BwletinMarchnad Organig CymruRhif 61, 12 Chwefror 2008 |
BulletinOrganic Market WalesNo. 61, 12 February 2008 |
|
Adborth i’r Bwletin Llawer iawn o ddiolch i’r rheini yn eich plith a gwblhaodd ein harolwg arlein. Os nad ydych chi wedi gwneud eto, ewch i www.survey.bris.ac.uk/aber/review |
Market Bulletin Feedback Many thanks to those who completed our online survey. If you have not yet done so, please go to |
|
Marchnad Organig Cymru Llaeth Grawnfwydydd Cig a da byw ffrwythau a llysiau Newyddion Y farchnad Gwylio'r prisiau adwerthol Adborth |
Organic Market Wales Dairy Cereals Meat and livestock Fruit and vegetables News Market place Retail price watch Feedback |
|
Ystadegau Organig Newydd Am yr Adroddiad Ystadegol diweddaraf ar Ddatblygu Ffermio Organig yn 15 gwladwriaeth yr UE, Y Swistir a Norwy, 1997-2006, dilynwch y linc yma.
Mae Cynllun Ffermio Organig Cymru wedi agor Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i’ Gynllun Ffermio Organig Cymru er mwyn hybu ffermio organig yng Nghymru. Amlinellir newidiadau i’r cynllun ar y wefan.
Arolwg Cynhyrchwyr Organig Mae Canolfan Organig Cymru’n ddiweddar wedi cynnal arolwg cynhyrchwyr. Dengys y dadansoddi cyntaf fod yr holl gynnyrch organig bron, yn dda byw gorffenedig, yn llaeth ac wyau, wedi cael hyd i farchnad organig yn 2007. Bu’r cynhyrchwyr hefyd yn mynegi hyder yn y prisiau. Daeth dau faes i’r golwg lle y ceir problemau: argaeledd porthiant a phryderon am brisiau porthiant yn 2008 a gwerthiant/prisiau ŵyn stôr, gyda 26% o’r ŵyn stôr sy’n cael eu cynhyrchu’n cael eu gwerthu fel rhai anorganig oherwydd absenoldeb marchnad organig a 60% o gynhyrchwyr ŵyn stôr yn dweud bod prisiau fwy na thebyg, neu’n bendant, yn rhy isel i ddal ati i gynhyrchu ŵyn stôr,. Cyhoeddir canlyniadau manwl ym mis Ebrill/Mai 2008, gydag uchafbwyntiau mewn rhifyn arbennig o Tir Organig ac adroddiad llawn ar gael ar wefan Canolfan Organig Cymru.
Cywiriad! Labelu gorfodol newydd Ceir gwall bach yn yr eitem am logo organig yr UE sy’n berthnasol o 2009 ac nid 2008, ym Mwletin y Farchnad Organig ym mis Ionawr 2008. Yn ôl Erthygl 24, ni fydd dangos y logo ond yn orfodol ar gyfer bwyd sy’n cael ei bacio ymlaen llaw, nid ar gyfer gwerthiant uniongyrchol na rhydd.
Caffael cyhoeddus Cafodd cynhyrchwyr bwyd a diod gyfle i symud i’r farchnad caffael cyhoeddus gyda digwyddiad arbennig i “Gwrdd â’r Prynwyr” a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ddydd Iau Ionawr 31. Trefnwyd y digwyddiad gan Is-adran Datblygu Bwyd a’r Farchnad Llywodraeth Cynulliad Cymru ac fe’i hagorwyd gan y Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones. Press release
Gwesty sy’n cefnogi cynnyrch organig yn ennill gwobr Mae Gwesty Gwledig Lasswade yn Llanwrtyd, newydd ennill 'Her Sustain bwyd cynaliadwy (gwledig) Considerate Hotelier”. www.lasswadehotel.co.uk
Digwyddiadau Cynhadledd Bwyd Organig ym maes Arlwyo Cyhoeddus Cynhelir cynhadledd Bwyd Organig mewn Arlwyo Cyhoeddus – Rhoi Iechyd a Chynaladwyedd ar y Plât – yn Brno, Y Weriniaeth Tsiec, ar 5 Mawrth i gyd-fynd â’r Ffair Fwyd Ryngwladol SALIMA 2008. Nod y gynhadledd yw cefnogi cyflwyno bwyd organig a lleol ym maes arlwyo cyhoeddus.. www.salima.eu
Biofach – Ffair Fasnach Organig y Byd Cynhelir y digwyddiad hwn o 21 i 24 Chwefror yn Nurenberg yn yr Almaen. Am fwy o fanylion, dilynwch y ddolen www.biofach.de/en/ |
New organic statistics For the latest Statistical Report on the Development of Organic Farming in EU-15, Switzerland and Norway 1997-2006, please click here.
The Welsh Organic Farming Scheme has opened The Welsh Assembly Government has announced amendments to the Welsh Organic Farming Scheme in order to progress organic farming in Wales. Changes to the scheme are outlined on the website.
Organic producers' survey OCW has recently conducted a producers’ survey. A first analysis shows that for finished livestock, milk and eggs, virtually all fully organic products found an organic market in 2007. Producers also expressed confidence in prices. Two main problem areas emerged: feed availability and concerns about feed prices in 2008, and sales of/prices for store lambs, with 26% of store lambs produced sold as non-organic due to absence of an organic market and 60% of store lamb producers saying prices were probably or definitely too low to continue with organic store lamb production. Detailed results will be published in April/May 2008, with highlights in a special issue of Tir Organig and a full report available on the OCW website.
Erratum: New mandatory labelling There is a small mistake in the item about the EU organic logo which applies from 2009, not 2008 as stated in the Organic Market Bulletin January 2008. According to Article 24 showing the logo is mandatory only for pre-packaged food, i.e. not for direct or loose sales.
Public procurement Welsh food and drink producers had the opportunity to move into the public procurement market with a special ‘Meet the Buyer’ event held in Carmarthen on Thursday 31 January. The event was organised by the Welsh Assembly Government’s Food and Market Development Division and was opened by Rural Affairs Minister Elin Jones. Press release
Hotel backing organic produce wins prize In Llanwrtyd Wells, Powys, Central Wales, Lasswade Country House Hotel has just won the UK Considerate Hoteliers “Sustain Food Challenge (rural)”. www.lasswadehotel.co.uk.
Events Organic Food in Public Catering Conference The “Organic Food in Public Catering - Putting Health and Sustainability on the Plate” Conference will be held in Brno, Czech Republic, on March 5 as an accompanying event to the International Food Fair SALIMA 2008. The goal of the conference is to support the introduction of organic and local food in public catering. www.salima.eu
Biofach - World Organic Trade Fair This event takes place on 21-24 of February in Nuremberg, Germany. For more information please follow the link www.biofach.de/en/
|
|
OMSCo yn adrodd Gall cynhyrchu llaeth organig ym marchnad yr EU ddod yn fwyfwy cyfyngedig yn ystod 2008, wrth i gostau porthiant cynyddol orfodi rhai ffermwyr i roi’r gorau i’r farchnad. Dywed Huw Bowles, cyfarwyddwr cyllid a gweithrediadau Cydweithfa Llaeth Organig y DU, OMSCo, fod prisiau cynyddol yn arwain at gynhyrchu llai o laeth organig hylifol wrth i ffermwyr optio allan o’r segment. Mae hefyd yn dweud, “Mae’r cynnydd yng nghostau porthiant yn arwain rhai ffermwyr organig a hyd yn oed y rheini sy’n ystyried troi i gynhyrchu llaeth organig, at gwestiynu synnwyr economaidd y fath newid.” Daw’r sylwadau yn sgil adroddiad gan Gyngor Datblygu Llaeth y DU (MDC) fod rhai chwaraewyr yn y diwydiant yn galw am gynyddu mewnforion llaeth organig o gynhyrchwyr Ewropeaidd eraill i ategu’r cyflenwad gyda’r galw cynyddol am nwyddau llaeth organig. Dywed Mr. Bowles fod argaeledd mewnforion, a ddefnyddir yn y DU mewn nwyddau llaeth wedi’u prosesu bron yn gyfan gwbl, hefyd yn codi cwestiynau oherwydd y galw cynyddol am y cynnyrch ar y cyfandir. Fodd bynnag, er gwaethaf yr ansicrwydd ar hyn o bryd ynglŷn â chynhyrchu llaeth organig, mae OMSCo’n disgwyl dechrau elwa o ymgyrch dros droi’n organig ar ffermydd yn y DU a gafwyd yn 2006. O bosibl, gallai hyn arwain at gynyddu cynhyrchiant 90m litr. hanes
MDC yn adrodd Ofnir y bydd mewnforion cynhyrchion organig yn gorfod cynyddu os yw’r cyflenwad llaeth organig i barhau i ateb galw’r farchnad. Er mwyn i ffermwyr cartref ateb y galw yma, awgryma sylwebyddion y diwydiant fod angen i brisiau cynhyrchwyr organig godi 2-3 cyl. Ychwanega’r MDC y disgwylir erbyn hyn y bydd gofynion newydd ar gyfer porthiant organig sy’n gwahardd defnyddio unrhyw gynhyrchion anorganig, yn codi costau porthiant ymhellach. Gallai’r pris, o bosibl, gyrraedd £400 y dunnell yn ystod eleni. Mae ffigwr o’r fath ddwywaith y pris a dalwyd ddwy flynedd yn ôl, a all olygu y bydd angen costau uwch i gynhyrchwyr a defnyddwyr neu allbwn allforio uwch, yn ôl yr adroddiad gan Gyngor Datblygu Llaeth y DU (MDC). Yn ei gyd-destun, yn 2007 darparodd ffermydd sy’n troi’n organig 40 miliwn litr yn ychwanegol i’r cyflenwad o’i gymharu â’r angen am 60-80 miliwn litr yn ychwanegol. Mae OMSCo hefyd yn darogan y bydd mewnforion yn 20 miliwn litr ar gyfer blwyddyn laeth 07/08 o’u cymharu â 7 miliwn ar gyfer blwyddyn laeth 06/07. gwefan yr MDC
Calon Wen yn adrodd Yn ôl Iwan Jones o Calon Wen: “Rydym wedi cael ambell ymgyrch Cysylltiadau Cyhoeddus yn ystod y misoedd diwethaf. Bydd Waitrose yn cynyddu nifer y siopau sy’n gwerthu ein “eco-pac” yn ystod y gwanwyn eleni” Mae Calon Wen wedi ymuno â’r RSPCA er mwyn lansio ein hymgyrch R U the 1 for me? i helpu cŵn i gael eu partneriaid perffaith wrth i’r ŵyl gariadon ddod yn nes. Yn dilyn llwyddiant byd-eang ‘Ffansio Ffermwr?’, roeddent yn meddwl ei bod yn hen bryd ddangos tipyn o gariad tuag at ffrindiau ffyddlonaf dynol ryw.” Felly, byddant yn dangos eu cŵn ar boteli llaeth ar ddiwrnod Santes Dwynen, nawddsant y cariadon yng Nghymru, ac eto ar Ddydd San Ffolant” gwefan Calon Wen
Gwybodaeth am brisiau organig Am wybodaeth am brisiau (Rhag 2007) gan Dairy Farmers of Britain, cliciwch yma. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad
|
Omsco reports Organic milk production in the EU market could become increasingly constrained during 2008, as rising feed costs are forcing some farmers to quit the market. Huw Bowles, finance and operations director for the UK-based Organic Milk Cooperative (OMSCo), says that “rising commodity costs are resulting in reduced production of liquid organic milk as farmers opt out of the segment.” He also says: "The increased feed costs are leading some organic farmers and even those considering converting to organic milk production to question the economic sense of such a transfer." The comments follow on from a report by the UK's Milk Development Council (MDC) that some industry players are calling for imports of organic milk from other European producers to be stepped up in order to bolster supply amidst growing demand for organic dairy goods. Mr. Bowles says that the availability of imports, which are used in the UK almost entirely in processed dairy goods, was also questionable due to increasing demand for the product on the continent. However, despite the current uncertainty over organic milk production, OMSCo expects to begin benefiting from an organic conversion drive in UK farms made in 2006, potentially increasing national production by 90m litres. Story
MDC reports There are fears that imports of organic dairy products will have to increase if organic milk supply is to continue to meet market demand. In order for domestic farmers to meet this demand, industry commentators suggest that organic producers need prices to rise by 2-3ppl. The MDC adds that new requirements for organic feed that now prohibit the use of any non-organic products are expected to further increase compound feed prices, which could potentially reach £400 per tonne during this year. Such a figure is double the price paid two years ago, which may require either increased cost for both manufacturers and consumers or higher export output, according to the report by the UK's Milk Development Council (MDC). In context, conversions in 2007 provided an extra 40 million litres of supply compared to a requirement of an extra 60-80 million litres. OMSCo also forecasts imports will be 20 million litres for the 07/08 milk year compared to 7 million for the 06/07 milk year. MDC website
Calon Wen reports Iwan Jones of Calon Wen says: “We have had a few PR campaigns in recent months. Waitrose will increase its number of stores selling our ‘ecopack’ this Spring.” Calon Wen have teamed up with the RSPCA in order to launch our ‘R U the 1 for me?’ campaign to help dogs find their perfect partners as the season of love approaches. Following the world wide success of ‘Fancy a Farmer’, they thought “it’s about time to show some love for our canine friends.” Therefore they featured their dogs on their milk bottles for St Dwynwen day (which is the Welsh patron saint of lovers) and will do so again for Valentine’s Day”. Calon Wen website
Organic price information For price information (Dec 2007) from Dairy Farmers of Britain, click here. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information
|
|
Marchnad Organig - Grawnfwydydd
Norton Organic Grain yn adrodd Gall y rheini sydd â diddordeb mewn prynu grawn organig gysylltu â Norton Organic Grain ar 1787 210966. Neu gellir edrych ar eitem newyddydion Organic Inform Yn dilyn cyfnod cymharol dawel wrth arwain at y Nadolig, mae dechrau 2008 wedi gweld prisiau’n codi’n sydyn. Mae’r prisiau a welir ym mis Chwefror yn uwch na’r rheini a welwyd cyn i’r farchnad gyrraedd ei hanterth yn hydref y llynedd a’r prisiau ym mis Ionawr 2008. Mae ffermwyr yn gyndyn o brynu, sy’n golygu nad oes yna fawr o fasnach newydd. Mae diffyg soeg soia ym mis Ionawr wedi’i ddatrys. Fodd bynnag, o hyd ceir diffyg protein; mae soia braster llawn a maglys rhuddlas ar gael. Wrth i fewnforion gyrraedd yn araf deg, ni cheir ond ychydig iawn o gynigion grawn organig newydd. Mae hyn yn destun pryder. Am fwy o wybodaeth am brisiau, cysylltwch â Norton Organic Grain, defnyddiwch y ddolenni isod neu ffoniwch 01787 210 899. www.nortonorganic.co.uk
Trwy Organic Information, mae Norton Organic yn nodi’r prisiau canlynol o’r fferm ym mis Ionawr. Mae prisiau mis Chwefror yn uwch. Gwenith Porthiant Bellach tua £300 wrth ei gasglu o’r fferm gan ragdybio llwythi 29 tunnell. Gwenith Mae’r fasnach gwenith melino’n araf ac eithrio ar gyfer y samplau gorau a dylid pwyso a mesur o ran risg ac enillion. Ceirch Mae galw cryf o hyd am geirch melino ond mae ansawdd y porthiant (o dan 48kg) ychydig yn fwy anodd Barlys a Rhygwenith Yn masnachu ar ostyngiad £10 o’i gymharu â gwenith. dylai gwenith sy’n cael ei droi hefyd masnachu tua’r lefel yma. Ffa Mae’r galw’n gryf ac mae prisiau bellach yn cyffwrdd â £315 am lwyth 29 tunnell yn yr ardal iawn. Mae arwyddion ar gyfer y cnwd newydd bellach yn dechrau dod i’r golwg er ei bod yn anodd ar hyn o bryd i ddarbwyllo prynwyr i godi oddi ar y ffens ar y lefelau presennol. eitem newyddion Organig Inform
Prinder grawn porthiant ar gyfer stoc organig Mae SAC (Coleg Amaethyddol yr Alban) newydd gyhoeddi canlyniadau’r arolwg blynyddol (2008) o gynhyrchwyr organig yn yr Alban fel rhan o brosiect Organic Link y Coleg (OML). Mae cydgysylltydd Organic Market Link y Coleg, Caroline Bayliss, yn tynnu sylw at fanteision yr wyboidaeth hon i gynhyrchwyr, proseswyr a mannau gwerthu organig. Mae gwybodaeth a gasglwyd trwy’r arolwg OML wedi caniatáu datblygu masnachu uniongyrchol rhwng ffermwyr ar gyfer grawn, codlysiau a da byw stôr Mae wedi dangos dilyniant y cyflenwad ac mae wedi rhoi hyder bellach i ddau o broseswyr swmp yr Alban i gael eu nwyddau cig eidion ar gerdded yn yr Alban. Mae gwybodaeth am gyflenwi’n hollbwysig i broseswyr a manwerthwyr lluosog wrth benderfynu pryd i gychwyn mannau gwerthu newydd.” Gweler eitem gwefan SAC
Gwybodaeth am brisiau organig Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad.
|
Norton Organic Grain reports Those interested to buy organic cereals can contact Norton Organic Grain at 1787 210966. Or see Organic Inform news item After a relatively quiet run up to Christmas, the start of 2008 has seen prices rise sharply. Values in February exceed those seen before the market peaked in the autumn of last year and the prices in January 2008. Farmers are reluctant to buy, resulting in very little new trade. The lack of soya expeller in January has been resolved. However, there is still lack of available protein; full fat soya and lucerne are available. While imports are arriving slowly there are very few new offers of organic cereals. This is cause for concern. For more price information, please contact Norton Organic Grain, please use the links below or telephone 01787 210 899. www.nortonorganic.co.uk
Via Organic Inform, Norton Organic reports the following ex-farm prices in January. February prices are higher. Feed wheat Now worth around £300 ex farm for spot collection assuming 29 tonne loads. Milling wheat trade is slow except for the best samples and the risk reward ratio should be considered before chasing a premium over an exceptional feed base price. Milling oats remain in very good demand but feed quality (sub 48kg) is a little more difficult. Barley and Triticale: Trading at a £10 discount to wheat. In-conversion wheat should also trade at this level. Beans Demand is strong and prices are now nudging £315 on the basis of 29 tonne load sizes in the right area. New crop price indications are now becoming available although it is currently difficult to persuade buyers to get off the fence at prevailing levels. See Organic Inform news item
Feed grain shortage for organic stock SAC has just released the results of the annual survey (2008) of organic producers in Scotland as part of the SAC Organic Link (OML) project. SAC Organic Market Link Coordinator, Caroline Bayliss, points out the benefits of this information to organic producers, processors and marketing outlets, “Information gathered through the OML survey has allowed direct farmer to farmer trading for grains, pulses and store stock to develop. It has demonstrated continuity of supply and has given confidence now to two of Scotland’s volume processors to get their beef lines up and running in Scotland. Supply information is fundamental for processors and multiple retailers when deciding to turn on new market outlets.” See SAC website item
Organic price information See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information
|
|
Marchnad Organig - Cig a da byw
Cynnydd yng ngwerthiant cywion ieir organig Mae gwerthiant cywion ieir organig a phenrydd wedi cynyddu’n dilyn rhaglen deledu ddadleuol Jamie Oliver sy’n dangos golygfeydd annifyr lle mae cywion ieir yn cael eu sythu gan ddefnyddio dulliau batri. Mae’r cynhyrchydd dofednod Steve Merrit o S&J Organics o Sir Gaerfyrddin, wedi gweld y gwerthiant yn codi 40-50% yn ystod yr wythnos yn dilyn y rhaglen. The Telegraph
Y Sector Cig yn olrhain menter i loi gwryw llaeth Ym mis Rhagfyr y llynedd, adroddodd Waitrose eu bod eisiau lloi gwryw llaeth gorffenedig (Bwletin y Farchnad Organig Rhagfyr 2007). Y mis hwn, mae’r Beyond Calf Exports Stakeholders Forum, a sefydlwyd ym mis Mehefin 2006 yn sgil menter gan Compassion in Word farming a’r RSPCA, wedi cytuno ar adroddiad sy’n anelu at gefnogi ac annog datblygu mannau sy’n hyfyw’n economaidd ar gyfer magu a gorffen lloi gwryw llaeth yn ddomestig. gwefan Meat Info
Archfarchnadoedd yn bygwth diwydiant organig Cymru Mae’r Soil Association yn awgrymu bod cig eidion organig Cymru’n cael ei orfodi oddi ar silffoedd yr archfarchnadoedd gan fewnforion cig organig sydd wedi’u hedfan hanner y ffordd o gwmpas y byd. “Er gwaethaf pryder cynyddol am filltiroedd a’r effaith mae cynhyrchu bwyd yn cael ar yr amgylchedd,” medd yr Association, “mae’r archfarchnadoedd yn anwybyddu cynnyrch lleol oherwydd nad ydynt yn fodlon talu’r premiwm organig am gynnyrch cartref.” Gallai hyn fod yn gnul angau i ddiwydiant cig eidion organig Cymru sydd werth £4.2m y flwyddyn gan amddifadu siopwyr rhag dewis cynnyrch o ansawdd. Western Mail
Gwybodaeth am brisiau organig Ceir mwy o wybodaeth am brisiau da byw (Rhagfyr 2007) ar wefan y Soil Association. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad
Arwerthiannau Da Byw Organig Cynhelir arwerthiannau organig nesaf McCartney's ar 6 Mawrth, 10 Ebrill a 1 Mai. Ffoniwch 01874 622386 am fanylion. Cynhelir arwerthiant organig nesaf Livestock Sales y Trallwng ar 7 Ebrill a 5 Mai 2008. Ffoniwch 01938 553438 am fanylion. Bydd Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiannau’n rheolaidd. Am fanylion galwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com.
|
Organic Market - Meat and livestock
Increase in sales of organic chickens Sales of organic and free range chickens have increased following a controversial Jamie Oliver television programme which showed disturbing scenes of chickens being slaughtered using battery-farming methods. Organic poultry producer Steve Merrit, of S & J organics from Carmarthenshire, has seen sales rise by 40-50% in the week following the programme. The Telegraph
Meat sector backs initiative for male dairy calves In December last year, Waitrose reported that it wanted finished dairy-bred bull calves (Organic Market Bulletin December 2007). This month, the Beyond Calf Exports Stakeholders Forum, established in June 2006 after an initiative by Compassion in World Farming and the RSPCA, have agreed a report that aims to support and encourage the development of economically viable outlets for the domestic rearing and finishing of male dairy calves. Meat Info website
Supermarkets threaten Welsh organics industry The Soil Association suggests that organic Welsh beef is being forced off the supermarket shelves by cheaper imports of organic meat flown half way around the world. They say: “Despite growing concern about food miles and the impact food production has on the environment supermarkets are ignoring local produce because they are unwilling to pay the home-grown organic premium.” The move could sound the death knell for Wales’ £4.2m-a-year organic beef industry and deny shoppers the choice of a quality product. Western Mail.
Organic price information More livestock price information (December 2007) to be obtained from the Soil Association website. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information
Organic Livestock Auctions McCartney's next organic auctions will be held on 6 March, 10 April and 1 May. Call 01874 622386 for details. Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 7 April and 5 May 2008. Call 01938 553438 for details. Carmarthen Livestock Centre hold regular organic auctions. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.
|
|
Marchnad Organig - Ffrwythau a llysiau
Gwefan HDC newydd Mae’r Cyngor Datblygu Garddwriaeth (HDC) wedi lansio gwefan sy’n anelu at hyrwyddo ffrwythau a llysiau tymhorol. Dilynwch y ddolen i fynd at y wefan hon www.iminseason.com.
Tatws Organig yn yr UE Yn y 27 o wledydd sydd yn yr UE, defnyddiwyd 23,000 hectar ar gyfer tyfu tatws organig yn 2008. Mae hyn yn 1% o’r holl arwynebedd a ddefnyddir ar gyfer tyfu tatws yn Ewrop. Y gwledydd pwysicaf oedd yr Almaen gyda 7,500 o hectarau, Awstria gyda 2,426 hectar a gwledydd Prydain gyda 2,360 hectar. O’i chymharu â’r holl datws sy’n cael eu tyfu, yr arwynebedd mwyaf oedd yn Awstria (11%). Cyfran Sweden oedd 3.1%, Yr Almaen yn 2.7%, Denmarc 2.5% a chyfran Estonia oedd 2% www.zmp.de. Yng Nghymru, ceir 99 hectar, 4.5% o’r holl arwynebedd lle y tyfir tatws, o dan datws organig. Gweler y y wefan
Adroddiad Organics to Go Mae Organics to Go yn dal i chwilio am gyflenwyr newydd ar gyfer eu cynlluniau blychau. Os oes gennych ffrwyth organig a/neu lysiau i’w gwerthu neu os hoffech werthu yn y dyfodol. Dylech gysylltu â Roger Hallam ar 01558 669020 neu edrychwch ar www.organicstogo.info.
Y prisiau cyfredol (o’r fferm) (7 Chwefror 2008) yw: Tatws £10-11/25kg; Blodfresych £0.80/kg; Maip £50c/kg; Moron 45-50c/kg; Pannas 80c/kg; Nionod dim o’r DU; Betys 50c/kg; Cennin £1.20/kg; Brocoli £1.40/kg; Afalau bwyta £1.30/kg; Bresych 60c yr un; Ysgewyll £1.60/kg.
Gwybodaeth am brisiau organig Am fwy o fanylion a phrisiau garddwriaethol gweler gwefan y Soil Association. Gweler hefyd we-tudalennau y Ganolfan am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad
|
Organic Market - Fruit and vegetables
New HDC website The Horticultural Development Council (HDC) has published a website which aims to promote seasonal fruit and vegetables. See www.iminseason.com.
Organic potatoes in the EU In the 27 countries in the EU, 23,000 hectares were used for growing organic potatoes in 2006. This is equivalent to 1% of the total area for potato growing in Europe. The most important countries were Germany with 7,500 hectares, Austria with 2,426 hectares and Great Britain with 2,360 hectares. In relation to total potato cultivation, the organic area was largest in Austria (11%). Sweden’s share was 3.1%, Germany’s 2.7%, Denmark’s 2.5% and Estonia’s share was 2% www.zmp.de. While Wales only had 99 hectares under organic potatoes, its share of total potato cultivation was 4.5%. See the statistics webpage.
Organics to go reports Organics to Go continues to look for new suppliers for their box schemes. If you have organic fruit and/or vegetables to sell or would like to sell in the future, please contact Roger Hallam on 01558 669020 or see www.organicstogo.info.
Current prices (ex-farm) (7 February 2008) are: Potatoes £10-11/25kg; Cauliflower £0.80/kg; Swedes £50p/kg; Carrots 45-50p/kg; Parsnips 80p/kg; Onions no UK; Beetroot 50p/kg; Leek £1.20/kg; Broccoli £1.40/kg; Eating apples £1.30/kg; Cabbage 60p each; Brussel sprouts £1.60/kg.
Organic price information For more details and prices in Horticulture see the Soil Association website. See also the OCW marketing pages for more price and market information.
|
|
Llaeth organig yn mynd oddi ar y fwydlen yn Starbucks Mae’r gadwyn siopau coffi Starbucks yn bwriadu peidio â gwerthu llaeth organig yn ei siopau yn y DU o 28 Chwefror 2008. Yn wreiddiol, dechreuodd Starbucks ddefnyddio llaeth organig yn 2001 i ddarparu i gwsmeriaid a oedd ei eisiau. Agra Informa’s ‘Dairy Markets’
Amrywiad organig yn yr hyn mae Lurpak yn ei gynnig Mae prif frand menyn, pastau a margarin yn ymestyn ei bortffolio cynnyrch y mis hwn wrth lansio Lurpak Organic Spreadable, un o’r cynhyrchion organig cyntaf gan frand menyn/pastau/margarin. Mae Lurpak yn cael ei wneud gan Arla Foods UK ac fe wneir y cynnyrch newydd o flendiau o laeth organig gydag olew llysiau organig. Agra Informa’s ‘Dairy Markets’
Y Genhedlaeth Ddiweddaraf o Siopau Bwyd Iechyd Mae Kai Kreuzer o Organic Market Information Service yn awgrymu bod fwyfwy o berchenogion busnesau bwyd iach yn mentro dod yn fannau gwerthu organig arbenigol gan agor siopau mawr www.organic-market.info
Nwyddau organig yn ffynnu yn yr Almaen Mae’r Almaen yn gweld gwerthiant bwyd organig yn ffynnu ond amser a ddengys pa mor hirdymor yw hyn oherwydd y pris premiwm a hawliai gan gynnyrch organig. Cynyddodd trosiant yn y sector organig 15% y llynedd i dros €5 billion. Disgwylir twf ymhell i ffigyrau dwbl eto yn 2008. Mae cwsmeriaid yn yr Almaen yn gwerthfawrogi ansawdd bwyd organig ac roeddent yn fodlon talu amdano, am resymau’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid a gofal amgylchedd llawn cymaint â’u lles personol. Arolwg yn Stern Agra Europe Weekly
Y Diwydiant Organig yn methu delio â’r galw Mae data ymchwil Mintel a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, yn dangos y bydd y farchnad organig yn cynyddu’i gwerth ryw 54% dros y pum mlynedd i 2012, a bydd yn mynd dros £2bn erbyn 2011; Ond mae Mintel yn rhybuddio bod anawsterau cyflenwi wedi amharu ar y twf wrth i gynhyrchwyr yng ngwledydd Prydain frwydro i gwrdd â’r galw cynyddol. Yn ôl David Bird, prif ddadansoddwr y farchnad yn Mintel: “Mae’r broses hir i drosi o ffermio confensiynol i organig yn cymryd sawl blwyddyn i’w chwblhau. Oherwydd hyn, nid yw llawer iawn o gynhyrchwyr wedi llwyddo i ymateb yn gyflym i ateb y galw cynyddol am fwyd organig a dyfir gartref. Yn ddi-os, mae hyn wedi cael effaith anferthol ar dwf y farchnad." The Independent
|
Organic milk off the menu at Starbucks The coffee shop chain Starbucks is planning to stop selling organic milk at its US stores from 26 February 2008. Starbucks originally began using organic milk in 2001 to cater for customers who wanted organic milk. Agra Informa’s ‘Dairy Markets’
Lurpak strengthens offering with organic variant The UK’s number one butter spreads and margarine (BSM) brand is extending its product portfolio this month with the launch of Lurpak Organic Spreadable, one of the first organic products from a major BSM brand. Lurpak is manufacturer by Arla Foods UK and is made from organic milk blended with organic vegetable oil. Agra Informa’s ‘Dairy Markets’
Latest Generation of Health Food Stores Kai Kreuzer of Organic Market Information Service suggests that more and more owners of health food businesses are taking the risk of becoming organic specialist outlets and are opening stores of generous proportions www.organic-market.info
