Os ydych yn cael problemau wrth ddarllen y bwletin hwn, ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin

If you have problems reading this bulletin, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Bwletin

Cymru Organig

Rhif 71,  5 Medi 2007

Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru 

I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg

Bulletin

Organic Wales

No. 71, 5 September 2007

A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales 

Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk

Mynd yn syth at yr adran:

 

Cymru organig  
Ffermio  

Bwyd a’r defnyddiwr  

Ymchwil

Digwyddiadau   Hysbysebion   Adborth

 

Go straight to section

 

Organic Wales  
Farming  

Food and consumer  

Research 

Events     Adverts   Feedback

 

Cymru organig

 

Yn ôl i'r brig

 

Cynhadledd cynhyrchwyr organig

Mae’r rhaglen ar gyfer cynhadledd Canolfan Organig Cymru ar 18 Hydref yn dod yn ei blaen yn gampus. Mae ein thema eleni, sef “Newid yn yr Hinsawdd a Chynaladwyaeth – datblygu ffermio organig i gwrdd â’r her”, yn canolbwyntio ar gyfraniad ffermio organig at leihau newid yn yr hinsawdd ac at ddefnyddio adnoddau mewn modd cynaliadwy. Bydd rhaglenni a ffurflenni cadw lle yn cael eu hanfon allan ymhen pythefnos, ond cysylltwch â Carolyn Wacher pe carech gael rhagor o wybodaeth.

 

Ffair Aeaf, 26-27 Tachwedd

Cofiwch nodi’r digwyddiad prysur hwn yn eich dyddiadur, a fydd yn cael ei gynnal ar Faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd. Mae gan Ganolfan Organig Cymru stondin ar y balconi yn Adeilad y Da Byw, a bydd gennym gynrychiolwyr o’r Soil Association, Ffermwyr a Thyfwyr Organig, a Quality Welsh Food Certification ac eraill o blith grwpiau cynhyrchwyr a chyrff cynghori. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Carolyn Wacher.

 

Adolygiad ACOS

Mae Defra wedi cyhoeddi’r adolygiad annibynnol cyntaf o’r Pwyllgor Ymgynghorol ar Safonau Organig (Advisory Committee on Organic Standards (ACOS)), a grëwyd yn 2003. datganiad i'r wasg

 

Termiadur

Fe lansiwyd Termiadur Amaethyddol/Amgylcheddol yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol fis diwethaf. Mae'r termiadur ar gael gan Penri James, Sefydliad Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, SY23 3AL; Ffôn 01970 624471.

Organic Wales

 

Back to top

 

Organic producers' conference

The programme for OCW’s autumn conference on 18th October at Builth Wells is shaping up nicely. This year’s theme “Climate Change and Sustainability – developing organic farming to meet the challenge” focuses on the contribution made by organic farming to climate change mitigation and sustainable resource use. Programmes and booking forms will be mailed to all our contacts in a couple of weeks, but please get in touch with Carolyn Wacher if you would like further information.

 

Winter Fair 26-27 November

Make a date in your diary for this important winter event for farmers which will take place at the Royal Welsh Showground, Builth Wells. Organic Centre Wales has a stand on the balcony in the Livestock building, and we will have representatives from the Soil Association, Organic Farmers and Growers and Quality Welsh Food Certification and others from producer groups and advisory organizations. For more information contact Carolyn Wacher.

 

ACOS review

Defra has announced the first independent review of the Advisory Committee on Organic Standards (ACOS), which was created in 2003. press release

 

List of terms

A list of agricultural and environmental terms in Welsh was launched at the National Eisteddfod last month. It is available at £3 from Penri James, Institute of Rural Sciences, University of Wales, Aberystwyth, SY23 3AL; Ffôn 01970 624471.

Ffermio

 

Yn ôl i'r brig

 

Y Cynllun Ffermio Organig

Bydd cyhoeddiad parthed ailagor y Cynllun yn cael ei wneud yn fuan. Cadwch eich llygaid ar y tudalennau hyn.

 

Newyddion o Ganolfan Datblygu Tir Glas IGER

Gan ein bod, erbyn hyn, yn ymryddhau oddi wrth gyfyngiadau’r ‘Traed a’r Genau’ ac yn cael digon o haul i beri i wair dyfu, y mae’n amser da i feddwl am gyflenwadau porthiant ac i gynllunio opsiynau bwydo ar gyfer y gaeaf. Edrychwch yn ofalus ar y silwair a gynhyrchwyd eleni, yn enwedig os bu’n wlyb; mae ‘na berygl ei fod wedi ei lygru gan bridd - ffaith a ddangosir gan werthoedd lludw uchel neu silwair sy’n teimlo’n rudiog. Mae cnydau porthi yn opsiwn defnyddiol i ymestyn y tymor pori, yn enwedig os nad yw safon y silwair cystal oherwydd y tywydd gwlyb. Efallai bod cnydau silwair hwyr wedi gadael adloddion tenau a bylchog; mae digon o amser ar ôl i or-hau’r adloddion hyn, i lenwi’r bylchau â gwair a meillion yn hytrach na rhoi cyfle i wlydd a dail tafol! Yr hydref hwn, rydym yn bwriadu monitro ansawdd gwair er mwyn canfod beth yw gwerth y gwair a borwyd fel porthiant ar yr adeg yma o’r flwyddyn. Byddwn wedyn yn gallu gweld os yw’n cwrdd ag anghenion da byw ai peidio. Bydd adroddiadau ar we-dudalennau IGER a Chanolfan Organig Cymru. Bydd argraffiad ‘Traed a’r Genau’ mis Awst o Organic Grass Focus hefyd i’w gael ar y tudalennau hyn.

Heather McCalman

 

Gwobr cadwraeth

Gofynnir am gynigion ar gyfer Gwobr Cadwraeth Fferm ‘Silver Lapwing’ Rhwydwaith Cenedlaethol FWAG Cymru. Cysylltwch â FWAG i gael ffurflenni (01341 421456) – mae’n rhaid i’r rhain gael eu dychwelyd i swyddfeydd FWAG (ynghyd â defnydd ategol), erbyn 28 Medi 2007.

 

Problemau porthi ar gyfer ffermwyr organig

Dengys arolwg diweddar gan Graig Producers a Caledonian Organics, fod bron hanner y ffermwyr da organig yn Lloegr a Chymru yn ystyried lleihau eu stoc, neu hyd yn oed roi’r gorau i ffermio organig oherwydd costau bwydo uchel. Mae prinder cnydau a phroteinau organig wedi golygu bod prisiau bwyd anifeiliaid wedi cynyddu’n sylweddol dros y 12 mis diwethaf gyda phris gwenith organig, er enghraifft, wedi codi 50% yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae nifer o ffermwyr yn ystyried cynhyrchu rhagor o borthiant ar y fferm, ond nid yw hyn yn opsiwn ar gyfer y rheini sy’n byw ar dir uchel, gwlyb. www.graigproducers.co.uk

 

Ymgynghoriad ynglŷn â dofednod

Mae Ymgynghoriad ar Raglen Reoli Genedlaethol ar gyfer Heidiau Dodwy wedi ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Bydd hyn yn cael effaith ar heidiau masnachol ac, i gychwyn, ar y rheini gyda 350 o adar neu ragor. Mae Dr Pip Nicholas yn paratoi ymateb ar ran y sector organig yng Nghymru.

 

Nawdd ar gyfer sgiliau cefn gwlad

Gall tyddynwyr wneud cais am 50% neu 30% o gostau cwrs yng nghyswllt amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys cyrsiau ar blannu gwrychoedd, rheolaeth pyllau, gosod ffensys ac adeiladu cloddiau sychion. Nid yw hyn yn ddibynnol ar Wirio Sgiliau nac ar gofrestru gyda Farming Connect. Mae’r rhain ar gael tan fis Mawrth 2008 gan Hefin Hughes yn Lantra 01982 552646.

 

Dysgu yn y sector organig

Am arolwg o gyfleoedd dysgu ar draws y byd, gweler gwefan yr Organic Guide yma

 

Arwerthiannu da byw

Oherwydd Clwy’r Traed a’r Genau, mae McCartney's wedi newid dyddiadau eu harwerthiannau. Maent yn awr yn cynnal sioe ac arwerthiant gwartheg organig ar 6 Medi, gyda gwobrau ar gyfer y bustach a’r heffer gorau. Fe’i cynhelir yn lle’r arwerthiannau ar 23 Awst ac 13 Medi. Bwriedir cynnal arwerthiant arall ar 1 Tachwedd. Ffoniwch 01874 622386 i gael manylion.

Mae Welshpool Livestock Sales yn bwriadu cynnal arwerthiannau organig ar 10 Medi ac 12 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion.

Gohiriodd Carmarthen Livestock Centre eu harwerthiant ar 17 Awst. I gael manylion ynglŷn ag arwerthiannau yn y dyfodol, ffoniwch 01267 236268 neu cysylltwch â Huw Evans ar 07976 328177. Fel arall, e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com.

Farming

 

Back to top

 

Organic Farming Scheme

An announcement on the reopening of the Scheme is expected imminently. Keep an eye on these pages.

 

News from IGER Grassland Development Centre

Now we are emerging from the Foot and Mouth restrictions and getting almost enough sun to stimulate some good grass growth, it is a good time to take stock of forage supplies and begin to plan winter feeding options. Take a good look at the silage made this year particularly if it was wet; there is a risk of soil contamination which is seen either in high ash values or a ‘gritty’ feel to the silage. Where there are high ash values, take extra care at feed out. Forage crops are a useful option to extend the grazing season particularly where silage quality may lower than usual due to the wet summer. Late silage crops may have left aftermaths thin and gappy; there is still time to oversow into these, to fill the gaps with grass and clover rather than chickweed and docks who need no second invitation! This autumn we are planning to monitor grass quality to see what the feed value of the grazed sward is at this time of the year to give a guide to how far it meets livestock needs. Reports will be on the IGER GDC web pages.

Heather McCalman

 

Conservation award

Entries are requested for the FWAG Cymru National Grid Silver Lapwing Farm Conservation Award. Contact FWAG to get entry forms (01341 421456) – these must arrive, with supporting material, at FWAG offices by 28 September 2007.

 

Feed problems for livestock farmers

Almost half the organic livestock farmers in England and Wales are considering reducing stock numbers, or even leaving organic farming because of increasing feed costs, according to a recent survey by Graig Producers and Caledonian Organics. Shortages of organic cereals and proteins have led to significant increases in feed prices over the last 12 months, with organic wheat for example up some 50% over the period. A number of farmers are looking at producing more feed on-farm, and forage quality will become more important, but home-grown cereal production is not an option for many in wetter or higher regions. www.graigproducers.co.uk.

 

Poultry consultation

A Consultation on a National Control Programme for Laying Flocks has been issued by the Welsh Assembly Government. This will affect commercial flocks, initially those with 350 birds or more. Dr Pip Nicholas is preparing a response on behalf of the organic sector in Wales.

 

Funding for countryside skills

Smallholders can apply for 50% or 30% of course costs for quite a wide variety of courses, from hedge-laying to pond management, fencing installation or dry stone walling. Not dependent on Skill Checks or registration with Farming Connect, these are available until March 2008 from Hefin Hughes at Lantra 01982 552646.

 

Learning in the organic sector

For an overview of learning opportunities around the world, see the Organic Guide website here.

 

Livestock sales

McCartney's have changed the dates for their auctions in the light of food and mouth disease. They are now holding a show and sale of organic cattle on  6 September, with prizes for best individual steer and heifer. This replaces the auctions on 23 August and 13 September. A further auction is planned for 1 November. Call 01874 622386 for details.

Welshpool Livestock Sales plan organic auctions on 10 September and 12 November. Call 01938 553438 for details.

Carmarthen Livestock Centre cancelled their auction on 17 August. For details of future events call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com

Bwyd a'r defnyddiwr

 

Yn ôl i'r brig

 

Adroddiad ar y farchnad organig

Yn ôl Adroddiad Marchnad Organig blynyddol y Soil Association, cyrhaeddodd gwerthiannau bwyd a diod organig £2 biliwn am y tro cyntaf yn 2006, gyda’r farchnad yn dangos twf cyson o 22%. Mae’n dangos bod y galw am fwyd a diod, deunyddiau a chynhyrchion iechyd a harddwch organig yn parhau i dyfu. Cynyddodd gwerthiannau cynhyrchion organig drwy gynlluniau bocsys organig ac archebu drwy’r post o £95 miliwn yn 2005 i £146 miliwn yn 2006. Mae tecstilau organig a’r sector iechyd a harddwch organig yn dangos tyfiant arbennig o gryf. Mae’r adroddiad yn cynnwys arolwg o gwsmeriaid gan Mintel sy’n dangos fod rhagor na hanner y rheini a gymerodd ran wedi prynu cig neu gynhyrchion llaeth organig; ac yr oedd un ym mhob chwech wedi prynu nwyddau organig wedi eu pecynnu. Gweler datganiad i’r wasg.

 

Pythefnos Organig

Cafwyd dechrau ardderchog i’r bythefnos hon ym Mryste ar 1 a 2 Medi gyda rhagor na 200 o stondinau yn yr Ŵyl Fwyd Organig, pob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth hyfryd o gynnyrch ffres a nwyddau eraill organig, ac yn denu oddeutu 42,000 o ymwelwyr. Yr oedd oddeutu 20 o’r arddangoswyr o Gymru a, gyda chymorth y tywydd mwyn, yr oedd y stondinau’n ferw o brysurdeb ar ddydd Sadwrn a’r awyrgylch dipyn yn fwy hamddenol ar y Sul.

    Mae Bwydydd Cyflawn Aardvark yng Nghaerfyrddin, mewn cysylltiad â Face of Flowers, yn cynnig rhôl frecwast organig rhad ac am ddim ar 8 ac 15 Medi rhwng 10am a 2pm Ffôn: 01570 423523. Gweler www.soilassociation.org/organicfortnight

 

Pythefnos Bwyd Cymreig

Rhan o Bythefnos Bwyd Prydeinig, mae'n rhedeg o 22 Medi i 6 Hydref. Mae llyfryn wedi mynd at bob ysgol, ac mae'n sôn am fwyd organig. Gweler www.welshfoodfortnight.info

 

Gŵyl Fwyd y Fenni

Mae’r ‘Ddadl Fwyd Fawr’ yn un o ddigwyddiadau agoriadol Gŵyl Fwyd y Fenni, a gynhelir ar 15 ac 16 Medi. Bydd gan Canolfan Organig Cymru stondin yno, ac rydym hefyd yn ystyried bod yn bresennol yn yr Ŵyl Fwyd boblogaidd hon y flwyddyn nesaf. www.abergavennyfoodfestival.com.

 

Gwerthiannau ar-lein Mae platfform masnachu ar-lein newydd, www.localfoodshop.com, yn awr yn agored ar gyfer cofrestru cynhyrchwyr. Mae ‘Localfoodshop’ yn cael ei ddatblygu gan f3 mewn partneriaeth â BigBarn, ac yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru. Fe fydd yn agor i gwsmeriaid yn fuan.

 

Caws Llanboidy

Llongyfarchiadau i Sue Jones, Caws Llanboidy am ennill ddwywaith yn Nantwich, a hefyd yn Sioe Frenhinol Cymru. Erbyn hyn, mae Sue yn teimlo ei bod yn bryd iddi gael newid bach, ac y mae’n rhoi ei busnes ar y farchnad. Meddai: “It’s been a lot of hard work, but a wonderful experience”.

 

Manwerthwr gwledig gorau 2007

Gellwch enwebu eich hoff siop neu fusnes erbyn 6 Hydref ar gyfer y gystadleuaeth hon, a drefnir gan y Countryside Alliance. Gweler www.bestruralretailer.co.uk.

 

Malwod organig

Mae’r rhain yn awr yn cael eu cynhyrchu yn Ffrainc. Daily Telegraph.

 

Ar y We

www.organicfreshfoodcompany.co.uk Ffrwythau a llysiau o orllewin Cymru

www.cymorthcompost.org Cymorth gyda chompostio yng Ngwynedd.

 

Food and consumer

 

Back to top

 

Organic market report

Organic food and drink sales in the UK nudged the £2 billion mark for the first time in 2006, with a sustained market growth rate of 22%, according to the Soil Association’s annual Organic Market Report. It shows continued strong growth and  public support for organic food, drink, textiles and health and beauty products. Retail sales of organic products through organic box and mail order schemes and other direct routes increased from £95 million in 2005 to £146 million in 2006. Organic textiles and the booming organic health and beauty sector are experiencing particularly strong growth. The report includes consumer research by Mintel which shows that more than half of those surveyed had purchased organic fruit and vegetables within the previous 12 months; one in four consumers had bought organic meat or dairy products; and one in six had purchased packaged organic goods.

See press release.

 

Organic Fortnight

This year's event got off to a great start in Bristol on the 1st and 2nd September with over 200 stands at the Organic Food Festival, all offering a wonderful range of fresh organic produce and other goods, and 42,000 visitors. Some 20 of the exhibitors were from Wales, and helped by the warm breezy weather, the stands were extremely busy on the Saturday with a rather more relaxed atmosphere on the Sunday.

    Aardvark Wholefoods in Carmarthen in conjunction with Face of Flowers is offering a free organic breakfast roll on 8 and 15 September from 10am-2pm T: 01570 423523.

    See www.soilassociation.org/organicfortnight

 

Welsh Food Fortnight

Part of British Food Fortnight, this runs from 22 September to 6 October. A booklet has gone to all schools, and it includes a mention of organic food. See www.welshfoodfortnight.info.

 

Abergavenny Food Festival

‘The Big Food Debate’ is the one of the opening events of the Abergavenny Food Festival, during the weekend of 15-16 September. OCW has a stand at the debate, but we are also considering a presence at this prestigious Food Festival for next year. www.abergavennyfoodfestival.com.

 

Online sales

A new online trading platform, www.localfoodshop.com, is now open for producers to register. Localfoodshop is being developed by f3 in partnership with BigBarn, and is supported by the Welsh Assembly Government. It will open to customers soon.

 

Llanboidy Cheese

Congratulations to Sue Jones, of Llanboidy Cheesemarkers for her double win at Nantwich, and also at the Royal Welsh Show. Sue feels it is now time for a change and is putting her business on the market “It’s been a lot of hard work, but a wonderful experience”.

 

Best rural retailer 2007

Please nominate your favourite shop or business by 6 October for this competition organized by the Countryside Alliance. See www.bestruralretailer.co.uk.

 

Organic snails

These are now being produced in France. Daily Telegraph

 

On the Web

www.organicfreshfoodcompany.co.uk fruit and vegetables from west Wales

www.cymorthcompost.org help with composting in Gwynedd.

Ymchwil

 

Yn ôl i'r brig

 

Orgprints

Mae cyhoeddiadau ymchwil gan Ganolfan Organig Cymru yn awr ar gael gan Orgprints, yn www.orgprints.org. Mae adroddiadau o wahanol wledydd ar gael ar y wefan, ond i fwrw golwg ar gyhoeddiadau Canolfan Organig Cymru cliciwch yma.

 

Cyfryngau tyfu ar gyfer trawsblannu llysiau

Mewn astudiaeth a noddwyd gan Farming Connect yn 2006-7, profwyd saith o gynhyrchion gan dyfwyr ac mewn treialon ffurfiol. Cynhyrchodd ‘Bulrush’ (seiliedig ar fawn), ‘Fertile Fibre’ (seiliedig ar risgl coconyt), ‘Klasmann’ (seiliedig ar fawn) a West Riding (seiliedig ar Fawn Aur y Rhostir) ganlyniadau derbyniol. Cynhyrchodd cynnyrch datblygu a seiliwyd ar fawn a gwastraff gwyrdd blanhigion mawr, iach yng nghyswllt pob cnwd, ond nid yw eto ar gael i dyfwyr. Mae’n dangos bod potensial i gynhyrchion sy’n seiliedig ar wastraff gwyrdd gael eu datblygu yn y dyfodol. Lawrlwytho’r adroddiad o’r dudalen hon.

 

Tyfu coed organig o dan amodau meithrinfa

Byddai llawer o ffermwyr organig yn hoffi cael gafael ar goed/planhigion ar gyfer gwrychoedd a dyfwyd yn organig, ond prin iawn yw’r planhigion organig sydd ar gael. Mewn treial a gyflawnwyd ar ran Canolfan Organig Cymru, cymharodd ADAS y ddraenen wen, y ddraenen ddu a choed cyll mewn cynwysyddion anhyblyg a hyfforddwyr gwreiddiau (root-trainers). Aseswyd pedwar math o gompost; ‘Ystwyth nursery mix’ (o eiddo’r feithrinfa), Moorland Gold, Fertile Fibre (peat-free), a chompost wedi ei seilio ar naddion pren o Bontbren. Dangosodd y treial fod dulliau organig yn gallu cynhyrchu planhigion iach sydd wedi tyfu’n dda ar gyfer eu plannu allan o dan amodau meithrinfa, ond bod twf a datblygiad yn dibynnu ar ddefnyddio compost priodol. Lawrlwytho’r adroddiad o’r dudalen hon.

 

Storio llysiau organig

Collir llawer o gynnyrch organig oherwydd problemau sy’n ymwneud â storio, ac y mae hynny’n un o’r rhesymau pan nad oes digon o gynnyrch organig Cymreig ar gael i ddiwallu anghenion y farchnad. Mae’r allwedd i storio da yn cychwyn yn y caeau; mae planhigion a dyfwyd o dan yr amodau gorau yn cadw’n well. Y prif lysiau a gedwir yng Nghymru yw moron, pwmpenni, nionod, bresych a seleriac. Mae’r rhan fwyaf o dyfwyr yn storio yn y cae gan fod hynny’n rhad ac yn syml, ond y mae anfanteision i hyn. Mae opsiynau eraill yn cynnwys clampiau dan do a thu allan, a storio oer. Mae tyfwyr yn y DU ac Ewrop yn rhoi prawf ar nifer o ddulliau storio newydd gan gynnwys gorchuddion pydradwy a defnyddio ynni adnewyddadwy i redeg storiau oer a storiau gwres amgylchynol. Lawrlwytho’r adroddiad o’r dudalen hon.

