Bu disgyblion o 14 ysgol o dde a gorllewin Cymru
wrthi'n tyfu'u llysiau a blodau eu hunain yn yr ardd ddeufur ym
Mhlas Middleton, Gardd Fotaneg Genedlaethol
Cymru.
Bu
disgyblion o bob ysgol yn lluosogi eu planhigion eu hunain gan eu
plannu yn yr Ardd ym mis Mehefin mewn plotiau a gynlluniwyd ganddynt
Mae staff yr ardd yn chwynnu'r gerddi dros yr haf a
bydd yr ysgolion yn dychwelyd i gynhaeafu eu bwyd ym mis Medi.
Yna, byddant yn ei goginio yn yr ysgol fel rhan o'u dathliadau
diolchgarwch
De: Disgyblion o Aberaeron a gynlluniodd yr ardd hon
Am fwy o wybodaeth cysylltwch ag Adran
Addysg, Gardd Cymru, Llanarthne, Sir Gaerfyrddin, SA32 8HG. Ffon 01558 667150.