|
Os ydych yn cael problemau wrth ddarllen y bwletin hwn, ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin |
If you have problems reading this bulletin, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin |
BwletinCymru OrganigRhif 79, 6 Mai 2008Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg |
BulletinOrganic WalesNo. 79, 6 May 2008A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk |
|
Digwyddiadau Hysbysebion Adborth
|
|
|
Costau cynhyrchu organig Mae ffermwyr organig yng Nghymru yn derbyn enillion tebyg i ffermwyr confensiynol ar sail kg o gig neu litr o laeth, er gwaethaf cynnyrch is. Gweler datganiad i'r wasg.
Arolwg o gynhyrchwyr organig Mae canlyniadau arolwg 2007 yn awr ar gael. Maent yn dangos bod y tir dan reolaeth organig yng Nghymru wedi cynyddu 15% yn 2007 ac yn cynrychioli 90,000 hectar ar 800 o ddaliadau, neu 6.3% o dir amaethyddol Cymru. Gyda rhagor na 300 o ffermwyr wedi gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Ffermio Organig eleni, gallai ffermio organig dyfu i ffurfio 8-10% o amaethyddiaeth Gymreig. Bydd hyn y creu cyfleoedd newydd ar gyfer y sector organig, ond yn gofyn am gynllunio gofalus. Gweler y datganiad i’r wasg a lawrlwythwch yr adroddiad.
Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd Lansiodd Elin Jones, y Gweinidog Materion Gwledig, y DVD newydd ar gyfer ysgolion yn fferm organig Blaencamel yng Ngheredigion fis diwethaf. Gweler yr adroddiad a’r datganiad i’r wasg.
Sefydliad newydd Fis diwethaf, cyfunwyd Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER) a Sefydliad y Gwyddorau Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth (sef dau o’r partneriaid yng Nghanolfan Organig Cymru) gyda Sefydliad y Gwyddorau Biolegol i ffurfio sefydliad newydd, sef Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS). Felly, y mae staff IGER gynt yn awr yn aelodau o staff y brifysgol. www.aber.ac.uk/cy/ibers/
|
Organic production costs Welsh organic farmers are getting similar returns per kg of meat and litre of milk to conventional farmers, despite lower yields, according to the latest benchmarking data. See press release.
Organic producer survey The results of the 2007 survey are now available. They show that the area of land under organic management in Wales increased by 15% in 2007 and now amounts to 90,000 ha on 800 holdings, or 6.3% of Welsh agricultural area. With more than 300 farmers having applied to join the new Organic Farming Scheme this year, organic farming could grow to 8-10% of Welsh agriculture. This will create new opportunities for the organic sector, but will require careful planning. See press release and download report.
Learning along the food chain Rural Affairs Minister Elin Jones launched the new DVD for schools at Blaencamel organic farm in Ceredigion last month. See report and press release.
New institute IGER and the Institute of Rural Sciences at Aberystwyth University, two of the partners in Organic Centre Wales, last month merged with the Institute of Biological Sciences to form the new Institute of Biological, Environmental and Rural Sciences (IBERS). Former IGER staff are therefore now staff of the university. www.aber.ac.uk/en/ibers/ |
|
Cynllun Ffermio Organig Dylai pob ffermwr sydd am fynd mewn i'r CFfO neu sydd ynddo yn barod hawlio eu harian ar Ffurflen y Taliad Sengl. Dylai ffermwyr a aeth yn organig cyn 15 Mai 2007 ddangos tystysgrifau organig a rhestr caeau gyda'u ceisiadau. Rhowch rhifau'r caeau hefyd. Gweler y ffeithlen ddiweddaraf. Dylech nodi bod y rheolau ar dir comin a'r CFfO wedi newid. Gweler y ffeithlen a chysylltwch â'ch Swyddfa Ranbarthol. Dylau pob ffermwr a ymgeisiodd i'r CFfO ers mis Tachwedd diwethaf fod wedi derbyn llythyr gan y Cynulliad erbyn hyn. Os ddim, cysylltwch â'ch Swyddfa Ranbarthol i sicrhau eu bod wedi derbyn eich ffurflen gais.
Llawlyfr technegol ar arddwriaeth Bydd llyfryn newydd ar gyfer ffermwyr sy’n ystyried arallgyfeirio trwy droi at gynhyrchu ffrwythau a llysiau yn cael ei lansio yn ‘Peepout Farm’, Hwlffordd ar 15 Mai (gweler yr adran ‘digwyddiadau’ isod). Bydd y llyfryn ar gael yn www.organic.aber.ac.uk ar ôl y dyddiad hwnnw.
Costau cynhyrchu Mae ffeithlen newydd ar feincnodi ar gyfer cynhyrchwyr cig eidion, cig oen a llaeth yn awr ar gael gan Ganolfan Organig Cymru. Mae’n dangos bod yr elw net a wneir am bob litr gan gynhyrchwyr llaeth organig yn uwch na’r elw net a wnaed gan ffermwyr confensiynol yn ystod 2005/6 a 2006/7 – a hynny er gwaetha’r ffaith mai dim ond 22.8c y litr oedd y pris organig yn 2006/7. Lawrlwytho’r ffeithlen.
OF&G yn symud swyddfeydd Symudodd y corff ardystio, Organic Farmers and Growers, i swyddfeydd newydd ar 1 Mai. Manylion.
Triogl - eglurhad Yr oedd ein bwletin ym mis Mawrth yn cynnwys eitem ar safonau bwyd organig a oedd yn nodi bod blociau bwyd a ddefnyddid ar gyfer da organig yn gorfod cynnwys triogl organig oddi ar 1 Ionawr 2008. Mae’n debyg bod hyn wedi peri cryn ddryswch. Sylwer nad yw hyn yn berthnasol i flociau mwnol ac y gellir defnyddio rhai mathau o driogl nad sy’n organig yn y cynhyrchion hyn.
Gwobr foesegol Mae Martin Peck, sy’n ffermwyr organig yng Nghroesoswallt, wedi ei roi ar restr fer ar gyfer gwobrau moesegol yr Observer, a hynny am ei waith adeiladu ‘gwyrdd’. Yn y gystadleuaeth hon, sy’n cael ei chynnal am y drydedd tro ac a noddir gan Ecover, bydd y dyfarniad terfynol yn dibynnu ar bleidleisiau darllenwyr ac ar farn panel o enwogion. Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn Llundain ar 5 Mehefin. Observer
‘Tai Chi’ ar gyfer ffermwyr Dysgwch ymlacio wrth eich gwaith ar y fferm, a hynny gyda chymorth saith o ymarferion a ddangosir ar fideo ‘tai chi’. Cliciwch yma. Arwerthiannau da byw Bydd arwerthiannau da byw McCartney's yn cael eu cynnal nesaf ar 10 Gorffenaf a 21 Awst. Ffoniwch 01874 622386 i gael manylion. Bydd arwerthiannau organig Gwerthiannau Da Byw'r Trallwng yn cael eu cynnal ar 8 Medi, 20 Hydref a 17 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion. Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiannau organig rheolaidd. I gael manylion, ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com.
|
Organic Farming Scheme All farmers either entering the OFS or already in the OFS must make their claim on their SAF. Farmers that converted before 15 May 2007 should supply both years’ organic certificates and field schedules with their claim. Insert the field numbers on your organic field schedule. See our latest factsheet. Note there has been a change to the rules on common land and the OFS. See the factsheet and contact your Division Office for more information. All farmers that applied to join the OFS since last November should have received an OFS offer letter from the WAG by now. If you have not, contact your Divisional Office to ensure they received your application form.
Horticulture technical guide A new booklet for farmers considering diversifying into fruit and vegetable production is to be launched at Peepout Farm, Haverfordwest, on 15 May (see events). The guide will be available at www.organic.aber.ac.uk from that date.
Costs of production A new factsheet on benchmarking for beef and sheep and dairy producers is now available from OCW. It shows organic dairy producers gaining higher net margins per litre than conventional farmers during 2005/6 and 2006/7 despite the organic price per litre only being 22.8p in 2006/7. Download factsheet
OF&G move offices The certification body Organic Farmers and Growers moved to new offices on 1 May. Details.
Molasses - a clarification Our March bulletin featured an item on organic feed standards which stated ‘since 1 January 2008 feed blocks provided for the use of organic livestock must contain organic molasses’, which seems to have led to some confusion. Please note that this does not apply to mineral blocks, and some non organic molasses can be used in these products.
Ethical award Martin Peck, organic farmer in Oswestry has been shortlisted for the third Observer ethical awards, for his green building work. The awards, supported by Ecover, were judged by a combination of reader votes and by a celebrity panel. The winners will be announced at a ceremony in London on June 5. Observer
Tai Chi for farmers Learn to relax at work on the farm, with seven exercises demonstrated on video. Click here.
Livestock sales McCartney's next organic auctions will be held on 10 July and 21 August. Call 01874 622386 for details. Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 8 September, 20 October and 17 November. Call 01938 553438 for details. Carmarthen Livestock Centre hold regular organic auctions. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.
|
|
Wythnos ymwybyddiaeth compostio 4-10 Mai Ewch i www.compostawarenessweek.org.uk i ddarganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi.
Gwefan ‘Eatwell’ ar gael yn Gymraeg Mae’r Asiantaeth Safonnau Bwyd wedi lansio fersiwn Cymraeg o’i wefan Eatwell. Gweler www.eatwell.gov.uk/?lang=cy
Marchnadoedd ffermwyr Mae marchnad ffermwyr ‘Riverside’ yng Nghaerdydd a marchnad Hwlffordd ymhlith y 12 uchaf ym Mhrydain yn ôl The Times.
Gwobrau Organig y Soil Association 2008 Melin Bacheldre a ddaeth yn ail orau yn y gwobrau diweddar, a hynny am eu blawd mwg derw newydd. Yn ogystal, daeth Graig Farm yn ail yn y categori ‘danfon drwy’r we’. Gweler gwefan y Soil Association a’r proffil o Graig Farm yn y Western Mail.
Mae Sir Fynwy yn wyrdd Dengys arolwg yn y Western Mail fod Sir Fynwy wedi ei hethol yn sir werddaf yng Nghymru, gydag un busnes ecogyfeillgar am bob 3,625 o bobl. Gweler y Western Mail.
Ar y we www.love-om.com Gwybodaeth am laeth organig i gwsmeriaid. www.galleryorganics.co.uk Bwydydd a thriniaethau organig o siop yn Narberth www.bryngwenynfarm.co.uk Fferm organig gyda siop a llety yn Sir Gaerfyrddin |
Compost awareness week 4-10 May See www.compostawarenessweek.org.uk to find out what's happening in your area.
Eatwell in Welsh The Food Standards Agency has launched a Welsh language version of its Eatwell website, at www.eatwell.gov.uk/?lang=cy
Farmers markets Riverside market in Cardiff and Haverfordwest market are among The Times' top 12 farmers markets in the UK. The Times
Soil Association Organic Awards 2008 Bacheldre Mill were runners up in the recent awards for their new oak-smoked flour announced at Organic and Natural Products 2008, and Graig Farm were runners-up in the internet delivery service category. See Soil Association website and profile of Graig Farm in the Western Mail.
Monmouthshire is green Monmouthshire has been voted the greenest county in Wales, with one eco-friendly business for every 3625 people, according to a survey reported in the Western Mail.
On the Web www.love-om.com all about organic milk, for consumers www.galleryorganics.co.uk organic food and therapies from a shop in Narberth www.bryngwenynfarm.co.uk organic farm with holiday accommodation and shop in Carmarthenshire |
|
Grŵp rhyngwladol yn cefnogi ffermio mewnbwn-isel Mae adroddiad gan yr International Assessment of Agricultural Science and Technology for Development (IAASTD), sydd wedi cael sylw helaeth yn y wasg ac a gymeradwywyd gan 54 o lywodraethau, yn galw am newidiadau sylfaenol mewn ffermio. Mewn astudiaeth pedair blynedd a gyflawnwyd gan 400 o wyddonwyr o bob cwr o’r byd, ceisiwyd datblygu ffordd newydd o fynd ati i gynhyrchu bwyd ar draws y byd. Mae’r adroddiad yn rhybuddio rhag defnyddio cnydau GM a chnydau biodanwydd, ac yn pwysleisio bod ffermio ar raddfa fechan a defnyddio dulliau amaeth-ecolegol yn well ffordd o ymateb i brisiau bwyd uchel, newyn, anghydraddoldebau cymdeithasol a thrychinebau amgylcheddol. Organic Inform
Nwyon Tŷ Gwydr Dengys adroddiad gan Ganolfan Masnach Ryngwladol y Cenhedloedd Unedig fod gan ffermio organig y gallu i leihau allyriannau nwy tŷ gwydr, gyda phum prif fantais: defnyddio llai o danwydd i gynhyrchu, gwell atafaeliad carbon yn y pridd, dargadw dŵr yn well mewn pridd, chwarae rhan mewn systemau agro-goedwigaeth, a gwell gallu i addasu i newid yn yr hinsawdd. Mae’r adroddiad hefyd yn nodi gwendidau ffermio organig ac yn galw am ragor o ymchwil. Organic Inform.
|
International group backs low-input farming A report from the International Assessment of Agricultural Science and Technology for Development (IAASTD), widely reported in the media and approved by 54 governments, calls for a fundamental change to farming. A four year study, involving 400 scientists from around the world, aimed to develop a new approach to world food production. Warning against GM crops and biofuel crops, the key message of the report is that small-scale farming and agro-ecological methods are a better resonse to soaring food prices, hunger, social inequities and environmental disasters. Organic Inform
Greenhouse gases A report from the UN's International Trade Centre finds that organic farming has potential to reduce greenhouse gas emissions, with five main benefits: less fuel used in production, better soil carbon sequestration, better soil water retention, role in agroforestry systems and higher capacity to adapt to climate change. It also identifies weaknesses of organic farming and calls for more research. Organic Inform. |
|
Mae rhoi gwybod i ni’n gynnar yn ein helpu i sicrhau na fydd digwyddiadau yn cael eu canslo oherwydd niferoedd isel.
08 Mai 1.30 - 3.30 Cnydio âr organig. Cynllunio Cylchdroeon a Sefydliad Cnydau. Penrhiw Farm, Llandysul, SA44 4PG. Philip Jones Canolfan Organig Cymru 01970 622248 08 Mai 1.45-4.30 Fferm Agored – Gweithdy Sul: dysgwch am sut i agor eich fferm i’r cyhoedd. www.farmsunday.org Blaen-y-Cwm, Dolau, Llandrindod Wells, Powys. Ffoniwch LEAF ar 02476 413911 neu e-bostiwch carol.cartwright@leafuk.org. 8 Mai 10.00 - 17.30 Gweithdy Biodynamig Cyflwyniadol gydag Andre a Monique Kleinjans. Dewch â dillad addas ar gyfer yr awyr agored a phecyn bwyd gyda chi. Pris £30 / £25 consesiynol. Responsive Earth Trust, Plasdwbl, Mynachlog Ddu, Clunderwen, Sir Benfro SA66 7SD. Biodynamic Agricultural Association. 01453 759501. 09 Mai 1.00 - 3.00 Gwneud y gorau o fiswail. Cyfarfod ymarferol ar y fferm i drafod ffyrdd o effeithlonni eich defnydd o fiswail. Estynnir croeso cynnes ichi gan Rhodri Ellis a’i deulu. Rhyd Y Cilgwyn, Rhewl, Ruthun LL15 2UB. Y Ganolfan Datblygu Ffermio Llaeth 01554 748570 15 Mai 2.00 - 5.00 Cyfleoedd mewn garddwriaeth organig. Digwyddiad ar gyfer tyfwyr a chynhyrchwyr da sy’n ystyried arallgyfeirio. Peepout Farm, Portfield Gate, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3LS Tony Little Canolfan Organig Cymru 01970 622248 17 Mai 10.00 - 17.30 Gweithdy Biodynamig Cyflwyniadol gyda Bernard Jarman. Dewch â dillad addas ar gyfer yr awyr agored a phecyn bwyd gyda chi. Pris £30 / £25 consesiynol. Menter y Felin Uchaf, Rhoshirwaun, Pwllheli, LL53 8HS. Biodynamic Agricultural Association. 01453 759501. 29 Mai Homeopathi ar lefel y Bwtsias – Diwrnod 3 £325 am gwrs tridiau yn cynnwys costau dysgu, llawlyfrau a thapiau adolygu. Duchy Home Farm, Tetbury, Swydd Gaerloyw. Cysylltwch â Chris Lees yn mclees@connectfree.co.uk i gael rhagor o wybodaeth neu i gadw lle. 02 Mehefin 1.30 - 3.30 Cnydio âr organig. Cynllunio Cylchdroeon a Sefydliad Cnydau. Pen yr Orsedd, Caergybi, Ynys Môn. LL65 3YY Philip Jones Canolfan Organig Cymru 01970 622248 10 Mehefin 9.00 - 4.00 Gwell Maeth, Gwell Dysgu, Gwell Dyfodol. Cynhadledd Maeth Plant Cenedlaethol. Cliciwch yma i gael ffurflen archebu. Caerdydd. Ffôn: 01633 432330 Ffacs: 01633 432331 E-bost: trainingdyscovery@newport.ac.uk;. 27 Mehefin 10.00 - 4.30 Cynhyrchu Llysiau mewn Trefi: Offer, Technegau a Theori. Cwrs undydd – efallai y bydd yn addas ar gyfer y rheini sy’n ystyried cynhyrchu llysiau’n fasnachol, ar gyfer bobl broffesiynol sy’n edrych ar bolisi trefol cynaliadwy, cynhyrchwyr gyda lleiniau tir mwy o faint, a’r rheini sy’n pryderu am faterion sy’n ymwneud â diogelwch bwyd yn y DU. £45 (yn cynnwys cinio) Glebelands Market Garden, Sale, Greater Manchester. glebelands@ntlworld.com neu ymwelwch â www.glebelandsmarketgarden.co.uk
Rhagor o ddigwyddiadau yn www.organic.aber.ac.uk/events |
EARLY NOTIFICATION HELPS US TO ENSURE EVENTS ARE NOT CANCELLED DUE TO LOW NUMBERS
