Bwletin

Marchnad Organig Cymru

Rhif 66,  18 Gorffennaf 2008

Bulletin

Organic Market Wales

No. 66,  18 July 2008

Mynd yn syth at yr adran:

 

Marchnad Organig Cymru   Caffael cyhoeddus  Llaeth   Grawnfwydydd   Cig a da byw   ffrwythau a llysiau  Newyddion    Y farchnad    Gwylio'r prisiau adwerthol  Adborth

Go straight to section

 

Organic Market Wales   Public procurement  Dairy   Cereals   Meat and livestock  Fruit and vegetables  News    Market place    Retail price watch  Feedback

Marchnad Organig - Cymru

 

Yn ôl i'r brig

 

Ffermio a bwyd organig Cymru’n parhau i gynyddu

Erbyn hyn mae yna 148 o broseswyr a mewnforwyr sydd wedi’u hardystio’n organig yng Nghymru a chynyddodd arwynebedd tir organig 22% yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Ionawr 2008, gan gyrraedd 6.4% o’r holl arwynebedd amaethyddol. Yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd ar 3 Gorffennaf gan Defra, mae ychydig dros 96,000 ha o dir yng Nghymru’n cael eu rheoli’n organig. Mae dwy ran o dair o’r tir yma’n hollol organig ac mae’r gweddill yn cael ei droi’n organig. Gweler hefyd adroddiad ar Wales Online.

 

Digwyddiadau

21-24 Gorffennaf 2008, Sioe Amaethyddol Cymru 2008 yn Llanelwedd.

6 a 7 Medi, 2008 Gŵyl Bwyd Organig y Soil Association 2008 ym Mryste.

 

Mwy o ddigwyddiadau ar www.organic.aber.ac.uk/events

Organic Market - Wales

 

Back to top

 

Welsh organic food and farming continues to increase

There are now 149 processors and importers with organic certification in Wales and organic land area increased by 22% during the year ending January 2008, reaching 6.4% of the total agricultural area. According to statistics released on 3 July by Defra, just over 96,000 ha of land in Wales is under organic management, of which over two-thirds is fully organic, and the remaining third is in conversion. See report on Wales Online.

 

Events

21-24 July 2008, Royal Welsh Show 2008 in Builth Wells.

6, 7 September, 2008 Soil Association's Organic Food Festival 2008 in Bristol

 

More events at www.organic.aber.ac.uk/events

Marchnad Organig - Caffael cyhoeddus

 

Cyflenwi cynnyrch organig i’r Sector Cyhoeddus Cymreig Rhaid i gwmnïau sydd am gyflenwi’r farchnad caffael cyhoeddus yng Nghymru gofrestru ar wefan Gwerthu i Gymru ar y ddolen: https://www.sell2wales.co.uk. Ceir copïau o’r Cyfarwyddiadur Masnach Organig trwy gysylltu â Chanolfan Organig Cymru neu yn www.organic.aber.ac.uk/tradedirectory.

 

Cyflenwi i’r Sector cyhoeddus ym Mhowys

Comisiynwyd ADAS gan Glasu, corff :LEADER Powys, i ymgymryd ag astudiaeth o gyfyngiadau a chyfleoedd i gyflenwi llysiau ffres lleol i’r sector cyhoeddus ym Mhowys yn 2008. Cafwyd mai’r prif rwystrau i gael cynnyrch o ffynonellau lleol yw’r maint sydd ei angen, diffyg aelodaeth cynllun sicrwydd ansawdd, diffyg prosesu a chyfleusterau golchi, problemau dosbarthu a chostau.. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion i gynyddu maint y cynnyrch ffres lleol sy’n cael ei ddefnyddio yn y gwasanaeth prydau bwyd ysgol ym Mhowys a sut i wella’r gadwyn gyflenwi caffael cyhoeddus ym Mhowys. Lawrlwytho'r cyflwyniad.

 

Caffael cyhoeddus yn Sweden

Cododd cyfanswm y bwyd organig a ddefnyddir yn y sector cyhoeddus yn Sweden 40% rhwng 2005 a 2006 ac erbyn hyn bwyd organig yw 6% o’r holl fwyd a ddefnyddir. http://www.organic-market.info/bio-markt/en

Organic Market - Public procurement

 

Supplying organic produce to the Welsh Public Sector

Companies wishing to supply the public procurement market in Wales need to register on the on the ‘Sell to Wales’ web site at: https://www.sell2wales.co.uk. Copies of OCW’s Organic Trade Directory can be obtained by contacting Organic Centre Wales, or at www.organic.aber.ac.uk/tradedirectory.

 

Supplying the public sector in Powys

Glasu, Powys’ Leader+ organisation, commissioned ADAS to conduct a study into constraints and opportunities to supply local fresh vegetables to the public sector in Powys, 2008. It found that the main barriers to sourcing local produce are the volume required, lack of quality assurance scheme membership, lack of processing and washing facilities, distribution issues and cost. The report includes recommendations to increase the quantity of local fresh produce used in Powys’ school meal service and how to improve the Powys’ public procurement supply chain. Download presentation.

 

Organic procurement in Sweden

Consumption of organic food in Sweden’s public sector rose by 40% from 2005 to 2006 and now accounts for 6% of total food consumption. http://www.organic-market.info/bio-markt/en 

 

Marchnad Organig - Llaeth

 

Yn ôl i'r brig

 

Adroddiad Llaeth Organig Omsco ar y Farchnad, 2008

Yn ôl adroddiad Omsco 2008, mae’r galw am gynhyrchion llaeth organig yn parhau i dyfu. Cynyddodd cyfran organig o’r prif farchnadoedd presennol (hylif, iogyrt a chaws) yn ystod y flwyddyn, ond mae cynnyrch llaeth organig yn dal i fod yn llai na 5% o’r holl werthiant llaeth. Er gwaethaf yr enillion cynyddol, nid yw’r cynnydd disgwyliedig o ran allbwn a’r niferoedd y disgwylir iddynt droi’n organig yn ddigon i ddiwallu’r twf hirdymor a ddisgwylir yn y galw. Rhaid i’r diwydiant unwaith eto gynyddu’r pris a delir am laeth organig os yw argaeledd y cynhyrchion i’w gynnal. Mae twf gwerthiant yn y marchnadoedd presennol wedi dechrau codi’n araf eto ar ddechrau 2008. Disgwylir twf cyffredinol yn y galw o 11% ar gyfer llaeth amrwd yn y flwyddyn sydd o’n blaenau, sy’n cyfateb i tua 40m litr. Datblygiad diddorol ar gyfer y flwyddyn sydd o’n blaenau yw egin-farchnad allforio. Lawrtlwytho'r adroddiad

 

Llyfr Poced Ystadegau Cynnyrch Llaeth DairyCo

Mae llyfr poced ystadegau diweddaraf DairyCo yn darparu ffeithiau a ffigyrau annibynnol ar gyfer y diwydiant. Mae’n nodi er bod y farchnad organig yn parhau i fod yn gryf o flwyddyn i flwyddyn, fod y twf wedi arafu, gyda thwf o 4% rhwng 2007 a 2008. Ym mis Mawrth 2008, gwariwyd £129.4m gan ddefnyddwyr ar laeth organig o’i gymharu â £115.4m ym mis Mawrth 2007. Manylion

 

Gwybodaeth am brisiau organig

Am fwy o wybodaeth am brisiau gan Dairy Farmers of Britain, cliciwch yma. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad

 

Organic Market - Dairy

 

Back to top

 

Omsco Organic Milk Market Report, 2008

According to Omsco’s 2008 report, demand for organic dairy products continues to grow. The organic share of the main existing markets (liquid, yogurt and cheese) increased during the year, but organic dairy products still account for less than 5% of total dairy sales. Despite increased returns, the anticipated increases in output and the expected number of new converters are insufficient to meet long term growth expected in demand. The industry must once again increase the price paid for organic milk if product availability is to be maintained. Sales growth in existing markets has started to edge back up in early 2008. Overall, demand growth of 11% is expected for raw milk in the year ahead, equating to around 40m litres. An interesting development for the year ahead is the emergence of an export market. Download report.  

 

DairyCo's Pocket Book of Dairy Statistics

DairyCo’s latest dairy statistics pocketbook provides the industry with independent facts and figures. It notes that although the organic market continues to be strong, year on year growth has slowed, with 4% growth between 2007 and 2008. In March 2008, £129.4 million was spent by consumers on organic milk compared with £115.4 million in March 2007. Details.  

 

Organic price information

For more price information from Dairy Farmers of Britain, click here. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information

 

Marchnad Organig - Grawnfwydydd

 

Yn ôl i'r brig

 

Norton Organic Grain yn adrodd

Mae Norton Organic Grain yn adrodd fod y farchnad rawn yn hollol gadarn a bod hyder yn y sector hwn o’r farchnad yn ymddangos yn uchel. Prisiau:

 

Cnwd newydd

Gwerthoedd o'r fferm, £/tonne

Gwerthoedd wedi'u cyflenwi

Gwenith ymborth

265

280

Barlys ymborth

255

270

Ceirch

250

265

Alffalffa

 

265

Gwaddodion soia

 

530-600*

Ffa'r cae

 

345

 *Yn tarddu o Tsieina-Yr Eidal

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Norton Organic Grain ar 01787 210966

 

Y galw am gnydau âr organig yn uchel

Mae’r galw am gnydau âr organig wedi cyrraedd uchafbwynt hanesyddol yn y DU, ond mae hunangynhaliaeth o ran grawn organig wedi disgyn 20% yn ystod y ddwy flynedd diwethaf gyda thros 60% o’r galw yn cael ei ddiwallu erbyn hyn gan fewnforion yn ôl y Soil Association. Dywedodd Phil Stocker, Cyfarwyddwr Cysylltiadau â’r Ffermwr a’r Tyfwr yn y Soil Association fod cnydau grawn porthiant a phrotein yn cynnig cyfleoedd mawr ar gyfer twf. “Gyda phrisiau gwenith organig ar £300 y dunnell, mae troi i gynhyrchu âr organig yn cynnig cyfle busnes sylweddol i ffermwyr sy’n ceisio gwella proffidioldeb a symud i system ffermio gynaliadwy,” meddai. Mae costau mewnbynnau systemau anorganig wedi codi’n ddramatig dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda phris gwrtaith yr hydref yn y DU yn tynnu at £500 y dunnell, ond “mae cynhyrchu âr organig yn defnyddio cylchdro cnydau a chodlysiau i feithrin ffrwythlondeb gan gynnig dewis mewnbwn isel cynaliadwy i ffermwyr”. Agra Europe Weekly

 

Gwybodaeth am brisiau organig

Mae Organic Grain Link yn cynhyrchu cylchlythyr marchnata cnydau misol. I dderbyn hwn, dylech danysgrifio yn www.organicgrainlink.co.uk/regframe.html. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad

 

Organic Market - Cereals

 

Back to top

 

Norton Organic Grain reports

Nortons Organics reports that the grain market is fully firm and that confidence looks high in this market sector. Prices:

 

New crop

Ex farm values, £/tonne

Delivered Values, £/tonne

Feed wheat

265

280

Feed barley

255

270

Oats

250

265

Lucerne

 

265

Soya expelled

 

530-600*

Field beans

 

345

 

For more information please contact Norton Organics on 01787 210966

 

Demand for organic arable crops high

Demand for organic arable crops is at an all time high in the UK, but self-sufficiency for organic cereals has fallen by 20% in the last two years, with over 60% of the demand now met by imports, according to the Soil Association. Phil Stocker, Director of Farmer and Grower Relations at the Soil Association said feed grain and protein crops offered major opportunities for growth. "With organic wheat prices at £300 per tonne, converting to organic arable production presents a great business opportunity for farmers looking to improve profitability and move to a sustainable farming system," he said. Input costs in non-organic systems have risen dramatically over the past year, with the autumn UK fertiliser price approaching £500 per tonne but "Organic arable production utilises crop rotations and legumes to build fertility and offers farmers a low input viable alternative". Agra Europe Weekly

 

Organic price information

Organic Grain Link produces a monthly crop marketing newsletter. To receive this please subscribe at www.organicgrainlink.co.uk/regframe.html.

See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information

 

Marchnad Organig - Cig a da byw

 

Yn ôl i'r brig

 

Arwerthiannau Da Byw Organig

Cynhelir arwerthiant organig nesaf McCartney’s ar 21 Awst. Ffoniwch 01874 622386 am fanylion.

Cynhelir arwerthiannau organig nesaf Livestock Sales y Trallwng 8 Medi, 20 Hydref a 17 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 am fanylion.

Bydd Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiant da byw organig ar 18 Gorffenaf. Am fanylion ffoniwch 01267 236238 neu Huw Evans ar 0797 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com.

 

Arwerthiant Mart Pontarfynach

Bydd Mart Pontarfynach yn cynnal ei harwerthiant organig cyntaf ddydd Sadwrn 20 Medi gan ddechrau am 12 hanner dydd ym Mart Arwerthu Pontarfynach (gyferbyn i’r orsaf reilffordd). Yn yr arwerthiant hwn, byddant yn gwerthu mamogiaid ac ŵyn. Am fanylion, cysylltwch â Mr C. Evans ar 01974 282602.

 

Gwybodaeth am Brisiau Organig

Yn ôl Steve Thompson, ABP “Mae prisiau’n debyg i’r mis diwethaf ond disgwylir tueddiad gostyngol yn y prisiau wrth i ni fynd i mewn i fis Awst oherwydd gorgyflenwi pan fydd y gwartheg yn gorffen y glaswellt a chwymp yn y galw wrth i bobl fynd ar eu gwyliau ac yn y blaen. Ceir mwy o wybodaeth am brisiau da byw ar www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml 

Organic Market - Meat and livestock

 

Back to top

 

Organic livestock auctions

McCartney's next organic auction will be held on 21 August. Call 01874 622386 for details.

Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 8 September, 20 October and 17 November. Call 01938 553438 for details.

Carmarthen Livestock Centre will hold an organic livestock auction on 18 July. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.

 

Devil’s Bridge Auction Mart’s organic auction

Devil’s Bridge Auction Mart is having their first organic sale on Saturday 20 September starting at 12 noon at Devil’s Bridge Auction Mart (opposite the railway station). At this auction they will be selling ewes and lambs. For details please contact Mr C Evans on 01974 282602.

 

Organic price information

Steve Thompson of ABP comments “Prices similar to last month but will expect a downward trend in prices as we enter August due to oversupply when cattle finish off grass and fall in demand with people going away on holidays etc”. More livestock price information can be found at www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml

 

Marchnad Organig - Ffrwythau a llysiau

 

Yn ôl i'r brig

 

Pobl yn tyfu eu llysiau eu hunain

Mae costau byw cynyddol yn annog un ym mhob tri o ddinasyddion gwledydd Prydain i ddod yn fwy hunangynhaliol trwy dyfu’u llysiau a ffrwythau eu hunain, yn ôl un astudiaeth. Datgelir hefyd yn yr astudiaeth fod 60 y cant o bobl wedi cymryd mwy o ddiddordeb mewn bwyd organig ers iddynt gael plant. Dywedodd 64% o rieni eu bod bellach yn rhoi ffrwythau a llysiau organig i’w plant. The Telegraph

 

Mae Comisiwn yr UE eisiau newid y rheoliadau

Mae swyddogion yr UE am ddod â rheolau sy’n pennu hyd, lled a siâp nifer o ffrwythau a llysiau i ben. Y nod yw cynyddu nifer y ffrwythau a’r llysiau sy’n cael eu graddio’n “ddosbarth cyntaf” I’W GWERTHU MEWN SIOPAU. Mae hyn yn dilyn prisiau’n codi a galw cynyddol. Yn ôl y comisiwn “mewn cyfnod o brisiau uchel a galw cynyddol, mae hyn yn gwneud mwy o synnwyr na thaflu cynnyrch sy’n cael ei allraddio.” Farmers Weekly

 

Gwerthiant moesegol yn saethu i’r entrychion yn Ewrop

Mae adroddiad newydd Organic MonitorThe European Market For Ethical Fruit & Vegetables’ yn dangos bod gwerthiant llysiau a ffrwythau moesegol wedi mynd heibio i 5 biliwn Euro am y tro cyntaf yn 2007.

