Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Cartref | English | Chwilio
-
-
 
Canolfan | Organig | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau  

Dewch i ymweld â fferm organig:

Gall ymweliad â fferm organig gwrdd â thargedau'r cwricwlwm mewn ffordd sy'n hwyl, yn weithredol ac yn brofiadol, gan gynnwys gwaith maes, anifeiliaid ffermydd, cynefinoedd a bywyd gwyllt. Am ragor o fanylion cysylltwch â'r ffermydd eu hunain neu Canolfan Organig Cymru, 01970 622248.

Ynys Môn, Gwynedd, Conwy

 
Blaen-y-Nant

Mae defaid, gwartheg a chynefinoedd bywyd gwyllt rhagorol ar y fferm fynydd weithredol 302 ha yma yn Eryri.  Cysylltwch â: Gwyn Thomas, Blaen-y-Nant, Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd LL57 3DQ T: 01248 600400. www.blaenynant.co.uk

Un o ffermydd arddangos y Soil Association (cliciwch yma)

Hafod-y-Llan

Yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’r fferm 1660 ha hon yn ymestyn o waelod y cwm I gopa’r Wyddfa. Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolfan Deilan Las, Craflwyn, Beddgelert, Caernarfon, Gwynedd LL5 4NG neu gweler www.hafodyllan.org.uk  

Un o ffermydd arddangos y Soil Association(cliciwch yma)

 

Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam

Stad y Rug

Mae fferm y Rug yn ymestyn dros 1050 hectar (ha) gan gynnwys 90 ha o goetir llydanddail ynghyd â 551 ha o dir mynydd, sy’n golygu mai hon yw un o ffermydd organig mwyaf Cymru. Cysylltwch â Stad y Rug, Corwen, Sir Ddinbych LL21 0EH. 

T: 01490 413000 neu www.rhugorganig.com 

Ceredigion, Gogledd Powys

gweler hefyd www.midwalesfoodandlandtrust.org.uk

Bwlchwernen Fawr

Mae Bwlchwernen Fawr wedi bod yn organig er 1973. Mae 60 buwch Ayrshire yn cael eu godro, mae buches biff fach, ac fe dyfir ceirch a moron hefyd. Cysylltwch  Patrick a Becky Holden, Bwlchwernen Fawr, Llwynygroes, Ceredigion. T: 01570 493244. Am ymweliadau addysgiadol, cysylltwch â Nick Rebbeck, 'Learning on the Farm' - 01570 470470 www.learningonthefarm.org.uk.

Ynys-hir

Gwarchodfa natur yr RSPB a reolir yn organig, gyda chroeso i grwpiau ysgol. Cysyllter â: Monica Lloyd-Williams, Gwarchodfa Natur Ynys-hir yr RSPB, Eglwys-fach, Machynlleth, Powys SY20 8TA. T: 01654 700222. species@rspb.org.uk 

Llyn Efyrnwy

Mae Gwarchodfa Natur yr RSPB yn Llyn Efyrnwy yn darparu ystod o raglenni addysgol o Gyfnod Allweddol 1 hyd at lefel gradd. Gellir cynnwys ymweliad â Fferm Llyn Efyrnwy, partneriaeth organig arloesol, yn y rhaglen. Am fanylion pellach, cysylltwch â Janet Evans ar 01691 870617. Gweler www.rspb.org.uk 

Cannon Farm

Mae gan y fferm ucheldir hon ddefaid, gwartheg Duon Cymreig a Highland, ystod eang o gynefinoedd a golygfeydd rhagorol. Nigel Elgar, Cannon Farm, Llanerfyl, Welshpool, Powys SY21 0JJ. Tel 01938 820251. Gweler www.cannonfarm.co.uk 

Dyffryn

Fferm fach ar lawr gwlad, gyda choedtir, nentydd a phyllau. David a Sue Jones, Dyffryn, Aberhafesp, Newtown, Powys SY16 3JD. Tel. 01686 688817

Mentro Lluest

Prosiect cymunedol sydd yn cynnwys gardd llysiau organig ac yn croesawu ymweliadau gan ysgolion. Dorothy Brown, Mentro Lluest, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth SY23 3AU. Tel 01970 612114. enquiries@mentrolluest.orgwww.mentrolluest.org 

De Powys

Primrose Earth Awareness Trust

Prosiect addysgol yw’r Ymddiriedolaeth hon (PEAT) a leolir yn Felindre, ger Talgarth ym Mhowys. Mae'r ymddiriedolaeth yn gweithio mewn partneriaeth â'i chymydog, Canolfan Organig Primrose, fferm arddangos bach (1.5 acer) y Soil Association (cliciwch yma) sydd yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau drwy dulliau cynaliadwy. Mae PEAT yn cynnig rhaglen o ddiwrnodau gweithgareddau bywiog i ysgolion a all gynnwys ymweliadau a ffermydd. Cysylltwch â Carol neu Suzie, Primrose Earth Awareness Trust, Felindre, Aberhonddu, Powys, Cymru LD3 0ST, ffôn 01497 847634. info@primrosetrust.org.uk, gwefan www.primrosetrust.org.uk