Boom in German organic products Germany is enjoying a boom in organic food sales but it remains to be seen how long lasting this will be because of the premium price demanded by organic products. Turnover in the organic sector increased by 15% last year to more than €5 billion. Growth well into double figures was again expected for 2008. German consumers value the quality of organic food and were willing to pay for it., for reasons of animal health and environmental care as much as for their own well-being, A Stern's survey said. Agra Europe Weekly
Organic industry unable to cope with demand Mintel research data published in January indicate that the organic market will increase in value by some 54% over the five years to 2012, set to break through the £2bn mark by 2011. But Mintel warn that growth has been hampered by supply difficulties, as British producers struggle to meet increasing demand. David Bird, senior market analyst at Mintel, said: “The lengthy conversion process from regular to organic farming takes several years to complete. Because of this many producers have not been able to react quickly to satisfy the growing demand for home-grown organic food. This has undoubtedly had a huge impact on the growth of the market." The Independent
|
|
Marchnad Organig - Gwylio'r prisiau adwerthol
Prisiau Organig Cyfredol: Tatws Tesco £1.99/2.5 kg↑ Sainsbury: £2.49 Morrisons: - Llaeth Tesco £0.92/2 beint Sainsbury: £0.92 Morrisons: £0.92 Cig Oen (tshiops) Tesco £12.34/kg ↑↑ Sainsbury: n/a Stêc eidion ffiled Tesco £22.99 Sainsbury: £22.99↓↓ Morrisons: - Briwgig eidion Tesco £4.38/kg Sainsbury: £4.98 Morrisons: £4.39 Stêc syrlwyn eidion (bach) Tesco £16.49 Sainsbury: £16.49↑
Am fwy o wybodaeth gweler https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml
|
Organic Market - Retail price watch
Current Organic Prices (1 Feb 08) Potatoes Tesco £1.99/2.5 kg↑ Sainsbury: £2.49 Morrisons: - Milk Tesco £0.92/2pints Sainsbury: £0.92 Morrisons: £0.92 Lamb (chops) Tesco £12.34/kg ↑↑ Sainsbury: n/a Morrisons: - Beef fillet steak Tesco £22.99 Sainsbury: £22.99↓↓ Morrisons: - Beef mince Tesco £4.38/kg Sainsbury: £4.98 Morrisons: £4.39 Beef sirloin steak (small) Tesco £16.49 Sainsbury: £16.49↑
For more details see https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml
|
|
Gweler hefyd www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php
Ar werth Pedair heffer dyflwydd Limousin x MRI yn rhedeg â tharw Lim. San Clêr. 07970 178598. [29/01/08] Byrnau crynion gwywair organig. San Clêr 07970 178598. [29/01/08] Chwynwr Einbock pigfain. 6m ar led, lifft hydrolig. Dim ond wedi’i ddefnyddio am 10 awr ers ei gael yn newydd yn 2003. £1,750+taw. geoff@geodomes.com neu 01497 821639. [21/01/08] Silwair gweirglodd organig (byrnau crynion) a gwair ceirch organig ger Trefynwy. Ffoniwch Teona ar 01600 780501. 100 o fyrnau gwenith crynion (Caerdydd).Cysylltwch â Hugh Cory 07885 637932/ 01446760264 Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251. Sbinychod organig Cymreig o dras ar werth drwy'r adeg. Llinach ardderchog. Yn wydn ac yn hawdd eu trin. Wedi'u geni a'u magu ar 1000 troedfedd. Baeddod ifainc hefyd ar gael.. Neil a Patricia Plume ger Llanymddyfri 01550 740670 neu farm@penrhiwuchaf.co.uk Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk. Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).
Yn Eisiau Tir i'w rentu yn addas ar gyfer sefydlu gardd farchnad, ardal Aberystwyth. Cysylltwch â Sandy 07876 794026/ 01970 615791 Porfeydd gaeaf 2008/09 ar gyfer 150-200 o ŵyn beinw mynydd Cymreig. Cysylltwch â 01650 531366. [06/02/08] Gwartheg Stôr Organig o fis Ebrill. Croesiadau cyfandirol, 10 mis neu’n hŷn. Cysylltwch ag Ernie Gibbons, 01407 720227 [22/01/2008] Porfeydd Gaeaf i 150 o ŵyn beinw Cymreig. Galwch 01650 531251. [17/01/08] Gwaith ar fferm ffrwythau a llysiau organig. Byddai pâr brwd a gweithgar 27 a 28 oed wrth eu boddau’n cael cyfle i weithio ochr yn ochr â thyfwyr llysiau organig i helaethu ein gwybodaeth a’n profiad ymarferol. Rydym wedi dychwelyd o Ganada yn ddiweddar lle buom yn gweithio ar ffermydd llysiau gan gefnogi cynllun cymunedol (CSA). Byddai sefyllfa ddelfrydol yn golygu swydd breswyl ac rydym yn barod i adleoli. Cysylltwch â Lloyd a Hayley [01/02/2008]
I'w osod Trwydded bori i wartheg ger Trefynwy 1 Mai i 31 Hydref 2008. Hollol organig, tua 21 ha (52 erw) gwndwn gwair/meillion newydd a phorfa barhaol, wedi’i ffensio, dyfrio a chysgodi’n dda. Cysylltwch â Teona Dorrien-Smith 01600 780501. [04/02/08] Porfeydd haf i wartheg. 4 hectar ger Penrhyn Llŷn. Yn hollol organig. Ffoniwch Val ar 01766 819109 am fwy o wybodaeth. [29/01/08]
Amrywiol Mae Graig Producers Cymru a’r Gororau wedi cynrychioli’i 280 o aelodau gan farchnata eu da byw, ers dros 10 mlynedd. Mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol â Graig Producers South West and Caledonian Organics gan harneisio nerth marchnata dros 500 o aelodau sy’n ffermio’n organig. Ceir llawer iawn o fanteision i aelodaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.graigproducers.co.uk neu am fanylion i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb barhaol]
