnyddio cynhyrchion sydd yn cynnwys y cemegyn, o hyn ymlaen. Gweler datganiad i'r wasg.

 

Gwyliau Bwyd

Bydd Canolfan Organig Cymru yng Ngŵyl Fwyd Y Fenni – gweler uchod.

Bydd y Soil Association yn cynnal gŵyl fwyd organig ym Mryste ar 6-7 Medi: gweler www.soilassociation.org/festival.

 

Pythefnos Bwyd Organig, 6-21 Medi

I gael manylion, gweler www.soilassociation.org/organicfortnight.

 

Gwobr Bwyd

Mae Graig Farm wedi ennill gwobrau bwyd ‘Great Taste’ am ei facwn mwg a’i syrlwyn cig eidion. Gweler www.finefoodworld.co.uk.

 

Eco-dwristiaeth yn y Bannau Brycheiniog

Rhoddir sylw i ffermydd organig mewn erthygl ar deithio yn The Independent.

 

Twmpath dawns

Dewch i ddawns ysgubor ar fferm ger Castellnewydd Emlyn ar 16 Awst. Gweler Digwyddiadau, isod.

 

Amgylchedd Cymru Pe carech ymuno â phanel y corff hwn a helpu i benderfynu sut y gellid cefnogi prosiectau yng Nghymru, cysylltwch â Katie James ar 029 2043 1727 neu drwy e-bost: info@environment-wales.org.

 

Ar y We

www.ediblelandscaping.co.uk Cyrsiau garddio yng Nghaerdydd.

 

Ar y We

Food and consumer

 

Back to top

 

EU campaign

The European Commission has launched a campaign to inform consumers of the benefits of organic food. The promotional campaign focuses on young people to ensure a future market for organic, under its main slogan: "Organic farming: Good for nature, good for you." See the campaign website

 

Pesticide residue damage

Following the failure of some vegetable crops after use of purchased composts later found to contain aminopyralid, the Pesticides Safety Directorate have suspended the sale, supply and use of all products containing the chemical with immediate effect. See press release.

 

Food festivals

OCW will be at Abergavenny - see above.

The Soil Association is holding an organic food festival in Bristol on 6-7 September: see www.soilassociation.org/festival.

 

Organic Food Fortnight 6-21 September

For details see www.soilassociation.org/organicfortnight.

 

Food award

Graig Farm has won Great Taste Food Awards for its smoked bacon and sirloin of beef. See www.finefoodworld.co.uk.

 

Ecotourism in the Brecon Beacons

Organic farms feature in a travel article in The Independent.

 

Barn dance

Come to a farm walk and barn dance near Newcastle Emlyn on 16 August. See Events, below.

 

Environment Wales

If you would like to join the panel of this organization and help decide how to support projects in Wales, please contact Katie James on 029 2043 1727 or at info@environment-wales.org

 

On the Web

www.ediblelandscaping.co.uk gardening courses in Cardiff

Ymchwil

 

Yn ôl i'r brig 

 

Llywodraeth y Cynulliad yn noddi ymchwil amgylcheddol Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datgan y bydd yn buddsoddi £23.5 miliwn mewn prosiect £55 miliwn i greu Cynghrair Biowyddorau a’r Amgylchedd rhwng Prifysgolion Aberystwyth a Bangor. Bydd hyn yn dod â Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn Aberystwyth, a Choleg y Gwyddorau Naturiol ym Mhrifysgol Bangor, at ei gilydd. Datganiad i’r wasg

Research 

 

Back to top

 

Assembly Government funds environmental research

The Welsh Assembly Government has announced £23.5m of investment in a £55m project to create a Biosciences and Environment Alliance between Aberystwyth and Bangor Universities. This will bring together the newly formed Institute for Biological, Environmental and Rural Sciences (IBERS) at Aberystwyth and the College of Natural Sciences at Bangor University. IBERS was created earlier this year from a merger with IGER. Press release

Digwyddiadau

 

Yn ôl i'r brig

 

Mae rhoi gwybod i ni’n gynnar yn ein helpu i sicrhau na fydd digwyddiadau yn cael eu canslo oherwydd niferoedd isel.

 

12/13 Awst Sioe Ynys Môn

16 Awst 4pm tan yn hwyr. Taith gerdded o amgylch fferm a thwmpath dawns ysgubor. Dolgoch, ger Castellnewydd Emlyn. E-bost: wwsa@soilassociation.org Ffôn: 07789 186677

19-21 Awst Sioe Sir Benfro. Hwlffordd.

21 Awst Sioe Sir y Fflint a Sir Ddinbych.

4 Medi 1.30 – 3.30 Prisio opsiynau busnes ar gyfer ffermwyr gwartheg a defaid organig yr ucheldir. Rhyd y Criw, Llanegryn, Tywyn Philip Jones 01970 622248

9 Medi Cynhyrchu ffrwythau a llysiau mewn modd sy’n gwneud elw. Golwg fanwl ar economeg cynhyrchu llysiau a ffrwythau organig, yn enwedig mewn sefyllfa ffermio cymysg. Greathouse Farm, Y Fenni Tony Little  OCW  01970 622248

12 Medi 2.00 - 5.00pm Cychwyn ymweliadau ysgol. Cwrs rhagarweiniol rhad ac am ddim gyda FACE. Lawrlwytho taflen wybodaeth Lower Porthamel Farm, Talgarth, Aberhonddu. Jane Powell: 01970 622248

13 Medi 2.00 - 5.00pm Gwneud compost a thyfu llysiau – taith o amgylch fferm. Blaen Camel Farm, Cilcennin E-bost wwsa@soilassociation.org  Ffôn: 07789 186677

18 Medi 1.30 Cynllunio’r trawsnewid. Great Bottom Farm, Raglan Philip Jones Canolfan Organig Cymru - 01970 622248

20 Medi 12 o’r gloch. YR ARWERTHIANT ORGANIG CYNTAF – ŵyn a mamogiaid. Mart Pontarfynach (gyferbyn â’r orsaf reilffordd) Mr C Evans 01974 282602

20/21 Medi Gŵyl Fwyd Y Fenni. Y Fenni. Carolyn Wacher 01970 622248

24 Medi 1.30 Cynllunio’r trawsnewid. Cappele Farm, Cerrigydrudion. Philip Jones Canolfan Organig Cymru - 01970 622248

21 Hydref Digwyddiad yn ymwneud â Ffermio Llaeth yng Nghymru. Maes Sioe Caerfyrddin. Manylion eto i ddod.

23 Hydref Cynhadledd Cynhyrchwyr Organig. Maes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd. Canolfan Organig Cymru: 01970 622248.

24 Hydref Bwydo dofednod organig – gwneud y gorau o’r porthiant a gynhyrchir ar y fferm. Yn cynnwys cynhyrchu grawnfwyd ar gyfer dofednod, melino a chymysgu’r bwyd ar y fferm. Nantclyd Organics, Llanilar, Aberystwyth Tony Little  01970 622248

1-2 Rhagfyr Y Ffair Aeaf, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd. Canolfan Organig Cymru 01970 622248.

 

Rhagor o ddigwyddiadau yn www.organic.aber.ac.uk/events 

Events

 

Back to top

 

EARLY NOTIFICATION HELPS US TO ENSURE EVENTS ARE NOT CANCELLED DUE TO LOW NUMBERS

 

12/13 Aug Ynys Môn Show Anglesey.

16 Aug 4pm til late Farm walk followed by barn dance Dolgoch, nr Newcastle Emlyn. Download poster.  E-mail wwsa@soilassociation.org  Tel: 07789 186677

19-21 Aug Pembrokeshire Show Haverfordwest.

21 Aug Flint & Denbigh Show.

4 Sept 1.30 – 3.30 Costing enterprise options for the upland organic beef and sheep farmer. Rhyd y Criw, Llanegryn, Tywyn Philip Jones OCW 01970 622248

9 Sept Profitable fruit and vegetable production. A detailed look at the economics of organic horticultural production, especially in a mixed farming situation. Greathouse Farm, Abergavenny Tony Little  OCW 01970 622248

12 Sept 2.00 - 5.00pm Setting up educational visits. A free introductory course with FACE download flyer Lower Porthamel Farm, Talgarth, Brecon Jane Powell, 01970 622248

13 Sept 2.00 - 5.00pm Composting and growing vegetables - farm tour. Blaen Camel Farm, Cilcennin E-mail wwsa@soilassociation.org Tel: 07789 186677

18 Sept 1.30 Planning the conversion Great Bottom Farm, Raglan Philip Jones OCW - 01970 622248

20 Sept 12.00 noon FIRST ORGANIC SALE ewes and lambs Devil's Bridge Auction Mart (opposite railway station) Mr C Evans 01974 282602

20/21 Sept Abergavenny Food Festival Abergavenny Carolyn Wacher - Organic Centre Wales 01970 622248

24 Sept 1.30 Planning the conversion Cappele Farm, Cerrigydrudion. Philip Jones OCW - 01970 622248

21 Oct Welsh Dairy Event Carmarthen Showground details tbc

23 Oct Organic Producers' Conference RWAS Llanelwedd Organic Centre Wales 01970 622248.

24 Oct Feeding organic poultry - maximising feed from the farm. Includes cereal production for poultry, on farm mixing & milling, and using range effectively. Nantclyd Organics, Llanilar, Aberystwyth Tony Little  OCW 01970 622248

1-2 Dec Winter Fair RWAS Llanelwedd Organic Centre Wales 01970 622248

 

More events at www.organic.aber.ac.uk/events

Hysbysebion

 

Yn ôl i'r brig

 

Ar werth

Gwartheg cadw organig - croesiadau ‘Belgian Blue’ o’n gwartheg llaeth yn bennaf. Ffoniwch Geraint Parry ar 01758 740233, ardal Pwllheli. [31/07/08]

Oddeutu 500 o fêls mawr crwn. Wedi eu gwneud o wair organig rhagorol ym mis Mehefin. Ardal Ceredigion. Ffoniwch 01545 560728. [15/07/2008]

Mamogiaid ac ŵyn cadw organig ar gael. Mae newid cyfeiriad mewn rheolaeth tir yng Ngerddi Botaneg Cenedlaethol Cymru wedi golygu bod praidd o 170 o famogiaid Cymreig X Texel, ac oddeutu 100 o ŵyn cadw yn cael eu gwerthu. Cysylltwch ag Owen Davies yn ADAS Pwllpeiran, 01974 282229.[15/07/08]

Gwartheg Magu a Lloi Organig. Gwerthiant ymddeoliad – gwartheg hirgorn (beichiog neu gyda llo) yn bennaf, ynghyd â tharw hirgorn. Cysylltwch â David a Pam Williams ar 01437-781234 neu e-bostiwch info@bumpylane.co.uk i gael rhagor o wybodaeth ynghyd â lluniau. [09/07/08]

15 o heffrod gwasod Simmental organig. Cysylltwch â Nic neu Nadia Gwynne: 01239 831220. [08/07/08]

Tarw Du Cymreig Organig. 18 mis. Ffoniwch: 01982 551848 neu e-bostiwch mbsnead@tiscali.co.uk [02/07/08]

Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251

Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk.

Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. 

Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).

 

Yn eisiau

Porfa aeaf ar fferm organig ar gyfer 125 o ŵyn benyw Cymreig. Yn Nyfed fyddai orau, ond rhoddir ystyriaeth i unrhyw ardal. Ffoniwch Christopher Evans: 01544 327223. [15/07/08]

Porfa aeaf ar gyfer 150-200 o ŵyn benyw o fis Hydref hyd ganol Mawrth/Ebrill. Ffoniwch: Alun neu Sion: 01650 531366. [07/07/08]

Hwch a fydd cyn hir yn bwrw perchyll eisiau arch mochyn cyn gynted â phosibl! Ffoniwch Jack Cockburn (ger Llanbedr Pont Steffan) ar 01570 470672. [04/07/08]

Tir yn eisiau Siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion. Oddeutu 5 i 20 erw (peth tir coediog/prysgoed yn iawn). Wedi ei ardystio neu heb drawsnewid eto. 600' o uchder neu’n is. Anfonwch e-bost at Debbie Rees [04/07/08]

 

I'w osod

3 erw o dir pori organig. Llanfynydd, (dim ceffylau) Dave.Gledhill@hp.com neu 07836 273281. [29/07/08]

6 erw o dir pori neu wair heb ei fedi ar gyfer gwair/silwair yn Mroadoak (hawdd mynd ato ar yr A40 ychydig filltiroedd i’r gorllewin o Landeilo). Tir yn ei ail flwyddyn o drawsnewid organig. Dave.Gledhill@hp.com neu 07836 273281. [29/07/08]

Hyd at 30 erw o dir pori (neu beth gwair heb ei fedi) ar fryn wrth Cwmdu ger Talley. Dave.Gledhill@hp.com neu 07836 273281. [29/07/08]

 

Amrywiol

Tail dofednod organig Rhad ac am ddim i bwy bynnag a ddaw i’w nôl. Oddeutu 150 i 200 tunnell. Fe fydd yn barod ryw dro yn wythnos gyntaf neu ail wythnos mis Hydref. Ffoniwch Jenny: 07967 260458. Caerffili CF83 4FG. [03/07/08]

Mae Graig Producers Wales & Borders wedi cynrychioli buddiannau ei 280 o aelodau ac wedi marchnata eu cynnyrch am ragor na 10 mlynedd. Y mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol gyda Graig Producers South West and Caledonian Organics, gyda phŵer marchnata cydweithrediadol dros 500 o ffermwyr organig sy’n aelodau. Mae bod yn aelod yn dod â sawl mantais yn ei sgil. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.graigproducers.co.uk neu i gael manylion ynglŷn â sut i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb parhaol]

 

Yr holl hysbysebion i’w cael yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Advertisements

 

Back to top

 

For sale

Organic store cattle mainly Belgian Blue crosses from our dairy herd please contact Geraint Parry on 01758 740233, Pwllheli area. [31/07/08]

Approx 500 big round bales of excellent June made organic hay in the Ceredigion area. Contact 01545 560728. [15/07/2008]

Organic ewes and store lambs available. Due to changes in the direction of land management at the Welsh Botanic Gardens of Wales, flock of 170 predominantly Welsh X Texel ewes and about 100 store lambs are being sold. Contact Owen Davies at ADAS Pwllpeiran, 01974 282229.[15/07/08]

Organic Suckler Cattle and Calves - retirement sale of mainly pedigree Longhorn cattle (in-calf or with calf at foot) together with stock bull (Longhorn). Contact David and Pam Williams on 01437-781234 or email info@bumpylane.co.uk for more details including photo's. [09/07/08]

15 pedigree organic Simmental bulling heifers. Contact Nic or Nadia Gwynne: 01239 831220. [08/07/08]

Organic Welsh Black Bull 18 months. Contact tel: 01982 551848 or email mbsnead@tiscali.co.uk  [02/07/08]

Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert]

Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert]

Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert]

Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge).

 

Wanted

Winter grazing on an organic holding required for 125 Welsh ewe lambs. Dyfed preferred but any area considered. Christopher Evans 01544 327223. [15/07/08]

Winter grazing for our 150-200 ewe lambs from October till mid March/April. Call Alun or Sion 01650 531366. [07/07/08]

Soon to farrow sow desperately requires a pig ark! Please contact Jack Cockburn (nr Lampeter) on 01570 470672. [04/07/08]

Land wanted Carmarthenshire/Pembrokeshire/Ceredigion. About 5 to 20 acres (some woodland/scrub ok.) Certified or not yet converted. 600' altitude or below. Please email Debbie Rees [04/07/08]

 

To let

3 acres organic grazing, Llanfynydd, (no horses) Dave.Gledhill@hp.com or 07836 273281. [29/07/08]

6 acres grazing or standing grass for hay/silage at Broadoak, (easy access on A40 a couple of miles west of Llandeilo), land in 2nd year of conversion. Dave.Gledhill@hp.com or 07836 273281. [29/07/08]

Up to 30 acres grazing (or some standing grass) on hill land near cwmdu nr talley. Dave.Gledhill@hp.com or 07836 273281. [29/07/08]

 

Miscellaneous

Organic poultry manure, free to collector, around 150 to 200 ton, will be ready around 1st or 2nd week in October. Please contact jenny on 07967 260458, Caerphilly CF83 4FG. [03/07/08]

Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk.  [permanent advert]

 

All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Adborth

 

Yn ôl i'r brig

 

Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, IBERS, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn. 01970 622248.

   Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill.

   Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo.

   Mae rhifynnau blaenorol yn www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Feedback

 

Back to top

 

Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. For more information contact Organic Centre Wales, IBERS, Aberystwyth University, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248.

   The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications..

   Please forward this newsletter to anyone who might be interested.

   Previous issues are at www.organic.aber.ac.uk/bulletin