Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Cartref | English | Chwilio
-
-
 
Canolfan | Organig | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau  

Arolwg cynhyrchwyr 2008:

Saesneg

 

Diolch yn fawr i’r cynhyrchwyr a gwblhaodd yr Arolwg Cynhyrchwyr Organig yn yr hydref. Gellir lawrlwytho’r adroddiad llawn isod neu trwy ofyn i Ganolfan Organig Cymru amdano. Mae’n adeiladu ar arolwg y llynedd, ac mae’n cynnwys pob agwedd o gynhyrchu a marchnata organig yn ogystal ag agweddau tuag at drawsnewid organig.

 

Lawrlwythwch Adroddiad cyhyrchu a marchnata organig Cymru 2008 (yn Saesneg, PDF, 837kb) neu ddarllen y crynodeb isod.

 

Sector organig sy’n tyfu ac yn parhau i fod yn gystadleuol

 

Sector organig Gymreig fwy

Mae’r sector organig Gymreig wedi tyfu i dros 950 o gynhyrchwyr yn ystod 2008 gyda hyd at 150 o gynhyrchwyr ychwanegol y flwyddyn yn dod i mewn i drawsnewid yn 2007 a 2008. Mae tir yng Nghymru sydd wedi’i reoli’n organig yn awr yn ymestyn i dros 100,000 ha, y rhan fwyaf ohono yn laswelltir. Mae ardaloedd tir wedi’u cnydu’n organig yn parhau i fod yn fychan, er bod cyfartaledd eithaf uchel o dir garddwriaethol a thir âr yn awr yn organig.

 

 

 

Pryderon cynhyrchwyr - premiymau, prisiau bwydydd a thrawsnewidwyr newydd

Y pryder mwyaf i ffermwyr organig Cymru yw’r gostyngiad yn y premiwm organig mewn llawer o sectorau. Mae ffermwyr bîff a defaid yn cael eu talu oddeutu £3.00/kg pwysau marw, sydd yn cael ei weld yn rhy isel gan lawer, yn arbennig felly gan bod prisiau confensiynol yn debyg iawn, a phris bwydydd organig yn parhau i fod tua £360-£400/tunnell fetrig. Mae tystiolaeth bod yr argyfwng ariannol wedi lleihau’r gofyn am doriadau cig drutach, sy’n effeithio ar y gofyn am y stoc gorau. Roedd ffermwyr defaid yn arbennig wedi datgan pryderon fod y farchnad ŵyn wedi’i gorgyflenwi, gydag ofnau ynghylch y nifer fawr o ddefaid sydd yn awr mewn trawsnewid. Mae cynhyrchwyr llaeth organig yn gyffredinol yn derbyn premium organig arwyddocaol am eu llaeth, er bod llawer yn dangos eu bod angen mwy o elw dros brisiau confensiynol er mwyn talu am fwydydd organig drud. Mae cynhyrchwyr wyau yn amrywio’n fawr mewn maint, gyda llawer o gynhyrchwyr bychain yn canfod fod prisiau bwydydd yn afresymol, tra bod mentrau dofednod newydd yn tueddu i fod ar raddfa fwy.

 

Prisiau cig eidion

Ffynonellau: Graig Producers a phrisiau AHDB SQQ

Prisiau cig oen

Ffynonellau: Graig Producers a phrisiau AHDB SQQ

 

Rhesymau am optimistiaeth

Mae prisiau ŵyn organig yn sylweddol uwch na’r llynedd, gan bod disgwyl i chyflenwadau’r gwanwyn fod yn fyr, ac er bod prisiau bîff organig ychydig yn is na’r llynedd, mae prisiau confensiynol bron yr un fath ac maent yn darparu byffer i gyflenwad organig. Mae’r data cost cynhyrchu diweddaraf yn cadarnhau fod y sector cig coch organig wedi perfformio’n arbennig o dda yn 2007/08 a bydd yn parhau’n gystadleuol hyd yn oed ar brisiau confensiynol. Mae prisiau organig wedi bod yn sefydlog am nifer o flynyddoedd, a bydd nifer o ffactorau sy’n cefnogi prisiau confensiynol uchel yn sicrhau fod prisiau organig yn aros yn dda.

 

Sectorau da byw yn paratoi ar gyfer ychwanegu stoc trawsnewid

 

Table 2: Estimated livestock numbers, sales and % sold as organic, 2008

Livestock type

Estimated numbers retained on farm

Estimated total sales from Welsh organic livestock

Estimated Organic sales % of total

Estimated Welsh livestock currently in-conversion

Breeding cattle

9,100

650

31%

4,250

Store cattle

13,000

3,400

74%

3,000

Finished cattle

-

6,900

94%

-

Breeding sheep

125,000

11,050

18%

65,000

Store lambs

41,000

18,200

40%

19,600

Finished lambs

-

133,100

73%

-

Dairy

12,500

73 million litres

93%

1,550

Laying hens

46,000

900,000 dz eggs

100%

350

Pigs

30

300

83%

15

 

Arhosodd amcangyfrif nifer da byw organig llawn yn debyg yn 2008 o’i gymharu â 2007, er bod nifer arwyddocaol yn awr yn cael eu trawsnewid - fodd bynnag, nid oes disgwyl i’r rhain ddod ar y farchnad mewn niferoedd arwyddocaol cyn 2010/2011 a thu hwnt. Yn y sector bîff, gwerthwyd oddeutu 25% o wartheg stor a 6% o wartheg wedi’u gorffen i’r farchnad gonfensiynol. Yn y sector defaid, collwyd 25% o ŵyn wedi’u gorffen a 60% o ŵyn stôr i farchnadoedd confensiynol, yn rhannol oherwydd prisiau confensiynol deniadol.

 

Bwriadau yn y dyfodol

Mae bwriadau cynhyrchwyr yn y dyfodol yn amrywio’n sylweddol rhwng sectorau, fel mae’r graff yn ei ddangos. Cynhyrchwyr garddwriaeth a chnyau grawn yw’r rhai mwyaf optimistaidd, tra bod canran uchel o gynhyrchwyr bîff a defaid yn meddwl bod y pris yn rhy isel.

 

Datblygu’r farchnad

Fe fydd y canlyniadau hyn yn galluogi Canolfan Organig Cymru, Llywodraeth y Cynulliad a chyrff eraill yn y diwydiant, yn cynnwys Hybu Cig Cymru, i ddatblygu strategaethau effeithiol i sicrhau bod y sector organig yng Nghymru yn parhau i ehangu. Er gwaethaf pryderon cynhyrchwyr mae’r sector yn parhau i fod yn gystadleuol yn ariannol ac mae ganddo amser i addasu i gynhyrchwyr organig ychwanegol.

 

Yn ôl i'r brig

 

- Cysylltau Cyflym:  

Beth yw bwyd organig?

Hysbysebion
Ffermydd arddangos
Ystadegau

Prynu bwyd organig

 

- Manylion Cyswllt:  


Canolfan Organig Cymru

Sefydliad y Gwyddorau Gwledig,
Prifysgol Cymru Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3AL

Ffôn: 01970 622248
Ffacs: 01970 622238
organic@aber.ac.uk

Llinell Gymorth
01970 622100

 

Top of Page

  Canolfan | Organaidd | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau