Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Cartref | English | Chwilio
-
-
 
Canolfan | Organig | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau  

English

Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd:

Bu'r Gweinidog Dros Faterion Gwledig, Elin Jones AC, yn ymweld â fferm Blaencamel yng Ngheredigion ddydd Gwener 18 Ebrill i lansion DVD newydd i ysgolion, Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd, a gomisiynwyd gan Ganolfan Organig Cymru a FACE Cymru. Yma mae'n sefyll gydag Anne Evans, tyfwraig organig, a grwp o blant o ysgolion cynradd Tregaron a Chilcennin.

Cafodd y DVD dwyieithog 7-munud ei gynhyrchu a’i gyfarwyddo gan Nick Rebbeck, Swyddog Addysg gyda Dysgu ar y Fferm. Mae’n dilyn nifer o ysgolion cynradd wrth iddynt gael blas ar brofiad ‘Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd’. Mae hyn yn cwmpasu ymweliadau â ffermydd, garddio, ymweld â marchnad ffermwyr ar dir yr ysgol, paratoi a choginio llysiau ar y Bws Coginio a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a mwynhau cinio ysgol o fwyd lleol.

Mae’n gorffen gyda chymeradwyaeth gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt AC, ac mae’n ategu sawl prosiect y Cynulliad, gan gynnwys Blas am Oes, y cynllun bwyd ysgolion. Dosberthir y DVD i ysgolion ar draws Cymru yn rhad ac am ddim. Cyllidwyd y cynhyrchiad gan RAFAEL, prosiect yr UE i hybu ‘bwyd go iawn’ yn ardal yr Iwerydd.

Am fwy o wybodaeth ewch yn ôl i'r brif dudalen ysgolion

Yn ôl i brif dudalen ysgolion

- Cysylltau Cyflym:  

Beth yw bwyd organig?

Hysbysebion
Ffermydd arddangos
Ystadegau

Prynu bwyd organig

 

- Manylion Cyswllt:  


Canolfan Organig Cymru

Sefydliad y Gwyddorau Gwledig,
Prifysgol Cymru Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3AL

Ffôn: 01970 622248
Ffacs: 01970 622238
organic@aber.ac.uk

Llinell Gymorth
01970 622100

 

Top of Page

  Canolfan | Organaidd | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau