Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Cartref | English | Chwilio
-
-
 
Canolfan | Organig | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau  

English

Prydau bwyd ysgolion gyda phrosiect Rafael yng Ngogledd Cymru, Tachwedd 2006:

Cafodd disgyblion dwy ysgol yng ngogledd Cymru, Ysgol Gynradd Brynteg yn Wrecsam ac Ysgol Esceifiog yng Nghaerwen, Ynys Môn, brydau bwyd arbennig ym mis Tachwedd 2006. Roedd holl gynhwysion y prydau bwyd wedi'u cynhyrchu yn lleol, a rhai ohonynt yn organig.

Dewisodd y ddwy ysgol cig eidion wedi'i rostio, gyda digonedd o lysiau, a iogwrt neu hufen ia gyda ffrwythau i ddilyn.

Gweithiodd cogyddion yr ysgolion yn galed er mwyn creu achlysur arbennig.

 

Fe estynnodd yr ysgolion wahoddiad i westeion arbennig; staff y Cynogor, Cynghorwyr, llywodraethwyr, rhieni ac wrth gwrs y cynhyrchwyr bwyd ei hunain.

 

Roedd disgyblion Wrecsam wedi ymweld â'u marchnad y ffermwyr lleol er mwyn dewis bwydydd ar gyfer y pryd o fwyd.

Ar ôl y pryd o fwyd, arhosodd rhai o'r cynhyrchwyr bwyd i redeg marchnad y ffermwyr bychan yn y neuadd, ac fe ddaeth y disgyblion fesul dosbarth i flasu'r bwyd. Daeth y rhieni yn hwyrach i siopa.

 

Aeth disgyblion Ysgol Esceifiog ar ymweliad i felin wynt Llynnog i weld gwenith yn cael ei falu yn flawd i wneud bisgedi ar gyfer y cinio. Fe wnaethon nhw wahoddiadau a bwydlenni yn eu dosbarth TG, a phoster bwyd lleol.

 

 

Gyda diolch i: prifathrawon, staff a disgyblion Ysgol Esceifiog ac Ysgol Gynradd Brynteg; Lavinia Vaughan o Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir y Canolbarth; y cynhyrchwyr; y Cynllun Ysgolion Iach; Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam; Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwnyedd; Menter Môn; Marchnad y Ffermwyr Wrecsam ac eraill.

Mae RAFAEL yn brosiect cyffrous i gefnogi a hyrwyddo bwyd ‘go iawn’ mewn gwahanol ranbarthau ar hyd arfordir Atlantaidd Ewrop, gan gynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, Sbaen, Portiwgal a Ffrainc. Y nod yw creu cyfleoedd i gynhyrchwyr lleol a busnesau bwyd gyflenwi marchnadoedd newydd, gan gynnwys marchnadoedd lleol, twristiaeth, caffael cyhoeddus a marchnadoedd rhyng-ranbarthol, gan ddefnyddio nawdd gan raglen Intereg IIIB yr Undeb Ewropeaidd. Gweler www.rafael-eu.com.

Nol i brif tudalen ysgolion

Am fwy o wybodaeth am brosiectau ysgolion, cysylltwch â Jane Powell ar 01970 621530.