Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Cartref | English | Chwilio
-
-
 
Canolfan | Organig | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau  

 

Ymweliadau ysgol â fferm Ty Gwyn Mai 2003:

Daeth 40 o ddisgyblion a'u hathrawon o Ysgol Myfenydd i uned llaeth organig Ty Gwyn, Trawsgoed, i weld fferm ar waith.

Heather McCalman o IGER a Jane Powell o Ganolfan Organig Cymru arweiniodd y ddau ymweliad.

 

Aeth y grwpiau o gwmpas y clos, y beudy a'r parlwr godro, gan ddysgu sut mae'r staff yn gofalu am y gwartheg ac yn eu godro, ac i beth mae slyri a silwair yn cael eu defnyddio.

Wedyn, dyma nhw'n crwydro'r caeau gan adnabod rhai o'r planhigion a bywyd gwyllt sydd yn byw yno.

Yn ol yn yr ysgol, fe ysgrifenon nhw gerddi a dylunio posteri a gawsant eu beirniadu gan yr Athro Theodorou o IGER. Cartonau o laeth cyflas a roddwyd gan Trioni a thocynnau llyfrau gan Calon Wen oedd y gwobrau. 

Dyma enghreifftiau o'u gwaith.  

 

Cerdd i Fferm Ty Gwyn

Mwd fel siocled wedi toddi

Gwartheg yn pori'n dawel

Adar yn canu eu caneuon ac yn hedfan uwchben

Yd fel coes creyr piws.

Pryfed bach a mawr yn crwydro o amgylch

Cae wedi'i aredig yn cael ei ymosod gan adar!

Blodau gwyllt ym mhobman bron

Dom da yn cael ei wasgaru dros y cae

Silwair yn y bagiau du anferth,

Cacen buwch yn cael ei fwydo i'r lloi

Parlwr godro yn lân fel esgidiau newydd.

Fferm organig yw fferm Ty Gwyn!

 

A poem for Ty Gwyn farm

Animals chatting

The birds tweeting

Shiny happy flowers growing nice and bright

The ladybirds are with their family

Insects hiding under rocks and mud

Colourful beetles playing in the rain

Kids searching all around for creatures

All types of plants like soldiers closing in on us

The cows were scared!

When they saw and heard loud children.

Wouldn't you be if you were a cow?

 

Y tudalen yma yn Saesneg / this page in English 

Am fwy o wybodaeth am brosiectau ysgolion cysylltwch a Jane Powell ar 01970 621530.

- Cysylltau Cyflym:  

Beth yw bwyd organig?

Hysbysebion
Ffermydd arddangos
Ystadegau

Prynu bwyd organig

 

- Manylion Cyswllt:  


Canolfan Organig Cymru

Sefydliad y Gwyddorau Gwledig,
Prifysgol Cymru Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3AL

Ffôn: 01970 622248
Ffacs: 01970 622238
organic@aber.ac.uk

Llinell Gymorth
01970 622100

 

Top of Page

  Canolfan | Organaidd | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau