|
Os ydych yn cael problemau wrth ddarllen y bwletin hwn, ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin |
If you have problems reading this bulletin, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin |
BwletinCymru OrganigRhif 73, 8 Tachwedd 2007Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg |
BulletinOrganic WalesNo. 73, 8 November 2007A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk |
|
Digwyddiadau Hysbysebion Adborth
|
|
|
Cynhadledd cynhyrchwyr organig Yr oedd cynhadledd organig mis Hydref yn edrych ar y berthynas rhwng ffermio organig a newid yn yr hinsawdd. Ymhlith pethau eraill, rhoddwyd sylw i ffermwyr a osodasai gyfleusterau hydro-electrig a threulwyr anerobig, a llunwyr polisïau sy’n cydnabod cyfraniad ffermio organig at leihau olion traed ecolegol. Yr oedd y siaradwyr yn cynnwys Morgan Parry o’r WWF, Peter Davies o’r Comisiwn Datblygiad Cynaliadwy, a Nic Lampkin o Ganolfan Organig Cymru. Gellir lawrlwytho eu cyflwyniadau yn fan hyn. Gweler y Farmers Guardian. Y mae pobl yn aml yn holi ynghylch cael lifft i ddigwyddiadau fel hyn. Y tro nesaf yr ydych yn mynd i unrhyw ddigwyddiad, gallwch leihau eich ôl troed ecolegol drwy gofrestru eich taith gyda www.liftshare.com a rhannu'r daith.
Cymru Un Blaned Y mae adroddiad gan WWF Cymru yn amcangyfrif y byddai angen tair planed i’n cynnal petai holl bobl y byd yn defnyddio adnoddau naturiol ac yn cynhyrchu carbon deuocsid fel y gwnawn yng Nghymru. Daw i’r casgliad fod yn rhaid inni leihau ôl troed Cymru 75% erbyn 2050 er mwyn inni fyw o fewn ein cyfran deg o adnoddau’r blaned. Mae’r adroddiad yn pleidio rhagor o drawsnewid organig, wedi ei gefnogi gan gaffael sector cyhoeddus. Manylion
Rafael Fe gynhaliwyd cynhadledd derfynol Rafael (Renaissance of Atlantic Food Authenticity and Economic Links) prosiect yr UE sy'n dod i ben ym mis Rhagfyr, yn Zamora, Sbaen, fis diwethaf. Yn gynt ym mis Hydref, roedd OCW a Tom Cowcher wedi trefnu cinio Rafael (lleol ac organig) ar gyfer plant yn Ysgol Gynradd Llandysul, yn ogystal ag ymweliad fferm a marchnad ffermwyr yn iard yr ysgol.
Yr Ystadegau Diweddaraf Mae’r ystadegau mwyaf diweddar ar gyfer Rhagfyr 2006, sy’n cwmpasu Cymru a’r DU, yn awr ar gael yn www.organic.aber.ac.uk/statistics. Maent yn dangos bod y tir dan reolaeth organig yng Nghymru wedi cynyddu 11.5% rhwng Rhagfyr 2005 a Rhagfyr 2006, sy’n golygu bod Cymru wedi gwneud yn well na phob cenedl arall yn y DU. Erbyn Rhagfyr 2006, yr oedd 78,973 hectar o dir yn cael ei reoli i safonau organig mewn 710 o ffermydd organig ledled Cymru. Y mae atodiad arbennig i Tir Organig, sy’n rhestru’r prif ganlyniadau, i’w gael yma.
Caffael organig Mae fideo ynglŷn â photensial bwyd organig mewn prydau bwyd ysgolion, a gomisiynwyd gan Ganolfan Organig Cymru gan sôn am Gyngor Sir Gaerfyrddin, Daioni, Blaencamel ac eraill, ar gael ar wefan LGA TV. Cliciwch yma
Ffair Aeaf, 26-27 Tachwedd Cofiwch nodi’r digwyddiad prysur hwn yn eich dyddiadur, a fydd yn cael ei gynnal ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Mae gan Ganolfan Organig Cymru stondin ar y balconi yn Adeilad y Da Byw, a bydd gennym gynrychiolwyr o’r Soil Association, Ffermwyr a Thyfwyr Organig, a Quality Welsh Food Certification ac eraill o blith grwpiau cynhyrchwyr a chyrff cynghori. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Carolyn Wacher.
