Cysylltiadau
ar gyfer ysgolion:
Mynd
yn organig yn yr ysgol Siopau bwyd ysgol a thyfu bwyd organig ar dir yr
ysgol yw dwy ffordd i wneud ysgolion yn lleoedd mwy iach. Ceisiwch y dolennau isod (nid yw pob un ohonynt yn organig)
| Food for Life |
Nod Food for
Life yw gwella prydau bwyd ysgolion, ac mae pecyn gweithredu ac
adnoddau dysgu i'w
gael |
| Eco-Ysgolion |
Cynllun dyfarnu yw Eco-Ysgolion (Eco Schools)
sy'n cael pawb yng nghymuned yr ysgol i ymwneud â gwella'r ysgol yn
amgylcheddol. Mae'n cynnig cyfle i ofyn cwestiynau am fwyd ac i
ddefnyddio tiroedd yr ysgol yn well ynghyd â llawer iawn o agweddau
eraill. Mae dros 30 o ysgolion cynradd/uwchradd Cymru'n chwifio'r
Faner Werdd. |
| Garden Organic for Schools |
Mae
Garden Organic
for Schools yn annog ysgolion i ymgymryd â
phrosiectau garddio organig ar eu tiroedd eu hunain. Mae'n darparu
ymweliadau â'r safle, gwybodaeth a thaflenni gweithgareddau,
llinell ffôn gymorth a sesiynau HMS. Fe'i hanelir yn bennaf at
Gyfnod Allweddol 2 a 3. Rhai taflenni yn Gymraeg. |
| FSA Wales |
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cyhoeddi
llyfryn o'r enw Arweiniad Ymarferol i gynllunio a rhedeg siop fwyd
ysgol Siopau
ffrwythau mewn ysgolion cynradd |
| Growing Schools |
Prosiect yn Lloegr yw Growing
Schools sy'n annog athrawon i ddefnyddio'r ystafell ddosbarth
awyr agored yn gyd-destun ar gyfer dysgu oddi mewn i diroedd yr
ysgol a thu hwnt. Gyda chysylltiadau Cymreig hefyd. |
| Learning through Landscapes |
Elusen yw Learning through
Landscapes sy'n helpu ysgolion i wella ansawdd amgylcheddol ac i
ddefnyddio eu tiroedd yn addysgol. |
| Groundwork Wales |
Mae'r elusen hon yn gweithio mewn cymunedau difreintiedig yng
Nghymru i adfywio'r amgylchedd. Gweler www.groundworkwales.org.uk |
| Grab 5 |
The Grab 5
project is for primary schools wanting to encourage their pupils to
eat more fruit and vegetables |
Ffynonellau
eraill
| Food for Life |
Mae pecyn cwricwlwm ac adnoddau eraill i'w gael yn www.soilassociation.org/education |
| DEFRA |
Mae tudalen gwybodaeth i ysgolion ar wefan DEFRA |
| Canolfan Ymchwil Elm Farm |
Mae gan yr Adran
Addysg yn Elm Farm raglen o ymweliadau ysgol ac mae wedi
cyhoeddi Pecyn Gwybodaeth i Athrawon. |
| Cyfeiriadur Addysg Datblygu Cynaliadwy |
Mae cyfeiriadur ADC yn rhestru adnoddau i gefnogi
addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru |
| Bwyd a Ffermio |
Adnawdd ar y we yw Bwyd
a Ffermio i blant ysgolion uwchradd sy'n edrych ar faterion sy'n
ymwneud â ffermio a chynhyrchu bwyd, yn enwedig yng Nghymru. Fe'i
cynhelir gan bartneriaeth sy'n cynnwys yr RSPB a chyrff eraill.
Mae'n ymdrin â nifer o destunau gan gynnwys bwyd organig a masnach
deg. Mae gwahanol gyrff sydd â diddordeb wedi mynegi barn ar y
materion hyn gan bostio dogfennau ategol. Awgrymir gweithgareddau
i'r ystafell ddosbarth sy'n seiliedig ar y wefan ac mae llawer iawn
o'r deunydd yn ddwyieithog. Fe'i hanelir yn bennaf at CA3 a'r
chweched dosbarth |
| Soil Association |
Mae'r Soil Association yn darparu gwasanaeth addysg
cynhwysfawr a chyfredol sy'n cynnwys cyfleoedd i ymweld ag ysgolion
a cholegau â ffermydd organig, gwefan sy'n cynnig syniadau,
gweithgareddau a chynlluniau gwersi i athrawon a myfyrwyr ar draws
yr holl Gyfnodau Allweddol (gweler www.soilassociation.org/education),
adnoddau addysgu di-dâl gan gynnwys 'llyfr bach ffermio organig' ac
eraill sydd â diddordeb mewn darparu cyfleoedd addysgol ar ffermydd.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â
Rupert Aker ar 0117 914 2422 |
| Primary Choice |
Cwmni yw Primary
Choice sy'n helpu ysgolion cynradd i gael hyd i ffynonellau
cynnyrch lleol. |
| Duchy Originals |
Mae tudalen adnoddau i ysgolion ar wefan y Duchy
Originals |
| Health.e.School |
Gwefan yw Health.e.School
i ysgolion gan Gyfadran Hybu Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru |
| FACE |
Partneriaeth
yw Addysg Ffermio a Chefn
Gwlad (Farming and Countryside Education, FACE) sy'n cynnwys cyrff ffermio
cenedlaethol, yn gonfensiynol ac yn organig, sy'n hyrwyddo
dealltwriaeth o ffermio a chefn gwlad ymhlith pobl ifainc Ffôn: 024
7685 8261 |
| RSPB |
Mae'r RSPB wrthi mewn addysg amgylcheddol yng Nghymru
ac mae ganddi lawer o adnoddau i athrawon, gweler www.rspb.org.uk/teaching
|
| Forest Education Initiative |
Adnoddau
dysgu ynglyn a choed, fforestydd a chynhyrchion fforestydd, gan
gynnwys Ysgolion Fforestydd. www.foresteducation.org.uk
|
|