 

Bwyd yn hinsawdd y dyfodol

Bydd cynhadledd ar newid yn yr hinsawdd mewn perthynas â chynhyrchu bwyd organig (a drefnwyd gan y Ganolfan Swedaidd ar gyfer Defnydd Tir Cynaliadwy) yn cael ei chynnal rhwng 19 a 21 Tachwedd. Manylion yn fan hyn.

 

Gall ffermio organig gwrdd â gofynion

Canfu astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Renewable Agriculture and Food Systems fod gan ffermio organig y gallu i gyfrannu’n sylweddol i’r cyflenwad bwyd byd-eang. Archwiliodd yr ymchwilwyr 293 o enghreifftiau ledled y byd gan ddarganfod bod systemau organig mewn gwledydd datblygedig, ar gyfartaledd, yn cynhyrchu 92% o’r cynnyrch a dyfwyd drwy ddulliau ffermio confensiynol. Mewn gwledydd sy’n datblygu, fodd bynnag, mae systemau organig yn cynhyrchu 80% yn rhagor na ffermydd confensiynol. Yn ogystal, canfu’r awduron y gallai dulliau organig gynhyrchu digon o fwyd, ar sail per capita byd-eang, i gynnal y boblogaeth ddynol ar hyn o bryd, a hyd yn oed boblogaeth fwy na hynny – a hynny heb orfod defnyddio rhagor o dir i gynhyrchu bwyd. New Scientist.

Research 

 

Back to top

 

Orgprints

Research publications from OCW are now all available from Orgprints, at www.orgprints.org. Reports from many countries are available on the site, but to browse OCW publications click here.

 

Growing media for vegetable transplants

In a study funded by Farming Connect in 2006-7, seven products were tested by growers and in formal replicated trials. Bulrush (peat based), Fertile Fibre (coir based), Klasmann (peat-based) and West Riding (based on Moorland Gold Peat) all produced acceptable results. A development product based on peat and green waste raised large, healthy plants for all crops, but is not yet available to growers, it indicates some potential for green waste based products to be developed in the future. Download the report from this page.

 

Organic tree raising under Welsh nursery conditions

Many organic farmers would like to source organically raised hedging/ tree planting material but few organically grown plants are available. In a trial undertaken for OCW, ADAS evaluated hawthorn, blackthorn and hazel in both rigid containers and root-trainers. Four composts were assessed; ‘Ystwyth nursery mix’ (nursery’s own), West Riding’s Moorland Gold, Fertile Fibre (peat-free) and a wood-chip based compost from Pontbren. The trial demonstrated that organic methods can produce healthy, well-grown tree plants to planting out stage under Welsh nursery conditions, but that growth and development depends on using appropriate compost. Download the report from this page.

 

Organic vegetable storage

Storage is one of the issues contributing to problem of insufficient Welsh grown organic produce to meet demand, and much produce is lost in storage. The key to good storage starts in the field; plants that have been grown in optimum conditions store much better. The main vegetables stored in Wales are carrots, squash, onions, cabbage and celeriac. Most growers store in the field because it is cheap and simple, but there are drawbacks to this method. Alternatives include indoor and outdoor clamps and cold storage. A number of new storage methods are being tried by UK and European growers including biodegradable covers and the use of renewable energy to drive cold stores and heat ambient stores. Download the report from this page.

 

Food in a future climate

Details of a conference on climate change in relation to organic food production, organized by the Swedish Centre for Sustainable Land Use on 19-21 November, are available here.

 

Organic farming can meet demand

A new study published in the journal Renewable Agriculture and Food Systems has found that organic agriculture has the potential to contribute substantially to the global food supply. The researchers examined a global dataset of 293 examples, and found that on average, in developed countries, organic systems produce 92% of the yield produced by conventional agriculture. In developing countries, however, organic systems produce 80% more than conventional farms. The authors also found that organic methods could produce enough food on a global per capita basis to sustain the current human population, and potentially an even larger population, without putting more farmland into production. New Scientist.

 

Digwyddiadau

 

Yn ôl i'r brig

 

11 Medi 1.30 - 3.30pm Pesgi ŵyn ar ysgellog. GOHIRIWYD Rhyd y Criw, Tywyn. Philip Jones 01970 622100

14 Medi Moch mewn tir coediog. Lawrlwytho taflen wybodaeth. Elan Valley Hotel, Rhaeadr. Charles Morgan 01874 610100 neu PONT@grazinganimalsproject.org.uk.

18 Medi Diwrnod agored y Grŵp Ymgynghorol ar Ffermio a Bywyd Gwyllt (FWAG) gan gynnwys Tir Mynydd, amddiffyn rhag llifogydd, newid yn yr hinsawdd, traws gydymffurfio, arallgyfeirio, Tir Cynnal, Tir Gofal ym Mhall Mall, Tywyn. Cysylltwch â Glenda Thomas 01341 421456 neu 07813 021134.

24+25 Medi, 1 Hydref Cwrs CEVAS: ymweliadau ysgol. £60 + VAT. Lawrlwytho taflen wybodaeth Y Drenewydd, Powys Caroline Davies, 01938 810302.

09 Hydref 1.30pm Cynyddu’r elw a wneir o ŵyn drwy wella cadarnhad carcasau. Rhyd y Criw, Tywyn. Philip Jones 01970 622100.

9 Hydref 10:00–3:00 Cyfleoedd ar gyfer cynhyrchwyr garddwriaethol a ffermio âr organig. Digwyddiad ar gyfer tyfwyr sy’n ystyried ehangu a chynhyrchwyr da byw sy’n chwilio am opsiynau eraill: Allt Goch, St Harmon’s, Rhaeadr, Tony Little 01970 621632.

10 Hydref 10:00-2:00 Cyfleoedd mewn garddwriaeth organig: Digwyddiad ar gyfer tyfwyr sy’n ystyried ehangu a chynhyrchwyr da byw sy’n chwilio am opsiynau eraill Greathouse Farm, Y Fenni. Tony Little 01970 621632.

10 + 17 Hydref Cwrs CEVAS: croesawu ymweliadau ysgol. Lawrlwythwch daflen wybodaeth. Yr Ardd Fotaneg, Caerfyrddin. Jane Powell 01970 622248.

18 Hydref Cynhadledd Cynhyrchwyr Organig, Llanelwedd. Carolyn Wacher, 01970 622248.

 

Rhagor o ddigwyddiadau yn www.organic.aber.ac.uk/events

Events

 

Back to top

 

11 Sept 1.30 - 3.30pm Finishing lambs on chicory. POSTPONED Rhyd y Criw, Tywyn. Philip Jones 01970 622100

14 September Pigs in woodland day. Download flyer. Elan Valley Hotel, Rhayader Charles Morgan 01874 610100 or PONT@grazinganimalsproject.org.uk.

18 September Farming and Wildlife Advisory Group (FWAG) open day including Tir Mynydd, flood defence, climate change, cross compliance, diversification, Tir Cynnal, Tir Gofal at Pall Mall, Tywyn. Contact Glenda Thomas 01341 421456 or

07813 021134.

24+25 Sept, 1 Oct CEVAS course: hosting school visits. £60 + VAT. Download flyer Newtown, Powys Caroline Davies, 01938 810302

09 Oct 1.30pm Increasing lamb returns through improving carcase conformation. Rhyd y Criw, Tywyn. Philip Jones 01970 622100.

9 October 10:00–3:00 Opportunities for organic horticultural and arable producers. An event for growers considering expansion and livestock producers looking for alternatives: Allt Goch, St Harmon’s, Rhayader, Tony Little 01970 621632.

10 October 10:00-2:00 Opportunities in organic horticulture: An event for Growers considering expansion and livestock producers looking for alternatives Greathouse Farm, Abergavenny. Tony Little 01970 621632.

10 + 17 October CEVAS course: hosting school visits. Download flyer. Botanic Garden, Carmarthen. Jane Powell 01970 622248.

18 October Organic Producers Conference, Llanelwedd.  Carolyn Wacher, 01970 622248. 

 

More events at www.organic.aber.ac.uk/events

Hysbysebion

 

Yn ôl i'r brig

 

Ar werth

Tarw pedigri du Cymreig ifanc. Ganwyd 18.01.07 Ardal Llanfair ym Muallt. 01982 551848 neu e-bostiwch mbsnead@tiscali.co.uk. [30/08/07]

Mae gan yr ‘Rhys’ o wartheg duon Cymreig pedigri 5 o heffrod cyflo (wedi eu cyfloi gan Graig-Goch Gerwyn 25ain.) a 7 o heffrod gwyryf, wedi eu cenhedlu gan Machreth Seimon 5ed. Mae’r gyrr o’r statws iechyd uchaf. I gael rhagor o fanylion ac i’w gweld, cysylltwch â Beth Rees - 01824 702663, 07747 505163.

Pedwar o hyrddod Charollais pedigri blwydd oed, cwbl organig ac oll yn ARR/ARR. Ffoniwch Beth Rees : 01824 702663 (Rhuthun, Sir Ddinbych). [28/08/07]

Cnuoedd gwlân organig gan ddefaid Llanwenog pur eu brid. Lliw hufen ac o ansawdd da. Dihewyd, ardal Llanbedr Pont Steffan. Ffoniwch: 01570 470672. [06/08/2007]

12 hwch organig ac 1 baedd organig a wobrwywyd yn Sioe Frenhinol Cymru 2006. Pob un yn feichiog, diolch i’r baedd, a disgwylir iddynt ddod â moch bach ymhen 3 wythnos – 4 mis. Wedi eu cofrestru gyda’r SA. Cysylltwch â Neil ar 01550 740670 neu e-bostiwch pigs@penrhiwuchaf.co.uk, [hyd 1 Hydref]

Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251

Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk.

Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. 

Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).

 

Yn Eisiau

Beulah speckled faced ewes and ewe lambs, also beulah speckled ram. Contact Marie Ann Glover 01686 650743.

Gwartheg cadw cryf, 450kg+. Ffoniwch Richard, symudol-07973 565690, cartref- 01691 831603. [14/08/07]

 

Amrywiol

Mae Cynhyrchwyr Graig Farm wedi cynrychioli buddiannau rhagor na 200 o aelodau sy’n ffermio drwy ddull organig ledled Cymru a’r Gororau, ac wedi marchnata eu da am ragor na 10 mlynedd. Daw llawer o fanteision eraill i’r rhai sy’n ymaelodi. I gael rhagor o wybodaeth a manylion i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, ffacs 01597 851920 neu e-bost producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb parhaol]

 

Yr holl hysbysebion i’w cael yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

 

Advertisements

 

Back to top

 

For sale

Young Welsh Black pedigree Bull. Born 18.01.07 Buil;th Wells area. 01982 551848 or e/mail mbsnead@tiscali.co.uk. [30/08/07]

The 'Rhys' herd of pedigree Welsh black Cattle have 5 in-calf heifers (in calf to Graig-Goch Gerwyn 25th.) and 7 maiden heifers, all sired by Machreth Seimon 5th. The herd has the highest health status. For further details and to view, please contact Beth Rees - 01824 702663, 07747 505163. [30/08/07]

Four pedigree Charollais yearling rams, fully organic and all ARR/ARR. Tel. Beth Rees : 01824 702663 (Ruthin, Denbighshire). [28/08/07]

Organic wool fleeces from pure bred Llanwenog sheep. Good quality, creamy colour. Dihewyd, Lampeter area. Contact: 01570 470672. [06/08/2007]

12 organic sows 1 organic (converted boar) Champion RWS 2006 all in pig to boar and due to farrow 3 weeks-4 months time. SA registered. For details phone Neil on 01550 740670 or e-mail pigs@penrhiwuchaf.co.uk, [permanent advert to 1 Oct]

Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert]

Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert]

Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert]

Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge). [permanent advert]

 

Wanted

Beulah speckled faced ewes and ewe lambs, also beulah speckled ram. Contact Marie Ann Glover 01686 650743.

Strong store cattle, 450kg+. Ring Richard, mobile-07973 565690, home - 01691 831603. [14/08/07]

 

Miscellaneous

Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk.  [permanent advert]

 

All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Adborth

 

Yn ôl i'r brig

 

Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Cyhoeddir y rhifyn nesaf ar ddechrau mis Tachwedd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, Sefydliad y Gwyddorau Gwledig, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn. 01970 622248.

   Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill.

   Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo.

   Mae rhifynnau blaenorol yn www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Feedback

 

Back to top

 

Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. The next issue will be published in early November. For more information contact Organic Centre Wales, Institute of Rural Sciences, University of Wales, Aberystwyth, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248.

   The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications.

   Please forward this newsletter to anyone who might be interested.

   Previous issues are at www.organic.aber.ac.uk/bulletin