Rhoddodd Ail Gynllun Gweithredu Organig Cymru bwyslais arbennig ar y swyddogaeth bwysig a gyflawnir gan y grwpiau cynhyrchu. Mae Grŵp Strategaeth Organig a Chanolfan Organig Cymru’n cynnig eu cefnogaeth gan argymell y dylai cynhyrchwyr bob amser ystyried y budd posibl a gynigir gan grwpiau marchnata cynhyrchwyr yn enwedig wrth ymdrin ag adwerthwyr lluosog. |
See also www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php
For Sale Four Limousin x MRI two-year-old heifers running with Lim bull. St Clears. 07970 178598. [29/01/08] Organic haylage round bales. St Clears 07970 178598. [29/01/08] Einbock tine weeder. 6m working width, hydraulic lift. Only 10 hours use since new in 2003. £1,750+vat. geoff@geodomes.com or 01497 821639. [21/01/08] Organic meadow silage (round bales) and organic oat straw near Monmouth. Please ring Teona on 01600 780501. [11/01/08] 100 round wheat bales (Cardiff Area).Please contact Hugh Cory 07885 637932/ 01446760264 Organic calves, mainly
Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round
calving British Friesian Dairy herd.
Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert] Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert] Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and
oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent
advert]
Wanted Land to rent suitable for the establishment of an organic market garden, Aberystwyth area. Please contact Sandy 07876 794026/ 01970 615791 Winter grazing 2008/09 for 150-200 Welsh Mountain ewe lambs. Contact 01650 531366. [06/02/08] Organic Stores from April. Continental crosses, 10 months or older. Contact Ernie Gibbons, 01407 720227 [22/01/2008] Winter Grazing for 150 welsh ewe lambs. Call on 01650 531251. [17/01/08] Work on an organic fruit and vegetable farm. Enthusiastic, hardworking couple of 27 and 28 would relish the opportunity to work along side organic vegetable growers to further our knowledge and practical experience. We have recently returned from Canada where we worked on vegetable farms, supporting a community scheme (CSA). Ideal situation would involve a live-in position and we are willing to relocate. Please contact Lloyd and Hayley [01/02/2008]
To let Grasskeep for cattle near Monmouth 1st May to 31st October 2008. Fully organic, approx 21 ha (52 acres) new grass/clover leys and permanent pasture, well fenced, watered and sheltered. Contact Teona Dorrien-Smith 01600 780501. [04/02/08] Summer grazing for cattle. 4 hectares near the Lleyn Peninsula. Fully organic. Please call Val on 01766 819109 for more information. [29/01/08]
Miscellaneous Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk. [permanent advert]
The second Welsh Organic Action Plan placed special emphasis on the important role played by producer groups. The Organic Strategy Group and Organic Centre Wales offer their support and recommend that producers should always consider the potential benefits offered by producer marketing groups, particularly when dealing with multiple retailers. |
|
Hwn oedd y cylchlythyr gwybodaeth farchnata misol gan Ganolfan Organig Cymru. Llwyfan yw’r e-fwletin hwn ar gyfer rhannu gwybodaeth am dueddiadau’r farchnad a chynhyrchu rhwng busnesau organig yng Nghymru. Rydym yn gobeithio eich bod yn ei gael yn fuddiol a chroesawn unrhyw adborth, eitemau newyddion, neu hysbysebion ar gyfer y rhifyn nesaf. Gweler ôl-rifynnau yn www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin |
This was the monthly market intelligence newsletter from Organic Centre Wales. This e-bulletin is a platform for sharing information on market trends and production between organic businesses in Wales. We hope that you find it useful and we welcome any feedback, news items, or advertisements for the next issue. See back numbers at www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin.
|
|
EITEMAU NEWYDDION Anfonwch eich eitemau newyddion, adborth a hysbysebion at david.frost@adas.co.uk.
Er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin yma, ni all Canolfan Organig Cymru a’i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail unrhyw un o’u cyhoeddiadau
|
NEWS ITEMS Please send your news items, feedback and advertisements to david.frost@adas.co.uk.
While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of any of its publications..
|
|
I danysgrifio i’r bwletin hwn, dylid anfon neges at Jane Powell. Gellwch hefyd danysgrifio i e-fwletin Cymru Organig sy’n ymddangos ar ddechrau pob mis yn cynnwys y newyddion organig diweddaraf yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Gweler www.organic.aber.ac.uk/bulletin. |
To subscribe to this bulletin send a message to Jane Powell. You can also subscribe to the Organic Wales e-bulletin, which appears at the beginning of each month featuring the latest organic news in Wales, the UK and beyond. See www.organic.aber.ac.uk/bulletin. |