08 May 1.30 - 3.30 Organic arable cropping. Rotation Planning and Crop Establishment Penrhiw Farm, Llandysul.SA44 4PG Philip Jones OCW 01970 622248 08 May 1.45-4.30 Open Farm Sunday workshop: find out about opening your farm to the public.www.farmsunday.org Blaen-y-Cwm, Dolau, Llandrindod Wells Powys Call LEAF on 02476 413911 or email carol.cartwright@leafuk.org. 08 May 10.00 - 17.30 Biodynamic Introductory Workshop with Andre & Monique Kleinjans. Bring suitable outdoor clothing and packed lunch. Cost £30 / £25 conc. Responsive Earth Trust, Plasdwbl, Mynachlog Ddu, Clunderwen, Pembrokeshire SA66 7SD. Biodynamic Agricultural Association. 01453 759501. office@biodynamic.org.uk, or visit www.biodynamic.org.uk. 09 May 1.00 - 3.00 Getting more from Slurry. On-farm practical meeting to discuss ways of improving the efficiency of slurry use. Hosted by Rhodri Ellis & family. Rhyd Y Cilgwyn, Rhewl, Ruthin LL15 2UB Dairy Development Centre 01554 748570 15 May 2.00 - 5.00 Opportunities in organic horticulture event for existing growers and livestock producers considering diversification. Peepout Farm, Portfield Gate, Haverfordwest, Pembs SA62 3LS Tony Little OCW 01970 622248 17 May 10.00 - 17.30 Biodynamic Introductory Workshop with Bernard Jarman. Bring suitable outdoor clothing and packed lunch. Cost £30 / £25 conc. Menter y Felin Uchaf, Rhoshirwaun, Pwllheli, LL53 8HS. Biodynamic Agricultural Association. 01453 759501. 29 May Homeopathy at Wellie Level - Day 3 £325 for 3 day course inc all teaching, manuals and revision tapes. Duchy Home Farm, Tetbury, Glos.Chris Lees at mclees@connectfree.co.uk for more information or to book. 02 Jun 1.30 - 3.30 Organic arable cropping Rotation Planning and Crop Establishment Pen yr Orsedd, Holyhead, Ynys Môn. LL65 3YY Philip Jones OCW 01970 622248 10 June 9.00 - 4.00 Better Nutrition, Better Learning, Better Futures. The National Children's Nutrition Conference.booking form click here. Cardiff. Tel: 01633 432330 Fax: 01633 432331 Email: trainingdyscovery@newport.ac.uk;. 27 June 10.00 - 4.30 Urban Veg Production: Tools, Techniques & Theory 1-day course - may suit those considering commercial veg prod, professionals looking at sustainable urban policy, larger allotment producers and those concerned by UK food security issues. £45 (inc lunch) Glebelands Market Garden, Sale, Greater Manchester. Contact glebelands@ntlworld.com or visit www.glebelandsmarketgarden.co.uk
More events at www.organic.aber.ac.uk/events |
|
Ar werth Offer gwneud caws ar werth – pastureiddiwr llaeth modern, cawswasg, mowldiau, byrddau, trolïau, rheseli cadw caws, boeler olew diwydiannol cyfunol, a llawer yn rhagor. Ffoniwch 01994 448303. [01/05/08] Mae gwneuthurwyr caws Llanboidy yn rhoi’r gorau iddi ac y mae busnes Caws Organig Cilowen ar werth ynghyd â’r holl rysetiau a gwybodaeth berthnasol i gwsmeriaid, ayyb. Ffoniwch 01994 448303. [01/05/08] Ceirch gwanwyn (8 tunnell) a gwenith gaeaf (12 tunnell) Ffoniwch 01686 625619 neu 07787 378713. [25/04/08] Heffer Ffrisia Organig newydd ddod â llo. Natur hyfryd ac yn edrych am gartref newydd clud! Profwyd y gyrr am y ddarfodedigaeth ym mis Ebrill 2008, ac fe’u cafwyd yn gwbl glir. Lleolwyd yng NGHAERFYRDDIN. Ffoniwch Philip Thomas ar 01267 237191 neu 07813 192693. [21/04/08] Tarw Du Cymreig ifanc. Ganed Ionawr 07- Wedi tyfu’n dda ac o frid pur. Cysylltwch ag M B Snead 01982 551848 , e-bost mbsnead@tiscali.co.uk; [21/04/08] Dwy Heffer Ddu Gymreig, newydd ddod â llo. Mr Morgan, Sanclêr. 07970 178598. [14/4/08] 6 o wartheg Henffordd pur eu brid (stoc magu wedi eu trawsnewid) gyda lloi pur eu brid wrth eu hystlys. Ardal Llangurig. Ffoniwch John Birch 01686 440674 [4/4/08] Perchyll Diddwyn Tamworth. Organig. Gwrywod a Benywod ar gael. Temple Bar ger Llanbedr Pont Steffan, SA48. Ffôn: 01570 471432 neu E-bost: shelldrayton@talktalk.net. [2/4/08] Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251 Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk. Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).
Yn eisiau Sheep tack for winter 08/09, improved Welsh ewes and ewe lambs. Please contact Irwel on 01558 650361 (Pumsaint/Carms).[06/05/08]
Amrywiol Dau fyfyriwr Almaenig ifanc yn chwilio am brofiad gwaith ar fferm organig, 12 Gorffennaf hyd ddechrau Awst. Isabel a Rasmus Hagedorn, info@dgp-praevention.de. Mae Graig Producers Wales & Borders wedi cynrychioli buddiannau ei 280 o aelodau ac wedi marchnata eu cynnyrch am ragor na 10 mlynedd. Y mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol gyda Graig Producers South West and Caledonian Organics, gyda phŵer marchnata cydweithrediadol dros 500 o ffermwyr organig sy’n aelodau. Mae bod yn aelod yn dod â sawl mantais yn ei sgil. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.graigproducers.co.uk neu i gael manylion ynglŷn â sut i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb parhaol]
Yr holl hysbysebion i’w cael yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml |
For sale Cheesemaking equipment for sale – modern milk pasteuriser, cheese press, moulds, tables, trolleys, cheese storage racks, Combi industrial oil boiler plus much more. Phone 01994 448303. [01/05/08] Llanboidy Cheesemakers are ceasing production and the trademarked Cilowen Organic Cheese business is for sale along with recipes and relevant customer information, etc. Phone 01994 448303. [01/05/08] Spring oats (8 ton) and winter wheat (12 ton) Contact 01686 625619 or 07787 378713. [25/04/08] Freshly calved Organic Freisian heifer. Lovely nature, very quiet to handle and milk. Looking for a nice new home!! Perfectly clear TB Herd Test April 2008. Located in CARMARTHEN. Please feel free to telephone Philip Thomas on 01267 237191 or 07813 192693. [21/04/08] Young Welsh Black Bull. Born Jan 07- Well Grown, Pure breed. contact M B Snead 01982 551848 , email mbsnead@tiscali.co.uk; [21/04/08] Two pedigree Welsh Black heifers, freshly calved. Mr Morgan, St Clears. 07970 178598. [14/4/08] 6 Pure Bred Herefords (Converted breeding stock) with pure bred organic calves at foot. Llangurig area. Contact John Birch 01686 440674 [4/4/08] Tamworth Weaners, UK5 Organic. Both Males & Females available. Temple Bar, Near Lampeter, SA48 Telephone: 01570 471432 or Email: shelldrayton@talktalk.net. [2/4/08] Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert] Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert] Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert] Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge).
Wanted Sheep tack for winter 08/09, improved Welsh ewes and ewe lambs. Please contact Irwel on 01558 650361 (Pumsaint/Carms).[06/05/08]
Miscellaneous Two young German students seek work experience on an organic farm, 12 July to early August. Isabel and Rasmus Hagedorn, info@dgp-praevention.de. Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk. [permanent advert]
All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml |
|
Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn. 01970 622248. Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill. Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo. Mae rhifynnau blaenorol yn www.organic.aber.ac.uk/bulletin |
Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. For more information contact Organic Centre Wales, Institute of Rural Sciences, University of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248. The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications. Please forward this newsletter to anyone who might be interested. Previous issues are at www.organic.aber.ac.uk/bulletin |