Cynhadledd amgylcheddol Bydd Partneriaeth Amgylcheddol Gwynedd yn cynnal ei chynhadledd flynyddol ym Meddgelert ar y 6ed o Ragfyr. Bydd y gynhadledd yn dwyn y teitl ‘Gwerth yr Amgylchedd’. Manylion |
Organic producers' conference Last month's organic conference looked at the relationship between organic farming and climate change, from farmers who have installed hydroelectric facilities and anaerobic digesters, to policy-makers who are recognizing the contribution of organic farming to reducing ecological footprints. Speakers included Morgan Parry of the WWF, Peter Davies of the Sustainable Development Commission and Nic Lampkin of OCW, and their presentations can be downloaded here. See Farmers Guardian. People often ask about lift-sharing to events such as these. Next time you are going to any event, you can reduce your ecological footprint by registering your journey with www.liftshare.com and sharing the ride.
One Planet Wales A report from WWF Cymru calculates that if everyone in the world consumed natural resources and generated carbon dioxide at the rate we do in Wales, we would need three planets to support us. It concludes that we must cut Wales' footprint by 75% by 2050 in order to live within our fair share of the planet's resources. More organic conversion, supported by public sector procurement, is one recommendation of the report. Details
Rafael The final conference of Rafael (Renaissance of Atlantic Food Authenticity and Economic Links), a 3-year EU project that concludes in December, was held last month in Zamora, Spain. Earlier in the month OCW and Tom Cowcher had arranged a Rafael (local and organic) meal for children at Llandysul primary school, together with a farm visit and a farmers' market in the school yard.
Statistics update Up to date statistics for December 2006, covering Wales and the UK, are now available at www.organic.aber.ac.uk/statistics. They show that between December 2005 and December 2006, the area of organically managed land in Wales increased by 11.5%, outperforming every other nation in the UK. By December 2006, 78,973 ha of land were managed to organic standards across 710 organic holdings throughout Wales. A special supplement to Tir Organig, listing the main results, is available here.
Organic procurement A video about the potential for using organic food in school meals, commissioned by Organic Centre Wales and featuring Carmarthenshire County Council, Daioni and Blaencamel among others, is now available on the LGA TV website. Click here.
Winter Fair 26-27 November Make a date in your diary for this important winter event for farmers which will take place at the Royal Welsh Showground, Builth Wells. Organic Centre Wales has a stand on the balcony in the Livestock building, and we will have representatives from the Soil Association, Organic Farmers and Growers and Quality Welsh Food Certification and others from producer groups and advisory organizations. For more information contact Carolyn Wacher.
Environmental conference Gwynedd Environmental Partnership is holding its annual conference, entitled 'Value of the Environment' on 6 December at Craflwyn, Beddgelert. Details.
|
|
Y Cynllun Ffermio Organig Yng nghynhadledd y cynhyrchwyr organig fis diwethaf, cyhoeddodd Elin Jones y byddai’r Cynllun Ffermio Organig yn ailagor y mis Tachwedd, gyda gwelliannau. Bydd pecynnau gwneud cais ar gael o Swyddfeydd Adrannol Lleol ym mis Tachwedd, ond bydd ffermwyr sydd eisoes wedi dangos diddordeb yn y cynllun yn cael copi drwy’r post yn awtomatig. Gweler tudalen polisi'r Ganolfan.
Arolwg cynhyrchwyr Os ydych yn ffermwr organig yng Nghrymu, byddwch yn derbyn holiadur gan Ganolfan Organig Cymru yn fuan, a fydd yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â chynhyrchu. Y rheswm am hyn yw bod gwybodaeth sylfaenol am gynhyrchu yn brin, ac y mae’n rhaid cael yr wybodaeth honno er mwyn i fusnesau organig Cymreig fedru gwneud gwell penderfyniadau, ac er mwyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru, Hybu Cig Cymru, Canolfan Organig Cymru ac asiantau eraill fedru targedu cymorth ar eich cyfer yn well. Pe bai’n well gennych gwblhau’r holiadur yn electronig, gallwch ei lawrlwytho o www.organic.aber.ac.uk/survey2007
CEVAS – croesawu ymweliadau ysgol Yn dilyn dau gwrs llwyddiannus yn y Drenewydd ac yn yr Ardd Fotaneg, bydd dau gwrs arall yn cael ei gynnal ym mis Ionawr, un ger Bangor a'r llall yn Aberystwyth. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn croesawu ysgolion neu bobl ifanc i’w ffermydd, ac yn ymdrin â thestunau megis iechyd a diogelwch, y cwricwlwm cenedlaethol, a siarad gyda phobl ifanc. Gweler Digwyddiadau, isod.
Cynhadledd cynhyrchwyr organig I'w chynnal ar 10-11 Rhagfyr, Coleg Amaethyddol Brenhinol, Cirencester. Manylion neu ffoniwch i 01488 658279.
Dyddiad cau compost Mae'r Asiantaeth yr Amgylchedd wedi rhybuddio y dylai holl gynhyrchwyr compost yn Lloegr a Chymru gofrestru gyda The Composting Association (TCA) erbyn 15 Tachwedd. Manylion
Melin borthiant Mae BOCM Pauls wedi uwchraddio ei ffatri Presteigne, sy’n cyflenwi amrywiaeth o fwydydd anifeiliaid organig. Farmers Guardian Farmers Guardian
Arwerthiannau Da Byw Bydd arwerthiannau organig nesaf McCartney's yn cael eu cynnal ar 6 Rhagfyr. Ffoniwch 01874 622386 i gael manylion. Bydd arwerthiant organig nesaf Arwerthiannau Da Byw'r Trallwng yn cael ei gynnal ar 12 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion. Cynhelir arwerthiant organig nesaf Canolfan Da Byw Caerfyrddin ar 16 Tachwedd. I gael manylion am arwerthiannau yn y dyfodol, ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com.
|
Organic Farming Scheme Elin Jones announced at last month's organic producers' conference that the Organic Farming Scheme would reopen in November, with improvements. Application packs will be available from local Divisional Offices in November, but farmers who have previously expressed an interest in the scheme will automatically be sent a copy. See the OCW policy page.
Producer survey If you are an organic producer in Wales you can expect to receive a questionnaire from OCW soon, asking for information about production. This is because there is a shortage of basic production information, which is needed so that Welsh organic businesses have a better basis for decision making, and that the Welsh Assembly Government, Hybu Cig Cymru, OCW and other agencies can better target their support for your work. If you would rather complete it electronically, you can download the questionnaires from www.organic.aber.ac.uk/survey2007
CEVAS - hosting school visits Following two successful courses at Newtown and the Botanic Garden, two more are to be in January, one near Bangor and the other in Aberystwyth. The course is suitable for anyone interested in welcoming schools or young people to their land, and covers topics such as health and safety, the national curriculum, and talking to young people. See Events, below.
Organic producer conference To be held on 10-11 December, Royal Agricultural College, Cirencester. Details or call 01488 658279.
Compost deadline The Environment Agency warns that all producers in England and Wales must register with The Composting Association (TCA) by 15 November. Details
Feed mill BOCM Pauls has upgraded its Presteigne plant, supplying a range of organic compound feeds and blends. Farmers Guardian
Livestock sales McCartney's next organic auctions will be held on 6 December.. Call 01874 622386 for details. Welshpool Livestock Sales’ next organic auction is on 12 November. Call 01938 553438 for details. Carmarthen Livestock Centre's next organic auction will be held on 16 November. For details of future events call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.
|
|
Y Drafodaeth ar Fwyd Cymru A ydych eisiau gweld rhagor o gynnyrch organig yn y siopau? A ddylai prydau ysgol gynnwys bwyd organig? Pa mor iach yw’r bwyd yn eich canolfan hamdden leol? A yw bwyd masnach deg ar gael yn eich gweithle? Mae Dadl Fwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfle i chi fynegi eich barn ynglŷn â sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, ei brosesu a’i werthu yng Nghymru. Bydd cyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn Llanelli ar 27 Tachwedd, ac yn Nhredegar ar 4 Rhagfyr. I gael rhagor o fanylion, e-bostiwch lifestyles@wales.gsi.gov.uk, neu ymwelwch â www.cymru.gov.uk/gwellaiechyd.
Green guide Gellir lawrlwytho neu ofyn am gopi o’r Green Guide for Wales o www.greenguide.co.uk.
Y Papur Gwrydd Mae'r cylchgrawn deufisol newydd hwn yn ymgyrchu o blaid yr amgylchedd ac yn annog parch at y ddaear, ein cartref rhyfeddol. Am fwy o wybodaeth ac i danysgrifio, gweler www.ypapurgwyrdd.com.
Y Soil Association a chludiant awyr Yn dilyn ymgynghoriad ynglŷn â pha un ai y dylid rhoi symbol organig i fwyd a gludwyd mewn awyren, y mae Bwrdd Safonnau’r Soil Association wedi argymell y dylid parhau i ganiatáu bwyd organig a gludwyd yn y modd hwn os yw’n hybu datblygiad a buddiannau cymdeithasol gwirioneddol. Mae’n cynnig y dylai’r holl gynnyrch a gludwyd mewn awyren, ac a ardystiwyd gan y Soil Association, gwrdd â safonau Marchnad Foesegol y Soil Association neu safonau masnach deg cyffelyb erbyn 2011, ac y dylai busnesau sy’n dibynnu ar gludiant awyr ddatblygu mentrau i leihau faint o gynnyrch y maent yn eu cludo yn y cyfryw fodd. Gweler y datganiad i’r wasg a www.soilassociation.org/airfreight.
Llaeth organig mewn ysgolion Mae ffermwyr llaeth organig Gorllewin Cymru, Trioni, wedi sicrhau cytundeb ar gyfer cyflenwi ysgolion yn ne Cymru gyda’u llaeth Daioni cyflasedig. Datganiad i’r wasg
|
Welsh Food Debate Do you want to see more organic produce in the shops? Should school meals include organic food? How healthy is the food at your local leisure centre? Can you get fair trade food at your workplace? The Welsh Assembly Government's Welsh Food Debate is your chance to have a say in how food is produced, processed and sold in Wales. Public meetings are to be held on 27 November at Llanelli and 4 December in Tredegar. For more details e-mail lifestyles@wales.gsi.gov.uk, or see www.wales.gov.uk/improvehealth and go to 'quality of food'.
Green guide The pocket Green Guide for Wales can be downloaded or requested from www.greenguide.co.uk.
Y Papur Gwyrdd (The Green Paper) This new bi-monthly Welsh language ecological journal is a forum for news and ideas bringing together people, community and earth. For more information and to subscribe, see www.ypapurgwyrdd.com.
Soil Association and air freight Following a consultation on whether air-freighted food should be given an organic symbol, the Soil Association Standards Board has recommended continuing to allow air freighted organic food that delivers genuine social and development benefits. It proposes that all Soil Association certified air-freighted products meet the Soil Association’s Ethical Trade standards or equivalent fair trade standards by 2011, and that businesses reliant on air freight develop initiatives to reduce the amount of product they air freight. See press release and www.soilassociation.org/airfreight.
Organic milk in schools West Wales organic dairy farmers Trioni have won a contract to supply their Daioni flavoured milks to schools in south Wales.
|
|
Lles anifeiliaid ar ffermydd llaeth Dengys adroddiad gan Goleg Amaethyddol yr Alban nad oes fawr ddim gwahaniaeth rhwng systemau llaeth confensiynol ac organig o ran safonau lles anifeiliaid. Yr unig eithriad oedd bod llai o gloffni ar ffermydd organig. Datganiad i’r wasg.
Mae bwyd organig yn well i chi Mae adroddiad gan Brifysgol Newcastle sydd wedi canfod lefel uwch o faetholion mewn bwyd organig, yn enwedig gwrthocsidyddion, wedi cael sylw helaeth yn y wasg. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cadarnhau y bydd yn adolygu ei safbwynt fod bwyd organig yn ddim gwell na bwyd confensiynol yn hyn o beth. Gweler Gwefan y BBC.
|
Animal welfare on dairy farms A report from the Scottish Agricultural College has found little difference in animal welfare standards between conventional and organic diary systems, except that there was less lameness on organic farms. SAC news release.
Organic food is better for you A report from Newcastle University finding higher levels of nutrients in organic food, particularly antioxidants, has received extensive press coverage. The Food Standards Agency has confirmed that it will review its advice that organic food is no healthier than conventional. See BBC website.
|
|
9 Tachwedd 10:00 - 3:00 Cyfleoedd mewn Garddwriaeth Organig, Greathouse Farm, Y Fenni. Tony Little 01970 621632. 13 Tachwedd Rheoli Newid – Digwyddiad ar gyfer ffermwyr sy’n ystyried trawsnewid organig. Pen-y-bont. Philip Jones 01970 622100 14 Tachwedd Rheoli Newid – Digwyddiad ar gyfer ffermwyr sy’n ystyried trawsnewid organig. Llandeilo Philip Jones 01970 622100. 15 Tachwedd Meithrin llysiau trawsblanedig iach. Tan yr Allt, Llanrhystud Tony Little 01970 621632 20 Tachwedd Gweithdy ar ffermio âr. Ardal Aberhonddu, i’w gadarnhau Philip Jones 01970 622100. 21 Tachwedd 10.30 am Clwb Organig Cymdeithas y Gwartheg Duon Cymreig/Clwb Cynhyrchwyr Graig Farm (Gogledd Cymru). Wedi ei symud o’r 4ydd o Hydref. Siaradwyr - Eurion Thomas - Innovis a Danny Goodwin -Trace Elements Services. Gwesty Fronolau, Tabor, Dolgellau. Beth Rees, 01824 702663. 22 Tachwedd Gweithdy ar ffermio âr. Ardal Sir Benfro/Ceredigion, tbc Philip Jones 01970 622100 26-27 Tachwedd Y Ffair Aeaf. Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd Carolyn Wacher 01970 622248 7, 14 Ionawr 08 Cwrs CEVAS: croesawu ymweliadau ysgol. Prifysgol Aberystwyth. Lawrlwythwch daflen a ffurflen archebu. Jane Powell 01970 622248 16, 17, 23 Ionawr 08 Cwrs CEVAS: croesawu ymweliadau ysgol. Canolfan Ymchwil Henfaes, Fferm Prifysgol Bangor. Lawrlwythwch daflen a ffurflen archebuJane Powell 01970 622248
Rhagor o ddigwyddiadau yn www.organic.aber.ac.uk/events |
9 Nov 10:00 - 3:00 Opportunities in organic Horticulture Greathouse Farm, Abergavenny. Tony Little 01970 621632 13 Nov Managing Change - Event for farmers in or considering organic conversion Bridgend Philip Jones 01970 622100 14 Nov Managing Change - Event for farmers in or considering organic conversion Llandeilo Philip Jones 01970 622100 15 Nov Raising healthy vegetable transplants. Tan yr Allt, Llanrhystud Tony Little 01970 621632 20 Nov Arable workshop Brecon area, tbc Philip Jones 01970 622100 21 Nov 10.30 am Welsh Black Cattle Society Organic Club/ Graig Farms Producers' Club (N. Wales) (Rescheduled from October 4th.) Speakers - Eurion Thomas - Innovis and Danny Goodwin -Trace Elements Services. Fronoleu Country Hotel, Tabor, Dolgellau. Beth Rees, 01824 702663 22 Nov Arable workshop Pembs/Ceredigion area tbc Philip Jones 01970 622100 26-27 Nov Winter Fair Royal Welsh Showground, Builth Wells Carolyn Wacher 01970 622248 7, 14 January 08 CEVAS course: hosting school visits. Aberystwyth University. Download flyer and booking form. Jane Powell 01970 622248 16, 17, 23 January 08 CEVAS course: hosting school visits. Henfaes Research Centre, Bangor University Farm. Download flyer and booking form. Jane Powell 01970 622248
More events at www.organic.aber.ac.uk/events |
|
Ar werth Tarw Blonde Aquitane X Limousin DOB 03/02/97 Tarw distaw iawn. Ardderchog i greu stoc. Da ar heffrod. Yn gwerthu dim ond am ein bod yn newid i yrr pedigri. Cysylltwch â Steve Watkins 01600 780478 neu e-bostiwch ruthwatkins01@aol.com. Ger Y Fenni, Sir Fynwy. [2/11/07] Gwellt organig, beliau bychain. Ardystiwyd gan QWFC. Cysylltwch ag Alayne Perrott 01267-290268 (Sir Gaerfyrddin). 6 o ŵyn benyw Torddu organig, clefyd y crafu 1/2. Brîd lliwiedig traddodiadol, cig blasus. Gwydn iawn. Delfrydol ar gyfer fferm fach organig. Alayne Perrott ar 01267-290268 (Sir Gaerfyrddin). 15 o ŵyn stôr gwryw Torddu organig o ansawdd da. Ganwyd Chwef.–Ebrill, clefyd y crafu 1/2. Cysylltwch ag Alayne Perrott ar 01267-290268 [29/10/07] Tarw Du Cymreig ifanc organig (pedigri). Ganwyd 18.1 07 ardal Llanfair ym Muallt. 01982 551848 neu e-bostiwch mbsnead@tiscali.co.uk. [29/10/07] Moch organig. Cysylltwch ag Wyn Hughes ar 01650531263 / e-bost: pops.hughes@virgin.net. [26/10/07] Gwellt Haidd Organig. Oddeutu 100 o feliau crwn ar gael. Ffoniwch Matthew 07971 424654. [24/10/07] Gwenith Organig. Oddeutu 12 tunnell ar gael. Sampl sych, glân. Ffoniwch Matthew 07971 424 654. [24/10/07] 50 a rhagor o feliau silwair organig – dim glaw, dim mwd, wedi gwywo’n dda. Lleoliad – rhwng Brechfa a Llanybydder 01267 202291 howard.dare@tiscali.co.uk. [23/10/2007] 24 o ŵyn benyw Llŷn pedigri. Wedi eu profi am glefyd y crafu. Ardal Llandrindod. Sandy neu Nigel Dodman 01544 350407 [22/10/2007] Tarw Henffordd pedigri traddodiadol. Chwe blwydd oed. Distaw a dof. Gwydn a hydrin. Yn rhoi bod i loi o ansawdd ardderchog. Gweler y lluniau o un o’i loi 2007 ar ein gwefan www.treberfedd.co.uk. Cysylltwch â Jack Cockburn 01570 470672, Treberfedd, Dihewyd, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7NW. [22/10/07] Haidd organig wedi eu rholio mewn symiau bychain. Y prynwr i gasglu o Glynfyw, Abercych, Boncath, Sir Benfro SA37 0HF. Ffoniwch 01239 841676. [13/10/07]. Defaid wynebfrith organig: 40 o ddefaid mynydd, 20 o ŵyn benyw, 1 hwrdd pedigri: Cysylltwch â Mr John Davies, Cefn Yr Esgair, Llanwrtyd Wells, Powys LD5 4TD; Ffôn: 01591 610669. 120 o ŵyn croesryw wynebwyn. Llandrindrod Wells. 01597 840262 neu 07760 241322. [11/10/07] 30 o wartheg stôr. 18 o fustych, 12 o heffrod. 18 mis, ar gyfartaledd, ac yn pwyso 420-500kg. Lim x, Angus x, British Friesian. Allan o fath traddodiadol o Ffrisiad Prydeinig. Iwan Jones 01745 550 409 neu symudol 07966 440498. [09/10/07] Dwy heffer laeth, MRI X Ffrisiad, y naill yn goch a gwyn a’r llall yn ddu a gwyn. Ar fin dod â llo. Cysylltwch â Charlie Woods ar: 01570 470294. [8/10/07] Beliau mawr, ysgwâr, o silwair organig o dir parc wedi ei ardystio’n llawn ym Morgannwg. Ffôn: 07771 700606. [8/10/07] 100 o ŵyn stôr gwryw mynyddig Cymreig ar werth. Cysylltwch â John Davies ar 01591 610669. [5/10/07] Hwrdd Ryeland 2 flwydd oed. Cofrestredig, clefyd y crafu math 1 (ARR/ARR) . Hwrdd da ond dim digon o waith iddo eleni. Hefyd, 2 hwrdd Shetland. Y ddau - clefyd y crafu math 1. Sally King 01570 493347, sally.a.k@hotmail.com. [5/10/07] Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251 Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk. Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).
Yn eisiau 50 i 120 erw o dir organig o ansawdd da - i’w osod o Ebrill nesaf. Gogledd Cymru. Cysylltwch â Siôn 01650 531366. [29/10/07] Gwartheg a defaid cadw. Ffoniwch Richard Bowker- 07973 565690. [26/10/07] Gwartheg magu neu heffrod. Cyflo os yn bosibl. Organig neu CBS. Byddai limosin neu limo x Ffrisiad Brydeinig yn ddymunol. Ffoniwch Matthew 07971 424654. [24/10/07]
I’w osod Tir pori dros y gaeaf ar gyfer defaid. 60 erw o iseldir, gwyndynnydd meillion coch, ger Y Gelli ar gael yn awr tan fis Ebrill. Wedi ei ffensio a’i ddyfrhau’n dda. Ffoniwch John Lewis 01497 851228. [16/10/07]
Amrywiol Rydym angen cynhyrchwr/masnachwr llysiau a ffrwythau organig yn ein marchnad fisol lwyddiannus a gynhelir ym Mhenclawdd, Abertawe SA4 3FJ. Cysylltwch ag Andy a.spowart@btopenworld.com Ffôn. 01792850147. [15/10/07] Mae Cynhyrchwyr Graig Farm wedi cynrychioli buddiannau 280 o aelodau sy’n ffermio drwy ddull organig ledled Cymru a’r Gororau, ac wedi marchnata eu da am ragor na 10 mlynedd. mae hefyd yn gweithio fel rhan o rwydwaith genedlaethol ar y cyd â Graig Producers South West a Caledonian Organics. Daw llawer o fanteision eraill i’r rhai sy’n ymaelodi. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.graigproducers.co.uk neu am fanylion gwneud cais, ffoniwch 01597 851704 neu e-bost producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb parhaol]
Yr holl hysbysebion i’w cael yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml |
For sale Blonde Aquitane X Limousin Bull DOB 03/02/97 Very quiet bull. Excellent stockgetter. Good on heifers Only selling because changing to pedigree herd Contact Steve Watkins 01600 780478 e mail ruthwatkins01@aol.com Location.Nr Abergavenny Monmouthshire. [2/11/07] Organic hay, small bales. QWFC certified. Contact Alayne Perrott 01267-290268 or alayne@perrott3.freeserve.co.uk (Carms). [29/10/07] 6 organic registered Badger Face Welsh Mountain (Torddu) ewe lambs, scrapie 1/2. Traditional coloured breed, tasty meat. Very hardy, Ideal for organic smallholding. Alayne Perrott on 01267-290268 or alayne@perrott3.freeserve.co.uk(Carms). [29/10/07] 15 good quality organic Badger Face Welsh Mountain (Torddu) male store lambs, born Feb–April, scrapie 1/2. Contact Alayne Perrott on 01267-290268 or alayne@perrott3.freeserve.co.uk(Carms). [29/10/07] Organic young black welsh pedigree bull. Born 18.1 07 Builth Wells area. 01982 551848 or email mbsnead@tiscali.co.uk. [29/10/07] Organic pigs contact wyn hughes on 01650531263 / e mail pops.hughes@virgin.net [26/10/07] Organic Barley Straw. Approx 100 round bales available. Call Matthew 07971 424654. [24/10/07] Organic Wheat. Approx 12 tons available. Clean dry sample. Call Matthew 07971 424 654. [24/10/07] 50 plus bales well made organic silage – no rain, no mud, well wilted located between Brechfa and Llanybyther 01267 202291 howard.dare@tiscali.co.uk; [23/10/2007] 24 Pedigree Lleyn ewe lambs. Scrapie tested. Llandrindod Area. Sandy or Nigel Dodman 01544 350407 [22/10/2007] Pedigree traditional hereford bull (converted breeding stock). Six years old quiet and docile, hardy, easy to handle, easy calving and throws excellent quality calves. See pictures of one of his 2007 calves on our website www.treberfedd.co.uk . Contact: Jack Cockburn 01570 470672. Treberfedd, Dihewyd, Lampeter, Ceredigion, SA48 7NW. [22/10/07] Rolled organically grown barley in small quantities. Buyer collects from Clynfyw, Abercych, Boncath, Pembrokeshire SA37 0HF. Contact 01239 841676. [13/10/07]. Organic Speckleface sheep: 40 Hill ewes, 20 ewe Lambs, 1 Pedigree Ram: Contact Mr John Davies, Cefn Yr Esgair, Llanwrtyd Wells, Powys LD5 4TD; Tel 01591 610669 [11/10/07] 120 good quality white face mule lambs. Llandrindrod Wells. 01597 840262 or 07760 241322. [11/10/07] 30 store cattle. 18 steers, 12 heifers. 18 months on average, weighing 420-500kg. Lim x, Angus x, British Friesian. Out of traditional type Brit.Friesian. Iwan Jones 01745 550 409 or mobile 07966 440498. [09/10/07] Two dairy heifers, MRI X Friesian, one r&w other b&w. Calving imminent. Contact Charlie Woods on: 01570 470294. Organic large square bales of silage from fully certified Glamorgan parkland. Tel: 07771 700606. [8/10/07] 100 Welsh Mountain male store lambs for sale. Contact John Davies on 01591 610669. [5/10/07] Ryeland 2 yr old ram. Registered, Scrapie type 1 (ARR/ARR) . Good chap but not enough work for him this year. Also 2 Shetland rams both Scrapie type 1. Sally king 01570 493347, sally.a.k@hotmail.com; [5/10/07] Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert] Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert] Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert] Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge).
Wanted 50 to 120 acres of quality organic land to let from next April. North Wales area. contact Sion 01650 531366. [29/10/07] Store cattle and sheep. Ring Richard Bowker- 07973 565690. [26/10/07] Suckler cows or heifers. Preferably in calf. Organic or CBS. Would prefer limosin or limo x british friesian. Call Matthew 07971 424654. [24/10/07]
To Let Winter grazing for sheep. 60 acres lowland red clover leys near Hay-on-Wye available now until April. Well fenced and watered. Tel John Lewis 01497 851228. [16/10/07]
Miscellaneous Organic fruit and veg producer/trader required at our monthly award winning market held in Penclawdd, Swansea SA4 3FJ. Contact Andy a.spowart@btopenworld.com tel. 01792850147. [15/10/07] Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk. [permanent advert]
All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml |
|
Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ar ddechrau mis Rhagfyr. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn. 01970 622248. Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill. Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo. Mae rhifynnau blaenorol yn www.organic.aber.ac.uk/bulletin |
Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. The next issue will be published in early December. For more information contact Organic Centre Wales, Institute of Rural Sciences, University of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248. The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications. Please forward this newsletter to anyone who might be interested. Previous issues are at www.organic.aber.ac.uk/bulletin |