Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Home | Cymraeg | Search
-
-
 
About OCW | About Organics | Research | Farmers | Markets | Policy | Schools | Publications | Events  

Beth yw ffermio organig?:

Gellir diffinio ffermio organig fel ffordd o amaethu sy’n anelu at greu sustemau cynhyrchu amaethyddol integredig a thrugarog, sydd hefyd yn gynaliadwy yn amgylcheddol ac yn ariannol. Rhoddir pwyslais ar ddefnyddio adnoddau adnewyddol sy’n dod o’r fferm ei hun neu o’r ardal leol, ac ar reoli prosesau ac ymadweithiau ecolegol a biolegol. Ei nod yw cynhyrchu lefelau derbyniol o gnydau, y da byw a maeth i bobl, yn ogystal â dulliau o atal plâu a heintiau, a chael dychwelion priodol am yr adnoddau dynol a’r adnoddau eraill a ddefnyddir. Anelir at ddefnyddio llai o bethau o’r tu allan i’r fferm, yn organig neu’n gemegol. Mewn llawer o wledydd Ewrop gelwir amaeth organig yn amaeth ecolegol, sy’n adlewyrchu faint y mae ffermio organig yn dibynnu ar reoli ecosustemau, yn hytrach na dibynnu ar y mewnbwn o’r tu allan.

 

Cynaliadwyedd sydd wrth wraidd ffermio organig a dyna un o’r prif elfennau sy’n penderfynu a yw rhyw arfer cynhyrchu penodol yn dderbyniol ai peidio. Defnyddir y gair ‘cynaliadwy’ yn ei ystyr ehangaf, nid yn unig i gwmpasu cadwraeth o ran adnoddau nad oes modd eu hadnewyddu (pridd, ynni, mwynau) ond hefyd materion o gynaliadwyedd amgylcheddol, ariannol a chymdeithasol. Y ffordd orau o feddwl am y term ‘organig’ yw drwy feddwl am y fferm fel rhywbeth byw, lle y mae’r holl rannau – y mwynau yn y pridd, y mater organig, y meicro-organeddau, y pryfed, y planhigion, yr anifeiliaid a’r bobl – yn cyd-fynd i greu cyfanwaith sefydlog a chyfannol.

 

Dyma brif nodweddion ffermio organig:

 

 diogelu ffrwythlondeb hirdymor y priddau drwy gynnal y lefelau o ddeunydd organig yn y pridd, annog gweithgarwch biolegol yn y pridd, ac ymyrred, yn ofalus, yn fecanyddol;

 

 darparu maethynnau i gnydau yn anuniongyrchol drwy ddefnyddio ffynonellau o faethynnau nad ydynt yn toddi’n hawdd ac sydd ar gael i’r planhigion drwy weithgarwch meicro-organebau yn y pridd;

 

 bod yn hunangynhaliol o ran nitrogen drwy dyfu codlysiau a defnyddio sefydlogi nitrogen biolegol, yn ogystal ag ailgylchu deunydd organig yn effeithiol, megis gweddillion cnydau a thom da byw;

 

 rheoli chwyn, heintiau a phlâu drwy ddibynnu yn bennaf ar gylchdroi cnydau, denu ysglyfaethwyr naturiol, amrywio’r cynnyrch, defnyddio dom organig, tyfu mathau o gnydau sy’n gallu gwrthsefyll heintiau a thrwy ychydig (cyn lleied â phosib) o ymyrraeth wresol, biolegol a chemegol;

 

 rheoli da byw drwy ddefnyddio dulliau llai dwys, gan roi sylw i’w haddasiadau esblygiadol, eu anghenion ymddygiadol, a materion lles yr anifeiliaid o ran maeth, lle y’u cedwir, eu hiechyd, bridio a magu;

 

 sylw gofalus i sut mae’r sustem amaeth yn effeithio ar yr amgylchedd ehangach ac ar gadwraeth bywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol.

 

Yn ol i Beth yw bwyd organig?

 

English

- Quick Links:  


About organic food

Statistics

Adverts

Press releases

Buy organic food

 

 


- Contact Details:  


Organic Centre Wales

Institute of Rural Sciences,
University of Wales Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3AL

Tel: 01970 622248
Fax: 01970 622238
organic@aber.ac.uk

Technical helpline
01970 622100

 

Top of Page

  About OCW | About Organics | Research | Farmers | Markets | Policy | Schools | Publications | Events