Aberhyddnant

Fferm 90 ha ym Mannau Brycheiniog. Gwartheg, defaid, merlod, cywion ieir, hwyaid a gwyddau.  Cysylltwch â: Aberhyddnant, Crai, Aberhonddu, Powys LD3 8YS Ffôn/Ffacs: 01874 636797 Gwefan: www.abercottages.co.uk

Un o ffermydd arddangos y Soil Association (cliciwch yma)

Sir Benfro 

Canolfan Cefn Gwlad Clynfyw

Buchod duon Cymreig, moch, gwneud sercol, corsleoedd ac ynni adnewyddol yw rhai o’r pethau i’w gweld ar y fferm iseldir 200 erw yma. Cysylltwch â Jim Bowen, Canolfan Gefn Gwlad Clynfyw, Abercych, Boncath, Sir Benfro SA37 0HF. Ff: 01239 841236. Gwefan: www.clynfyw.co.uk 

Un o ffermydd arddangos y Soil Association (cliciwch yma)

Little Pencoed

Mae Little Pencoed yn fferm llaeth, llysiau a thir ar, gyda 120 ha. Mae 33 ha yn goedtir llydandail aeddfed gyda theithiau cerdded ardderchog. Mae'r fferm i'r gogledd o'r afon Cresswell, ger Cresswell Quay, ac mae sawl nodwedd hanesyddol. 85 o wartheg, tarw Hereford, Rosie'r poni, Squeak y dafad a Beth y collie sy'n gweithio. Cysylltwch â Bruce Carlisle, New Pencoed, Lawrenny, Kilgetty SA68 0PL. Tel: 01646 651010 Mob: 07788 680508

Treginnis Isaf

Gwyliau gweithio i blant dinas ar fferm organig gyda defaid, dofednod, geifr a moch. Cysylltwch â Mike Plant, Farm School Manager, Treginnis Isaf, St Davids, Haverfordwest SA62 6RS Tel: 01437 720840 Fax: 01437-721350. www.farmsforcitychildren.org 

Sir Gaerfyrddin

Dolgoch

Yn gorwedd mewn cwm coediog, mae llawer o nodweddion hanesyddol yn perthyn i’r fferm laeth yma a chredir iddi fod yn safle i’r eisteddfod gyntaf erioed ym 1140. Cysylltwch â Dôl-goch, Brongest, Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, SA 38 9EU Ffôn: 01239 851466. 

Un o ffermydd arddangos y Soil Association (cliciwch yma)

Llystyn

Fferm deuluol 86 hectare yw Llystyn, sydd ar fryn 160 m gyda golygfeydd prydferth 15 milltir i'r gogledd dwyrain o Gaerfyrddin. Du sugno a defaid, dau gi defaid, 11 o gathod, hefyd yn tyfu yd a llysiau. 6 ha o goedtir. Mae'r fferm yng Nghynllun Tir Gofal. Mae ysgubor wedi ei drosi yn llety hunan arlwyo sydd ar gael ar gyfer ymweliadau addysgol. Cysylltwch â: Cliff & Maureen Carnell, Llystyn, Brechfa, Carms, SA32 7RB Tel: 01267 202463

Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru

Mae stad yr Ardd Fotaneg yn cynnwys fferm organig, gyda gwartheg duon Cymreig, defaid, coedtiroedd a nentydd. Cyfunwch ymweliad fferm â diwrnod yn yr Ardd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Adran Addysg, Gardd Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, SA32 8HG. Ffon 01558 667150.

Sir Forgannwg

Y rhai agosaf yw Aberhyddant (Powys) a Maes-y-Beran (Sir Fynwy)

Sir Fynwy

Maes-y-beran Farm

Fferm eidion a defaid 56 ha yng nghwm Llanddewi Nant Hodni ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Defaid, gwartheg coch Dyfnaint, cywion ieir a gardd. Llwybrau fferm wedi'u harwyddo, llynnoedd, coetir a gweirgloddiau blodeuog. Croeso i bartïon ysgol a grwpiau diddordeb arbennig. Yn fodlon arwain teithiau tywys. Cysylltwch â Mark Morgan, Maes-y-beran, Llanddewi Nant Hodni, Y Fenni, Gwent, NP7 7NL Ffôn: 01873 890701.  Gweler www.llanthony-valley.co.uk

 

Gweler hefyd: Access to Farms, corff sy'n cynnal dwy wefan, Farms for teachers a Farms for schools, sy'n cynnwys cyfeiriadur ffermydd y gellir ymweld â nhw a gwybodaeth gyffredinol am ymweliadau ysgol â ffermydd. 

A ddylai'ch fferm chi gael ei rhestru yma? Danfonwch fanylion atom 

Yn ôl i brif dudalen ysgolion

- Cysylltau Cyflym:  

Beth yw bwyd organig?

Hysbysebion
Ffermydd arddangos
Ystadegau

Prynu bwyd organig

 

- Manylion Cyswllt:  


Canolfan Organig Cymru

Sefydliad y Gwyddorau Gwledig,
Prifysgol Cymru Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3AL

Ffôn: 01970 622248
Ffacs: 01970 622238
organic@aber.ac.uk

Llinell Gymorth
01970 622100

 

Top of Page

  Canolfan | Organaidd | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau