Os ydych yn cael problemau wrth ddarllen y bwletin hwn, ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin

If you have problems reading this bulletin, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Bwletin

Cymru Organig

Rhif 75,  10 Ionawr 2008

Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru 

I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg

Bulletin

Organic Wales

No. 75,  10 January 2008

A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales 

Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk

Mynd yn syth at yr adran:

 

Cymru organig  
Ffermio  

Bwyd a’r defnyddiwr  

Ymchwil

Digwyddiadau   Hysbysebion   Adborth

 

Go straight to section

 

Organic Wales  
Farming  

Food and consumer  

Research 

Events     Adverts   Feedback

 

Cymru organig

 

Yn ôl i'r brig

 

Prydau ysgol

Ym mis Rhagfyr, cafodd plant ym mhob un o ysgolion Sir Gaerfyrddin gyfle i fwynhau rhai cynhwysion organig, a hynny fel rhan o brosiect Rafael. Yr oedd y plant wrth eu bodd, ac y mae’r Cyngor yn ystyried cyflwyno rhagor o fwyd organig mewn ceginau ysgolion yn y dyfodol. Western Mail

    I gael adroddiad fideo o’r pryd ysgol organig a’r farchnad ffermwyr a gynhaliwyd yn Ysgol Gynradd Llandysul fel rhan o brosiect Rafael ym mis Hydref, cliciwch yma. Mae’r fideo yn Gymraeg.

Organic Wales

 

Back to top

 

School meals

Children in all Carmarthenshire schools enjoyed a meal with some organic ingredients in December, as part of the Rafael project. The meal was well received by pupils, and the Council is considering serving more organic food in school kitchens in future. Western Mail

    For an S4C video report of the organic school meal and farmers' market held at Llandysul Primary School in October as part of the Rafael project, click here. The video is in Welsh.

 

Ffermio

 

Yn ôl i'r brig

 

Arolwg cynhyrchwyr

Diolch i bawb a gymerodd ran yn ein harolwg diweddar, gan ddychwelyd ffurflen neu ymateb yn gadarnhaol ar y ffôn. Mae'r data yn cael eu dadandsoddi a dylai'r canlyniadau fod ar gael ym mis Chwefror neu fis Mawrth.

 

Y Cynllun Ffermio Organig

Y mae’r cynllun diwygiedig yn awr yn agored ar gyfer ceisiadau. Dylai pawb sydd wedi rhoi eu henwau i’r Swyddfeydd Adrannol fod wedi derbyn ffurflenni cais, felly, os nad ydych wedi derbyn ffurflen, cysylltwch â’ch Swyddfa Ranbarthol.

    Yr hynny y dylech ei wneud nesaf: Arwyddwch a dychwelwch y ffurflen – nid yw hyn yn eich ymrwymo i ymuno â’r cynllun. Os yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn llythyr gwahoddiad ynghyd â’r amodau a’r telerau’n llawn. Dylech arwyddo a dychwelyd y llythyr hwn cyn 15 Mai ac yna mynd ati i wneud eich hawliad cyntaf ar eich Ffurflen Cais Sengl.

    Os trawsnewidiasoch yn hwyr yn 2006 neu’n gynnar yn 2007: Bwriada Llywodraeth Cynulliad Cymru wneud taliadau cyn gynted â phosibl ar ôl derbyn eich cais.

    Ffermwyr sy’n rhan o’r hen Gynllun Ffermio Organig: Byddwch yn derbyn llythyr gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a fydd yn darparu manylion am y cynllun newydd ynghyd â’r trefniadau ar gyfer eich cytundeb. Nid oes raid ichi wneud dim yn awr. Ond os nad ydych yn cwblhau Ffurflen Gais Sengl ar hyn o bryd, dylech gysylltu â’ch Swyddfa Ranbarthol i gofrestru. Gweler hefyd ein ffeithlen.

 

Rhybudd

Atgoffir ffermwyr a fydd, cyn hir, wedi bod yn rhan o’r Cynllun Ffermio Organig am 5 mlynedd fod yn rhaid iddynt gadw eu tir o dan amodau organig am y 5 mlynedd yn llawn. Cafwyd achosion o ffermwyr yn gwneud eu hawliad 5ed flwyddyn ac yna’n cael gwared ar dir. O ganlyniad, bu’n rhaid gwneud ad-daliadau i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

 

Cymorth i dyfwyr

Dau bwt o newyddion da i dyfwyr: Mae’r Cynllun Ffermio Organig newydd yn darparu taliad o £200 yr hectar ar gyfer cnydau gardd. Y mae’r taliad hwn ar gael i dyfwyr sydd newydd drawsnewid ac i dyfwyr organig hirdymor. Mae’r taliad hwn gryn dipyn yn fwy na a geid o dan y cynllun blaenorol.

    Y mae newidiadau yn rheolau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin wedi golygu y bydd tir sy’n cael ei ddefnyddio ar gyfer cynnyrch garddwriaethol yn gymwys am daliadau’r Cynllun Taliadau Sengl oddi ar y flwyddyn hon. Os nad ydych eisoes wedi hawlio taliadau cymorth gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, bydd angen ichi gofrestru gydag ICAS cyn 15 Mai fel y gallwch wneud hawliad ar ffurflen gais sengl y flwyddyn hon. Cysylltwch â’ch swyddfa adrannol leol i gael manylion.

 

Rheoliadau porthiant

Oddi ar y 1af o Ionawr, bydd yn rhaid i bob diet ar gyfer anifeiliaid cnoi cil fod yn gyfan gwbl organig, ac ni chaniateir unrhyw randdirymiad ar gyfer defnyddio cynhwysion nad sy’n organig. Yng nghyswllt y sector moch a dofednod, y mae’r rhanddirymiad i ddefnyddio hyd at 10% o gynhwysion organig yn parhau i fod mewn grym (wedi ei leihau o 15% yn 2007). Y mae Canolfan Organig Cymru yn helpu ffermwyr i gwrdd â’r safonau newydd drwy gyfrwng cyfres o weithdai âr (gweler yr adran ar ddigwyddiadau) a fydd yn amcanu at helpu ffermwyr i ddod yn fwy hunangynhaliol o safbwynt porthiant anifeiliaid.

 

Digwyddiadau organig

Ar gyfer y cynhyrchwyr organig hynny (neu gynhyrchwyr sy’n trawsnewid) a gollodd ein gweithdai ffermio âr ac ymdrin â newid cyn y Nadolig, rydym wedi trefnu rhagor! Gweler yr adran Digwyddiadau isod.

    Bydd y rheoliadau newydd sy’n ymwneud â chludo anifeiliaid yn awr yn cael eu rhoi mewn grym oddi ar Ebrill 2008. Felly, y mae hynny yn rhoi rhywfaint o amser i gynhyrchwyr fynychu’r cyrsiau hyfforddi sydd wedi eu trefnu ledled Cymru ac sy’n dechrau ar 14 Ionawr.

    Mae gennym newyddion drwg i’r holl ectobarasitau sy’n mynd i gnu gwlanog defaid oherwydd yr ydym wedi trefnu tri digwyddiad arall i drafod y mater hwn ym mis Chwefror. Bydd cyfle i chi drafod Cynlluniau Iechyd Anifeiliaid gyda milfeddyg lleol a chynrychiolydd corff ardystio.

    Dylai unrhyw gynhyrchwyr sy’n ystyried trawsnewid organig ddod i dafarn y Plough, yn Llandeilo ar 30 Ionawr lle cynhelir gweithdy ar ‘Ystyried mynd yn Organig?’ dan arweiniad Ainsley Baker o Ymgynghoriaeth Kite.

    Os mai ychwanegu gwerth at eich cynnyrch drwy werthu’n uniongyrchol yw’r hynny yr ydych yn ei wneud yng Nghanolbarth Cymru, yna rhowch y 12fed o Fawrth yn eich dyddiadur a dewch i Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog er mwyn cymryd rhan mewn ‘paru brys organig!' Ffoniwch 01970 622248 i gael rhagor o wybodaeth a gofynnwch am Philip Jones, y Swyddog Llinell Gymorth.

 

Newyddion o Ganolfan Datblygu Tir Glas IGER

Y mae llawer o drafod wedi bod ynglŷn â sut i gwrdd â’r rheoliad porthiant organig 100% y gaeaf hwn a lleihau costau. Ymhlith yr atebion posibl y mae defnydd ehangach o gnydau porthi fel y gwelwyd ar fferm arddangos Rhydicrew; a bwydo dognau cytbwys wedi eu seilio ar ddadansoddiad o silwair a mathau eraill o borthiant. Dros y gaeaf hwn, y mae’r Ganolfan Datblygu Tir Glas yn IGER wedi samplo gwahanol fathau o borthiant fel rhan o’i weithgareddau Farming Connect, ac y mae’r canlyniadau yn dangos cryn amrywiaeth o ran ansawdd. Yr oedd yr holl fêls mawr organig a samplwyd wedi eu gwneud yn dda gyda lefelau isel o amonia ac asid biwtyrig, a lefel gymedrol o ludw. Ond yr oedd ansawdd y silwair cladd yn fwy amrywiol gyda rhai yn dangos lefelau uwch o asid biwtyrig a rhai silweiriau heb eplesu cystal. Rhagor o fanylion gan Heather McCalman.

    Y mae’r Ganolfan Datblygu Tir Glas yn cymryd rhan mewn astudiaeth sy’n edrych ar fioamrywiaeth ac effeithiau manteisiol eraill ffermio organig yn yr LFA. Yn ddiweddar, cynhaliwyd gweithdy yn y Ganolfan a oedd yn gysylltiedig â’r prosiect hwn. Er nad oes unrhyw ganlyniadau ecolegol eto, cafwyd sawl trafodaeth fuddiol ar y mater.

Heather McCalman

 

Gwobr cadwraeth

Llongyfarchiadau i Peter Davies o Fferm y Slade ym Morgannwg a enillodd gwobr cadwraeth fferm ‘Silver Lapwing’ Rhwydwaith Cenedlaethol FWAG Cymru, a gyhoeddwyd yn y Ffair Aeaf ym mis Tachwedd. Canmolwyd y fferm am ei chanlyniadau masnachol a chadwraethol rhagorol, gan gyfuno gwartheg, defaid a moch gyda thir âr, a chynnal ystod eang o rywogaethau. Stori llawn

   Bini Jones o fferm Tŷ Isaf ger Ffestiniog oedd enillydd rhanbarthol Gogledd Cymru. Y mae Bini yn gwerthu cig eidion a chig oen organig drwy gynllun bocs yn Lerpwl, Leeds, Llundain a Chaerdydd. Ceir proffil ohoni yn y Daily Post.

 

Ymweliadau Ysgol

Cynllunir cyrsiau CEVAS ar gyfer ffermwyr â diddordeb mewn croesawu ysgolion ym Mangor ac Aberhonddu ym mis Chwefror. Bu rhaid canslo cyrsiau fis hwn oherwydd diffyg diddordeb, ond gobeithir trefnu rhagnor yn hwyrach yn y flwyddyn. Cysylltwch â Jane Powell.

 

Ynni o dail

Dywed ffermwr llaeth Richard Tomlison y gall ei wartheg gynhyrchu digon o drydan ar gyfer 500 o gartrefi, os caiff ganiatad i godi treuliwr anerobig. Gwefan y BBC

 

Gwobr newydd ar gyfer ffermwyr sy’n helpu bywyd gwyllt

Mae’r RSPB a chylchgrawn Countryfile y BBC wedi dod at ei gilydd i gyflwyno cystadleuaeth newydd er mwyn amlygu’r gwaith y mae ffermwyr yn ei wneud dros fywyd gwyllt. Y mae cyfanswm o £2,400 ar gael ar gyfer yr enillydd a’r saith pencampwr rhanbarthol. Bydd yr enillydd cenedlaethol yn cael ei ddewis yn yr hydref gyda’r brif wobr o £1000, ynghyd â gwobrau eraill, yn cael eu cyflwyno mewn cinio yn gynnar yn 2009. Rhagor o fanylion

 

Cynhadledd fiodynamig Bydd yr International Biodynamic Initiative Group yn cynnal cynhadledd yn Oaklands Park, Newnham, Swydd Gaerloyw, rhwng 28 Chwefror a 2 Mawrth 2008. Teitl y gynhadledd fydd 'Understanding the Spiritual Nature of Substance In relation to nitrogen, carbon, oxygen, hydrogen and sulphur'. www.biodynamic.org.uk/IBIG.html.

 

Gwerthiannau Da Byw

Bydd Marchnadoedd Ffermwyr Dolgellau yn cynnal gwerthiant da stôr ar 8 Chwefror 2008. Ffoniwch 01341 422334 i gael rhagor o fanylion.

Bydd arwerthiannau organig nesaf McCartney's yn cael eu cynnal ar 6 Mawrth, 10 Ebrill, 1 Mai. Galwch 01874 622386 am fanylion.

Bydd arwerthiant organig nesaf Gwerthiannau Da Byw Y Trallwng yn cael ei gynnal ar 7 Ebrill a 5 Mai. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion.

Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiannau organig rheolaidd. I gael manylion ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177, neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com

Farming

 

Back to top

 

Producers' survey

Thank you to everyone who took part in our recent survey, by posting back a form or responding positively on the phone. The data are being analysed and results should be available in February or March.

 

Organic Farming Scheme

The revised scheme is now open for applications. All those who put their names with their Divisional Offices should have received application forms, so if you have not received one, please contact your Divisional Office.

    What to do next: Sign and return the form – this is not a commitment to enter the scheme. If your application to enter the scheme is successful you will be sent an invitation letter and full terms and conditions. You should sign and return this before 15 May and then make your first claim on your Single Application Form (SAF).

    If you converted late 2006 or early 2007: The Welsh Assembly Government intends to make payments as soon as possible after acceptance of your application.

    Existing Organic Farming Scheme farmers: You will receive a letter from the Welsh Assembly Government, detailing the new scheme and arrangements for your agreement. You need do nothing now, unless you do not currently complete a Single Application Form (SAF) in which case you should contact your Divisional Office to register.

See also our factsheet.

 

Warning

Farmers approaching their 5-year anniversary within the Organic Farming Scheme are reminded they must keep their land under organic conditions for the full 5 years of their agreement. There have been some cases of farmers making their fifth year claim, and then disposing of land, which has meant making repayments to the Welsh Assembly Government.

 

Support for growers

Two bits of good news for growers:

    The new Organic Farming Scheme provides a payment of £200/ ha for horticultural crops, available to both recent converters and to long-term organic growers. This represents a considerable increase on the previous scheme.

    Changes in the CAP rules mean that as of this year, land in horticultural production will be eligible for SPS payments.

If you have not claimed support payments from WAG previously, you will need to become IACS registered before 15 May so you can claim on this year’s single application form. Contact your local divisional office for details

Feed regulations

As of 1 January, all ruminant diets must be 100% organic, and no derogations will be given for the use of non-organic ingredients. For the pig and poultry sector, derogation to use up to 10% non organic ingredients are still in place (reduced from 15% in 2007). Organic Centre Wales is helping farmers to meet the new standards through a series of arable workshops (see events section) which aim to help farmers become more self sufficient in terms of feed and fodder.

 

Organic events

For those organic and in-conversion producers who missed our Arable Events and Managing Change workshops before Christmas, we have organised more! See the Events section below.

    The new regulations on hauling livestock will now be enforced from April 2008 which gives producers more time to attend the training courses organised around Wales, beginning on 14 January.

   We have bad news for all sheep ecto-parasites that are snuggling into their woolly fleeces because we have organized in conjunction with HCC another three events in February. There will be an opportunity to talk with a local vet and certification body representative about Animal Health Plans.

    Any producers seriously thinking about organic conversion should come to the Plough Inn, Llandeilo on 30 January to our ‘Thinking of Going Organic’ day workshop led by Ainsley Baker of Kite Consultancy.

    If adding value to your produce by selling direct is what you do in Mid Wales put 12 March in your diary and come along to the Brecon Beacons National Park Visitors Centre to engage in some ‘organic speed dating!'

   Call 01970 622248 for more information and ask for Philip Jones, the Helpline Officer.

 

News from the Grassland Development Centre, IGER

There has been much debate about how to meet the100% organic feed regulation this winter and minimize costs. Possible solutions include wider use of grazed forage crops as highlighted on Rhydicrew demonstration farm; and feeding balanced rations based on silage and other forage analyses, an ongoing theme with many discussion groups. GDC at IGER has sampled many different forages over this winter as part of its Farming Connect activities and the results indicate a big range in quality. Organic big bales sampled were all well made with very low ammonia, butyric acid and average ash, while clamp silage was more variable with some higher butyric values and less well fermented silages. More details from Heather McCalman.

    The Grassland Development Centre is involved in a research study to look at the biodiversity and other beneficial impacts of organic farming in the LFA, and recently held the Welsh regional workshop at IGER for this project. Although there are no ecological results yet, useful discussions were held with stakeholders.

Heather McCalman

 

Conservation award

Congratulations to Peter Davies of Slade Farm in Glamorgan, who won this year's FWAG/National Grid Silver Lapwing farm conservation award for Wales, announced at the Winter Fair in November. The farm was praised for its outstanding commercial and conservation results, combining beef, sheep and pig production alongside arable, and supporting a wide range of species. Full story

    The north Wales regional winner was Bini Jones of Ty Isaf, Ffestiniog, who sells organic beef and lamb via a box scheme in Liverpool, Leeds, London and Cardiff. She is profiled in the Daily Post.

 

School visits

CEVAS courses for farmers interested in holding school visits are planned for Brecon and Bangor in February. Courses planned for this month had to be cancelled because there was not enough interest, but we hope to run more later in the year. Please contact Jane Powell.

 

Energy from manure

Organic dairy farmer Richard Tomlinson says his cows could produce enough energy to power 500 homes, if he is given permission to install an anaerobic digester. BBC website

 

New prize for farmers helping wildlife

The RSPB has joined forces with BBC Countryfile magazine to launch a ground-breaking UK-wide competition to highlight the work that farmers are doing for wildlife. A total of £2400 is up for grabs for the winner and seven regional champions. The national winner will be chosen next autumn with the top prize of £1000 and other awards, being presented at a dinner in early 2009. More details

 

Biodynamic conference

The International Biodynamic Initiative Group is organizing a conference entitled 'Understanding the Spiritual Nature of Substance In relation to nitrogen, carbon, oxygen, hydrogen and sulphur', at Oaklands Park, Newnham, Gloucestershire on 28 February to 2 March 2008. www.biodynamic.org.uk/IBIG.html

 

Livestock sales

Farmers Marts Dolgellau are holding an organic stores sale on 8 February 2008. Contact 01341 422334 for more details.

McCartney's next organic auctions will be held on 6 March, 10 April, 1 May. Call 01874 622386 for details.

Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 7 April and 5 May. Call 01938 553438 for details.

Carmarthen Livestock Centre hold regular organic auctions. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.

 

Bwyd a'r defnyddiwr

 

Yn ôl i'r brig

 

Bwyd lleol

Yn ystod gydol mis Ionawr a mis Chwefror, bydd 23 digwyddiad 'Bwyd Lleol' yn y Canolbarth. Nod y fenter yw annog busnesau twristiaeth i ddefnyddio cynnyrch lleol, rhanbarathol ac organig mewn bwydlenni a busnesau manwerthu. Ceir dyddiadau a manylion y sgyrsiau a gweithdai yn www.midwalesevents.co.uk, neu gopi caled gan Sioned yn Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir y Canolbarth, 01686 622388.

 

Pig out!

Mae Stad Organig y Rhug, ar y cyd â'r Soil Association yn trefnu cwrs undydd i'r cyhoedd am drin cig moch a gwneud selsig ar 26 Ionawr. Manylion.

 

Caws Cenarth

Yn ddiweddar, ymwelodd Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig, â’r cynhyrchydd caws, Thelma Adams, a enillodd wobr Gwir Flas am Gyflawniad Oes eleni. Disgrifiwyd hi a’i gŵr Carwyn, o Gaws Cenarth, Boncath, Sir Gaerfyrddin fel “model ar gyfer diwydiant amaeth-fwyd Cymru”.

 

Lles cywion

Mae’r RSPCA wedi dechrau ymgyrch o blaid cynhyrchu dofednod mewn modd nad sy’n tanseilio eu lles. Mae’r ymgyrch hon yn cyd-fynd â rhaglenni gan Jamie Oliver a Hugh Fearnley-Whittingstall. The Poultry Site.

 

Ar y We

www.storyofstuff.com Fideo o’r Unol Daleithiau am beryglon prynwriaeth.

www.chickenout.tv  Ymgyrch Hugh Fearnley-Whittingstall am gywion awyr agored

www.zerocarbonbritain.com cynllunio ar gyfer y dyfodol

Food and consumer

 

Back to top

 

Local Food Talks

Throughout January and March, a programme of 23 ‘Local Food Talks’ has been organised throughout Mid Wales. The initiative aims to encourage tourism businesses to incorporate local, regional and organic produce into menus and retail businesses. Dates and venues of these talks and workshops are at www.midwalesevents.co.uk and a hard copy of the programme is available from Sioned at Mid Wales Food and Land Trust 01686 622388.

 

Pig out!

Rhug Organic Estate in conjunction with the Soil Association are running a day class for the public on curing pork and sausage-making on 26 January. Details

 

Caws Cenarth

Rural affairs minister Elin Jones recently visited organic cheesemaker Thelma Adams, who won this year’s True Taste award for Lifetime Achievement, describing her and her husband Carwyn, of Caws Cenarth, Boncath, Carmarthenshire, as “a model for the Welsh agri-food industry”.

 

Chicken welfare

The RSPCA has started a campaign for welfare-friendly poultry production, coinciding with programmes by Jamie Oliver and Hugh Fearnley-Whittingstall. The Poultry Site.

 

On the Web

www.storyofstuff.com a US video about the dangers of consumerism

www.chickenout.tv Hugh Fearnley-Whittingstall's campaign for free-range chicken

www.zerocarbonbritain.com planning for the future

Ymchwil

 

Yn ôl i'r brig

 

Biochar

Mae ‘biochar’ yn golygu defnyddio biomas golosgedig (o weddillion amaethyddol er enghraifft) fel ychwanegyn ar gyfer pridd. Darganfuwyd bod rhai priddoedd ffrwythlon iawn yn yr Amason (a adwaenir fel priddoedd ‘terra preta’) wedi eu creu gan ddynion a ychwanegasai siarcol i’r pridd anffrwythlon gwaelodol dros fil o flynyddoedd yn ôl. Mae ymchwilwyr ledled y byd yn awr yn archwilio’r dechnoleg er mwyn gwella ffrwythlondeb pridd, lleihau dibyniaeth ar wrteithiau, ac atafaelu carbon yn ein priddoedd er mwyn brwydro yn erbyn cynhesu byd-eang. Mae gwaith ymchwil yn cael ei gyflawni ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd er mwyn archwilio potensial defnyddio ‘biochar’ yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Dominic Woolf ar 01792 205678 Est. 4499 neu e-bostiwch domwoolf(at)googlemail.com (e-bost wedi ei newid i amddiffyn rhag spam).

 

Porthiant organig yn arwain at system imiwnedd mwy effro

Mae ymchwil a gyflawnwyd gan Sefydliad Louis Bolk yn Yr Iseldiroedd, mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill, wedi darganfod bod cywion a gâi fwyd organig yn pwyso llai ac yn adennill eu pwysau’n gynt ar ôl sialens imiwnolegol. Y gwahaniaethau nodedig hyn yw prif ddarganfyddiadau’r papur “Organic, More Healthy? A search for biomarkers of potential health effects induced by organic products, investigated in a chicken model”. Mae’r gwaith yn awgrymu bod angen rhagor o waith ymchwil, yn gyntaf mewn cywion ac yna mewn mamaliaid, cyn y gellir troi at ddynion. Ceir rhagor o wybodaeth yn www.louisbolk.org

 

Research 

 

Back to top

 

Biochar

Biochar means using charred biomass (for example from agricultural residues) as a soil additive. The idea originates from the discovery that some highly fertile soils in the Amazon (known as 'terra preta' soils) were first created by humans over a thousand years ago by adding charcoal to the underlying infertile soil. Researchers around the world are now investigating the  technology in order to improve soil fertility, reduce reliance on fertilizers, reduce nutrient run-off, and sequester carbon in our soils to help combat global warming. Research is currently underway in Swansea University into the potential for biochar use in Wales. For more information, contact Dominic Woolf on 01792 205678 Ext. 4499 or email domwoolf(at)googlemail.com (e-mail address altered to protect from spam).

 

Organic feed leads to a more alert immune system Research conducted by the Louis Bolk Institute in the Netherlands in cooperation with other organizations found that chickens fed with organic feed showed a lower weight and a stronger recovery of their weight gain after an immunological challenge. These remarkable differences are the main findings in the study “Organic, More Healthy? A search for biomarkers of potential health effects induced by organic products, investigated in a chicken model”. The work suggests that further research is necessary, first in chickens and then in mammals, before the step to humans can be made. More information is at www.louisbolk.org

Digwyddiadau

 

Yn ôl i'r brig

 

14 Ion. Sesiynau hyfforddi WAIT. Dolgellau Philip Jones 01970 622248 7, 14 Ion.

15 Ion. Sesiynau hyfforddi WAIT. Y Fenni Philip Jones 01970 622248

16 Ion. Sesiynau hyfforddi WAIT. Caernarfon Philip Jones 01970 622248

17 Ion. Sesiynau hyfforddi WAIT. Llanerfyl Philip Jones 01970 622248

21 Ion. Sesiynau hyfforddi WAIT. Castellnewydd Emlyn. Philip Jones 01970 622248

22 Ion. Gweithdy ffermio âr. Raglan Philip Jones 01970 622248

22 Ion. Sesiynau hyfforddi WAIT. Llangollen Philip Jones 01970 622248

23 Ion. Sesiynau hyfforddi WAIT. Sennybridge Philip Jones 01970 622248

24 Ion. Sesiynau hyfforddi WAIT. Rhuthun Philip Jones 01970 622248

29 Ion. Gweithdy ffermio âr. Machynlleth Philip Jones 01970 622248

30 Ion. Ystyried mynd yn Organig? The Plough, Rhosmaen, Llandeilo. Philip Jones 01970 622248

31 Ion. Gweithdy ffermio âr. Y Trallwng Philip Jones 01970 622248

5 Chwef. 10.00 – 3.30 Ymdrin â Newid: Cyfyngir niferoedd i 12. Y Trallwng. Lleoliad i’w drefnu. Ffoniwch Canolfan Organig Cymru 01970 622248 i gadw lle.

6 Chwef. 10.00 – 3.30 Ymdrin â Newid: Cyfyngir niferoedd i 12. Llanbedr Pont Steffan. Lleoliad i’w drefnu. Ffoniwch Canolfan Organig Cymru 01970 622248 i gadw lle.

7 Chwef. 10.00 – 3.30 Ymdrin â Newid: Cyfyngir niferoedd i 12. Llandrindod. Lleoliad i’w drefnu. Ffoniwch Canolfan Organig Cymru 01970 622248 i gadw lle.

14 Chwef. Cyfle i drafod ectoparasitau. Caersws Philip Jones 01970 622248

21 Chwef. Cyfle i drafod ectoparasitau. Tregaron Philip Jones 01970 622248

26 Chwef. Cyfle i drafod ectoparasitau. Yn Eryri Philip Jones 01970 622248

12 Mawrth 10.30-15.00 Paru Brys (Organic Speed Dating). Diwrnod lle gall cynhyrchwyr organig a lleol sy’n byw o fewn Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog gwrdd â darparwr llety i weld os oes paru i fod! Dyma gyfle i rwydweithio a fydd yn sicrhau bod pawb yn cwrdd ac yn siarad â’i gilydd. Canolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog. Carolyn Wacher 01970 621852

 

Mwy o ddigwyddiadau yn www.organic.aber.ac.uk/events

Events

 

Back to top

 

14 Jan WAIT training sessions Dolgellau Philip Jones 01970 622248

15 Jan WAIT training sessions Abergavenny Philip Jones 01970 622248

16 Jan WAIT training sessions Caernarfon Philip Jones 01970 622248

17 Jan WAIT training sessions Llanerfyl Philip Jones 01970 622248

21 Jan WAIT training sessions Newcastle Emlyn Philip Jones 01970 622248

22 Jan Arable workshop Raglan Philip Jones 01970 622248

22 Jan WAIT training sessions Llangollen Philip Jones 01970 622248

23 Jan WAIT training sessions Sennybridge Philip Jones 01970 622248

24 Jan WAIT training sessions Ruthin Philip Jones 01970 622248

29 Jan Arable workshop Machynlleth Philip Jones 01970 622248

30 Jan Thinking of Going Organic?  The Plough,  Rhosmaen,  Llandeilo.   Philip Jones 01970 622248

31 Jan Arable workshop Welshpool Philip Jones 01970 622248

5 Feb 10.00 – 3.30 Managing Change: Numbers limited to 12. Welshpool. Venue tbc.   OCW 01970 622248 to reserve a place.

6 Feb 10.00 – 3.30 Managing Change: Numbers limited to 12. Lampeter. Venue tbc.   OCW 01970 622248 to reserve a place.

7 Feb 10.00 – 3.30 Managing Change: Numbers limited to 12. Llandrindod. Venue tbc.   OCW 01970 622248 to reserve a place.

14 Feb Ecto-parasite event. Unicorn Hotel, Caersws, 11-4. Philip Jones 01970 622248

21 Feb Ecto-parasite event. Talbot Hotel, Tregaron, 11-4. Philip Jones 01970 622248

26 Feb Ecto-parasite event, Fleece Inn, Tremadog, Snowdonia 11-4. Philip Jones 01970 622248

12 March 10.30 - 15.00 Organic Speed Dating. A day where organic and local producers in and around the National Park can meet with accommodation and hospitality providers to see if there is a match! A networking event that ensures everyone meets and talks to each other. Brecon Beacons National Park Visitor Centre Carolyn Wacher 01970 621852

 

More events at www.organic.aber.ac.uk/events

Hysbysebion

 

Yn ôl i'r brig

 

Ar werth

Gwair doldir organig o’r ansawdd gorau – bêls bychain, £3.50 yr un. Yn gyfoethog mewn perlysiau ac yn rhydd o lysiau’r gingroen. Matt 07718 358671 (ardal Dinbych-y-pysgod). [7/01/08]

Gyrr magu yn y broses o drawsnewid. Wedi eu magu ar y fferm, 8 buwch ac 1 heffer. 6 yn debygol o esgor ar loi rhwng Ionawr a Mawrth, 3 yn dal i roi sugn. Ffoniwch i gael rhagor o fanylion 01269 871060. [14/12/07]

Dros 70 o fêls o gwywair/silwair organig da. Yn agos i Lanybyther. Angen eu gwerthu’n sydyn gan fod angen eu symud, a bydd y pris yn adlewyrchu hynny. E-bost: howard.dare@tiscali.co.uk neu ffoniwch 01267202291.

Bêls gwywair crwn organig. Ardal Sir Benfro/Sir Gaerfyrddin. 07970 462331 - 01994 419317. [12/12/07]

Cenfaint o foch. Dwy hwch ‘Cyfrwyog x Duroc’, 1 baedd Tamworth. Moch bach organig hefyd ar gael. Cysylltwch â Nia Cowcher. Ffôn: 01559 363200 Symudol: 07917 274298.

Tarw du Cymreig pedigri organig. Ganed 18.1 07. Ardal Llanfair ym Muallt. 01982 551848 neu e-bost mbsnead@tiscali.co.uk.

Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251.

Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk.

Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. 

Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).

 

Yn eisiau

Gwartheg ac ŵyn cadw cryfion. Cysylltwch â Richard Bowker 07973 565690 Powys. [02/01/08]

Tyfwr/garddwriaethydd organig profiadol – er mwyn datblygu a rheoli uned cynhyrchu llysiau fechan a gerddi dymunol. Cysylltwch â Gavin & Davina Hogg 01874 636202. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion. [07/12/2007]

 

I'w osod

Llety ar gael ar gyfer oddeutu 150 o wartheg organig am gyfnod o 4 mis yng Ngaeaf 2008. Ardal Sir Benfro. Mae hyn yn cynnwys porthiant, gwelltach a gofal o ddydd i ddydd. Yn ogystal, oddeutu 80 erw o borfa haf. Ffoniwch 01970 622248. [7/12/07]

 

Amrywiol

Sophie (24, student: agricultural sciences, practical experience in farming) would like to work on an organic farm for food and accommodation between January and March 2008. Please contact: goeser@uni-hohenheim.de, 0049/ (0)711 9075377.

Work placement wanted for Mareike Jarosch during June to September 2008, before she starts her PhD on organic farming in autumn 2008. Ann-Mareike.Jarosch@uni-duesseldorf.de

Mae Graig Producers Wales & Borders wedi cynrychioli buddiannau ei 280 o aelodau ac wedi marchnata eu cynnyrch am ragor na 10 mlynedd. Y mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol gyda Graig Producers South West and Caledonian Organics, gyda phŵer marchnata cydweithrediadol dros 500 o ffermwyr organig sy’n aelodau. Mae bod yn aelod yn dod â sawl mantais yn ei sgil. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.graigproducers.co.uk neu i gael manylion ynglŷn â sut i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb parhaol]

 

Yr holl hysbysebion i’w cael yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Advertisements

 

Back to top

 

For sale

Finest quality organic SSSI meadow hay - small bales, £3.50 each. Herb-rich and ragwort-free. Matt 07718 358671 (Tenby area). [7/01/08]

Small in conversion suckler herd all home bred stock, 8 cows and 1 heifer, 6 due Jan to March, 3 still suckling calves. Please phone for more details 01269 871060. [14/12/07]

70 plus bales well made Organic haylage/silage. Close to Llanybyther. Urgent sale as needs to be moved and price will reflect. email: howard.dare@tiscali.co.uk  or phone 01267202291. [14/12/07 - ongoing until sold]

Organic Haylage Round Bales. Pembrokeshire/ Carmarthenshire area. 07970 462331 - 01994 419317. [12/12/07]

Pig Herd 2 Saddleback Sows, 2 Saddleback x Duroc Sows, 1 Tamworth Boar. Organic young pigs also availablel. Contact Nia Cowcher Tel: 01559 363200 Mob: 07917 274298. [12/12/07]

Organic young black welsh pedigree bull. Born 18.1 07 Builth Wells area. 01982 551848 or email mbsnead@tiscali.co.uk. [remove 29/01/08]

Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert]

Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert]

Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert]

Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge).

 

Wanted

Strong store cattle and lambs. Contact Richard Bowker 07973 565690 Powys. [02/01/08]

Experienced organic grower / horticulturalist to continue develop and manage small vegetable production unit and amenity gardens. Contact Gavin & Davina Hogg 01874 636202. Click here  for more details [07/12/2007]

 

To let

Accommodation available for approx 150 organic cattle for Winter 2008 in the Pembs area for a 4 month period. Feed, bedding and day to day care included. Also summer grazing on approx 80 acres. Contact 01970 622248. [7/12/07]

 

Miscellaneous

Sophie (24, student: agricultural sciences, practical experience in farming) would like to work on an organic farm for food and accommodation between January and March 2008. Please contact: goeser@uni-hohenheim.de, 0049/ (0)711 9075377. [18/12/07]

Work placement wanted for Mareike Jarosch during June to September 2008, before she starts her PhD on organic farming in autumn 2008. Ann-Mareike.Jarosch@uni-duesseldorf.de

Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk.  [permanent advert]

 

All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Adborth

 

Yn ôl i'r brig

 

Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ym mis Ionawr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn. 01970 622248.

   Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill.

   Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo.

   Mae rhifynnau blaenorol yn www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Feedback

 

Back to top

 

Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. The next issue will be published in February. For more information contact Organic Centre Wales, Institute of Rural Sciences, University of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248.

   The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications.

   Please forward this newsletter to anyone who might be interested.

   Previous issues are at www.organic.aber.ac.uk/bulletin