Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Cartref | English | Chwilio
-
-
 
Canolfan | Organig | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau  

Canolfan Organig Cymru:

Sefydlwyd Canolfan Organig Cymru yn 2000 fel canolbwynt i daenu gwybodaeth am fwyd a ffermio organig yng Nghymru i gynhyrchwyr a phartïon eraill sydd â diddordeb. Yn 2003, cytunwyd y dylai ymestyn ei ffocws i gynnwys addysg gyhoeddus, caffael cyhoeddus, datblygu polisi a strategaeth, gan ddarparu fel hyn gefnogaeth i'r holl gymuned organig yng Nghymru. Fe'i lleolir ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae'r Ganolfan yn derbyn arian gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) a Chyswllt Ffermio (gyda chefnogaeth ychwanegol drwy Gyllid Amcan 5b EAGGF yr Undeb Ewropeaidd) i gyflawni'r swyddogaethau cydlynol ynghyd ag arian ychwanegol at ei gyflwyno drwy gontract Gwasanaeth Gwybodaeth Trosi Organig LlCC a Rhaglen Ddatblygu Organig Cyswllt Ffermio. 

Lleolir y Ganolfan ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth o dan reolaeth partneriaeth sy'n cynnwys tri sy'n weithgar ym maes ymchwil ffermio a throsglwyddo gwybodaeth organig yng Nghymru: ADAS Cymru, The Organic Research Centre Elm Farm, a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae staff creiddiol y Ganolfan yn gyfrifol am gydlynu'r gwahanol feysydd gweithgarwch gyda'r partneriaid yn gyfrifol i raddau helaeth am ddosbaarthu'r gwasanaethau i gynhyrchwyr ac eraill.

Cysylltwch a ni yn: Canolfan Organig Cymru, IBERS, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3AL. Ffon 01970 622248, Ffacs 01970 622238. e-bost: organic@aber.ac.uk. Llinell gymorth dechnegol 01970 622100.

Rhestr y staff

- Cysylltau Cyflym:  

Beth yw bwyd organig?

Hysbysebion
Ffermydd arddangos
Ystadegau

Prynu bwyd organig

 

- Manylion Cyswllt:  


Canolfan Organig Cymru

Sefydliad y Gwyddorau Gwledig,
Prifysgol Cymru Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3AL

Ffôn: 01970 622248
Ffacs: 01970 622238
organic@aber.ac.uk

Llinell Gymorth
01970 622100

 

Top of Page

  Canolfan | Organaidd | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau