BwletinCymru OrganigRhif 50, 2 Tachwedd 2005Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg |
BulletinOrganic WalesNo. 50, 2 November 2005A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk |
|
Digwyddiadau Hysbysebion Adborth
|
|
|
Effeithiau ar yr economi gwledig Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerwysg, The impact of oranic farming on the rural economy in England, yn dangos bod ffermio yn newydd i 31% o’r rhai sy’n mynd i mewn i ffermio organig (o’i gymharu â 21% sy’n mynd i mewn i ffermio confensiynol), a’u bod yn iau ac wedi derbyn mwy o addysg na’u cymheiriaid confensiynol. Roeddent yn fwy tebygol o redeg busnesau amrywiol a ganolbwyntiai ar y cwsmer, ac felly’n creu mwy o swyddi a chyfleoedd cyflogaeth mwy amrywiol. Manylion a dogfennau i’w llwytho i lawr
Cynhadledd IFOAM Ceir adroddiad o 15ed cynhadledd yr International Federation of Organic Agriculture Movements a gynhaliwyd yn Adelaide, Awstralia ym mis Medi yn www.ifoam.org. Fis diwethaf, cymeradwyodd IFOAM ei Egwyddorion Amaethyddiaeth Organig (iechyd, ecoleg, tegwch a gofal), gan ddatgan y dylai gael ei gydnabod fel sylfaen ar gyfer rheoliadau cyhoeddus. Manylion a dogfennau i'w llwytho i lawr
Gwybodaeth am farchnadoedd organig Bydd ail seminar y prosiect European Information System for Organic Markets (EISfOM) yn cael ei gynnal ar Tachwedd 10 ac 1, 2005 ym Mrwsel. Bydd yn dwyn y teitl “Towards a European Framework for Organic Market Information”. Mae’r seminar yn agored i bawb sydd â diddordeb yn y pwnc, gan gynnwys asiantaethau swyddogol a masnachol, ardystwyr a hapddalwyr eraill yn ogystal ag ymchwilwyr. Mae’r rhaglen ar gael ar dudalen gartref y seminar yn www.eisfom.org.
|
Impacts on the rural economy A report published by Exeter University, The impact of organic farming on the rural economy in England, shows that 31% of entrants to organic farming were new to farming (compared with 21% entering conventional farming), and they were younger and more highly educated than their conventional counterparts. They were more likely to run diversified businesses, with a customer focus, and therefore created more jobs and more diverse employment opportunities. Details and downloads
IFOAM conference A report of the 15th Organic World congress of the International Federation of Organic Agriculture Movements in Adelaide, Australia in September is at www.ifoam.org. IFOAM last month approved its revised Principles of Organic Agriculture (health, ecology, fairness and care), which it says should be recognized as a foundation for public regulations. details and download
Organic market information The second seminar of the European funded project European Information System for Organic Markets (EISfOM) will take place November 10 and 11, 2005 in Brussels. It is entitled “Towards a European Framework for Organic Market Information”. The seminar is open to all parties interested in the subject, including official and commercial agencies, certifiers and other stakeholders as well as researchers. The programme is available at the seminar homepage at www.eisfom.org.
|
|
Y Cynllun Taliadau Sengl – cael eich talu’n gynt Bydd y Cynulliad yn eich talu cyn gynted ag y medrant. Maent wedi gofyn am fanylion banc fel y gall y taliadau fod yn eich cyfrif yn gynt, felly, da o beth fyddai eu helpu i wneud hynny – gwnewch yn siŵr eich bod wedi llenwi eich ffurflenni a’u dychwelyd. Dywed staff y Cynulliad bod peidio ag ateb cwestiynau yn gallu peri cryn oedi. I gael rhagor o fanylion am hyn a newyddion arall am bolisi ffermio, cysylltwch â Sue Fowler ar 01970 621627.
Materion yn ymwneud â chaledi Mae ffermwyr sydd wedi parhau â’r proses Apelio yn erbyn y modd y cyfrifwyd eu taliadau Cynllun Taliadau Sengl yn awr yn mynychu eu hapeliadau panel. Mae Canolfan Organig Cymru wedi paratoi ffeithlen ddiweddaredig ar y mater hwn, sydd ar gael yn fan hyn (PDF).
Agro-amgylchedd Dylai’r rheini ohonoch sy’n dymuno edrych ar Tir Cynnal gadw llygaid am becynnau’r Cynllun Rheoli Adnoddau a fydd yn cyrraedd yn y misoedd nesaf, ac a fydd yn cael eu dilyn gan sesiynau hyfforddiant a fydd yn cael eu rhedeg gan y Cynulliad. Dylai’r cytundebau Tir Cynnal gael eu hanfon allan yn gynnar yn 2006, ac ar ôl derbyn y cytundeb, bydd gennych dair neu bedair wythnos i dynnu’n ôl os ydych yn dymuno. Cyn belled ag y gwyddom, mae cyfraddau tâl newydd ar gyfer Tir Gofal yn dal i gael eu trafod. Unwaith y deuir i gytundeb yn eu cylch, byddwn yn gallu edrych ar unrhyw effaith ar y cyllido-dwbl gyda’r Cynllun Ffermio Organig. Dylai’r rheini ohonoch a oedd ym mlwyddyn 3 y Cynllun Ffermio Organig yn 2004/2005 ac a dderbyniodd dim ond £5 yr hectar am dir anamgaeëdig dderbyn taliad ychwanegol gyda thaliad y flwyddyn nesaf, gan fod y gyfradd wedi ei haddasu i £10 yr hectar o fis Mawrth 2004. Oherwydd y cynnwrf a barwyd gan ddiwygiad y PAC, roedd llawer o daliadau OFS ac eraill wedi eu gohirio eleni – gobeithiwn fod ffermwyr wedi eu derbyn erbyn hyn. Dylai ffermwyr sy’n gwneud cais i ymuno â’r OFS dderbyn derbynneb gan y Swyddfa Adrannol yn syth, ac yna lythyr sy’n datgan y byddir yn prosesu eu cais o fewn 3 mis. Yn ddiweddar, clywsom am ddau achos lle gorfu i ffermwyr aros am ragor na blwyddyn am eu cytundeb OFS, a chanfod wedyn nad oedd gan y Swyddfa Adrannol gofnod o’r ffaith eu bod wedi ei dderbyn. Felly, gwyliwch am y derbynebau, ac ewch ar eu holau os na chlywch chi unrhyw beth o fewn ychydig wythnosau.
Cymdeithas Tir Gofal Awgrymir sefydlu cymdeithas ar gyfer ffermwyr sy'n perthyn i Tir Gofal, gan ddechrau gyda chyfarfod cyhoeddus ym mis Chwefror 2006. Mae grwp llywio yn cyfarfod eisoes. Cysyllwch ag Anna Kahn ar 01938 554190 neu Dr Simon Spencer 01691 648339.
Ffliw'r adar I baratoi ar gyfer ffliw'r adar ac afiechydon eraill, y mae Llywodraeth y Cynulliad Cymreig wedi cyhoeddi drafft o gynllun wrth gefn ar gyfer afiechydon estron, i’w drafod erbyn 20 Rhagfyr. Pe cadarnheid achos o ffliw'r adar, byddai’r holl adar ar yr un fferm yn cael eu didoli a’u difa’n ddi-oed. Dogfennau ymgynghori Mae’r Soil Association wedi cyhoeddi ffeithlenni yn www.soilassociation.org/birdflu
Digwyddiadau Rhestrir y rhain yn yr adran ‘Digwyddiadau’ isod. Sylwer bod y digwyddiad ar wartheg sychion yn Big House Farm, Pendine, wedi ei symud yn ôl i ddydd Iau, 17 Tachwedd. Dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn y digwyddiad sy’n canolbwyntio ar wahanol fathau o lysiau yn Ryton ar 29 Tachwedd gysylltu â Tony Little yng Nghanolfan Organig Cymru. Bydd Tony yn trefnu bws mini i gludo pobl o Aberystwyth os oes digon o ddiddordeb. Cynhelir seminar garddwriaeth yng Gwesty Stradey Park, Llanelli, ar ddydd Mawrth 8 Tachwedd. Manylion gan Anne Leipnik, HDC, 01732 848282
Cynhadledd ar iechyd anifeiliaid Cynhelir Cynhadledd Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru yn Llanelwedd ar ddydd Llun, 21 Tachwedd. Ni chodir tâl am y gynhadledd hon. Ymdrinir â’r meysydd canlynol: Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid (gweler ), cynllunio iechyd anifeiliaid, y costau a’r manteision o reoli afiechydon anifeiliaid, a phwysigrwydd hybu cynhyrchiad anifeiliaid i safon uchel o iechyd a lles o safbwynt y cwsmer/adwerthwr. Gweler Digwyddiadau, isod, a'r strategaeth iechyd a lles anifeiliaid.
Cyfarfod Sir Benfro Mae Grŵp Organig Sir Benfro yn cynnal cyfarfod agored i drafod 'Bovine TB and animal nutrition' ym Motél Nant-y-ffin, Llandissilio, ar ddydd Llun, 21Tachwedd, am 7.30 pm. Prif siaradwyr: Tamsin Dunwoody AC, a Martin Lane, Field Science Ltd. Cysylltwch â Tom Latter ar 07831 582718.
Arolwg o Gynhyrchwyr Organig Cymru Efallai y bydd cynhyrchwyr organig yn cofio i ni ofyn, yn ystod yr haf, am fanylion busnes y gallai Canolfan Organig Cymru eu defnyddio i nodi parhad cyflenwad, tueddiadau cynhyrchu rhanbarthol, ac argaeledd neu ddiffyg marchnadoedd ar gyfer eich cynnyrch. Yn hael iawn, cytunodd y WDA i gyfrannu pum basgedaid o fwyd organig i’r rheini a gyfrannodd i’r Arolwg hwn, a’r enillwyr lwcus yw: Sandy Smith, Fferm Penygraig; Celia Jones, Upper Yardro; Nick Thomas, Whitemoor Farm; Bronwen Janes,The Waun, Penrhos a Beth Rees, Fferm Caemawr. Bydd canlyniadau’r arolwg yn cael eu cyhoeddi ymhen ychydig fisoedd. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Carolyn Wacher.
Arwerthiannau da byw organig Bydd arwerthiant organig olaf McCartneys yn 2005 yn cael ei gynnal ar 3 Tachwedd. Ffôn. 01874 622386.
Ar y We www.organicproducermag.com cylchgrawn a gwefan Americanaidd ar gyfer ffermwyr organig
|
Single Payment Scheme – get paid sooner The Assembly will be making your single payments as soon as they are able. They have requested bank details so that payments can be in your account sooner, so it is a good idea to help them do that – please check to ensure you returned your completed forms. Assembly staff say a major delay is caused by farmers not answering queries. For more details on this and other farming policy news, contact Sue Fowler on 01970 621627.
Hardship issues Farmers that have continued with the Appeal process against their SPS payment calculation are currently attending their panel appeals. OCW has prepared an updated factsheet on this issue, available here (PDF).
Agri-environment Those of you who wish to look at Tir Cynnal should look out for the Resource Management Plan packs which will be arriving in the next months, after which the Assembly will be running training sessions. The Tir Cynnal agreements should be sent out in early 2006, and you will then have with 3 to 4 weeks after receiving the agreement to opt out if you wish to. As far as we know, new payment rates for Tir Gofal are still under negotiation. Once they are resolved, we will be able to look at any impact on the double-funding with the Organic Farming Scheme. Those of you that were in year 3 of the Organic Farming Scheme in 2004/2005 and only received £5/ha for unenclosed land should receive an extra payment with next year’s payment, as the rate was adjusted to £10/ha from March 2004. Due to the huge upheaval caused by CAP reform, many OFS and other payments were delayed this year – hopefully farmers have now received them. Farmers who apply to join the OFS should receive an immediate receipt from the Divisional Office, followed by a letter undertaking to process their application within 3 months. We have recently heard of two cases where farmers have waited over a year for their OFS agreement, only to find that the Divisional Office have no record of receiving it. So do look out for the receipts, and chase them if you do not hear within a few weeks.
Tir Gofal association It is proposed to set up an association for farmers in Tir Gofal, starting with a public meeting next February. A steering group is already meeting. Details from Anna Kahn on 01938 554190 or Dr Simon Spencer 01691 648339.
Avian flu To prepare for avian flu and other diseases, the Welsh Assembly Government has published a draft exotic disease contingency plan, for consultation by 20th December. If there was a confirmed case of avian flu, all birds on the same premises would be culled immediately. Consultation documents The Soil Association has published factsheets at www.soilassociation.org/birdflu
Events These are listed in the Events section below. Please note that the dry cow event at Big House Farm, Pendine, has been moved back to Thursday 17 November. Anyone interested in the vegetable varieties event at Ryton on 29th November should contact Tony Little at OCW, who will organize a minibus from Aberystwyth if there is sufficient interest. A horticulture seminar will be held at Stradey Park Hotel, Llanelli on Tuesday 8th November. Details from Anne Leipnik, HDC, 01732 848282.
Animal health conference The Animal Health and Welfare Strategy Wales Conference will be held on Monday 21 November 2005 at Llanelwedd. There is no charge for this conference. The following areas will be covered: The Animal Health & Welfare Strategy (see ), animal health planning, the costs and benefits of controlling animal diseases and the importance of encouraging the production of animals to a high standard of health and welfare from a consumer/retailer perspective. See Events, below, and www.wales.gov.uk/ahwstrategy/
Pembrokeshire meeting Pembrokeshire Organic Group are holding an open meeting to discuss 'Bovine TB and animal nutrition' at Nant-y-ffin Motel, Llandissilio, on Monday, 21st November, at 7.30 pm. Principal speakers: Tamsin Dunwoody AM and Martin Lane of Field Science Ltd. Contact Tom Latter on 07831 582718.
Welsh Organic Producer Survey Organic producers may remember that in the summer, we asked for enterprise details which OCW could use to identify continuity of supply, regional trends of production, availability or lack of marketing outlets for your produce. The WDA very generously agreed to donate five organic hampers to those who contributed to this Survey and the lucky winners are: Sandy Smith, Penygraig Farm; Celia Jones, Upper Yardro; Nick Thomas, Whitemoor Farm; Bronwen Janes,The Waun, Penrhos and Beth Rees, Caemawr Farm. The results of the survey will be published in a few months' time. For more information, contact Carolyn Wacher.
Organic livestock auctions McCartneys final organic auction in 2005 will be held on 3rd November. Tel. 01874 622386.
On the Web www.organicproducermag.com a US magazine and website for organic farmers
|
|
Garden Organic Erbyn hyn, y mae gan HDRA enw newydd ar gyfer ei waith cyhoeddus, sef Garden Organic, gyda’r is-bennawd 'the national charity for organic growing'. Mae hefyd wedi lansio ymgyrch newydd, Get, Set Grow, ar gyfer pobl sydd â diddordeb mewn tyfu ffrwythau, llysiau a blodau yn organig. Gweler www.gardenorganic.org.uk a www.getsetgrow.org.uk. Mae’r prosiect Gerddi Organig ar gyfer Ysgolion, sy’n cael ei redeg gan Garden Organic, yn ddiweddar wedi cydweithio â Chanolfan Organig Cymru i gynhyrchu fersiynau Cymraeg o rai o’i ddeunyddiau ysgol: llawrlwytho fan hyn.
Gwobrau’r FSA Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) wedi cyhoeddi ail flwyddyn ei wobrau Dame Sheile McKechnie, sy’n werth £15,000 yr un i ddau brosiect bwyd cymunedol yn y DU. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5 Rhagfyr. Manylion Yng Nghymru, gall prosiectau cymunedol hefyd gynnig am wobrau AFAL (Awards for Food Action Locally), gyda gwobrau o £2000 mewn pum categori. Y dyddiad cau yw 31 Rhagfyr. Manylion Dywedodd Deirdre Hutton, cadeirydd newydd yr FSA, eu bod yn cadw eu llygad ar brosiect ymchwil QLIF yn Newcastle a fydd, o bosibl, yn awgrymu bod bwyd organig yn well i bobl. Dywedodd ‘nad oedd astudiaethau gwyddonol wedi dangos’ bod bwydydd GM yn beryglus, ond y byddai’r asiantaeth yn adolygu ei safbwynt yn barhaus pe deuai ar draws tystiolaeth newydd. The Observer
Seminar bwyd leol Mae'r Community Development Foundation Wales yn cynnal seminar ar 'Defnyddio ar lefel lleol' yng Nghaerdydd ar 24ain Tachwedd, cost £45-90. Cysylltwch â Delyth Byrne ar 02920 481600. www.cdf.org.uk.
Prynu bwyd Prydeinig Dengys ymchwil o’r IGD fod 87% o gwsmeriaid yn tybio bod ffermio yn bwysig i Brydain, ond dim ond un o bob pump a fyddai’n barod i dalu rhagor am fwyd Prydeinig. Manylion ac adroddiad i’w lwytho i lawr Prynu bwyd Cymreig: dengys ymchwil a gomisiynwyd gan y WDA bod 8 o bob 10 cwsmer yn tybio nad oes digon o gynnyrch Cymreig ar fwydlenni mewn llefydd bwyta yng Nghymru, a’u bod yn barod i dalu ychydig yn rhagor am hynny. llawrlwytho PDF
Diwylliant bwyd Ewropeaidd Mae’r Gwyrddion Ewropeaidd wedi lansio ymgyrch newydd ar gyfer Diwylliant Bwyd Ewropeaidd ac yn gwahodd y cyhoedd i ymuno yn y frwydr am gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd, ymrwymiad personol a democratiaeth gyfranogol o ran pennu a gwella polisïau bwyd ledled Ewrop. Gweler www.eat-better.org.
Gwobrau Gwir Flas Bydd enillwyr gwobrau 2005-06 yn cael eu cyhoeddi mewn cinio yng Nghaerdydd ar ddydd Iau, 24 Tachwedd. Mae’r tocynnau yn £35 ac i’w cael yn tickets@ontrac-group.com neu 0800 085 3663. Bydd y gwobrau yn cael eu darlledu ar ddydd Llun, 28 Tachwedd, a bydd rhai o’r ymgeiswyr yn cymryd rhan yn Rhaglen Fwyd ITV ar nosweithiau Llun cyn y digwyddiad. Gwefan Gymraeg
Cyrsiau Mae Prifysgol Cymru, Aberystwyth, yn trefnu cwrs ar arddio organig, chwe sesiwn yn dechrau ar 16 Ionawr yn Aberystwyth, ac un ar ‘permaculture’, 4 sesiwn yn dechrau ar 13 Mawrth yn Hostel Ieuenctid Poppit Sands. Manylion gan 01970 621580 neu cysylltwch â jrm@aber.ac.uk.
Pa mor wyrdd yw eich ffordd o fyw? Cewch wybod mewn gweithdy ar gynaliadwyedd mewn bywyd beunyddiol yn Denmark Farm, ger Llanbedr Pont Steffan, ar ddydd Sadwrn, 12 Tachwedd. Details from 01570 493358 or set@denmark-farm.freeserve.co.uk.
Dillad organig Mae siop newydd ‘Oyster’ yng Nghaerdydd yn gwerthu dillad organig a masnachu teg. Western Mail
Ar y We Edrychwch ar www.organicfood.co.uk gwefan am fwyd organig www.welshfoodie.com coginio Cymreig o’r UDA www.guidemegreen.com cyfarwyddiadur ar gyfer popeth gwyrdd www.greenguide.co.uk cyfarwyddiadur ar-lein arall, wedi ei ail-lansio www.organicconsumers.org gwefan Americanaidd diddorol, gydag ymgyrch bwyd lleol
|
Garden Organic The HDRA now has a new name for its public work, Garden Organic, with the strapline 'the national charity for organic growing'. It has also launched a new campaign, Get, Set Grow, for people interested in growing fruit, veg and flowers organically. See www.gardenorganic.org.uk and www.getsetgrow.org.uk. The Organic Gardens for Schools project, which is run by Garden Organic, has recently collaborated with OCW to produce Welsh language versions of some of its schools materials: download them here.
FSA Awards The Food Standard Agency has announced the second year of its Dame Sheile McKechnie awards, which are worth £15k each to two community food projects in the UK. The closing date for applications is 5 December. Details In Wales, community projects can also enter the AFAL (Awards for Food Action Locally) awards, with prizes of £2000 in five categories. Closing date 31st December. Details Deirdre Hutton, the new chair of the FSA, said they were keeping an eye on the QLIF research project in Newcastle, which might indicate that organic food was better for people. She said that scientific studies 'had not shown' that genetically modified foods were unsafe, but the agency would continually review its position when it came to new evidence. The Observer
Local food seminar The Community Development Foundation Wales is holding a seminar on 'Consuming at the local level' in Cardiff on 24th November, cost £45-90. Contact Delyth Byrne on 02920 481600. www.cdf.org.uk.
Buying British Research from the IGD shows that 87% of consumers think farming is important to Britain, but only one in five will pay extra for British food. Details and download report Buying Welsh: research commissioned by the WDA shows that 8 out of 10 consumers think there is not enough Welsh produce on the menu in eating places in Wales, and would be willing to pay a bit extra for it. download PDF
European food culture The European Greens have launched a new campaign for European Food Culture and invites the public to join in the fight for increased public awareness, personal engagement and participative democracy in determining and improving food policies throughout Europe. See www.eat-better.org.
True Taste awards The winners of the 2005-06 awards will be announced at a dinner in Cardiff on Thursday 24th November. Tickets are £35 from tickets@ontrac-group.com or 0800 085 3663. The awards will be televised on Monday 28th, and some of the candidates are featuring in ITV's Food Show on Monday nights in the run-up to the event. www.walesthetruetaste.com, or www.cymruygwirflas.com??
Courses The University of Wales Aberystwyth is organizing a course on organic gardening, 6 sessions starting on 16th January in Aberystwyth, and one on permaculture, 4 sessions starting on 13th March at Poppit Sands Youth Hostel. Details from 01970 621580 or contact jrm@aber.ac.uk.
How green is your lifestyle? Find out at a workshop on sustainability in daily life at Denmark Farm, near Lampeter, on Saturday 12th November. Details from 01570 493358 or set@denmark-farm.freeserve.co.uk.
