Beth yw bwyd organig?:
|
Ystyr gyfreithiol sydd i'r term organig, wrth
sôn am fwyd. Mae'n golygu bod y bwyd wedi cael ei dyfu a'i brosesu
yn unol â rheolau arbennig.
Mae mwy o wybodaeth am y Safonau ar
y tudalen hwn ar wefan DEFRA. |
 |
Gweler hefyd: Beth yw ffermio organig?
|
Felly sut ydw i'n gwybod ei
fod yn organig?
Gwnewch yn siŵr fod y gair 'organig'
ar y label
- ac edrychwch ar y logo
 |
|
Beth
mae'r Safonau organig yn ei ddweud?
Lles anifeiliaid:
-
Rhaid bod digon o le
gan anifeiliaid i ymddwyn yn naturiol
-
Rhaid bod gan yr holl stoc
fynediad i dir pori lle bo modd
-
Ni chaniateir bwydo
gwartheg cig a godro'n ddwys na defnyddio cewyll ieir caeth
-
Dim rhoi gwrthfiotigau'n
rheolaidd
|
 |
|
Tyfu cnydau:
-
Mae tyfu gwahanol gnydau yn
yr un ardal yn golygu nad oes cyfle gan blâu ac afiechydon i gynyddu
o dymor i dymor
-
Ni chaniateir ond ychydig o
wrtheithiau artiffisial
-
Mae ffermwyr yn cynyddu
ffrwythlondeb y pridd drwy ddefnyddio tail a meillion
-
Ni chaiff ffermwyr organig
ond ddefnyddio nifer fach o blaleiddiaid a hynny o dan amgylchiadau
arbennig yn unig
-
Ni chaniateir
chwynleiddiaid ar ffermydd organig
|
 |
Ar
ôl faint o amser mae ffermwyr yn gallu cynhyrchu anifeiliaid a chnydau organig?
-
Bydd yn cymryd o leiaf ddwy
flynedd i fferm drosi i gynhyrchu'n organig
-
Rhaid i ffermwyr
gydymffurfio â Safonau ac er mwyn sicrhau hyn, maent yn cael eu harchwilio bob blwyddyn ac mae eu cynnyrch yn cael ei drwyddedu
Beth am
GMs?
Beth am bris bwyd organig?
 |
- Mae'r dulliau sy'n cael eu defnyddio gan ffermwyr organig yn
golygu y gall costau llafur fod yn uwch
- Yn gyffredinol, mae'r ffermwyr yn cael llai o gynnyrch na fermwyr
confensiynol, felly er mwyn aros mewn busnes, rhaid iddynt dderbyn
pris uwch am eu cynnyrch
- Gall fod yn ddrud cynhyrchu bwyd i anifeiliaid sydd wedi cael ei
dyfu'n organig
- Gall bwydydd organig wei'u prosesu fod yn ddrutach na bwydydd
confensiynol oherywydd bod cost y cynhwysion yn uwch a gall
cyfyngiadau organig eraill arwain at gostau uwch
- Weithiau, gall swmp llai a'r pellteroedd hirach a all fod ynghlwm
â bwydydd organig ffres a phrosesedig godi costau cynhyrchu a
marchnata
- Yn yr un modd ag unrhyw gynnyrch, pan fydd y galw'n uchel a'r
cyflenwad yn isel, bydd y pris yn codi ac ychydig iawn o reolaeth
sydd gan y ffermwr dros hyn!
|
Sut alla i
ddod o hyd i fwyd organig am bris rhesymol?
-
Yn aml, gellwch chi brynu'n
uniongyrchol oddi wrth y cynhyrchydd. Gall hyn fod drwy cynlluniau
blwch, o farchnadoedd y ffermwyr, gwerthu ar-lein, archebu drwy'r
post neu siopau fferm
-
Gall cynnyrch fod yn
rhatach yn ei dymor
-
Mae'r rhan fwyaf o
archfarchnadoedd a siopau cyfanfwyd yn gwerthu cynnyrch organig: os
nad ydych yn gallu dod o hyd iddo, gofynnwch amdano!
-
Trwy baratoi eich bwyd eich
hunan ac osgoi bwyd hynod brosesedig, efallai, at ei gilydd, na
fyddwch yn talu mwy na'r hyn y byddwch yn ei dalu am fwyd anorganig
-
I ddarganfod lle y gellwch
brynu bwyd organig, llawrlwythwch ein llyfryn 'Yn
lleol ac organig' neu edrych ar ein
tudalen manwerthu neu ein
rhestr busnesau organig yng
Nghymru
|

Llun: Janet Baxter |
Beth am
ansawdd bwyd organig?
-
Mae bwyd organig yn cynnwys
llai o waddodion y plaleiddiaid sy'n cael eu defnyddio mewn
amaethyddiaeth gonfensiynol, felly wrth brynu cynnyrch organig mae'n
llai tebygol y bydd eich bwyd yn cynnwys y gwaddodion hyn
-
Mae ymchwil yn awgrymu y
gall ffrwythau a llysiau organig gynnwys, ar gyfartaledd, lefelau
uwch o fitamin C a mwynau pwysig eraill
-
Ni chaniaeteir rhoi
gwrthfiotigau'n rheolaidd i anifeiliaid fferm
-
Ni fu erioed achos BSE
ymhlith anifeiliaid wedi'u geni a'u magu ar fferm organig
-
Ni chaniateir ond tua 30 o
ychwanegion, fel halen a phowdwr codi, mewn bwyd organig prosesedig,
o'u cymharu â mwy na 500 o ychwanegion a ganiateir mewn bwyd
anorganig prosesedig
-
Ni chaniateir seimiau
hydrogenaidd, sydd yn gysylltiedig â chlefyd y galon, mewn bwydydd
organig prosesedig
-
Cafwyd bod lefel uwch o
asidau brasterog hanfodol mewn anifeiliaid sydd wedi cael eu bwydo
ar gyfrannau uwch o laswellt a meillion
-
Dylai deiat iach fod yn
gytbwys gan gynnwys digon o ffrwythau a llysiau ffres. Gall
deiat, organig neu beidio, syn'n llawn bwydydd hynod brosesedig,
gynnwys lefelau afiach o siwgrau, seimiau dirlawn neu halen
|
 |
Ar gyfer taflen wybodaeth y Soil Association
am fwydydd organig mewn perthynas â maeth a iechyd
cliciwch
yma.
 |
Ydy
ffermio organig yn llesol i'r
amgylchedd?
-
Mae astudiaethau wedi
dangos, ar gyfartaledd, fod ffermydd organig sefydledig yn cynnal
niferoedd uwch ac amrywiaeth fwy toreithiog o adar, planhigion
gwyllt, pryfed a bywyd gwyllt arall, na ffermydd anorganig
-
Mae'r Safonau yn annog
ffermwyr organig i gynnal gwrychoedd, coed a chyrion caeau er mwyn
diogelu bywyd gwyllt
-
Mae defnydd ynni, ar
arbennig ynni sy'n gysylltiedig â gwneud gwrtaith a phlaleiddiaid,
yn tueddu i fod yn is o lawer ar fermydd organig
|
Ar gyfer crynodob o fanteision
amgylcheddol ffermio organig gan Defra,
cliciwch yma
Beth
yw dyfodol ffermio organig yng Nghymru?
-
Datblygodd Llywodraeth
Cynulliad Cymru gynllun gweithredu organig ym 1999, o flaen Lloegr
a'r Alban, ac mae'n dal i gefnogi ffermwyr organig
-
Mae Llywodraeth Cynulliad
Cymru yn annog darparu mwy o fwyd wedi'i gynhyrchu yng Nghymru, gan
gynnwys bwyd organig, mewn ysgolion, ysbytai a sefydliadau cyhoeddus
eraill
-
Mae cwmniau bwyd mawr yn
buddsoddi'n gynyddol mewn cynnyrch organig newydd, yn aml gyda
chefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Canolfan Organig
Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cynulliad CYmru i hybu ffermio
organig. Gweler yr adran adran polisi
|
:
Llun: Jeremy Moore
|
|
Sut alla i gael gwybod mwy am
fwyd a ffermio organig a bod yn rhan o'r dyfodol organig yma? |

|
Llun: Treehouse Aberystwyth |
-
Ceisiwch ragor o wybodaeth am fwyd a ffermio organig gan un o'r
cyrff niferus sydd yn ei gefnogi. Ceir rhai ar y rhestr isod:
-
Gofynnwch am fwyd organig os na chewch chi ddod o hyd iddo mewn siop
neu dŷ bwyta
-
Ymwelwch â marchnadoedd y fermwyr a phrynwch oddi wrth gynhyrchwyr
organig yn uniongyrchol
-
Tyfwch eich bwyd organig eich hunain a dechreuwch domen gompost.
Dyma'r fordd orau i sicrhau bod eich cynnyrch yn rhydd o
blaleiddiaid. Am wybodaeth gweler gwefan
Garden Organic
-
Ewch
ati i weld a oes fferm organig gerllaw sy'n croesawu ymweliadiau gan
y cyhoedd:
gweler rhestr y Soil Association
yma
-
Ffoniwch Linell Gymorth
Canolfan Organig Cymru am fwy o wybodaeth 01970 622100
|
|
English
Yn
ôl i'r brig
|