|
Gwaith polisi yng
Nghanolfan Organig Cymru:
Fel rhan o'n contract â Llywodraeth
Cynulliad Cymru, mae gan Ganolfan Organig Cymru ddyletswydd i roi
gwybodaeth a chyngor ynghylch sut mae polisïau'n effeithio ar
ffermwyr a ffermio organig yng Nghymru. Mae hyn yn golygu ein bod yn
ymateb i unrhyw ddogfennau
yngynghorol a gyhoeddir, a chydweithio â swyddogion y Cynulliad
ar faterion megis y Cynllun Ffermio Organig, taliadau cynhaliaeth,
a'r cynlluniau Tir Gofal a Thir Cynnal.
Mae gwybodaeth am faterion cyfredol yma
(Saesneg).
Y ffordd orau o wneud y gwaith hwn, yw drwy gadw mewn cyswllt
rheolaidd â ffermwyr, a chael atborth ganddyn nhw. Felly, os oes
gennych chi farn neu syniadau am grantiau a chynlluniau, neu rywbeth
i ddweud am sut bydd rheolau newydd yn effeithio ar ffermio organig,
cysylltwch â Sue Fowler (01970
621627).
|
 |
Sefydlwyd Canolfan Organig Cymru ar ôl i Lywodraeth Cynulliad Cymru
nodi bod angen canolfan a allai roi gwybodaeth ddiduedd i ffermwyr. Yn
2002 ailystyriodd Pwyllgor Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig y Cynulliad
Cenedlaethol y nod hwnnw a'r adnoddau a roddwyd er mwyn cyrraedd y nod
hwnnw (Gweler yr Arolwg
o Bolisi Ffermio Organig). Ers hynny, estynnwyd ein cylch gwaith i
gynnwys marchnata, addysg gyhoeddus ac i roi mwy o bwyslais ar bolisi.
Yn ddiweddar fe gyhoeddodd y Grwp Strategaeth Organig ei
ail Gynllun
Gweithredu Organig i Gymru. Mae Carwyn Jones, y Gweinidog Amaeth, wedi
rhoi ei sêl bendith ar y rhan fwyaf o'r 65 argymhelliad, ond roedd yn
betrusgar ynghylch yr argymhellion sy'n ymwneud â newid genynnau cnydau
(GM) ac nid oedd yn awyddus i gymeradwyo awgrymiadau bod bwyd organig yn
iachach na bwyd a gynhyrchir drwy ddulliau cyffredin. Drwy gydol 2005 gweithiwn ni i sicrhau bod pawb sy'n
ymwneud â'r sector organig - sef cynhyrchwyr, proseswyr, cyfanwerthwyr,
manwerthwyr a phrynwyr - yn gallu cydweithio a helpu i ddatblygu'r gymuned
ffyniannus o bobl sydd â diddordeb mewn ffermio organig yng Nghymru, yn
unol â'r Cynllun Gweithredu.
Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni isod:
Efallai i bydd gennych ddiddordeb mewn:
Cyrff eraill:
|