Organic clothing New Cardiff shop Oyster sells fairtrade and organic clothing. Western Mail
On the Web Take a look at www.organicfood.co.uk a magazine site all about organic food www.welshfoodie.com Welsh cooking from the USA www.guidemegreen.com a consumer directory for things green www.greenguide.co.uk another online directory, relaunched www.organicconsumers.org an interesting US site, with a local food campaign
|
|
Edrych i’r Dyfodol Daeth cynhadledd flynyddol cynhyrchwyr organig Cymru, a gynhaliwyd ar 20 Hydref 2005, â ffermwyr a thyfwyr (dros hanner y cynulleidfa), cwmnïau bwyd, cynghorwyr ac eraill o’r sector organig, ynghyd i rannu gwybodaeth arbenigol a syniadau am bob agwedd ar gynhyrchu bwyd organig. Mae adroddiad bron yn barod ar wefan y Ganolfan Organig Cymru yn fan hyn.
Tyfu’r Dyfodol Yn dilyn y gynhadledd ysgolion y mis diwethaf, y mae adroddiad yn cael ei baratoi i’w gyflwyno i weithgor Bwyd mewn Ysgolion y Cynulliad, fydd yn cynhyrchu cynllun gweithredu yn 2006. Mae Canolfan Organig Cymru hefyd wedi cyflwyno ymateb ar ran y rhwydwaith i ymgynghoriad y Cynulliad ar gynllun gweithredu Bwyd a Ffitrwydd i bobl ifanc. Mae ar gael ar ein gwefan yn fan hyn. Y bwriad yw trefnu ail gynhadledd ar gyfer gogledd Cymru y flwyddyn nesaf, a dylai unrhyw un sy’n dymuno cymryd rhan gysylltu â Jane Powell ar 01970 622248.
Sefydliad y Merched a gerddi i ysgolion Mae'r Sefydliad y Merched yng Nghymru wedi cael arian i gefnogi eu grwpiau lleol i ddatblygu projectau garddio gydag ysgolion yn eu hardaloedd, a hoffent glywed gan ysgolion a grwpiau cymunedol. Mwy o fanylion neu gysylltwch a Sarah Thomas ar 029 2022 1712.
Ffair Aeaf Unwaith eto, bydd Canolfan Organig Cymru yn y digwyddiad yma ar 28-29 Tachwedd yn Llanfair ym Muallt, ynghyd â’r cyrff ardystio a chynhyrchu. Fel o’r blaen, byddwn ar y Balconi, ger y lifft yn ym mhrif adeilad y Da Byw. Gallwn gynnig paneidiau o goffi a chreision Kettles organig yn rhad ac am ddim, ac edrychwn ymlaen i’ch gweld yno. Cysylltwch â Carolyn Wacher 01970 622248 i gael rhagor o fanylion.
Y diweddaraf am GM Y mis hwn, cyhoeddodd barnwyr Ewropeaidd ddyfarniad sy’n rhwystro gwledydd neu ranbarthau’r Undeb Ewropeaidd rhag gwneud eu hunain yn barthau sy’n rhydd o gnydau sydd wedi eu newid yn enetig. Penderfynodd y Llys Barn nad oedd y gwaharddiad ar dyfu cnydau GM yn rhan o Awstria yn gyfreithlon. Mae gan y penderfyniad oblygiadau difrifol i Gymru a’r Alban, lle mae gwleidyddion wedi bod yn pwyso i’r gwledydd gael eu cydnabod yn swyddogol fel gwledydd sy’n rhydd o GM. The Independent I gael y newyddion diweddaraf ar GM gan Defra, gweler www.defra.gov.uk/environment/gm/news.htm.
|
Look to the Future The annual Welsh organic producers' conference held on 20th October 2005 brought together farmers and growers (over half the delegates), food companies, advisers and others from the organic sector to share expertise and ideas on all areas of organic production. A near-complete report is available on the OCW website here.
Growing the Future Following last month's schools conference, a report is being prepared for submission to the Assembly's Food in Schools working group, which will be producing an action plan in 2006. OCW has also submitted a response on behalf of the network to the Assembly's consultation on a Food and Fitness action plan for young people. It is available on our website here. A second conference is planned for north Wales next year, and anyone wishing to be involved should contact Jane Powell on 01970 622248.
Women's Institute and school gardens The WI in Wales has secured funding to support WI groups to develop gardening projects with schools in their area, and would like to hear from schools and community groups. More details or contact Sarah Thomas on 029 2022 1712.
Winter Fair OCW will, once again, be at this event on 28-29th November in Builth Wells, along with the certification and producers organisations. As before, we will be on the Balcony, next to the lift in the main Livestock Building. We can offer free cups of coffee and organic Kettles crisps and we look forward to seeing you there. Contact Carolyn Wacher 01970 622248 for more details.
GM update European judges this month issued a ruling that prevents EU countries or regions from turning themselves into GM-free zones. The Court of Justice decided a ban on the cultivation of genetically modified crops in part of Austria was illegal. The decision has serious consequences for Wales and Scotland, where politicians have been pressing for the countries to be officially recognised as GM-free. The Independent For the latest news on GM from Defra, see www.defra.gov.uk/environment/gm/news.htm.
|
|
3 Tachwedd Trafodaeth Gwyddoniaeth mewn Cymdeithas IGER: 'Organic agriculture: a solution rather than a problem?'. Gorsaf Ymchwil North Wyke. 17.30. Anne Roker 01837 883550 7 Tachwedd Cynyddu Ffrwythlondeb y Pridd mewn Sustemau Garddwriaethol Organig. Pen-pont, Aberhonddu, 10.30 - 4.00. Tony Little 01970 622248. 8 Tachwedd seminar garddwriaeth. Gweler Ffermio, uchod. 1 16 Tachwedd Grwp Trafod Priddau Cymru. Lawrllwythwch daflen £3-15. IGER Plas Gogerddan. Zoe Carroll 01248 370045 17 Tachwedd Rheolaeth gwartheg sych ar ffermydd organig. Big House Farm, Pendine, 1.30 - 4.30 pm. Philip Jones 01970 622100. 21 Tachwedd Cynhadledd Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru. Rhagor o fanylion yn Animal Health & Welfare Strategy. Y Pafiliwn Rhyngwladol, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair ym Muallt 10am-3pm. Colette Kitchen 02920 801192. Tocynnau yn unig – am ddim. 21 Tachwedd Grŵp Organig Sir Benfro – cyfarfod cyhoeddus i drafod 'Bovine TB and animal nutrition' Prif siaradwyr: Tamsin Dunwoody AC a Martin Lane, Field Science Ltd. Motél Nant-y-ffin, Llandissilio, 7.30 pm. Tom Latter ar 07831 582718. 29 Tachwedd HDRA/NIAB diwrnod ar wahanol fathau o lysiau. Rhagor o fanylion yn Vegetable Variety Day. Ryton Organic Gdns, Coventry. 10.00 - 15.30. Phil Sumption 024 7630 8200. 13 Rhagfyr Economeg y newid i ffermio organig. Cae Coch, Rhydymain. Philip Jones 01970 622248. 15 Rhagfyr A fydd yr archfarchnadoedd yn lladd ein bridiau brodorol? Bishops meadow, Aberhonddu. Philip Jones 01970 622248.
Mwy yn www.organic.aber.ac.uk/events
|
3 November IGER Science in Society Debate: 'Organic agriculture: a solution rather than a problem?'. North Wyke Research Station. 17.30. Anne Roker 01837 883550 7th November Building Soil Fertility in Organic Horticultural Sytems. Penpont, Brecon, 10.30 - 4.00. Tony Little 01970 622248. 8th November Horticulture seminar. See Farming, above.
16th November Welsh Soils Discussion Group Llawrlwythwch daflen £3-15. IGER Plas Gogerddan. Zoe Carroll 01248 370045. 17 November Dry cow management on organic farms. Big House Farm, Pendine, 1.30 - 4.30 pm. Philip Jones 01970 622100. 21 November Animal Health & Welfare Strategy Wales Conference. More details at Animal Health & Welfare Strategy. International Pavilion, Royal Welsh Showground, Builth Wells 10am-3pm. Colette Kitchen 02920 801192. Tickets only - free. 21 November Pembrokeshire Organic Group - open meeting to discuss 'Bovine TB and animal nutrition' Principal speakers: Tamsin Dunwoody AM and Martin Lane of Field Science Ltd. Nant-y-ffin Motel, Llandissilio, 7.30 pm. Tom Latter on 07831 582718. 29 November HDRA/NIAB vegetable variety day. Further details at Vegetable Variety Day. Ryton Organic Gdns, Coventry. 10.00 - 15.30. Phil Sumption 024 7630 8200. 13th December Economics of organic conversion. Cae Coch, Rhydymain. Philip Jones 01970 622248 15th December Will the supermarkets kill off our native breeds? Bishops meadow, Brecon. Philip Jones 01970 622248
More events at www.organic.aber.ac.uk/events
|
|
Ar werth 4 heffer & 4 bustach. 1 & 2 flwydd oed. Du Cymreig (Pedigri), Hereford X a Charolais X. Yn organig i gyd ac o fferm fach teuluol. Gogledd Penfro. Julian ar 01994 419564. [31/10/05] 8 o heffrod Ffrisia ar werth, 4 a lloi ynddynt a 4 yn gofyn tarw, oddeutu 2 ½ mlwydd oed. Cysyllter â 01829 270248. [26/10/05] Silwair beliau mawr organig. Oddeutu 80 o feliau, gwahanol raddau a phrisiau - £6 i £10. Ger Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 8QR. Tim Strang 07974 374068 neu trstrang@btinternet.com. [10/10/05]. Tarw SALERS, 3 1/2 mlwydd oed. Pedigri (Coland Roger), distaw iawn ac yn cael ei ddefnyddio ar yr magu bychan. Gellir gweld anifeiliaid blwydd oed a lloi eleni. Perffaith ar gyfer bridio heffrod i gymryd lle eraill mewn gyr caeedig, ond yn dal gyda bustych pwysau trwm i’w gwerthu fel gwartheg stôr. Gyr sy’n rhydd o’r diciâu. Rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron. Ann Owen 07779 957652. [10/10/05]. Ŵyn stôr ‘Badgerface’ Cymreig Organig ar werth. Wedi eu profi am glefyd y crafu. Claire Barnard Ffôn 01690 760350. [5/10/05]. Sbinychod organig Cymreig o dras ar werth drwy'r adeg. Llinach ardderchog. Yn wydn ac yn hawdd eu trin. Wedi'u geni a'u magu ar 1000 troedfedd. Baeddod ifainc hefyd ar gael.. Neil a Patricia Plume ger Llanymddyfri 01550 740670 neu farm@penrhiwuchaf.co.uk Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu E.vines@btinternet.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk. Byddwn yn y Sioe Fawr. Porthiant Anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).
Yn Eisiau Hoffai Lladd-dy Oriel Jones glywed gan ffermwyr sydd ag ŵyn gorffenedig organig i’w gwerthu. Gydol y flwyddyn, bydd angen, yn y lle cyntaf, ŵyn yn pwyso rhwng 15–21 kg. Cysylltwch â Nia James: 01570 482146 a Wyn Williams: 07881 956944.
Gweler mwy yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml
|
For Sale 4 Heifers & 4 Steers. 1 & 2 year olds. Welsh Black (Pedigree), Hereford X and Charolais X. All organic from small family farm. N. Pembs. Contact Julian on 01994 419564. [31/10/05] 8 Friesian heifers for sale, 4 in calf and 4 bulling, aged approx 2 ½ years old. Contact 01829 270248. [26/10/05] Organic big bale silage. Approx 80 bales, various grades and prices - £6 to £10. Nr Lampeter, Ceredigion, SA48 8QR. Tim Strang 07974 374068 or trstrang@btinternet.com. [10/10/05]. SALERS bull, 3 1/2 years old. Pedigree (Coland Roger), very quiet, used only on small suckler herd. Yearlings and this year's calves can be seen. Perfect for breeding re-placement heifers in a closed herd, but still with heavy-weight steers to sell on as stores. TB-free herd. Between Lampeter and Tregaron. Ann Owen 07779 957652. [10/10/05]. Organic Welsh Badgerface store lambs for sale. scrapie tested 1/2. Claire Barnard Tel 01690 760350. [5/10/05]. Pedigree Organic Welsh Gilts always for sale. Excellent bloodlines. Hardy and easy to manage. Born and bred at 1000ft. Young boars also available. Neil & Patricia Plume, Nr Llandovery SW Wales. 01550 740670 or farm@penrhiwuchaf.co.uk. Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or E.vines@btinternet.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire.pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge).
Wanted Oriel Jones Abattoir would like to hear from farmers that have organic finished lambs to sell. Need for a regular year round supply of lambs within a weight range of 15 -21kg. Contact Nia James: 01570 482146 and Wyn Williams: 07881 956944.
All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml
|
|
Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ar ddechrau mis Rhagfyr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn. 01970 622248. Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill. Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo. I ymuno neu adael y rhestr bostio, anfonwch e-bost at jnp@aber.ac.uk. I weld unrhyw rifynnau blaenorol ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin/index.shtml. |
Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. The next issue will be published in early December. For more information contact Organic Centre Wales, Institute of Rural Sciences, University of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248. The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications. Please forward this newsletter to anyone who might be interested. To join or leave the mailing list, send an e-mail to jnp@aber.ac.uk. To see previous issues, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin/index.shtml. |