|
English
Ysgolion:
|
Newydd: Mae ein DVD dwyieithiog i
ysgolion, Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd, yn dangos plant ysgolion
cynradd yn dysgu am gynhyrchu bwyd trwy ymweld â ffermydd,
garddio, marchnadoedd y ffermwyr, coginio a phryd bwyd ysgol.
Gwyliwch y fideo (7 munud) neu fynnwch gopi gan
Jane Powell
Lawrlwythwch y
daflen wybodaeth
a gweld llun o'r lansiad gydag Elin
Jones AC. |
 |
Hefyd:
gwyliwch adroddiad fideo am bryd bwyd Rafael Ysgol Llandysul,
Ceredigion,
yma (4 mun). Gyda diolch i Tinopolis a wnaeth y fideo ar gyfer
rhaglen Wedi 3 ar S4C, 22.10.07.
Darllenwch am ein prosiect prydau bwyd ysgolion Rafael
2006, gydag ysgolion yn Wrecsam ac Ynys Mon,
yma, ac am brosiect 2007 gydag ysgolion yn
y Trallwng, Llandysul a Bro Ogwr yma.
|
Mae Canolfan Organig Cymru'n cydweithio â ffermydd
organig ac ysgolion i hyrwyddo dealltwriaeth o fwyd a ffermio
ymhlith myfyrwyr ysgol. Bydd hyn yn digwydd drwy ymweliadau â
ffermydd, tyfu bwyd ar dir yr ysgol, llunio bwydlenni iach ac felly
ymlaen.
Rydym yn gwneud hyn drwy roi gwybodaeth i ysgolion a
ffermydd. Gweler ein tudalenau am restr o ffermydd y
gellir ymweld â nhw, cyrff sy'n gweithio ag ysgolion ac adnoddau
sy'n ymwneud â ffermio, bwyta'n iach ac addysg amgylcheddol. Dewch i
ymweld â fferm organig
Cysylltiadau
organig ar gyfer ysgolion
|
 |
Gallwn hefyd helpu wrth ddod o
hyd i fwyd organig ar gyfer prydau bwyd mewn ysgolion: gweler ein
cyfeiriadur masnach
|
Tyfu'r Dyfodol
Growing the Future |
Ym mis Mawrth 2005, sefydlodd Canolfan Organig Cymru
rwydwaith Tyfu'r Dyfodol, gan gysylltu projectau sy'n ymwneud
â bwyd organig a lleol mewn prydau bwyd
ysgolion ac addysg. Mae'r rhwydwaith wedi cynnal dwy gynhadledd, gan
ddod â ffermwyr, cwmniau bwyd, athrawon,
cydlynwyr Ysgolion Iach, staff caffael ac arlwyo'r awdurdodau lleol,
grwpau cymunedol ac eraill, er mwyn datblygu agenda ar gyfer bwyd mewn
ysgolion. Cliciwch
yma am fanylion. |
 |
Mae Canolfan Organig Cymru hefyd yn gweithio gyda
FACE (Addysg Ffermio a
Chefn Gwlad) i gynorthwyo disgyblion i ddysgu am y gwaith
gwirioneddol o ffermio a chynnal cefn gwlad
Mae'r Ganolfan yn gweithio gyda'r prosiectau
canlynol i hyrwyddo gwaith FACE:
|
|
 |
Mae Canolfan Organig Cymru yn gweithio gyda
Garden Organic for Schools i hybu garddio mewn ysgolion, ac
rydym wedi cyfieithu rhai o'u taflenni i'r Gymraeg.
Cliciwch yma. |
Am fwy o wybodaeth am brosiectau
gydag
ysgolion cysylltwch â Jane Powell ar
01970 622248.
|