Os ydych yn cael problemau wrth ddarllen y bwletin hwn, ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin

If you have problems reading this bulletin, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Bwletin

Cymru Organig

Rhif 81,  1 Gorffenaf 2008

Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru 

I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg

Bulletin

Organic Wales

No. 81,  1 July 2008

A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales 

Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk

Mynd yn syth at yr adran:

 

Cymru organig  
Ffermio  

Bwyd a’r defnyddiwr  

Ymchwil

Digwyddiadau   Hysbysebion   Adborth

 

Go straight to section

 

Organic Wales  
Farming  

Food and consumer  

Research 

Events     Adverts   Feedback

 

Cymru organig

 

Yn ôl i'r brig

 

Sioe Frenhinol Cymru 21-24 Gorffennaf

Dyma nodyn i’ch atgoffa o dderbyniad Canolfan Organig Cymru am 5 o’r gloch ar y dydd Mawrth yn y babell organig yn yr Ardal Gofal Cefn Gwlad. Os na fedrwch ddod i’n gweld bryd hynny, dewch i’n gweld ar unrhyw adeg yn ystod pedwar diwrnod y sioe, ac fe gewch luniaeth organig ysgafn i’ch adfywio! Edrychwn ymlaen at eich gweld.

 

Cynhadledd Cynhyrchwyr – newid dyddiad

Sylwch fod cynhadledd flynyddol Cynhyrchwyr Organig Cymru yn cael ei chynnal wythnos ynghynt nag a drefnwyd yn flaenorol, sef dydd Iau, 23 Hydref. Gweler ein hadran isod ar ffermio i gael gwybod pam.

 

Ymgynghoriad newydd ar ffermio yng Nghymru

Fis diwethaf, lansiodd Elin Jones, y Gweinidog Amaethyddiaeth, ymgynghoriad o dan y teitl, 'Ffermio, bwyd a'r amgylchedd: creu dyfodol cadarn'. Ymhlith ei gynigion y mae datblygu cefnogaeth i ffermio organig fel enghraifft o reolaeth tir cynaliadwy, a chryfhau cysylltiadau â’r farchnad. Gweler adroddiad News Wales a manylion yr ymgynghoriad.

 

Yn y newyddion

Erbyn hyn, y mae Canolfan Organig Cymru yn cynhyrchu datganiadau rheolaidd i’r wasg, yn ogystal â chyfrannu colofn i’r Western Mail bob pythefnos, ac erthyglau technegol ar gyfer y wasg ranbarthol. Dyma rai erthyglau diweddar ar ffermio organig yng Nghymru:

Pen yr Orsedd farmers open day to show the organic way, Daily Post, 29 Mai 2008

Deciding the best way for the future, Western Mail, 10 Mehefin

Conference looks at way forward for organic world, Western Mail, 24 Jun 2008

Organic Wales

 

Back to top

 

Royal Welsh Show 21-24th July

A reminder of OCW’s reception on the Tuesday at 5pm in the organic marquee in the Countryside Care Area. If you can’t join us on the Tuesday, please visit us with or without your queries whilst we sustain you with organic refreshments throughout the four day event. We look forward to seeing you.

 

Producers' Conference - change of date

Please note that the annual Welsh Organic Producers' Conference has been put back a week, to Thursday 23 October. See the farming section below to find out why.

 

New consultation on Welsh farming

Agriculture Minister Elin Jones last month launched a consultation called 'Farming, food and countryside: building a secure future'. Among its proposals are support for organic farming as part of sustainable land use, and stronger connections to the market. See News Wales report and details of consultation.

 

In the news

Organic Centre Wales is now producing regular press releases, as well as contributing a fortnightly column in the Western Mail and technical articles for the regional press. Some of recent press coverage of organic farming in Wales is listed below.

Pen yr Orsedd farmers open day to show the organic way, Daily Post, 29 May 2008

Deciding the best way for the future, Western Mail, 10 June 2008

Conference looks at way forward for organic world, Western Mail, 24 Jun 2008

 

Ffermio

 

Yn ôl i'r brig

 

Cyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr hadyd tatws

Mae had organig ar gyfer rhai mathau o datws yn brin iawn, gan gynnwys rhai sy’n gallu gwrthsefyll clwy tatws. Er bod had yn cael eu tyfu yn yr Alban yn draddodiadol, y mae rhai rhannau o Gymru yn addas ar gyfer gwneud hynny hefyd. Y mae cyfle i gynhyrchwyr organig am sawl rheswm: y mae’n gnwd gwerthfawr, gyda marchnadoedd a phrisiau sicr; mae’r tymor tyfu yn fyr gyda photensial i gael dau gnwd; gellir eu tyfu mewn ystod eang o wahanol fathau o briddoedd; ac y mae cymorth technegol parod ar gael gan gwmnïau had. Mae CALU yn trefnu gweithdy ar 10 Gorffennaf yng Ngogledd Cymru. Gweler Digwyddiadau, isod.

 

Newyddion o’r Ganolfan Datblygu Tir Glas (IBERS)

Eleni, bydd Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru (FWGS) yn cynnal eu cynhadledd ar y cyd â Chanolfan Organig Cymru yn Llanfair ym Muallt. Fel rheol, y mae FWGS yn cynnal eu cynhadledd flynyddol tua’r un adeg â Chanolfan Organig Cymru ym mis Hydref. Eleni, fodd bynnag, y mae’n syniad da iddynt drefnu ar y cyd gan fod llawer o ffermwyr yng Nghymru newydd drawsnewid, a llawer o ffermwyr confensiynol yn awyddus i ddysgu rhagor am feillion a rheolaeth tail gan fod prisiau gwrtaith yn uchel. Bob blwyddyn yng nghynhadledd FWGS, ceir ffermwyr sydd wedi cymryd rhan (ac sydd weithiau wedi ennill) yng nghystadlaethau’r Gymdeithas, ac ni fydd y flwyddyn hon yn wahanol yn hyn o beth. Edrychwn ymlaen at weld llawer ohonoch yno ar 23 Hydref - sylwer bod y dyddiad wedi newid.

    Mae rhaglen Datblygu Organig Farming Connect wedi dechrau ei gyfnod newydd, gyda chyfarfodydd diddorol yn cael eu cynnal ar ffermydd. Ynddynt, trafodir themâu diddorol a godwyd yn gynharach eleni mewn gweithdai ffermio âr. Rydym wedi gweld rhai cnydau rhagorol a rhai nad oedd cystal, ac wedi mwynhau trafodaethau da hefyd. Rwy’n mawr obeithio y byddwn yn cael cynaeafau llwyddiannus yn nes ymlaen.

Heather McCalman

 

Gwobrau cig

Llwyddodd rhai o aelodau Graig Producers, y grŵp marchnata da byw organig o Gymru, i fachu’r tri safle uchaf yn adran organig cystadleuaeth carcas ŵyn St Merryn Meats a gynhaliwyd ym Merthyr Tydfil ar 29 Mai. Denodd y gystadleuaeth bwysig hon dros 300 o gystadleuwyr o bob cwr o Gymru a Lloegr, gan gynnwys 58 o ŵyn organig.

 

Gwobr ffermio newydd

Mae Peter Davies o Slade Farm, Dyffryn Morgannwg, yn un o bedwar Prydeiniwr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn cystadleuaeth newydd a gynhelir gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) a chylchgrawn Countryfile y BBC. I gael gwybod rhagor am y ‘Nature of Farming Award’ ac i bleidleisio iddo, ewch i www.rspb.org.uk/farmvote. Gweler hefyd y Western Mail.

 

Pili-palod

Dysgwch sut i adnabod pili-palod yn Denmark Farm ger Llanbedr Pont Steffan yr haf hwn: manylion y cwrs.

 

Ynni o dail

Mae’r ffermwr llaeth, Richard Tomlinson, wedi cael caniatad cynllunio ar gyfer treuliwr anerobig a fydd yn defnyddio tail a gwastraff arall i gynhyrchu gwres a thrydan. Daily Post

 

Ymweliadau ysgol

Mae tri chwrs hanner diwrnod rhad ac am ddim yn cael eu trefnu ym mis Gorffennaf ar gyfer ffermwyr sy’n bwriadu caniatáu i ysgolion ymweld â’u ffermydd. Gweler yr adran ar ddigwyddiadau, isod.

 

Llysiau a ffrwythau ar gyfer y sector cyhoeddus

Mae adroddiad gan Glasu ac ADAS Cymru ar gyfer Cyngor Sir Powys yn trafod sut y gellid cyflwyno rhagor o lysiau a ffrwythau i ysgolion Powys. Lawrlwytho'r cyflwyniad

 

Arwerthiannau da byw

Bydd Mart Pontarfynach, yn cynnal ei arwerthiant organig cyntaf ar ddydd Sadwrn, 20 Medi. Gweler ‘Digwyddiadau’ isod.

Bydd arwerthiannau da byw McCartney's yn cael eu cynnal nesaf ar 10 Gorffenaf a 21 Awst. Ffoniwch 01874 622386 i gael manylion.

Bydd arwerthiannau organig Gwerthiannau Da Byw'r Trallwng yn cael eu cynnal ar 8 Medi, 20 Hydref a 17 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion.

Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiant da byw organig ar 18 Gorffenaf. I gael manylion, ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com

 

Farming

 

Back to top

 

Opportunities for potato seed producers

There are acute shortages of organic seed for some potato varieties, including some with high blight resistance. While seed has traditionally been grown mainly in Scotland, certain areas of Wales are equally suitable and there are potential opportunities for organic growers - a high value crop, with guaranteed markets and prices; a short growing season with the potential to double crop; a wider range of suitable soil types compared to ware production; and technical support available from the seed companies can make it an attractive proposition. CALU are organising a workshop on 10 July in North Wales, to which OCW are contributing; see Events, below.

 

News from Grassland Development Centre (IBERS)

We are very pleased to be joining the forces of the Federation of the Welsh Grassland Societies with those of Organic Centre Wales for this year's conference at Builth Wells. The FWGS have typically had an annual conference in October on a similar date  to OCW, and it is a good time to team up as there are many new converters in Wales (all grassland based), and many conventional farmers keen to learn more about clover and manure management in the light of high fertiliser costs. Every year at the FWGS conference there are organic farmers who have entered, and sometimes won, various competitions run by the Society; and this year is no exception. We look forward to seeing many of you there on 23 October – please note the change of date.

   The Farming Connect Organic Development programme delivery has begun its new phase, with some interesting on-farm meetings that have developed some of the themes raised at the arable workshops earlier in the year, particularly the balance between feed planning and rotation planning. Having seen some excellent crops and some less good crops, and enjoyed some good discussions, I hope we shall see later some successful harvests.

Heather McCalman

 

Meat award

Members of Graig Producers, the Wales-based independent organic livestock marketing group, took the top three positions in the organic section of St Merryn Meats lamb carcass competition held on 29 May at Merthyr Tydfil. The prestigious competition attracted over 300 entries from England and Wales, including 58 organic lambs.

 

New farming award

Peter Davies of Slade Farm, Vale of Glamorgan, is one of four UK finalists for the first ever Nature of Farming Award led by RSPB and BBC Countryfile Magazine. To find out more and vote for him, go to www.rspb.org.uk/farmvote. See also the Western Mail.

 

Butterflies

Learn to identify butterflies at Denmark Farm near Lampeter this summer: course details.

 

Energy from manure

Organic dairy farmer Richard Tomlinson has received planning approval for an anaerobic digester which will use manure and other wastes to make heat and electricity. Daily Post

 

School visits

Three free half-day courses are being organized in July for farmers to find out about hosting school visits. Come along and find out about the opportunities - see if it could be for you. See Events, below.

 

Fruit and vegetables for the public sector

A report by Glasu and ADAS Wales for Powys County Council discusses the possibilities for getting more fruit and vegetables into Powys schools. Download presentation

 

Livestock sales

Devil’s Bridge Auction Mart is having their first ever organic sale on Saturday 20 September. See Events, below.

McCartney's next organic auctions will be held on 10 July and 21 August. Call 01874 622386 for details.

Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 8 September, 20 October and 17 November. Call 01938 553438 for details.

Carmarthen Livestock Centre are holding an organic livestock mart on 18 July. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.

 

Bwyd a'r defnyddiwr

 

Yn ôl i'r brig

 

Fferm Agored ar y Sul

Fis diwethaf, agorodd o leiaf un fferm organig (sef Dolgoch ger Castellnewydd Emlyn) ei llidiart i’r cyhoedd fel rhan o’r cynllun ‘Open Farm Sunday’. Adroddiad a lluniau. I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad blynyddol hwn, gweler www.farmsunday.org

 

Cyfarwyddiadur Adwerthu

PWYSIG – Cyfle olaf i gyflwyno enw eich busnes ar gyfer y cyfarwyddiadur adwerthu: Lle i brynu bwyd a diod organig yng Nghymru. Os ydych wedi eich cynnwys yn y fersiwn cyfredol, peidiwch â chymryd yn ganiataol y byddwch yn cael eich cynnwys yn y rhifyn nesaf – y mae’n rhaid ichi ddychwelyd eich ffurflen! Dylech gyflwyno eich ffurflenni erbyn diwedd mis Mehefin, felly, ewch ati i’w hanfon ar Carolyn Wacher yn ddi-oed.

 

Gwobrau Gwir Flas

Ceir gwybodaeth am wobrau 2008/09 yn www.walesthetruetaste.com. Gellwch hefyd ffonio 0800 085 3663 neu e-bostio gwirflas@quadrant.uk.com am ffurflen gais. Y dyddiad cau yw 30 Gorffenaf 2008.

 

Cymrodoriaethau Teithio

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Ymddiriedolaeth Goffa Winston Churchill eu Cymrodoriaethau ar gyfer 2009. O dan gategori Yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, y maent yn gwahodd ceisiadau gan y rheini sy’n ymwneud â chefn gwlad a chynhyrchiad bwyd, gan gynnwys lles anifeiliaid, yr amgylchedd a chadwraeth. Mae’r Ymddiriedolaeth hon “yn cynnig cyfle ichi gynyddu eich gwybodaeth a’ch profiad drwy deithio dramor er mwyn dod â budd i eraill o fewn eich cymuned”. Gweler www.wcmt.org.uk am ragor o gategorïau a gwybodaeth, neu ffoniwch Carolyn Wacher 01970 621852.

 

Garddio Cymunedol

Bydd 'Cultivations', sef elusen sy’n annog pobl i fanteisio ar weithgareddau garddwriaethol, amgylcheddol neu sy’n ymwneud â chadwraeth, yn cynnal tri chyfarfod ‘Growing into the Community’ ar draws Cymru. Manylion llawn i’w cael yn www.cultivations.co.uk.

 

Tyfu eich bwyd eich hun

Dewch i Noson Agored Arddwriaethol yn Fferm Gymunedol Abertawe ar ddydd Gwener, 4 Gorffennaf. Trefnir y noswaith gan y Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol a Choleg Garddwriaethol Cymru. Gweler ‘Digwyddiadau’ isod.

    Gweler hefyd yr eitem ar arddio trefol ar wefan y BBC. Yn ogystal, arwyddwch ddeiseb ar gyfer Stryd Downing: http://petitions.pm.gov.uk/moreallotments/

 

Lles Dofednod

Ymunwch ag ymgyrch River Cottage yma: www.chickenout.tv

 

Ar y We

www.organicfarmwales.co.uk Nantgwynfaen – Fferm organig, siop a gwyliau yng Ngheredigion.

www.organicassistant.com  Cymorth i ddod o hyd i gynhyrchion organig yn eich ardal.

Food and consumer

 

Back to top

 

Open Farm Sunday

At least one organic farm, Dolgoch near Newcastle Emlyn, opened its gates to the public last month as part of Open Farm Sunday. Report and photos. For more on this annual event, see www.farmsunday.org.

 

Retail directory

URGENT – Final entries for our retail guide, Where to buy organic food and drink in Wales: If you have an entry in the current version, do not presume that you will automatically get an entry in the next issue, unless you return the form! Entries for the new edition should have been received by the end of June, so please return your form immediately, to Carolyn Wacher.

 

True Taste Awards

Information about the 2008/09 Awards is at www.walesthetruetaste.com. You can also call 0800 085 3663 or email truetaste@quadrant.uk.com for an application form. The closing date is 30 July 2008. 

 

Travel Fellowships

The Winston Churchill Memorial Trust has recently announced their Fellowships for 2009. Under the category Environment, Food and Rural Affairs they invite applications from those involved in the countryside and food production, including animal welfare, environment and conservation. This Trust “offers you the opportunity to increase your knowledge and experience through overseas travel in order to benefit others within your community”. See www.wcmt.org.uk for more categories and information, or contact Carolyn Wacher 01970 621852.

 

Community gardening

'Cultivations', a charity which encourages people to benefit from any form of horticultural, environmental or conservation activity will be holding three 'Growing into the Community' focus meetings across Wales. Full details at www.cultivations.co.uk.

 

Grow your own food

Come to a Horticultural Open Evening at Swansea Community Farm on Friday 4 July, organized by the Federation of City Farms and Community Gardens and the Welsh College of Horticulture. See Events, below.

    See also this BBC Website item on urban gardening. Plus, sign a Downing St petition: http://petitions.pm.gov.uk/moreallotments/

 

Poultry welfare

Join the River Cottage campaign here: www.chickenout.tv

 

On the Web

www.organicfarmwales.co.uk Nantgwynfaen, organic farm, shop and holidays in Ceredigion

www.organicassistant.com find organic products in your area

Ymchwil

 

Yn ôl i'r brig 

 

Dod â chanlyniadau ymchwil i ffermwyr

Mae Prosiect PACARes (Providing Access, Collation and Analysis of Research) yn cael ei reoli gan IOTA a’i noddi gan DEFRA. Rhan o’i waith yw cynhyrchu cyfres o adolygiadau y gellir eu lawrlwytho: manylion yma.

 

Ansawdd llaeth

Mae ymchwil o Brifysgol Newcastle yn awgrymu bod gwartheg sy’n pori ar ffermydd organig yn cynhyrchu llaeth iachach. Organic Inform

 

Llyfr Newydd

Mae Food Futures Now gan Mae-Wan Ho ac eraill, o’r Sefydliad Gwyddoniaeth mewn Cymdeithas, yn egluro sut y gall amaethyddiaeth organig a systemau bwyd (ac ynni) lleol wneud iawn am darthiadau nwy tŷ gwydr sy’n ganlyniad i weithgareddau dynol, a’n rhyddhau o danwyddau ffosiledig. Rhagor o wybodaeth

 

Cyngres Organig y Byd

Cynhaliwyd ‘Cultivating the Future’, sef 16eg gynhadledd Cyngres Organig y Byd, ar 16-20 Mehefin, ac fe’i mynychwyd gan sawl aelod o’r staff o Aberystwyth. Gwe-adroddiad IFOAM

Research 

 

Back to top

 

Getting research results to farmers

The PACARes Project, which stands for Providing Access, Collation and Analysis of DEFRA research in the organic sector, is managed by IOTA with funding from Defra. Part of its work has been to produce a series of reviews, which can be downloaded: details here.

 

Milk quality

Research from Newcastle University suggests that cows which graze on organic farms produce healthier milk. Organic Inform

 

New book

Food Futures Now by Mae-Wan Ho and others, from the Institute of Science in Society, explains how 'organic agriculture and localised food (and energy) systems can potentially compensate for all greenhouse gas emissions due to human activities and free us from fossil fuels. More information

 

World Congress

'Cultivating the Future', the 16th IFOAM Organic World Congress, was held on 16-20 June and several staff from Aberystwyth attended. IFOAM web report.

Digwyddiadau

 

Yn ôl i'r brig

 

Mae rhoi gwybod i ni’n gynnar yn ein helpu i sicrhau na fydd digwyddiadau yn cael eu canslo oherwydd niferoedd isel.

 

03 Gorffennaf Cnydio grawn ar fferm wartheg a defaid fynyddig Aberbran Fawr, Aberhonddu, LD3 9NG. Philip Jones Canolfan Organig Cymru 01970 622248

04 Gorffennaf 4.00 - 9.00 pm. Taith o amgylch y fferm a’r llaethdy caws, a thrafodaeth a gyflwynir gan Patrick Holden, Cyfarwyddwr y Soil Association. Caws a gwin i ddilyn. Bwlchwernen Fawr, Llangybi, Llanbedr Pont Steffan. Pris £5.00. Croesewir plant (am ddim i blant o dan 12 oed). Nifer y llefydd yn gyfyngedig - ffoniwch 07789 186677 neu e-bostiwch wwsa@soilassociation.org 

04 Gorffennaf 3-8.30 pm. Noson agored ar arddwriaeth yn Fferm Gymunedol Abertawe. Katie Jones, FCFCG, 02920 225942 / 07793669721 or wales@farmgarden.org.uk

10 Gorffennaf 1.30-3.30pm Tyfu hadyd tatws. Manylion. Ger Cyffordd Llandudno, Conwy CALU 01248 680450 neu calu@bangor.ac.uk 

15 Gorffennaf 10-1pm Cychwyn ymweliadau ysgol: cwrs cyflwyniadol rhad ac am ddim gyda FACE lawrlwytho’r daflen wybodaeth Tŷ Ddewi, Sir Benfro. Jane Powell. 01970 622248

15 Gorffennaf 9.30-12.30pm Cychwyn ymweliadau ysgol: cwrs cyflwyniadol rhad ac am ddim gyda FACE lawrlwytho’r daflen wybodaeth. Canolfan Ymchwil Henfaes, Fferm Prifysgol Bangor, Abergwyngregyn Jane Powell 01970 622248.

17 Gorffennaf 10.00 -1.00 Cychwyn ymweliadau ysgol: cwrs cyflwyniadol rhad ac am ddim gyda FACE lawrlwytho’r daflen wybodaeth. Lakeside Farm Park, Pen-y-bont ar Ogwr. Jane Powell  01970 622248

18 Gorffennaf Mart Da Byw Organig, Canolfan Da Byw Caerfyrddin. Huw Evans 07976 328177

21-24 Gorffennaf Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd. Ardal Gofal Cefn Gwlad Carolyn Wacher.  01970 622248

02 Awst Sioe Aberhonddu.

12/13 Awst Sioe Ynys Môn

16 Awst 4pm tan yn hwyr. Taith gerdded o amgylch fferm a dawns ysgubor. Dolgoch, ger Castellnewydd Emlyn. E-bost: wwsa@soilassociation.org Ffôn: 07789 186677

19-21 Awst Sioe Sir Benfro. Hwlffordd.

21 Awst Sioe Sir y Fflint a Sir Ddinbych.

27 Awst 1.30 – 3.30 Prisio opsiynau busnes ar gyfer ffermwyr gwartheg a defaid organig yr ucheldir. Rhyd y Criw, Llanegryn, Tywyn Philip Jones 01970 622248

9 Medi Cynhyrchu ffrwythau a llysiau mewn modd sy’n gwneud elw. Golwg fanwl ar economeg cynhyrchu llysiau a ffrwythau organig, yn enwedig mewn sefyllfa ffermio cymysg. Greathouse Farm, Y Fenni Tony Little  OCW  01970 622248

13 Medi 2.00 - 5.00pm Gwneud compost a thyfu llysiau – taith o amgylch fferm. Blaen Camel Farm, Cilcennin E-bost wwsa@soilassociation.org  Ffôn: 07789 186677

20 Medi 12 o’r gloch. YR ARWERTHIANT ORGANIG CYNTAF – ŵyn a mamogiaid. Mart Pontarfynach (gyferbyn â’r orsaf reilffordd) Mr C Evans 01974 282602

20/21 Medi Gŵyl Fwyd Y Fenni. Y Fenni. Carolyn Wacher 01970 622248

21 Hydref Ffermio Llaeth yng Nghymru. Maes Sioe Caerfyrddin.

23 Hydref Cynhadledd y Cynhyrchwyr Organig. Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd. Canolfan Organig Cymru 01970 622248

24 Hydref Bwydo dofednod organig – gwneud y gorau o’r porthiant a gynhyrchir ar y fferm. Yn cynnwys cynhyrchu grawnfwyd ar gyfer dofednod, melino a chymysgu’r bwyd ar y fferm. Nantclyd Organics, Llanilar, Aberystwyth Tony Little  01970 622248

1-2 Rhagfyr Y Ffair Aeaf, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd. Canolfan Organig Cymru 01970 622248.

 

Rhagor o ddigwyddiadau yn www.organic.aber.ac.uk/events 

Events

 

Back to top

 

EARLY NOTIFICATION HELPS US TO ENSURE EVENTS ARE NOT CANCELLED DUE TO LOW NUMBERS

 

03 July Cereal cropping on the upland beef and sheep farm Aberbran Fawr, Brecon, LD3 9NG Philip Jones OCW 01970 622248

04 July 4.00 - 9.00 pm Farm walk, tour of cheese dairy and discussion introduced by Patrick Holden, Director of Soil Assoc. followed by cheese and wine social Bwlchwernen Fawr, Llangybi, Lampeter.  Cost £5.00 - children welcome (under 12 free) Places limited - please call 07789 186677 or e-mail wwsa@soilassociation.org

04 July 3-8.30 pm Horticulture Open Evening at Swansea Community Farm. Katie Jones, FCFCG, 02920 225942 / 07793669721 or wales@farmgarden.org.uk.

10 July 1.30-3.30pm Growing seed potatoes. Details. Near Llandudno Junction, Conwy CALU 01248 680450 or calu@bangor.ac.uk 

15 July 10-1pm Setting up educational visits: a free introductory course with FACE download flyer St David's, Pembs Jane Powell -

01970 622248

15 July 9.30-12.30pm Setting up educational visits: a free introductory course with FACE download flyer Henfaes Research Centre, Bangor University Farm, Abergwyngregyn Jane Powell 01970 622248

17 July 10.00 -1.00 Setting up educational visits: a free introductory course with FACE Download flyer Lakeside Farm Park, Bridgend. Jane Powell 01970 622248

18 July Organic Livestock Mart Carmarthen Livestock Centre Huw Evans 07976 328177

21-24 July Royal Welsh Show RWAS Llanelwedd. Countryside Care Area Carolyn Wacher - Organic Centre Wales 01970 622248

02 Aug Brecon Show details tbc

12/13 Aug Ynys Môn Show Anglesey details tbc

16 Aug 4pm til late Farm walk followed by barn dance Dolgoch, nr Newcastle Emlyn E-mail wwsa@soilassociation.org  Tel: 07789 186677

19-21 Aug Pembrokeshire Show Haverfordwest details tbc

21 Aug Flint & Denbigh Show details tbc

27 Aug 1.30 – 3.30 Costing enterprise options for the upland organic beef and sheep farmer. Rhyd y Criw, Llanegryn, Tywyn Philip Jones OCW 01970 622248

9 Sept Profitable fruit and vegetable production. A detailed look at the economics of organic horticultural production, especially in a mixed farming situation. Greathouse Farm, Abergavenny Tony Little  OCW 01970 622248

13 Sept 2.00 - 5.00pm Composting and growing vegetables - farm tour. Blaen Camel Farm, Cilcennin E-mail wwsa@soilassociation.org Tel: 07789 186677

20 Sept 12.00 noon FIRST ORGANIC SALE ewes and lambs Devil's Bridge Auction Mart (opposite railway station) Mr C Evans 01974 282602

20/21 Sept Abergavenny Food Festival Abergavenny Carolyn Wacher - Organic Centre Wales 01970 622248

21 Oct Welsh Dairy Event Carmarthen Showground details tbc

23 Oct Organic Producers' Conference RWAS Llanelwedd Organic Centre Wales 01970 622248

24 Oct Feeding organic poultry - maximising feed from the farm. Includes cereal production for poultry, on farm mixing & milling, and using range effectively. Nantclyd Organics, Llanilar, Aberystwyth Tony Little  OCW 01970 622248

1-2 Dec Winter Fair RWAS Llanelwedd Organic Centre Wales 01970 622248

 

More events at www.organic.aber.ac.uk/events

Hysbysebion

 

Yn ôl i'r brig

 

Ar werth

Lloi bîff wedi eu diddyfnu ar gael. Lloi sugno hefyd ar gael. HerefordX a BazadaiseX. Amrywiaeth o oedrannau. Cysylltwch ag Owen yn Lawrenny Farms. owenlp@onetel.com neu 07976647497 neu 02921250261. [02/06/08]

Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251

Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk.

Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. 

Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).

 

I'w osod

Tenantiaeth fferm am dymor penodol, o fis Medi 2009, ar fferm organig sydd wedi ei hen sefydlu (ers 1992). 145 o erwau glân, gan gynnwys ffermdy, amrywiaeth o adeiladau modern, a pharlwr penwaig. Wedi ei lleoli ger arfordir gogledd Sir Benfro. Mae’r tir gymharol wastad yn elwa o dymor tyfu cynnar. Cynghorir ymgeiswyr i ymweld â’r fferm yn gynnar. Ffôn: 07831 582718 E-bost: tom.latter@btopenworld.com  [23/06/2008]

Porfa Organig - 11 mis – 20 erw, Caersws, Canolbarth Cymru. Ffôn: 01686 688231. [02/06/08]

 

Amrywiol

Mae Graig Producers Wales & Borders wedi cynrychioli buddiannau ei 280 o aelodau ac wedi marchnata eu cynnyrch am ragor na 10 mlynedd. Y mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol gyda Graig Producers South West and Caledonian Organics, gyda phŵer marchnata cydweithrediadol dros 500 o ffermwyr organig sy’n aelodau. Mae bod yn aelod yn dod â sawl mantais yn ei sgil. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.graigproducers.co.uk neu i gael manylion ynglŷn â sut i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb parhaol]

 

Yr holl hysbysebion i’w cael yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Advertisements

 

Back to top

 

For sale

Weaned beef calves available. Some suckler reared calves also. HerefordX and BazadaiseX. A range of ages. Contact Owen at Lawrenny Farms. owenlp@onetel.com or 07976647497 or 02921250261. [02/06/08]

Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert]

Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert]

Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert]

Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge).

 

To let

Farm Business Tenancy offered for fixed term, from September 2009, on established organic holding (since 1992) of 145 clean acres, including farm house, range of predominantly modern buildings and herringbone parlour. Situated near north Pembrokeshire coast, the relatively level land benefits from an early growing season. Early inspection advised. Tel: 07831 582718 Email: tom.latter@btopenworld.com [23/06/2008]

Organic Grazing - 11 Months - 20 Acres, Caersws, Mid Wales. Tel. 01686 688231. [02/06/08]

 

Miscellaneous

Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk.  [permanent advert]

 

All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Adborth

 

Yn ôl i'r brig

 

Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, IBERS, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn. 01970 622248.

   Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill.

   Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo.

   Mae rhifynnau blaenorol yn www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Feedback

 

Back to top

 

Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. For more information contact Organic Centre Wales, IBERS, Aberystwyth University, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248.

   The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications..

   Please forward this newsletter to anyone who might be interested.

   Previous issues are at www.organic.aber.ac.uk/bulletin