Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Cartref | English | Chwilio
-
-
 
Canolfan | Organig | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau  

English

Prydau bwyd ysgolion Rafael yng Nghymru, hydref 2007:

Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Llandysul yng Ngheredigion, Ysgol Babanod Gungrog yn y Trallwng, ag Ysgol Gynradd Bro Ogwr ym Mhenybont-ar-Ogwr brydau bwyd arbennig yn yr hydref 2007. Roedd holl gynhywsion y prydau bwyd wedi'u cynhyrchu yn lleol.

Yn Llandysul a Bro Ogwr, dewisodd y ysgolion cig eidion wedi'r rostio gyda digonedd o lysiau. Yn y Trallwng, cig oen wedi'i rostio oedd ar y fwydlen. Crymbl afalau, weithiau gyda hufen iâ, ddaeth nesaf yn yr tair ysgol. Yn Llandysul, roedd y pryd bwyd yn hollol organig.

Gweithiodd cogyddion yr ysgolion yn galed er mwyn creu achlysur arbennig.

Fe estynnodd yr ysgolion wahoddiad i westeion arbennig; staff y Cynogor, Cynghorwyr, llywodraethwyr, rhieni ac wrth gwrs y cynhyrchwyr bwyd ei hunain.

 

Yn Llandysul, dilynwyd y pryd bwyd gan farchnad y ffermwyr ar dir yr ysgol. Ymwelodd y disgyblion â'r stondinau a blasu'r cynnyrch, a daeth eu rhieni yn nes ymlaen i siopa.

 

Ymwelodd disgyblion yn Ysgol Gungrog â phedair fferm mewn un diwrnod i baratoi am eu pryd bwyd. Buont hefyd yn helpu wneud y crymbl ar gyfer eu pryd bwyd.

 

 
 

Ym mro Ogwr, daeth tim 'Food for Thought' i ddangos i'r plant sut mae troi hufen yn fenyn, a gwenith yn fara. Daethont hefyd â buwch iddynt gael ei gweld.

Gyda diolch i: brifathrawon, staff a disgyblion Ysgol Gynradd Llandysul, Ysgol Babanod Gungrog ag ysgol gynradd Bro Ogwr; Lavinia Vaughan o Ymddiriedolaeth Bwyd a Thir y Canolbarth; y cynhyrchwyr; y Cynllun Ysgolion Iach; Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr; Cyngor Sir Ceredigion; Cyngor Sir Powys; Daioni; Rachels' Dairy; Tom Cowcher a llawer o bobl eraill.

Mae RAFAEL yn brosiect cyffrous i gefnogi a hyrwyddo bwyd ‘go iawn’ mewn gwahanol ranbarthau ar hyd arfordir Atlantaidd Ewrop, gan gynnwys Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, Sbaen, Portiwgal a Ffrainc. Y nod yw creu cyfleoedd i gynhyrchwyr lleol a busnesau bwyd gyflenwi marchnadoedd newydd, gan gynnwys marchnadoedd lleol, twristiaeth, caffael cyhoeddus a marchnadoedd rhyng-ranbarthol, gan ddefnyddio nawdd gan raglen Intereg IIIB yr Undeb Ewropeaidd. Gweler www.rafael-eu.com.

Nol i brif tudalen ysgolion

Am fwy o wybodaeth am brosiectau ysgolion, cysylltwch â Jane Powell ar 01970 621530.