Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Cartref | English | Chwilio
-
-
 
Canolfan | Organig | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau  

English

Ysgolion:

Newydd: Mae ein DVD dwyieithiog i ysgolion, Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd, yn dangos plant ysgolion cynradd yn dysgu am gynhyrchu bwyd trwy ymweld â ffermydd, garddio, marchnadoedd y ffermwyr, coginio a phryd bwyd ysgol.

Gwyliwch y fideo (7 munud) neu fynnwch gopi gan Jane Powell

Lawrlwythwch y daflen wybodaeth a gweld llun o'r lansiad gydag Elin Jones AC.

Hefyd: gwyliwch adroddiad fideo am bryd bwyd Rafael Ysgol Llandysul, Ceredigion, yma (4 mun). Gyda diolch i Tinopolis a wnaeth y fideo ar gyfer rhaglen Wedi 3 ar S4C, 22.10.07.

Darllenwch am ein prosiect prydau bwyd ysgolion Rafael 2006, gydag ysgolion yn Wrecsam ac Ynys Mon, yma, ac am brosiect 2007 gydag ysgolion yn y Trallwng, Llandysul a Bro Ogwr yma.

Mae Canolfan Organig Cymru'n cydweithio â ffermydd organig ac ysgolion i hyrwyddo dealltwriaeth o fwyd a ffermio ymhlith myfyrwyr ysgol. Bydd hyn yn digwydd drwy ymweliadau â ffermydd, tyfu bwyd ar dir yr ysgol, llunio bwydlenni iach ac felly ymlaen.

Rydym yn gwneud hyn drwy roi gwybodaeth i ysgolion a ffermydd. Gweler ein tudalenau am restr o ffermydd y gellir ymweld â nhw, cyrff sy'n gweithio ag ysgolion ac adnoddau sy'n ymwneud â ffermio, bwyta'n iach ac addysg amgylcheddol.

 

Dewch i ymweld â fferm organig

Cysylltiadau organig ar gyfer ysgolion

children looking at vegetables on a market stall

Gallwn hefyd helpu wrth ddod o hyd i fwyd organig ar gyfer prydau bwyd mewn ysgolion: gweler ein cyfeiriadur masnach

 

Tyfu'r Dyfodol

Growing the Future

Ym mis Mawrth 2005, sefydlodd Canolfan Organig Cymru rwydwaith Tyfu'r Dyfodol, gan gysylltu projectau sy'n ymwneud â bwyd organig a lleol mewn prydau bwyd ysgolion ac addysg. Mae'r rhwydwaith wedi cynnal dwy gynhadledd, gan ddod â ffermwyr, cwmniau bwyd, athrawon, cydlynwyr Ysgolion Iach, staff caffael ac arlwyo'r awdurdodau lleol, grwpau cymunedol ac eraill, er mwyn datblygu agenda ar gyfer bwyd mewn ysgolion. Cliciwch yma am fanylion.

 
logo Addysg Ffermio a Chefn Gwlad

Mae Canolfan Organig Cymru hefyd yn gweithio gyda FACE (Addysg Ffermio a Chefn Gwlad) i gynorthwyo disgyblion i ddysgu am y gwaith gwirioneddol o ffermio a chynnal cefn gwlad

Mae'r Ganolfan yn gweithio gyda'r prosiectau canlynol i hyrwyddo gwaith FACE:

 

logo Garden Organic for Schools

Mae Canolfan Organig Cymru yn gweithio gyda Garden Organic for Schools i hybu garddio mewn ysgolion, ac rydym wedi cyfieithu rhai o'u taflenni i'r Gymraeg. Cliciwch yma.

Am fwy o wybodaeth am brosiectau gydag ysgolion cysylltwch â Jane Powell ar 01970 622248.

- Cysylltau Cyflym:  

Beth yw bwyd organig?

Hysbysebion
Ffermydd arddangos
Ystadegau

Prynu bwyd organig

 

- Manylion Cyswllt:  


Canolfan Organig Cymru

Sefydliad y Gwyddorau Gwledig,
Prifysgol Cymru Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3AL

Ffôn: 01970 622248
Ffacs: 01970 622238
organic@aber.ac.uk

Llinell Gymorth
01970 622100

 

Top of Page

  Canolfan | Organaidd | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau