Os ydych yn cael problemau wrth ddarllen y bwletin hwn, ewch at www.organic.aber.ac.uk/bulletin

If you have problems reading this bulletin, go to www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Bwletin

Cymru Organig

Rhif 95, 8 Medi 2009

Crynodeb misol o ymchwil a newyddion a gyhoeddir gan Ganolfan Organig Cymru 

I’w gylchredeg yn eang www.organic.aber.ac.uk/cymraeg

Bulletin

Organic Wales

No. 95, 8 September 2009

A monthly round-up of research and news produced by Organic Centre Wales 

Please circulate widely www.organic.aber.ac.uk

Mynd yn syth at yr adran:

 

Cymru organig  
Ffermio  

Bwyd a’r defnyddiwr  

Ymchwil

Digwyddiadau   Hysbysebion   Adborth

 

Go straight to section

 

Organic Wales  
Farming  

Food and consumer  

Research 

Events     Adverts   Feedback

 

Cymru organig

 

Yn ôl i'r brig

 

Cynhadledd cynhyrchwyr organig Cymru: 15 Hydref

Eleni, cynhelir y gynhadledd yn Aberystwyth gan nad yw’n bosibl ei chynnal yn Llanelwedd. Bydd diogelwch bwyd a Glastir yn cael eu trafod mewn sesiynau llawn, a chynhelir ystod o weithdai ar faterion technegol a marchnata. Bydd manylion yn cael eu hanfon at bob cynhyrchwr yn y man, a hefyd yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalen digwyddiadau.

 

Dinah Williams

Tristwch mawr yw cyhoeddi marwolaeth Dinah Williams, Brynllys, Y Borth yn 98 oed. Roedd Dinah yn aelod gwreiddiol o'r Soil Association a Brynllys oedd y fferm llaeth gyntaf i gael ei ardystio yn organig ym Mhrydain. Roedd hefyd yn gartref i iogwrt Rachel's. Mae llyfr newydd, They dared to be different, yn adrodd hanes Dinah, ei mam a'i merch Rachel Rowlands. Gweler y Daily Post.

 

Ymateb i newid yn yr hinsawdd

Mae 'Ffyrdd o fyw newydd ar gyfer Cymru Un Blaned' yn gynhadledd ddeuddydd i archwilio'r angen i ni, fel unigolion ac aelodau o'n cymunedau, newid ein ffordd o fyw er mwyn mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Fe'i chynhelir ar 25-26 Medi yn yr Ardd Fotaneg a Pharc y Scarlets, Llanelli, a'i threfnu gan y Sefydliad Materion Cymreig a Chynnal Cymru. Manylion

 

Diogelwch bwyd

Mae llywodraeth y DU wedi cynhyrchu adroddiad newydd ar ddiogelwch bwyd ac yn gofyn am awgrymiadau ar sut i lunio system fwyd ddiogel erbyn 2030. Gweler gwefannau'r y BBC a gwefannau Defra.

 

Rhestr werdd Cymru

Fe’ch gwahoddir i enwebu pobl sy’n mynd i’r afael â chynaladwyaeth a newid yn yr hinsawdd. Os ydych yn gwybod am rywun sy’n gweithio i wneud eu cymunedau’n llefydd gwell i fyw ynddynt, neu sydd â’u ffordd o fyw yn wirioneddol wyrdd, e-bostiwch walesgreenlist@sustainwales.com, erbyn 14 Medi 2009. Ceir rhagor o wybodaeth yn www.cynnalcymru.com.

 

Cyfleoedd gwaith

Mae'r Ganolfan yn recriwtio staff i'n prosiect newydd sy’n dwyn y teitl Gwell Gysylltiadau Busnes Organig. Y nod yw datblygu marchnadau hen a newydd ar gyfer cynnyrch organig, gan hybu datblygiadau newydd ar hyd y gadwyn fwyd or' gynhyrchydd i'r gwsmer. Y dyddiad cau yw 18 Medi. Rhowch wybod i unrhyw un a allai fod â diddordeb yn hyn. Mwy o wybodaeth

 

Yn y newyddion

Mae Canolfan Organig Cymru yn awr yn cynhyrchu datganiadau i’r wasg yn rheolaidd. Isod, rhestrir rhai erthyglau ar ffermio organig yng Nghymru a ymddangosodd yn y wasg yn ddiweddar.

Open day aims to encourage more organic pullet rearing Farmers Weekly Interactive, 20-08-09

Organic Wales

 

Back to top

 

Welsh organic producers conference: 15 October

This year's conference will be held at Aberystwyth, as the usual venue at the Builth is not available. Food security and Glastir will be discussed in plenary sessions and there will also be a range of workshops on technical matters and marketing. Details will be mailed to all producers shortly, and published on our Events page.

 

Dinah Williams

The death has sadly been announced of Dinah Williams, of Brynllys, Borth at the age of 98. Dinah was a founder member of the Soil Association and Brynllys became the first certified organic dairy farm in Britain, as well as the home of Rachel's yoghurt. A recent book, They dared to be different, tells the story of Dinah, her mother and her daughter Rachel Rowlands, and was featured in the Daily Post.

 

Responding to climate change

'Life Change for a One Planet Wales' is a two-day event which will explore how we, as individuals and members of our communities, need to change the way we live in order to tackle climate change. It is being held on 25-26 September at the Botanic Garden and Parc y Scarlets, Llanelli and is organized by the Institute of Welsh Affairs and Cynnal Cymru. Details

 

Food security

The UK government has produced a new report on food security and invited suggestions for how to design a secure food system by 2030. See the BBC and Defra websites.

 

The Wales green list

Nominations are invited for people who are tackling sustainability and climate change. If you know of someone who is working to make their community a better place, or who is living a truly green lifestyle, email walesgreenlist@sustainwales.com, by 14 September 2009. More information at www.sustainwales.com.

 

Job opportunities

OCW is recruiting staff for our new project Better Organic Business Links. The aim is to develop new, emerging and existing markets for organic produce whilst driving innovation all along the supply chain from producer to consumer. The closing date is 18 September. Please tell anyone you think may be interested. More information

 

In the news

Organic Centre Wales is now producing regular press releases. Some recent press coverage of organic farming in Wales is listed below.

Open day aims to encourage more organic pullet rearing Farmers Weekly Interactive, 20-08-09

Ffermio

 

Yn ôl i'r brig

 

Cymorth organig

Y mae cyfle ar gael i wneud cais am gymorth ariannol i drawsnewid rhagor o dir yn dir organig. Bydd ffenestr ar gyfer cymwysiadau yn agor cyn bo hir. Rhaid i ffermwyr gyflwyno cais sy’n cynnwys cynllun trawsnewid (sylwer nad yw cynlluniau OCIS yn dderbyniol). Pe ceir mwy o geisiadau nag y cyllidwyd ar eu cyfer, yna bydd yn rhaid eu blaenoriaethu. Gweler www.cefngwlad.cymru.gov.uk

 

Glastir

Mae’r sefyllfa parthed cymorth ariannol cyfredol i ffermio organig yn aneglur. Ymddengys bod mwy o gyfle i ffermwyr ymuno â’r cynllun lefel uwch nag y tybiwyd o’r blaen. Cadwch eich llygaid ar ein tudalennau polisi i gael rhagor o wybodaeth.

    Mae llythyr agored gan Nigel Elgar, cyfarwyddwr Graig Producers, i Elin Jones wedi cael sylw helaeth yn y wasg. Dywed y byddai ei incwm yn gostwng 47% o dan y cynigion newydd. Newyddion y BBC.

 

Perllannau Powys

A oes gennych berllan ym Mhowys? Yna, carai Dyfi Valley Seed Savers i chi gysylltu â hwy. Maent yn cynnal arolwg o berllannau fel rhan o brosiect a noddir gan Glasu. Cysylltwch â Chloe Ward ar 01654 702166.

 

Monitro bioamrywiaeth

Mae'r Shared Earth Trust ger Llanbedr Pont Steffan yn cynnig cwrs undydd ar fonitro bioamrywiaeth ar gyfer pobl broffesiynol. Rhaglen.

 

Ymweliadau ysgolion

Fe gwahoddir ffermwyr gogledd Cymru sydd â diddordeb mewn gweithio gydag ysgolion i ddigwyddiad rhwydweithio ar gyfer athrawon a ffermwyr yn fferm Bryndowsi, Conwy, ar 6 Hydref am 4-6 y hwyr. Bydd yn gyfle hefyd dysgu mwy am hyfforddiant CEVAS. Gweler digwyddiadau, isod.

