Back to UWA Home Page Organic Centre Wales Organic Centre Wales Logo
-
-
Cartref | English | Chwilio
-
-
 
Canolfan | Organig | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau  

 

Cysylltiadau ar gyfer ysgolion:

Dewch i ymweld â fferm organig

Mae rhai ffermydd organig yng Nghymru yn croesawu ymweliadau ysgol.  Dylech gysylltu â’r ffermydd yn uniongyrchol am fwy o fanylion.

 
Primrose Earth Awareness Trust

Prosiect addysgol yw’r Ymddiriedolaeth hon (PEAT) a leolir ar fferm organig Primrose, fferm arddwriaethol ger y Gelli Gandryll ym Mhowys.  Mae croeso i ymweliadau gan blant ysgol gynradd. Cysylltwch â Sylvia O'Brien, Canolfan Organig Primrose, Felindre, Aberhonddu, Powys, Cymru LD3 0ST, ffôn 01497 847634. info@primrosetrust.org.uk.neu ewch i www.primrosetrust.org.uk  

Un o ffermydd arddangos y Soil Association (cliciwch yma)

Blaen-y-Nant

Mae defaid, gwartheg a chynefinoedd bywyd gwyllt rhagorol ar y fferm fynydd weithredol 302 ha yma yn Eryri.  Cysylltwch â: Gwyn Thomas, Blaen-y-Nant, Nant Ffrancon, Bethesda, Gwynedd LL57 3DQ T: 01248 600400. www.blaenynant.co.uk

Un o ffermydd arddangos y Soil Association (cliciwch yma)

Aberhyddnant

Fferm 90 ha ym Mannau Brycheiniog. Gwartheg, defaid, merlod, cywion ieir, hwyaid a gwyddau.  Cysylltwch â: Aberhyddnant, Crai, Aberhonddu, Powys LD3 8YS Ffôn/Ffacs: 01874 636797 Gwefan: www.abercottages.co.uk

Un o ffermydd arddangos y Soil Association (cliciwch yma)

Dolgoch

Yn gorwedd mewn cwm coediog, mae llawer o nodweddion hanesyddol yn perthyn i’r fferm laeth yma a chredir iddi fod yn safle i’r eisteddfod gyntaf erioed ym 1140. Cysylltwch â Dôl-goch, Brongest, Castellnewydd Emlyn, Sir Gaerfyrddin, SA 38 9EU Ffôn: 01239 851466. 

Un o ffermydd arddangos y Soil Association (cliciwch yma)

Hafod-y-Llan

Yn eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’r fferm 1660 ha hon yn ymestyn o waelod y cwm I gopa’r Wyddfa. Cysylltwch â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Canolfan Deilan Las, Craflwyn, Beddgelert, Caernarfon, Gwynedd LL5 4NG neu gweler www.hafodyllan.org.uk  

Un o ffermydd arddangos y Soil Association(cliciwch yma)

Canolfan Cefn Gwlad Clynfyw

Buchod duon Cymreig, moch, gwneud sercol, corsleoedd ac ynni adnewyddol yw rhai o’r pethau i’w gweld ar y fferm iseldir 200 erw yma. Cysylltwch â Jim Bowen, Canolfan Gefn Gwlad Clynfyw, Abercych, Boncath, Sir Benfro SA37 0HF. Ff: 01239 841236. Gwefan: www.clynfyw.co.uk 

Un o ffermydd arddangos y Soil Association (cliciwch yma)

Maes-y-beran Farm

Fferm eidion a defaid 56 ha yng nghwm Llanddewi Nant Hodni ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Defaid, gwartheg coch Dyfnaint, cywion ieir a gardd. Llwybrau fferm wedi'u harwyddo, llynnoedd, coetir a gweirgloddiau blodeuog. Croeso i bartïon ysgol a grwpiau diddordeb arbennig. Yn fodlon arwain teithiau tywys. Cysylltwch â Mark Morgan, Maes-y-beran, Llanddewi Nant Hodni, Y Fenni, Gwent, NP7 7NL Ffôn: 01873 890701

 

Gweler hefyd: Access to Farms, corff sy'n cynnal dwy wefan, Farms for teachers a Farms for schools, sy'n cynnwys cyfeiriadur ffermydd y gellir ymweld â nhw a gwybodaeth gyffredinol am ymweliadau ysgol â ffermydd . 

A ddylai'ch fferm chi gael ei rhestru yma? Danfonwch fanylion atom 

 

Mynd yn organig yn yr ysgol

Siopau bwyd ysgol a thyfu bwyd organig ar dir yr ysgol yw dwy ffordd i wneud ysgolion yn lleoedd mwy iach. Ceisiwch y dolennau isod (nid yw pob un ohonynt yn organig)

 
Food for Life Nod Food for Life yw gwella prydau bwyd ysgolion, ac mae pecyn gweithredu i'w gael
Eco-Ysgolion Cynllun dyfarnu yw Eco-Ysgolion (Eco Schools) sy'n cael pawb yng nghymuned yr ysgol i ymwneud â gwella'r ysgol yn amgylcheddol. Mae'n cynnig cyfle i ofyn cwestiynau am fwyd ac i ddefnyddio tiroedd yr ysgol yn well ynghyd â llawer iawn o agweddau eraill. Mae dros 30 o ysgolion cynradd/uwchradd Cymru'n chwifio'r Faner Werdd.
Rhwydwaith Organig HDRA Mae Organic Network for Schools yr HDRA yn annog ysgolion i ymgymryd â phrosiectau garddio organig ar eu tiroedd eu hunain. Mae'n darparu ymweliadau â'r safle, gwybodaeth a thaflenni gweithgareddau, llinell ffôn gymorth a sesiynau HMS. Fe'i hanelir yn bennaf at Gyfnod Allweddol 2 a 3.
FSA Wales Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cyhoeddi llyfryn o'r enw Arweiniad Ymarferol i gynllunio a rhedeg siop fwyd ysgol Siopau ffrwythau mewn ysgolion cynradd
Growing Schools Prosiect yn Lloegr yw Growing Schools sy'n annog athrawon i ddefnyddio'r ystafell ddosbarth awyr agored yn gyd-destun ar gyfer dysgu oddi mewn i diroedd yr ysgol a thu hwnt
Learning through Landscapes Elusen yw Learning through Landscapes sy'n helpu ysgolion i wella ansawdd amgylcheddol ac i ddefnyddio eu tiroedd yn addysgol.
Groundwork Wales Mae'r elusen hon yn gweithio mewn cymunedau difreintiedig yng Nghymru i adfywio'r amgylchedd. Gweler www.groundworkwales.org.uk 
Grab 5 The Grab 5 project is for primary schools wanting to encourage their pupils to eat more fruit and vegetables

Ffynonellau eraill

 
Food for Life Mae pecyn cwricwlwm ac adnoddau eraill i'w gael yn www.soilassociation.org/education 
DEFRA Mae tudalen gwybodaeth i ysgolion ar wefan DEFRA 
Canolfan Ymchwil Elm Farm Mae gan yr Adran Addysg yn Elm Farm raglen o ymweliadau ysgol ac mae wedi cyhoeddi Pecyn Gwybodaeth i Athrawon. Cysylltwch â Judith Towers, 01488 659298.
Cyfeiriadur Addysg Datblygu Cynaliadwy Mae cyfeiriadur ADC yn rhestru adnoddau i gefnogi addysg ar gyfer datblygu cynaliadwy yng Nghymru
Bwyd a Ffermio Adnawdd ar y we yw Bwyd a Ffermio i blant ysgolion uwchradd sy'n edrych ar faterion sy'n ymwneud â ffermio a chynhyrchu bwyd, yn enwedig yng Nghymru. Fe'i cynhelir gan bartneriaeth sy'n cynnwys yr RSPB a chyrff eraill. Mae'n ymdrin â nifer o destunau gan gynnwys bwyd organig a masnach deg. Mae gwahanol gyrff sydd â diddordeb wedi mynegi barn ar y materion hyn gan bostio dogfennau ategol. Awgrymir gweithgareddau i'r ystafell ddosbarth sy'n seiliedig ar y wefan ac mae llawer iawn o'r deunydd yn ddwyieithog. Fe'i hanelir yn bennaf at CA3 a'r chweched dosbarth
Soil Association Mae'r Soil Association yn darparu gwasanaeth addysg cynhwysfawr a chyfredol sy'n cynnwys cyfleoedd i ymweld ag ysgolion a cholegau â ffermydd organig, gwefan sy'n cynnig syniadau, gweithgareddau a chynlluniau gwersi i athrawon a myfyrwyr ar draws yr holl Gyfnodau Allweddol (gweler www.soilassociation.org/education), adnoddau addysgu di-dâl gan gynnwys 'llyfr bach ffermio organig' ac eraill sydd â diddordeb mewn darparu cyfleoedd addysgol ar ffermydd. Am fwy o fanylion, cysylltwch â Colin Esrich ar 0117 914 2440 neu Rupert Aker ar 0117 914 2422
Primary Choice  Cwmni yw Primary Choice sy'n helpu ysgolion cynradd i gael hyd i ffynonellau cynnyrch lleol.
Duchy Originals Mae tudalen adnoddau i ysgolion ar wefan y Duchy Originals
Health.e.School Gwefan yw Health.e.School i ysgolion gan Gyfadran Hybu Iechyd Llywodraeth Cynulliad Cymru
FACE Partneriaeth yw Addysg Ffermio a Chefn Gwlad (Farming and Countryside Education, FACE) sy'n cynnwys cyrff ffermio cenedlaethol, yn gonfensiynol ac yn organig, sy'n hyrwyddo dealltwriaeth o ffermio a chefn gwlad ymhlith pobl ifainc Ffôn: 024 7685 8261
RSPB Mae'r RSPB wrthi mewn addysg amgylcheddol yng Nghymru ac mae ganddi lawer o adnoddau i athrawon, gweler www.rspb.org.uk/teaching

 

- Cysylltau Cyflym:  

Beth yw bwyd organig?

Hysbysebion
Ffermydd arddangos
Ystadegau

Prynu bwyd organig

 

- Manylion Cyswllt:  


Canolfan Organig Cymru

Sefydliad y Gwyddorau Gwledig,
Prifysgol Cymru Aberystwyth,
Ceredigion,
SY23 3AL

Ffôn: 01970 622248
Ffacs: 01970 622238
organic@aber.ac.uk

Llinell Gymorth
01970 622100

 

Top of Page

  Canolfan | Organaidd | Ymchwil | Ffermwyr | Marchnadoedd | Polisi | Ysgolion | Cyhoeddiadau | Digwyddiadau