BwletinMarchnad Organig CymruRhif 60, 15 Ionawr 2008 |
BulletinOrganic Market WalesNo. 60, 15 January 2008 |
|
Marchnad Organig Cymru Llaeth Grawnfwydydd Cig a da byw ffrwythau a llysiau Newyddion Y farchnad Gwylio'r prisiau adwerthol Adborth |
Organic Market Wales Dairy Cereals Meat and livestock Fruit and vegetables News Market place Retail price watch Feedback |
|
Ystadegau Organig Newydd Am yr Adroddiad Ystadegol diweddaraf ar Ddatblygu Ffermio Organig yn yr UE-15, y Swistir a Norwy 1997-2006. dilynwch y ddolen hon.
Elin Jones yn llongyfarch Thelma ar gyflawniad oes Mae Thelma Adams wedi ennill y wobr Gwir Flas am Gyflawniad Oes. Yr wythnos diwethaf, bu’r Gweinidog Materion Gwledig, Elin Jones, yn ymweld â’r fferm yn Sir Gâr lle mae teulu’r Adams yn cynhyrchu Caws Cenarth i longyfarch Thelma ar ennill y wobr. Ffynhonnell: Datganiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r wasg 11 Rhagfyr 2007
Mae Cynllun Ffermio Organig Cymru wedi agor Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i Gynllun Ffermio Organig Cymru er mwyn symud ffermio organig yng Nghymru yn ei flaen. Amlinellir newidiadau i’r cynllun hwn ar y wefan. Dilynwch y ddolen am fwy o wybodaeth.
Labelu gorfodol newydd ar gyfer ffrwythau a llysiau O 1.1.2008, rhaid datgan gwlad tarddiad ffrwythau a llysiau o bob math yn yr UE. O’r blaen, ni fu’r labelu gorfodol hwn ond yn berthnasol i ffrwythau a llysiau a oedd yn destun safonau marchnata’r UE. Golyga newid yng nghyfraith yr UE (Erthygl 2, para 1 o Reoliad y Cyngor (CE) Rhif 1182/2007) fod yn rhaid bellach i bob math o ffrwythau a llysiau gael eu labelu ag enw gwlad eu tarddiad. Cylchlythyr Biofach
Logo organig yr UE O 2008 ymlaen, rhaid i gynhyrchion sy’n cynnwys 95% neu ragor o gynhwysion organig ddangos logo organig yr UE. Bydd y logo newydd yn orfodol. Amcan y logo hwn yw rhoi mwy o wybodaeth i ddefnyddwyr am darddiad cynnyrch ac fel y gallant hyderu fod safonau diffiniedig yr UE wedi’u cyrraedd. Bydd cynhyrchwyr yn gallu defnyddio logos lluosog ar eu deunydd pacio os dymunant. Gall ffermwyr, sy’n gwrthod defnyddio logo’r UE, ar ôl iddo ddod i rym, wynebu cael eu herlyn gan swyddogion safonau masnach lleol.. Organic Inform
Lansio cynllun Blas am Oes Ddydd Iau 22 Tachwedd, bu’r Gweinidog Addysg, Jane Hutt, yn lansio Cynllun Gweithredu Blas Am Oes Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n rhagosod cyfeiriad y strategaeth a’r camau angenrheidiol i wella safonau maethlon bwyd a diod yn ysgolion Cymru. Mae’r cynllun wedi datblygu’n dilyn ymgynghori helaeth a chadarnhaol a oedd yn cynnwys barn plant a phobl ifanc, a thrafodaethau manwl â Chymdeithas Arlwyo’r Awdurdodau Lleol. Datganiad i'r wasg. Gweler hefyd tudalen gwefan y Ganolfan am gaffael cyhoeddus.
Rhanddirymiad porthiant confensiynol Mae Defra wedi llunio rhanddirymiad ynglŷn â bwydo defnyddiau porthiant confensiynol cymeradwyedig ar gyfer buchod llaeth tan ddiwedd mis Chwefror 2008 Yn unol â’r darpariaethau brys a ragosodwyd yn Atodiad 1 B, paragraff 4.9 Compendiwm Safonau Organig y DU, penderfynwyd awdurdodi Cyrff Ardystio i roi rhanddiddymiad i weithredwyr unigol i ganiatáu defnyddio blawd y paith anorganig (blawd glwten indrawn), protein tatws a soeg rêp, dros gyfnod cyfyngedig. Awdurdodir hyn er mwyn cydnabod yr amhariad difrifol ar gyflenwad soeg soia organig o Weriniaeth Pobl Tsieina ac absenoldeb rhywbeth i gymryd ei le gan ei fod yn cael ei dyfu’n organig. Am fwy o wybodaeth a manylion, cysylltwch â’ch corff ardystio.
|
New organic statistics For the latest Statistical Report on the Development of Organic Farming in EU-15, Switzerland and Norway 1997-2006, please follow this link.
Elin Jones congratulates Thelma Adams Thelma Adams has won the True Taste award for Lifetime Achievement. Rural Affairs Minister Elin Jones last month visited the Carmarthenshire Farm where the Adams family produce Caws Cenarth to congratulate Thelma on her award. Source: WAG press release 11 December 2007
The Welsh Organic Farming Scheme has opened The Welsh Assembly Government has announced amendments to the Welsh Organic Farming Scheme in order to progress organic farming in Wales. Changes to the scheme are outlined on the website. More information.
New mandatory labelling for fruit and vegetables From 1.1.2008, the country of origin must be stated for all kinds of fruit and vegetables in the EU. This mandatory labelling previously applied only to fruit and vegetables subject to EC marketing standards. A change in European law (Article 2, paragraph 1 of Council Regulation (EC) No. 1182/2007) means that all types of fruit and vegetables now have to be labelled with their country of origin. Biofach newsletter.
EU organic logo From 2008 onwards, products containing 95% or more organic ingredients need an EU organic logo. The new logo will be mandatory. The aim of this logo is to provide consumers with more information on product origin and to give them confidence that defined EU standards have been met. Producers will be able to use multiple logos on their packaging if they wish. Farmers declining to use the EU logo, once enforced, may face prosecution by local trading standards officers. Organic Inform
Appetite for Life action plan launched On Thursday 22 November, Education Minister, Jane Hutt launched the Welsh Assembly Government’s Appetite for Life Action Plan which sets out the strategic direction and actions required to improve nutritional standards of food and drink in schools in Wales. The plan has been developed following an extensive and positive consultation exercise which included the views of children and young people, and detailed discussions with the Local Authority Catering Association. Press release. See also the OCW webpage on public procurement.
Derogation conventional feed Defra has drawn up a derogation for the use of approved conventional feeding stuffs for dairy cows until end February 2008. In accordance with the emergency provisions set out in Annex I B paragraph 4.9 of the Compendium of UK Organic Standards, it has been decided to authorise Certification Bodies to grant derogations to individual operators only to permit the use of non organic prairie meal (maize gluten meal), potato protein and rape expeller for a limited period. This authorisation is given in recognition of serious disruption to supplies of organic soya expeller from the People’s Republic of China and the absence of suitable replacement for it grown organically. For more information and details please contact your certification body.
|
|
OMSCo yn buddsoddi yn nyfodol llaeth organig y DU Mae Cydweithfa Cyflenwi Llaeth Organig (OMSCo) wedi rhoi bwrsariaeth i bedwar ffermwr llaeth organig ifanc. Mae OMSCo wedi dyrannu hyd at £5000 mewn cymorth ariannol i ffermwyr ifanc eleni fel rhan o’i ymrwymiad i gryfhau dyfodol diwydiant cynnyrch llaeth organig y DU. Mae’r fwrsariaeth ar gael i aelodau OMSCo, eu teuluoedd agosaf a gweithwyr ar ffermydd OMSCo. Farmers Guardian
FOMG yn derbyn grant £60,000 Mae Ffederasiwn Grwpiau Llaeth Organig wedi derbyn grant £60,000 gan y Cyngor Datblygu Llaeth i gynyddu ymwybyddiaeth o laeth organig. Defnyddir yr arian i weithredu ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus gan gydnabod y bydd mwy o ffermwyr yn cwblhau’r broses o droi’n organig yn ystod y 12 mis nesaf. Yn ôl y Ffederasiwn, bydd yr ymgyrch hefyd yn rhoi mwy o gymorth i gydweithrediad pellach cydweithfeydd a berchenogir gan ffermwyr wrth farchnata llaeth organig yn gyffredinol i ddefnyddwyr, gan roi mwy o hyder i ffermwyr sydd ar hyn o bryd yn cynhyrchu i safonau organig. Menter ar y cyd yw hon rhwng y FOMG a’r MDC a bydd yn cael ei lansio ym mis Mawrth 2008. Farmers Guardian
Yeo Valley yn dechrau’r flwyddyn newydd trwy ail-lansio I helpu cynnal ei gynnydd 20% o flwyddyn i flwyddyn, mae Yeo Valley yn dechrau 2008 trwy ailwampio’r brand. Mae gan Yeo Valley Organics gyfran 7% o’r holl farchnad iogyrt a fromage frais a hwn yw’r brand iogyrt cyntaf yn rhestr flynyddol 100 uchaf nwyddau groseri ACNielsen. Dyma gyfarwyddwr marchnata Yeo Valley, Ben Cull, yn esbonio: “Er bod cynllun newydd y paciau’n cadw rhai o elfennau allweddol ein deunydd pacio presennol … maent bellach yn lanach, yn symlach a hyd yn oed yn haws ei nabod ac yn fwy modern o lawer. Mae’r logo hefyd wedi cael ei gryfhau i’w wneud yn haws nabod y brand ac i ddenu ‘gwyrddion cymedrol’ sy’n bwysig iawn wrth helpu i dyfu’r sector organig.” “Gyda’r ryseitiau newydd sy’n fwy ffrwythog, rydym hefyd yn anelu at wneud y brand yn fwy deniadol i’r nifer cynyddol o ddefnyddwyr sy’n chwilio am gynnyrch a fydd yn rhoi pwyslais iachach ar eu diet. Rydym yn credu bod y ryseitiau newydd sydd wedi’u datblygu gennym lle y ceir 60% o ffrwythau ychwanegol a hyd yn oed llai o siwgr yn ein nwyddau i blant, yn golygu mai’r rhain sy’n gosod y safon yn y cabinet cynnyrch llaeth.” Organic Inform
Gwybodaeth am brisiau organig Am wybodaeth am brisiau gan Ffermwyr Llaeth Gwledydd Prydain, cliciwch yma. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad
|
OMSCo invest in UK organic dairy future The Organic Milk Suppliers Cooperative (OMSCo) has awarded a bursary to four young organic dairy farmers. OMSCo has allocated up to £5000 in financial support to young farmers this year as part of its commitment to strengthening the future of the UK organic dairy industry. The Bursary is available to OMSCo members, their immediate families, and employees on OMSCo farms. Farmers Guardian.
FOMG awarded £60,000 grant The Federation of Organic Milk Groups has been awarded a £60,000 grant by The Milk Development Council to increase awareness of organic milk. The money will be used to implement a public relations campaign and recognises that more farmers will be completing conversion in the next 12 months. The campaign, says the organisation, will also aid further co-operation of farmer-owned milk co-operatives in the generic marketing of organic milk to consumers and give greater confidence to farmers currently producing to organic standards. It is a joint initiative between the FOMG and MDC and will launch in March 2008. Farmers Guardian.
Yeo Valley starts the New Year with re-launch To help sustain its 20% year on year growth rate, Yeo Valley is starting 2008 with a brand re-design. Yeo Valley Organic has a 7% share of the total yoghurt and fromage frais market, and is the first organic brand in the ACNielsen annual top 100 grocery brands list. Yeo Valley’s marketing director, Ben Cull explained: “While the new pack designs retain some of the key elements of our current packaging … they are now cleaner, simpler, even easier to identify and much more modern. The logo has also been strengthened, to make brand recognition easier and attract the ‘mild greens’ who are very important in helping to grow the organic sector.” “With the new, fruitier recipes, we are also aiming to make our brand even more appealing to the growing number of consumers who are seeking products that will give a healthier accent to their diets. We believe that the new recipes we’ve developed, with a 60% addition to the fruit content and even less sugar in our children’s range make them the new standard-setter for the dairy cabinet.” Organic Inform
Organic price information For price information from Dairy Farmers of Britain, click here. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information
|
|
Marchnad Organig - Grawnfwydydd
Mae Norton Organic Grain yn adrodd Mae prisiau wedi cynyddu ers diwedd y llynedd: Gwenith Mae pris gwenith porthiant wedi cynyddu ers y mis diwethaf gan sefyll oddeutu £300 y dunnell o’r fferm ar hyn o bryd. Mae pris gwenith melino hefyd wedi cynyddu i tua £310 y dunnell o’r fferm. Gall ceirch hawlio £285.00 o’r fferm. Mae prisiau Barlys a Rhygwenith yn debyg i brisiau ceirch ar £285 y dunnell. Ffa Bu cynnyrch gwael yn gyfrifol am gyflenwad cyfyngedig ym mis Rhagfyr. Nid oedd y cynhyrchwyr porthiant mwyaf wedi’u trefnu’n ddognau gan na fedrant gael meintiau digonol. Roedd ffa’n masnachu am hyd at £310 o’r fferm ym mis Ionawr 2008. Gall pobl sydd â diddordeb mewn prynu grawn organig gysylltu â Norton Organic Grain ar 1787 210966. Neu edrychwch ar Organic Inform
Mewnforion grawn Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi penderfynu atal yr holl dollau mewnforio ar rawn tan 30 Mehefin 2008, heblaw am y rheini sy’n cynnwys ceirch, mewn ymgais i ostwng costau mewnforio porthiant anifeiliaid. Ffynhonnell: Diweddariad Misol Nix Ionawr 2008
Gwybodaeth am brisiau organig Gweler www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad
|
Norton Organic Grain reports Prices have increased since the end of last year. Wheat The price of feed wheat has increased since last month and is around £300 per tonne ex farm at present. The price of milling wheat has also increased to about £310 per tonne ex-farm. Oats can command £285 ex-farm. The prices of both barley and triticale are similar that of oats at £285 per tonne. Beans Poor yields led to limited supply in December. Larger feed manufacturers had not formulated them into rations as they cannot obtain high enough quantities. Trading at up to £310 ex-farm in January 2008. Those interested to buy organic cereals can contact Norton Organic Grain at 01787 210966. Or see Organic Inform.
Import of cereals The European Commission has decided to suspend all import duties on cereals until 30 June 2008, apart from those covering oats, in an attempt to bring down the cost of importing animal feed. Source: Nix Monthly update jan 2008
Organic price information See www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information
|
|
Marchnad Organig - Cig a da byw
Datblygu’r Sector Cig Organig Awgryma adroddiad a gyhoeddir gan y Soil Association fod prisio’r archfarchnadoedd yn dal cynhyrchu cig organig y DU yn ei ôl. Yn ôl y Soil Association: “ar y cyfan, mae aml-fanwerthwyr wedi ymateb yn dda i ddyheadau cynllun gweithredu organig y llywodraeth”, ond hefyd dywedir bod “y twf mewn cynhyrchu yn y DU wedi mynd yn farwaidd a bod mewnforion yn cynyddu eto. Cynyddodd mewnforion cig eidion o 15% i 17% o’r gwerthiant a phorc o 20% i 47% o 2005 i 2006. Am fwy o wybodaeth gweler gwefan y Soil Association
Newidiadau mewn safleoedd prosesu Trawyd cynhyrchwyr cig oen organig yn galed yn sgil newidiadau i safleoedd prosesu gan y prif aml-werthwyr. Mae llawer iawn o’r gwaith prosesu cig oen wedi symud o Loegr i Gymru. Yn ôl Helen Whyte, cyd-gysylltydd datblygu organig i’r Soil Association, mae’r symudiad o ran prosesu ynghyd ag ardaloedd gwaharddiad clefyd y tafod glas, yn golygu bod llawer iawn o gynhyrchwyr yn Lloegr yn cael eu bod heb fannau prosesu ar gyfer eu hŵyn gorffenedig. Organic Farming Magazine Gaeaf 07/08.
Welsh Farm Organig yn adrodd Dywedodd Jonathan Rees, 29, sy’n rheoli’r cwmni arobryn Welsh Farm Organics, ger y Drenewydd, gyda’r wraig Sally, fod y farchnad cig eidion yng Nghymru’n dod yn anodd ei chynnal. “Dwi ddim yn gwybod sut y gall yr archfarchnadoedd fforddio’i werthu am y pris y maen nhw,” meddai. “Rhaid i ni werthu ein rhai ni am bris uwch na nhw neu ni fyddwn ni’n gallu cynnal ein busnes.” “Rydym yn cynnig lefel gwasanaeth na all yr archfarchnadoedd gystadlu â hi oherwydd gallwn roi cyngor am sut i goginio pethau, sut i ddefnyddio carcas cyfan a phethau fel ‘na.” “Mae’n hanfodol i archfarchnadoedd newid i gynnyrch lleol ond, yn anffodus, dim ond darparu ar gyfer beth mae pobl ei eisiau y maen nhw – sef, cig rhad. Gweler hefyd: Western Mail
Mewnforion cig Mae MLC Economics wedi rhagweld cynnydd o 17% mewn mewnforion cig eidion yn 2008, tra disgwylir y bydd cynhyrchu yn y DU i lawr 4% o’i gymharu â 2007 ar 880,000 hectar. Tra mai Gweriniaeth Iwerddon sy’n gyfrifol am tua 60% o’r mewnforion, disgwylir i fewnforion o’r ffynhonnell hon i ddisgyn gyda chynnydd yn y mewnforion o’r Almaen, Yr Iseldiroedd a Ffrainc. Rhagwelir y bydd allforion yn tyfu 40 y cant i 70,000 tunnell. Dylai cyfanswm holl gynhyrchu 2007 fod tua 8 y cant yn uwch na 2006 yn 913,000 tunnell. Ffynhonnell: Nix Monthly Update Ionawr 2008
Gwybodaeth am brisiau organig Ceir rhagor o wybodaeth am brisiau da byw gan y Soil Association. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml.
Arwerthiannau Da Byw Organig Cynhelir arwerthiannau McCarthney’s ar 6 Mawrth, 10 Ebrill a 1 Mai. Ffoniwch 01874 622386 am fanylion. Bydd arwerthiant organig nesaf Welshpool Livestock Sales yng ngwanwyn 2008. Ffoniwch 01938 553438 am fanylion. Cynhelir arwerthiannau organig rheolaidd gan Ganolfan Da Byw Sir Gaerfyrddin. Am fanylion, ffoniwch Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com.
|
Organic Market - Meat and livestock
Development of organic meat sector A report published by the Soil Association suggests that supermarket pricing is holding back UK organic meat production. They say “on the whole multiple retailers have responded well to the aspirations of the government’s organic action plan” but they also say “the growth in UK production has stagnated and imports are increasing again Imports of beef increased from 15% to 17% of sales and pork from 20% to 47% from 2005 to 2006.” For more information see the Soil Association website
Changes in processing sites Changes in processing sites appointed by the major multiples have hit organic lamb producers hard. Much of the lamb processing has shifted out of England into Wales. According to Helen Whyte, organic development coordinator for the Soil Association, the shift in processing, combined with bluetongue restriction zones, has resulted in many producers in England finding themselves without processing outlets for their finished lamb. Organic Farming magazine Winter 07/08
Welsh Farm Organics reports Jonathan Rees, 29, who runs the award-winning Welsh Farm Organics in the Dugwm Valley, near Newtown, with his wife Sally, said the Welsh beef market was becoming difficult to sustain. “I don’t know how the supermarkets can afford to sell it at the price they do,” he said. “We have to sell ours at a higher price than them or we would not be able to sustain our business.“ We offer a level of service the supermarket can’t compete with because we can give advice about how to cook things, how to make use of the full carcass and things like that. “It is vital the supermarkets switch to local produce but unfortunately they are just catering for what people want – cheap meat.” See also: Western Mail
Import of meat MLC Economics has forecast an increase of 17% in imports of beef in 2008 while UK production is anticipated to be 4 per cent down on 2007 at 880,000 tonnes. While the Republic of Ireland accounts for about 60% of imports, supplies from this source are expected to fall with increased imports from Germany, the Netherlands and France. Exports are forecast to grow by 40% to 70,000 tonnes, total production in 2007 should be about 8% up on 2006 at 913,000 tonnes. Source: Nix Monthly update January 2008
Organic price information More livestock price information to be obtained from the Soil Association. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information.
Organic livestock auctions McCartney's next organic auctions will be held on 6 March, 10 April and 1 May. Call 01874 622386 for details. Welshpool Livestock Sales’ next organic auction is in spring 2008. Call 01938 553438 for details. Carmarthen Livestock Centre hold regular organic auctions. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.
|
|
Marchnad Organig - Ffrwythau a llysiau
Gall cynlluniau blychau gynnig yr ateb i anialdiroedd bwyd Mae’r ardystwyr organig OF&G (Ffermwyr a Thyfwyr Organig) yn amlygu’r rôl y gall cynlluniau blychau llysiau a chig lleol ei chwarae wrth gyflenwi cymunedau. Awgryma ymchwil ddiweddar gan Goleg Prifysgol Harper Adams, Swydd Amwythig, fod llawer iawn o ardaloedd yn y DU wedi dod yn “Anialdiroedd Bwyd”. Mae Dr Hillary Shaw wedi plotio lleoliad archfarchnadoedd a siopau bwyd llai gan ddangos a oeddent yn stocio deg neu ragor o wahanol fathau o ffrwythau a llysiau. Gyda’r wybodaeth hon, sylwodd ar dueddiad lle’r oedd y cyfle i gael cynnyrch ffres yn gostwng. Gallai’r gostyngiad mewn siopau bwyd lleol ynghyd â nifer y siopau lleol nad ydynt yn stocio cynnyrch lleol gael effaith ddifrifol ar iechyd gwledydd Prydain. Organic Inform
Peiriannau gwerthu ffrwythau a llysiau organig ffres Mae ffrwythau ffres bellach ar gael yn sefydliadau rhanbarthol Lazio – mae peiriannau gwerthu wedi’u gosod gyda bananas, afalau, gellyg ac orennau organig. Mae’r gost yn amrywio o 50 cent i un Euro am ddewis o ffrwyth organig. www.winenews.it a www.organic-market.info.
Soil Association yn adrodd Dywed Ben Raskin fod llysiau’r gaeaf yn debygol i fod yn brin o ganlyniad i amodau tyfu anffafriol. “Wrth i adroddiadau ddangos bod ansawdd llawer iawn o gnydau’n gwella,” meddai, “mae pethau’n dal i fod yn hynod amrywiol a bydd llai’n debygol o fod ar gael.” Awgryma fod tyfwyr yn Ewrop yn dioddef problemau cyflenwi tebyg a all arwain at brinder erbyn diwedd y gaeaf.” Organic Farming Magazine Gaeaf 07/08.
Organics to Go yn adrodd Mae Organics to Go yn parhau i chwilio am gyflenwyr newydd ar gyfer eu cynlluniau blychau. Os oes gennych ffrwythau a/neu lysiau organig i’w gwerthu neu os hoffech werthu yn y dyfodol, dylech gysylltu â Roger Hallam ar 01558 669020 neu edrych ar www.organicstogo.info. Y prisiau cyfredol (o’r fferm) ym mis Ionawr 2008 yw: Tatws £10-11/25kg; Blodfresych £0.80/kg Maip 60c/kg Moron 45-50c/kg Pannas 70c/kg Nionod 75c/kg Betys 50c/kg Cennin £1.20/kg Brocoli £1.40/kg Afalau bwyta £1.30/kg Bresych 60c/kg Ysgewyll £1.60/kg
Gwybodaeth am brisiau organig Am fwy o Fanylion a phrisiau mewn Garddwriaeth, dilynwch y ddolen. Gweler hefyd http://www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad
|
Organic Market - Fruit and vegetables
Box schemes may be the solution to food deserts Organic certifiers OF&G (Organic Farmers & Growers) highlight the role that local vegetable and meat box schemes can play in supplying communities. Recent research from Harper Adams University College, Shropshire suggests that many areas in the UK have become “Food Deserts”. Dr Hillary Shaw plotted the location of supermarkets and smaller grocery stores and highlighted whether they stocked ten or more different types of fruit and vegetables. With this information, he noticed a trend of declining access to fresh produce. The decline in local grocers, combined with the number of local shops which do not stock fresh produce could have a serious impact on the nation’s health. Organic Inform
Fresh organic fruit in vending machines Fresh fruit is now available in Lazio’s regional institutions in Italy – vending machines have been installed with organic bananas, apples, pears, and oranges. The cost varies from 50 cents to one Euro for a choice of organic fruit. www.winenews.it and www.organic-market.info
Soil Association reports Ben Raskin says “yields of winter vegetables are likely to be low as a result of unfavourable growing conditions.” He says “while reports show the quality of many crops is improving, things are still highly variable and availability is likely to be reduced.” He suggests that “growers in Europe are suffering similar supply problems, which may result in shortages by the end of winter.” Organic Farming magazine Winter 07/08
Organics to go reports Organics to Go continues to look for new suppliers for their box schemes. If you have organic fruit and/or vegetables to sell or would like to sell in the future, please contact Roger Hallam on 01558 669020 or look at www.organicstogo.info. Current prices (ex-farm) (8 January 2008) are: Potatoes £10-11/25kg; Cauliflower £0.80/kg Swedes £60p/kg Carrots 45-50p/kg Parsnips 70p/kg Onions 75p/kg Beetroot 50p/kg Leek £1.20/kg Broccoli £1.40/kg Eating apples £1.30/kg Cabbage 60p/kg Brussel sprouts £1.60/kg
Organic price information For more details and prices in Horticulture follow the link. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information
|
|
Prinder bwyd organig yn archfarchnadoedd yr Iseldiroedd Bydd yn rhaid mewnforio fwyfwy o fwyd organig i’r Iseldiroedd, oni bai y bydd cynhyrchu cartref yn cynyddu, yn ôl y bwrdd manwerthu cenedlaethol CBL. Fodd bynnag, mae tua 60% o’r hyn a gynhyrchir yn yr Iseldiroedd yn cael ei allforio yn bennaf i Ddenmarc, Yr Almaen a Gwledydd Prydain. Mae CBL yn cyhoeddi ei fod yn disgwyl i werthiant bwyd organig godi 15% eleni i gyrraedd € 530 miliwn. Ar hyn y bryd bwyd organig yw 2% o holl werthiant yr archfarchnadoedd gydag wyau, llysiau, ffrwythau a chig yn arbennig o bwysig. Mae prinder rhai nwyddau’n gwthio prisiau i fyny, yn ôl Dutch News www.organic-market.info a www.dutchnews.nl
Galw cynyddol am gynhyrchion organig yn Tsieina Yn dilyn agor archfarchnad naturiol ac organig Lohao City ym mis Medi 2006, mae mwy a mwy o farchnadoedd organig wedi dod i’r golwg yn Beijing, yn ôl y China Daily. Mae nwyddau organig bellach ar gael yn eang yn Pricemart, Carrefour a Jenny Lou’s. Mae’r enw brand Lohao City wed agor dwy siop newydd yn Beijing ac un arall yn Shanghai. Mae pedwaredd siop yn agor yn Beijing cyn bo hir. Mae Terry Yu’n disgwyl i fwyd organig fod yn duedd prif ffrwd dros y tair i bum mlynedd nesaf yn Tsieina. Mae’r gwahaniaeth pris yn rhwystr mawr i’w oresgyn er mwyn ennill defnyddwyr lleol. Yn amlwg, mae bod yn iach ac yn organig yn fwy na mater o ymwybyddiaeth yn unig, ond yn ymwneud hefyd â gallu ariannol, medd y China Daily. www.chinadaily.com.cn
Twf y farchnad organig Bydd carwriaeth gwledydd Prydain â bwyd a diodydd premiwm yn dwysáu dros y pum mlynedd nesaf gyda gwariant ar nwyddau premiwm yn cyrraedd dros £20bn y flwyddyn erbyn 2012 yn ôl ymchwil gan IGD. Disgwylir i werthiant bwyd organig gynyddu o £2.3bn yn 2007 i £3.35bn erbyn 2012. Ffynhonnell: Farmers Weekly
Treialon gwenith i hybu bara organig y DU Mae treialon maes a phobi cnydau gwenith y DU ar y gweill ar hyn o bryd fel rhan o brosiect i hybu marchnad bara organig y wlad. Trefnwyd y prosiect ‘Better Organic Bread’, a gynhelir gan y Camden & Chorleywood Food Research Association Group (CCFRA) ynghyd â Defra a’r Home Grown Cereals Association (CCFRA), fel ymateb i ansawdd gwael presennol cnydau gwenith ar draws y DU. Bakery and Snacks (8 Ion)
|
Organic food shortage in Dutch supermarkets Increasing amounts of organic food will have to be imported to the Netherlands, unless domestic production is increased, reports the national retail board CBL. However, about 60% of the Dutch production is exported, mainly to Denmark, Germany and Britain. The CBL announces that it expects organic food sales to rise 15% this year to a record € 530 million. Organic food currently accounts for some 2% of supermarket sales with eggs, vegetables, fruit and meat being especially important. The shortage of some products pushes up prices, reports Dutch News. www.organic-market.info and www.dutchnews.nl
Growing demand for organic products in China Following the opening of the natural and organic supermarket Lohao City in September 2006, more and more organic markets have emerged in Beijing, reports the China Daily. Organic products are now widely available at Pricemart, Carrefour, and Jenny Lou's. The brand name Lohao City has opened two new stores in Beijing and another one in Shanghai. A fourth Beijing store is opening soon. Terry Yu expects organic food to be a mainstream trend over the next three to five years in China. The price difference is a big barrier to overcome in winning over local consumers. Obviously, being healthy and organic is not just a question of awareness, but also of financial capacity, concludes the China Daily. www.chinadaily.com.cn
Growth of organic market Britain's love affair with premium food and drink will intensify over the next five years, with spending on premium products to pass £20bn a year by 2012, according to research by IGD. Sales of organic food are expected to increase from £2.3bn in 2007 to £3.35bn by 2012. Source: Farmers Weekly
Wheat trials to boost UK organic bread Field and baking trials of new UK wheat crops are currently underway, as part of a project to boost the country's organic bread market. The new 'Better Organic Bread' project, organised by the Campden & Chorleywood Food Research Association Group (CCFRA), along with Defra and the Home Grown Cereals Association (CCFRA), was organised in response to the current low quality of wheat crops across the UK. Bakery and Snacks (8 Jan)
|
|
Marchnad Organig - Gwylio'r prisiau adwerthol
Prisiau Organig Cyfredol (5 Rhagfyr 2007) Tatws Tesco £1.58/2.5 kg Sainsbury: £2.49 Morrisons: - Llaeth Tesco £0.92/2beint Sainsbury: £0.92 Morrisons: £0.92 Cig oen (tshiops) Tesco £12.34/kg ↑↑ Sainsbury: £13.98 ↑↑ Cig eidion stêc ffiled Tesco £22.99 Sainsbury: £25.19 Briwgig Eidion Tesco £4.38/kg Sainsbury: £4.98 Morrisons: £4.39 Stêc syrlwyn eidion (bach) Tesco £16.49 Sainsbury: £14.95 ↓↓
Am fwy o fanylion https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml
|
Organic Market - Retail price watch
Current Organic Prices (5 December 2007) Potatoes Tesco £1.58/2.5 kg Sainsbury: £2.49 Morrisons: - Milk Tesco £0.92/2pints Sainsbury: £0.92 Morrisons: £0.92 Lamb (chops) Tesco £12.34/kg ↑↑ Sainsbury: £13.98 ↑↑ Beef fillet steak Tesco £22.99 Sainsbury: £25.19 Beef mince Tesco £4.38/kg Sainsbury: £4.98 Morrisons: £4.39 Beef sirloin steak (small) Tesco £16.49 Sainsbury: £14.95 ↓↓
For more details see https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml
|
|
Gweler hefyd www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php
Ar werth 10 Hereford X heifers out of Simmental and Hereford cows. Born April/May 2007. Strong and well-grown stores or would make ideal replacement suckler cows. Available from mid-February. Richard Becker, Llanidloes, Powys. 01686 411343. Organic meadow silage (round bales) and organic oat straw near Monmouth. Please ring Teona on 01600 780501. [11/01/08] Organic Triticale feeding straw. Round bales - wrapped. Was nearly dry enough for bedding when baled. 100+ bales available. Iwan Jones 07966440498 Denbigh, North Wales. [08/01/08] Gwair o weirglodd flodeuog organig SoDdGA o’r ansawdd gorau – byrnau bach, £3.50 yr un. blodeuog ac yn rhydd o’r Gingroen. Matt 07718 358671 (Ardal Dinbych-y-pysgod) Buches sugno fechan wrthi’n cael ei throi’n organig stoc cartref i gyd, 8 buwch a heffer 1 heffer, 6 i fwrw lloi Ion i Mawrth, 3 llo’n dal i sugno. Ffoniwch am fwy o fanylion 01269 871060. [14/12/07] 70 + o fyrnau gwywair/silwair organig o wneuthuriad da. Yn agos i Lanybydder. I’w gwerthu ar frys gan fod angen symud a bydd y pris yn adlewyrchu hyn e-bost: howard.dare@tiscali.co.uk neu ffoniwch 01267202291. Byrnau Gwywair Crynion Organig. Ardal Sir Benfro/Caerfyrddin. 07970 462331 - 01994 419317. [12/12/07] Cenfaint o Foch 2 Hwch Saddleback, 2 Hwch Saddleback x Duroc, 1 Baedd Tamworth. Moch ifanc organig hefyd ar gael. Cysylltwch â Nia Cowcher Ffôn: 01559 363200 Symudol: 07917 274298. [12/12/07] Tarw du Cymreig organig ifanc o dras. Ganed 18.1 07 Ardal Llanfair ym Muallt. 01982 551848 neu e-bostiwch mbsnead@tiscali.co.uk. Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251. Sbinychod organig Cymreig o dras ar werth drwy'r adeg. Llinach ardderchog. Yn wydn ac yn hawdd eu trin. Wedi'u geni a'u magu ar 1000 troedfedd. Baeddod ifainc hefyd ar gael.. Neil a Patricia Plume ger Llanymddyfri 01550 740670 neu farm@penrhiwuchaf.co.uk Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk. Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).
Yn Eisiau Land to rent any size considered. call on 01650 531366. [08/01/08] Gwartheg stôr cryf ac ŵyn. Cysylltwch â Richard Bowker 07973 565690 Powys. [02/01/08]
I'w osod Accommodation available for approx 150 organic cattle for Winter 2008 in the Pembs area for a 4 month period. Feed, bedding and day to day care included. Also summer grazing on approx 80 acres. Contact 01970 622248 for more information. [08/01/08]
Amrywiol Hoffai Sophie (24, myfyrwraig: gwyddorau amaethyddol; profiad ffermio ymarferol) weithio ar fferm organig am fwyd a llety rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2008. Cysylltwch â: goeser@uni-hohenheim.de 0049/ (0)711 9075377. [18/12/07] Mae Graig Producers Cymru a’r Gororau wedi cynrychioli’i 280 o aelodau gan farchnata eu da byw, ers dros 10 mlynedd. Mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol â Graig Producers South West and Caledonian Organics gan harneisio nerth marchnata dros 500 o aelodau sy’n ffermio’n organig. Ceir llawer iawn o fanteision i aelodaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.graigproducers.co.uk neu am fanylion i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb barhaol]
Rhoddodd Ail Gynllun Gweithredu Organig Cymru bwyslais arbennig ar y swyddogaeth bwysig a gyflawnir gan y grwpiau cynhyrchu. Mae Grŵp Strategaeth Organig a Chanolfan Organig Cymru’n cynnig eu cefnogaeth gan argymell y dylai cynhyrchwyr bob amser ystyried y budd posibl a gynigir gan grwpiau marchnata cynhyrchwyr yn enwedig wrth ymdrin ag adwerthwyr lluosog. |
See also www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php
For Sale 10 Hereford X heifers out of Simmental and Hereford cows. Born April/May 2007. Strong and well-grown stores or would make ideal replacement suckler cows. Available from mid-February. Richard Becker, Llanidloes, Powys. 01686 411343. [14/01/08] Organic meadow silage (round bales) and organic oat straw near Monmouth. Please ring Teona on 01600 780501. [11/01/08] Organic Triticale feeding straw. Round bales - wrapped. Was nearly dry enough for bedding when baled. 100+ bales available. Iwan Jones 07966440498 Denbigh, North Wales. [08/01/08] Finest quality organic SSSI meadow hay - small bales, £3.50 each. Herb-rich and ragwort-free. Matt 07718 358671 (Tenby area) [07/01/08] Small in conversion suckler herd all home bred stock, 8 cows and 1 heifer, 6 due Jan to March, 3 still suckling calves. Please phone for more details 01269 871060. [14/12/07] 70 plus bales well made Organic haylage/silage. Close to Llanybyther. Urgent sale as needs to be moved and price will reflect. email: howard.dare@tiscali.co.uk or phone 01267202291. Organic Haylage Round Bales. Pembrokeshire/Carmarthenshire area. 07970 462331 - 01994 419317. [12/12/07] Pig Herd 2 Saddleback Sows, 2 Saddleback x Duroc Sows, 1 Tamworth Boar. Organic young pigs also availablel. Contact Nia Cowcher Tel: 01559 363200 Mob: 07917 274298. [12/12/07] Organic young black Welsh pedigree bull. Born 18.1.07 Builth Wells area. 01982 551848 or email mbsnead@tiscali.co.uk. Organic calves, mainly
Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round
calving British Friesian Dairy herd.
Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert] Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert] Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and
oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent
advert]
Wanted Land to rent any size considered. call on 01650 531366. [08/01/08] Strong store cattle and lambs. Contact Richard Bowker 07973 565690 Powys. [02/01/08]
To let Accommodation available for approx 150 organic cattle for Winter 2008 in the Pembs area for a 4 month period. Feed, bedding and day to day care included. Also summer grazing on approx 80 acres. Contact 01970 622248 for more information. [08/01/08]
Miscellaneous Sophie (24, student: agricultural sciences, practical experience in farming) would like to work on an organic farm for food and accommodation between January and March 2008. Please contact: goeser@uni-hohenheim.de 0049/ (0)711 9075377. Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk. [permanent advert]
The second Welsh Organic Action Plan placed special emphasis on the important role played by producer groups. The Organic Strategy Group and Organic Centre Wales offer their support and recommend that producers should always consider the potential benefits offered by producer marketing groups, particularly when dealing with multiple retailers. |
|
Hwn oedd y cylchlythyr gwybodaeth farchnata misol gan Ganolfan Organig Cymru. Llwyfan yw’r e-fwletin hwn ar gyfer rhannu gwybodaeth am dueddiadau’r farchnad a chynhyrchu rhwng busnesau organig yng Nghymru. Rydym yn gobeithio eich bod yn ei gael yn fuddiol a chroesawn unrhyw adborth, eitemau newyddion, neu hysbysebion ar gyfer y rhifyn nesaf. Gweler ôl-rifynnau yn www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin |
This was the monthly market intelligence newsletter from Organic Centre Wales. This e-bulletin is a platform for sharing information on market trends and production between organic businesses in Wales. We hope that you find it useful and we welcome any feedback, news items, or advertisements for the next issue. See back numbers at www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin.
|
|
EITEMAU NEWYDDION Anfonwch eich eitemau newyddion, adborth a hysbysebion at david.frost@adas.co.uk.
Er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin yma, ni all Canolfan Organig Cymru a’i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail unrhyw un o’u cyhoeddiadau
|
NEWS ITEMS Please send your news items, feedback and advertisements to david.frost@adas.co.uk.
While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of any of its publications..
|
|
I danysgrifio i’r bwletin hwn, dylid anfon neges at Jane Powell. Gellwch hefyd danysgrifio i e-fwletin Cymru Organig sy’n ymddangos ar ddechrau pob mis yn cynnwys y newyddion organig diweddaraf yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Gweler www.organic.aber.ac.uk/bulletin. |
To subscribe to this bulletin send a message to Jane Powell. You can also subscribe to the Organic Wales e-bulletin, which appears at the beginning of each month featuring the latest organic news in Wales, the UK and beyond. See www.organic.aber.ac.uk/bulletin. |