 

Cylchgrawn am ddim

Mae’r Soil Association yn cynnig copi adolygu rhad ac am ddim o’i gylchgrawn Organic Farming. Fe’i hanfonir yn rhad i drwyddedigion, ond gall pawb arall danysgrifio am £20 y flwyddyn. Manylion

 

Marchnadoedd da byw

Bydd McCartney's yn cynnal ocsiwn da byw organig a chonfensiynol ar 25 Medi, 30 Hydref a 27 Tachwedd. Ffoniwch 01874 622386 i gael manylion.

Cynhelir ocsiwn organig nesaf Marchnad Da Byw Y Trallwng ar 9 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion.

Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal marchnadoedd da byw organig ar 2 Hydref, 6 Tachwedd a 4 Rhagfyr. I gael manylion, ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com

 

Farming

 

Back to top

 

Organic support

There is an opportunity to apply for financial support to convert further land to organic. A window for applications will open shortly. Farmers must submit an application including a conversion plan (please note OCIS plans are not acceptable). In the event of more applications than the budget can cover, the applications will be prioritised. Keep an eye on www.countryside.wales.gov.uk.

 

Glastir

The situation regarding on-going support for organic farming is unclear. It appears there will now be opportunities for more farmers to enter the higher level scheme than was previously thought. Keep an eye on our policy pages for further information.

     An open letter from Nigel Elgar, director of Graig Producers, to Elin Jones has received widespread media coverage. He says that his income would fall by 47% under the new proposals. BBC News.

 

Powys orchards

Do you have an orchard in Powys? Then Dyfi Valley Seed Savers would like to hear from you. They are surveying orchards as part of a project funded by Glasu. Contact Chloe Ward on 01654 702166.

 

Monitoring biodiversity

The Shared Earth Trust near Lampeter is offering a one-day course on biodiversity monitoring for professionals. Programme.

 

School visits

Farmers in north Wales who are interested in working with schools are invited to a teacher/farmer networking event at Bryndowsi farm, Conwy, on 6 October at 4-6pm. It will be opportunity also to find out more about CEVAS training. See Events, below.

 

Magazine offer

The Soil Association is offering a free review copy of its Organic Farming magazine. It is sent free to licensees, but anyone else may subscribe at £20 a year. Details

 

Livestock sales

McCartney's will hold joint auctions for organic and conventional livestock on 25 September, 30 October and 27 November. Call 01874 622386 for details.

Welshpool Livestock Sales’ next organic auction will be on 9 November. Call 01938 553438 for details.

Carmarthen Livestock Centre is holding organic livestock marts on 2 October, 6 November and 4 December. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.

 

Bwyd a'r defnyddiwr

 

Yn ôl i'r brig

 

Gwobr bwyd

Mae’r Arglwydd Newborough, perchennog Ystâd y Rhug, wedi ei ddyfarnu yn un o Arwyr Bwyd Prydain gan gylchgrawn Countryfile y BBC. Daily Post

 

Y Gwledd Fawr

Mae Canolfan y Dechnoleg Amgen yn trefnu Gwyl Cynnal Bwyd ar 3 Hydref. Bydd yn cynnwys marchnad ffermwyr, trafodaethau a  gweithdai i'r teulu. Gweler Digwyddiadau, isod.

 

Cynhadledd farchnata

Selling organic: what's the story? yw teitl cynhadledd i'w chynnal yn Llundain ar 8 Hydref. Mae Laurence Woodward a Craig Sams ymhlith y siaradwyr, ac fe drefnir y digwyddiad gan Organic Farmers and Growers. Manylion

 

Ymgyrch 10:10

Ymunwch â’r ymgyrch i leihau eich tarthiadau deuocsid carbon 10% erbyn 2010. Gweler www.1010uk.org

 

Pythefnos organig 5-20 Medi

Am fanylion ewch i wefan y Soil Association.

 

Ar y We

www.coedhills.co.uk Canolfan y Celfyddydau Gwledig Coed Hills, ger Gaerdydd

www.gmwatch.org/ gwefan newydd GM

Food and consumer

 

Back to top

 

Food award

Lord Newborough, owner of the Rhug Estate has been named one of Britain’s top 20 Food Heroes by the BBC’s Countryfile magazine. Daily Post

 

The Big Feast

The Centre for Alternative Technology is organizing a Sustainable Food Fayre on 3 October. It will include a farmers' market, talks and workshops for the family. See Events, below.

 

Marketing conference

Selling organic: what's the story? is the title of a conference to be held in London on 8 October. Speakers include Laurence Woodward and Craig Sams, and the event is backed by Organic Farmers and Growers. Details

 

10:10 campaign

Join the campaign to cut your carbon dioxide emissions by 10% in 2010. See www.1010uk.org.

 

Organic fortnight 5-20 September

For details see the Soil Association website.

 

On the Web

www.coedhills.co.uk Coed Hills Rural Arts Centre, near Cardiff

www.gmwatch.org the new GM website

Ymchwil

 

Yn ôl i'r brig 

 

Adroddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Mae mwy o sylw wedi cael ei roi i adroddiad yr Asiantaeth Safonau Bwyd sy’n honni nad yw bwyta bwyd organig yn dod ag unrhyw fanteision yn ei sgil. Ceir sylwadau gan yr Organic Center yn yr UD a’r Soil Association.

 

Orgprints

Cofiwch – chwiliwch am gyhoeddiadau organig ar http://orgprints.org, sef archif mynediad agored rhyngwladol ar gyfer papurau sy’n ymwneud ag ymchwil mewn amaethyddiaeth organig.

 

Organic Inform

Darllenwch am y gwaith ymchwil organig diweddaraf yn www.organicinform.org 

Research 

 

Back to top

 

FSA report

There has been more coverage of the Food Standards Agency report which showed no nutritional benefits from eating organic food, with comments from the US Organic Center and the Soil Association.

 

Orgprints

Remember – you can search for organic publications on http://orgprints.org, an international open access archive for papers related to research in organic agriculture.

 

Organic Inform

Keep up with the latest in organic research at www.organicinform.org

Digwyddiadau

 

Yn ôl i'r brig

 

Mae COFRESTRU Yn gynnar yn ein helpu i sicrhau na fydd digwyddiadau yn cael eu canslo oherwydd niferoedd isel.

 

15 Medi 2.00 y p. Sioe ben ffordd y Soil Assoc. ar gyfer cynhyrchwyr. MYNEDIAD YN RHAD AC AM DDIM – ffoniwch i gadw lle. Chapel Farm, Pershore, Worcestershire. Ffoniwch 0117 914 2400 neu  ff@soilassociation.org 

16 Medi (dydd Mercher) 1.30 Gwneud Elw o Gynlluniau Iechyd Anifeiliaid. Rhyd y Criw, Llanegryn, Tywyn Philip Jones Canolfan Organig Cymru: 01970 622248.

16 Medi (dydd Mercher) 10.00-4.30 Digwyddiad a drefnir gan y Soil Association, ond sy’n agored i bawb: Proffidioldeb a lles anifeiliaid, Hafod a Hendre, Maes Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Maria Glendenning: 0117 9142400 ff@soilassociation.org 

17 Medi 2 y p. Taith gerdded o amgylch fferm wedi ei threfnu gan y Grŵp Cynghori ar Ffermio a Bywyd Gwyllt, Argoed Farm, CH7 6QQ FWAG Cymru, 01341 421456.

19 Medi (dydd Sadwrn) Ffair Fwyd Aberystwyth, Aberystwyth Carolyn Wacher Canolfan Organig Cymru: 01970 621852

22 Medi (dydd Mawrth) 1.30 - 4.00 Cynhyrchu cig oen gorffenedig ar gyfer y farchnad organig. Pwllpeiran Philip Jones Canolfan Organig Cymru: 01970 622248

22 Medi (dydd Mawrth)* 1.30 - 4.00 Tyfu Cnydau Garddwriaethol heb Gynhyrchion Amddiffyn Cnydau. Hill Cottage Market Garden Knighton Philip Jones Canolfan Organig Cymru: 01970 622248 CALU - 01248 680450 calu@bangor.ac.uk.

24 Medi (dydd Iau) 1.30 - 4.00 Cyrraedd targedau pwysau byw mewn gwartheg stôr a aeafwyd. Great Bottom Farm, Raglan Philip Jones Canolfan Organig Cymru: 01970 622248

29 Medi (dydd Mawrth) 1.30-4.00 Cynnal Ffrwythlondeb Gwartheg Godro. Maerdy Farm, Grosmont, Y Fenni. Philip Jones: 01970 622248 Michael James DDC: 01554 748570.

03 Hydref (dydd Sadwrn) Y Wledd Fawr - Ffair Bwydydd Cynaliadwy. Gweler y daflen wybodaeth a’r ffurflen archebu ar gyfer stondinwyr. Canolfan Technoleg Amgen, Machynlleth Julie Bromilow: 01654 705996

b 4-6 yh Cyfarfod i ffermwyr ac athrawon yn fferm Bryndowsi, Conwy. Mari Jones or Jane Powell 01970 621530

15 Hydref (dydd Iau) Cynhadledd Cynhyrchwyr Organig "Addasu a Goroesi" Neuadd William Davies, IBERS, Aberystwyth. Carolyn Wacher Canolfan Organig Cymru: 01970 622248

20 Hydref 1.30 - 4.00 Lleihau costau drwy dyfu porthiant ar dir eich fferm. Pwllpeiran Philip Jones Canolfan Organig Cymru: 01970 622248

1, 2 Rhagfyr (dydd Mawrth/Mercher) Ffair Aeaf Llanelwedd. Carolyn Wacher Canolfan Organig Cymru: 01970 622248

 

Rhagor o ddigwyddiadau yn www.organic.aber.ac.uk/events 

Events

 

Back to top

 

EARLY REGISTRATION HELPS US TO ENSURE EVENTS ARE NOT CANCELLED DUE TO LOW NUMBERS

 

15 Sep 2.00 pm Soil Assoc. Producer Roadshow with Patrick Holden & Phil Stocker. FREE ENTRY - call to reserve + detailed directions. Chapel Farm, Pershore, Worcestershire please call 0117 914 2400 or email ff@soilassociation.org  

16 Sept (Wed) 1.30 Profiting from Animal Health Plans. Rhyd y Criw, Llanegryn, Tywyn Philip Jones  OCW 01970 622248

16 Sep (Wed) 10.00 - 4.30 SA event, open to non-members: Profitability and animal welfare Hafod a Hendre, Royal Welsh Showground Maria Glendenning 0117 9142400 ff@soilassociation.org

17 Sep 2pm Farm walk organized by the Farming and Wildlife Advisory Group Argoed Farm, Main Road, New Brighton, Mold, Flintshire, CH7 6QQ FWAG Cymru, 01341 421456;  

19 Sept (Sat) Aberystwyth Food Fair Aberystwyth Carolyn Wacher  OCW 01970 621852

22 Sept (Tues) 1.30 - 4.00 Producing finished lamb for the organic market Pwllpeiran Philip Jones  OCW 01970 622248

22 Sept (Tues)* 1.30 - 4.00 Grow Hort Crops without Crop Protection Products Hill Cottage Market Garden Knighton Philip Jones  OCW 01970 622248 CALU  - 01248 680450 calu@bangor.ac.uk,

24 Sept (Thurs) 1.30 - 4.00 Achieving target liveweight gains in overwintered store cattle. Great Bottom Farm, Raglan Philip Jones  OCW 01970 622248

29 Sept (Tues) 1.30 - 4.00 Maintaining Fertility in Dairy Cows Maerdy Farm, Grosmont Abergavenny. Philip Jones  OCW 01970 622248 Michael James DDC 01554 748570

03 Oct (Sat) The Big Feast - A Sustainable Food Fayre. See flier and booking form for stallholders Centre for Alternative Technology, Machynlleth Julie Bromilow, CAT 01654 705996

6 Oct (Tues) 4-6pm Farmer/teacher networking meeting at Bryndowsi Farm, Conwy. Mari Jones or Jane Powell 01970 621530

15 Oct (Thurs) Organic Producer Conference "Adapt & Survive" William Davies Hall, IBERS, Aberystwyth.  Carolyn Wacher  OCW  01970 622248

20 Oct (Tues) 1.30 - 4.00 Reducing farm costs through home-grown forages Pwllpeiran Philip Jones  OCW 01970 622248

1, 2 Dec (Tue/Wed) Winter Fair Builth Wells Carolyn Wacher  OCW 01970 622248

 

More events at www.organic.aber.ac.uk/events

Hysbysebion

 

Yn ôl i'r brig

 

Ar werth

7.5 acer o geirch yn y cae, yn barod i ddyrnu-fedi, ardal Llambed. 01570 434251. [7/9/09]

Gwartheg stôr organig a lloi organig wedi eu diddyfnu (Bustych a heffrod Henffordd a Simmental). O dan gyfyngiadau T.B. 07813 912116. [26/08/09]

Hwrdd o bedigri Hampshire Down, 2 flwydd oed. Cynhyrchu ŵyn tewion a besgwyd ar wair. Ar werth oherwydd ein bod yn lleihau ein stoc. Treberfedd Farm, Dihewyd, Llanbedr Pont Steffan:. 07970 081432. [24/08/09]

150 o feliau bychain o wair organig. I’w casglu o Benmachno. Ffôn: 01690 760350. [17/08/09]

Perchyll diddwyn Tamworth organig, yn barod nawr. Temple Bar ger Llanbedr Pont Steffan. UK5 AB18450. Rhif ffôn: 01570 471432.

Cywennod ar fin dodwy, 19 wythnos oed, Silver Nicks. Ieir dodwy organig rhagorol at ddibenion masnachol. Ffôn: 01974 241543.

Bridiau traddodiadol o dwrcïod – Norfolk Black, Bourbon Reds, Bronze. Ffoniwch: 01974 241543. [06/08/09]

Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o fuches Odro Friesian Brydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251 [hysbyseb barhaol]

Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk.

Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. 

Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).

 

Yn eisiau

Porfa aeaf organig ar gyfer 15-20 o ŵyn gwryw Cymreig. Ffôn: 01650 531251. [02/09/09]

Porfa aeaf organig ar gyfer 150 - 200 o ŵyn benyw Cymreig. Ffôn: 01650 531251. [02/09/09]

Porfa aeaf ar gyfer 700 o ddefaid sy’n ymddwyn yn dda. Gellir eu rhannu i grwpiau o 150. Hydref - Mawrth/Ebrill. Carl Thomas: 07968 168 379. [26/08/09]

Tir organig ar gyfer 50 o ŵyn benyw dros y gaeaf. Ffoniwch Mr O.G. Evans, Llanbedr, Gwynedd, 01341 241237. [25/08/09]

Oddeutu 200 o ŵyn cadw organig. Dyfed/Powys. Ffôn: 07891 056347. [24/08/09]

Porfa aeaf organig ar gyfer oddeutu 200 o ŵyn benyw o 1 Hydref hyd 1 Ebrill. Rhifau ffôn: 07828 156233 (yn ystod y dydd) neu 01970 832707(gyda’r nos). [17/08/09]

 

Amrywiol

Organics around Wales Tyfwyr a chyflenwyr llysiau, saladau a chynhyrchion llaeth organig. Croeso i ymholiadau masnachol Ffôn: 01558 669005 www.organicsaroundwales.co.uk 

Gwasanaeth maglu tyrchod daear – Gallwn reoli tyrchod daear ar dir eich fferm yn llwyddiannus heb unrhyw gemegau na ffrwydradau. Maglwyr profiadol dros ganolbarth a gorllewin Cymru. Fe’ch cynghorir i archebu’n gynnar. Geirda ar gael ar gais gan Dr. Matthew Rogers 07720 734129. www.molecontrol.uk.com

Mae Graig Producers Wales & Borders wedi cynrychioli buddiannau ei 350 o aelodau ac wedi marchnata eu cynnyrch am tua 15 mlynedd. Y mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol gyda Graig Producers South West and Caledonian Organics, gyda phŵer marchnata cydweithrediadol dros 700 o ffermwyr organig sy’n aelodau. Mae bod yn aelod yn dod â sawl mantais yn ei sgil ar wahân i ennill y pris gorau am eich da byw. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.graigproducers.co.uk neu i gael manylion ynglŷn â sut i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch farmers@graigproducers.co.uk. [hysbyseb parhaol]

 

Yr holl hysbysebion i’w cael yn www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Advertisements

 

Back to top

 

For sale

7.5 acres of standing oats, ready to combine, Lampeter area. Contact: 01570 434251. [7/9/09]

Organic Store Cattle and Weaned Calves (Hereford and Simmental Steers and Heifers) Under T.B. restriction 07813 912116. [26/08/09]

Pedigree Hampshire Down ram, 2 years old. Produce fat lambs from grass. Only for sale due to flock reduction. Treberfedd Farm, Dihewyd, Lampeter. 07970 081432. [24/08/09]

150 small bales of organic hay - collect - Penmachno.Phone: 01690 760350. [17/08/09]

Organic Tamworth Weaners ready now, Temple Bar nr Lampeter UK5 AB18450 phone number 01570 471432. [07/08/09]

Point of lay pullets 19 weeks, Silver Nicks, excellent organic commercial laying hens. tel 01974 241543. [06/08/09]

Traditional breed turkey poults and growers – Norfolk Black, Bourbon Reds, Bronze. Please tel. 01974 241543. [06/08/09]

Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert]

Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert]

Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert]

Organic pure bred Shetland sheep - all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge).  [permanent advert]

 

Wanted

Organic Wintering for 15- 20 Welsh ram lambs. Tel. 01650 531251. [02/09/09]

Organic Wintering for 150 - 200 welsh ewe lambs. Tel. 01650 531251. [02/09/09]

Wintering for 700 well behaved sheep. Can break down into groups of 150. October - March/April Carl Thomas 07968 168 379. [26/08/09]

Organic land for 50 ewe lambs over winter. Please contact Mr O.G. Evans, Llanbedr, Gwynedd, 01341 241237. [25/08/09]

Around 200 organic store lambs. Dyfed/Powys Tel: 07891 056347. [24/08/09]

Organic wintering tac for around 200 ewe lambs from 1st October to 1st April. Telephone No:- 07828 156233 (daytime) or 01970 832707(evening). [17/08/09]

 

Miscellaneous

Organics around Wales: Growers and suppliers of organic vegetables, salads and dairy products. Trade enquiries welcome. Tel 01558 669005 Website www.organicsaroundwales.co.uk

Mole trapping service - We can control your farmland moles successfully without any chemicals or explosions. Experienced trappers covering mid and west Wales. Early booking advised. References available upon request from Dr. Matthew Rogers 07720 734129. www.molecontrol.uk.com.

Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 350 members and marketed their livestock for around 15 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 700 organic farming members. There are many advantages to membership in addition to finding the best price for your livestock. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail farmers@graigproducers.co.uk.  [permanent advert] 

 

All adverts are posted at www.organic.aber.ac.uk/adverts.shtml 

Adborth

 

Yn ôl i'r brig

 

Dylech anfon eitemau newyddion, sylwadau a cheisiadau at Jane Powell, e-bost jnp@aber.ac.uk. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chanolfan Organig Cymru, IBERS, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, Cymru SY23 3AL, ffôn 01970 622248.

   Roedd dolenni a chysylltiadau'r bwletin hwn yn gywir wrth ei ddosbarthu, ond, weithiau, gallant newid ar ôl hynny. Os byddwch yn cael unrhyw broblemau wrth ddilyn y dolenni, cysylltwch â Jane Powell. Tra y gwneir pob ymdrech i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin, ni all Canolfan Organig Cymru a'i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail y Bwletin neu gyhoeddiadau eraill.

   Dylid anfon y cylchlythyr hwn ymlaen at unrhyw un a allai fod â diddordeb ynddo.

   Mae rhifynnau blaenorol yn www.organic.aber.ac.uk/bulletin

Feedback

 

Back to top

 

Please send news items, comments and requests to Jane Powell, e-mail jnp@aber.ac.uk. For more information contact Organic Centre Wales, IBERS, Aberystwyth University, Ceredigion, Wales SY23 3AL, tel. 01970 622248.

   The links in this bulletin were correct at the time it was sent, but may sometimes change afterwards. If you have any problems following the links, please contact Jane Powell. While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of the Bulletin or other publications..

   Please forward this newsletter to anyone who might be interested.

   Previous issues are at www.organic.aber.ac.uk/bulletin