M    ae ffrwythau a llysiau Masnach Deg yn adrodd am y twf uchaf gyda gwerthiant yn ehangu 92% y llynedd. Mae’r adroddiad newydd yn cael bod cynnyrch organig a masnach deg wedi twrio ymhellach i’r farchnad yng ngwledydd gogledd Ewrop. Mae dros 5% o’r holl gynnyrch ffres a werthwyd mewn gwledydd megis y DU, Yr Almaen a Ffindir bellach wedi’u hardystio’n organig a/neu’n fasnach deg. Y Swistir sydd ar y blaen lle mae canran y farchnad eisoes uwchben 10%.

    Wrth i’r galw am fasnach deg barhau i dyfu’n aruthrol, cynhyrchion organig sy’n ffurfio’r refeniws mwyaf yn y farchnad cynnyrch ffres moesegol yn Ewrop. Llysiau organig yw’r categori mwyaf, gwerth € 2.5 biliwn yn 2007. Fodd bynnag, darogenir y bydd gwerthiant ffrwythau organig yn taflu cysgod dros werthiant llysiau organig Ewropeaidd wrth i fwy o rywogaethau trofannol ac egsotig gael eu cyflwyno.

    Mae cyflwr y diwydiant cynnyrch organig yn dal i gael ei bennu gan brinder o ran cyflenwi. Mae’r astudiaeth yn cael bod manwerthwyr Ewropeaidd wrthi’n datblygu cadwyni byd-eang er mwyn sicrhau cyflenwad parhaus o ffrwythau a llysiau organig. Gweler FreshPlaza neu Organic Monitor.

 

Organic Inform yn adrodd

Wrth i arian fynd yn dynn, mae gwerthiant wythnosol blychau llysiau organig yn dioddef. Mae defnyddwyr sy’n poeni am yr economi’n torri’n ôl yn ariannol, ac fe ymddengys fod y blwch llysiau organig wythnosol yn cael ei ystyried yn rhywbeth moethus nad oes modd ei fforddio. Fodd bynnag, bydd llawer iawn o gynlluniau blychau organig yn cymharu eu prisiau, yn erbyn cynnyrch confensiynol ac organig, yn yr archfarchnadoedd. Awgryma arolwg diweddar (Tachwedd 2007) gan Riverford fod cynnyrch organig yr archfarchnadoedd cymaint â 73% yn ddrutach na’r cynnyrch cyffelyb mewn blwch llysiau sy’n cael ei gyflenwi i garreg y drws.” Mae’r Telegraph yn adrodd bod dileu archebion yn dechrau achosi ‘problemau difrifol’ i’r cwmnïau cyflenwi organig lleiaf sy’n wynebu tair her: prisiau tanwydd, nifer gostyngol y cwsmeriaid a’r codiad yng ngwerth yr Euro. Organic Inform

 

Organics to Go yn adrodd

Mae Organics to Go yn parhau i chwilio am gyflenwyr newydd ar gyfer eu cynlluniau blychau. Os oes gennych ffrwythau a/neu lysiau organig i’w gwerthu neu os hoffech eu gwerthu yn y dyfodol, cysylltwch â Roger Hallam ar 01558 669020 neu edrychwch ar www.organicstogo.info.

    Prisiau cyfredol o’r fferm) (10 Gorffennaf 2008) yw: Bresych y Gwanwyn) 75c yr un Moron 50c/kg Tatws Newydd £20/25kg Sbigoglys £3/kg Letys 70c yr un Calabrese £1.70/kg Courgette £1.40/kg Ffa llydain 1.20/kg Ciwcymbr 65c

 

Gwybodaeth am brisiau organig

Am fwy o fanylion a phrisiau mewn garddwriaeth, gweler gwefan y Soil Association. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml.

Organic Market - Fruit and vegetables

 

Back to top

 

High costs of food make people grow their own veg

The increasing cost of living encouraged one in three Britons become more self-sufficient by growing their own fruit and vegetables, according to a study. The study also revealed that 60 per cent of people have taken more of an interest in organic food since having children. Sixty-four per cent of parents said they now gave their children organic fruit and veg. The Telegraph 

 

EU commission wants to change rules

EU officials want to end the rules determining the length, girth and shape of a number of fruit and vegetables. The aim is to increase the amount of fruit and vegetables graded “first class” for sale in shops. This follows the development of increasing prices and growing demand. The commission said: “ In an era of high prices and growing demand, this makes more sense than just throwing outgraded products away” Farmers Weekly

 

Ethical fresh produce sales rocketing in Europe

Organic Monitor’s new report ‘The European Market For Ethical Fruit & Vegetables’  shows that sales of ethical fruit and vegetables surpassed the 5 billion Euro mark for the first time in 2007.

    Fairtrade fruit and vegetables are reporting the highest growth, with sales expanding by 92% last year. The new report finds that organic and fairtrade products have made most inroads in northern European countries. Over 5% of all fresh produce sold in countries like the UK, Germany and Finland is now certified organic and / or fair trade. Switzerland is the frontrunner where the market share has already exceeded 10%.

    While demand for fair trade continues to grow enormously, organic products comprise most revenues in the European ethical fresh produce market. Organic vegetables are the largest category, valued at € 2.5 billion in 2007. However, organic fruit sales are predicted to overshadow European organic vegetable sales as more tropical and exotic varieties are introduced.

   The organic fresh produce industry continues to be determined by supply shortages. The study finds that European retailers are developing global supply chains to ensure continuous supply of organic fruits and vegetables. See FreshPlaza or Organic Monitor.

 

Organic Inform reports

As finances become tighter, sales of weekly organic vegetable boxes suffer. Consumers worrying about the economy are making financial cutbacks and it would seem that the weekly organic vegetable box is being deemed an unaffordable luxury. However, many organic box schemes regularly compare their prices, both to conventional and organically sold produce in the supermarkets. A recent survey (November 2007) by Riverford suggests that “supermarket organic produce is as much as 73 per cent more expensive than the equivalent produce in a veg box delivered free to the doorstep.” The Telegraph reports that cancellations are beginning to cause “serious problems” for smaller organic delivery companies which are facing triple challenges: fuel prices, falling customer numbers and the rising value of the Euro. Organic Inform

 

Organics to Go reports

Organics to Go continues to look for new suppliers for their box schemes. If you have organic fruit and/or vegetables to sell or would like to sell in the future, please contact Roger Hallam on 01558 669020 or look at www.organicstogo.info.

    Current prices (ex-farm) (10 July 2008) are: Cabbage (spring) 75p each Carrots 50p/kg New Potatoes £20/25kg Spinach £3/kg Lettuce 70p each Calabrese £1.70/kg Courgette £1.40/kg Broadbeans £1.20/kg Cucumber 65p each

 

Organic price information

For more details and prices in horticulture see also http://www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml

 

Marchnad Organig - Newyddion

 

Yn ôl i'r brig

 

Gwerthiant organig yn dal i dyfu yn y DU

Cynhaliwyd arolwg o dros 1,000 o ddefnyddwyr ynglŷn â’u harian personol a’u bwriadau gwario gan y cwmni ymchwil marchnad Nielsen a’r British Retail Consortium (BRC). Datgelodd yr astudiaeth fod gwerthiant bwyd brandiau premiwm ac organig yn dal i dyfu er bod hyder ymhlith defnyddwyr gwledydd Prydain yn isel dros ben. Mae cynnyrch organig yn parhau i fod yn rhan allweddol o’r farchnad er bod gan ddefnyddwyr lai o arian i’w wario. Dywedodd Sainsbury mai’r cynnydd mewn gwerthiant organig sy’n gyrru’r twf sydyn presennol wrth i’r cwmni ymchwil marchnad Mintel ddatgelu, er gwaethaf yr argyfwng credyd, ei fod yn disgwyl i’r farchnad organig dyfu 44% erbyn 2012. Mae’r Soil Association yn disgwyl twf o 10% eleni – pedair i bump o weithiau’n uwch na’r hyn y mae’r farchnad fwyd gyffredinol yn ei brofi mewn blwyddyn dda. www.farmersguardian.com

 

BioFach Tsieina 2008

Ail argraffiad llwyddiannus Cynhaliwyd BioFach Tsieina yng Nghanolfan Gynadledda ac Arddangos Everbright yn Shanghai am yr eil dro rhwng 29-31 Mai 2008 a bu’n llwyddiant mawr. Yn ystod tridiau’r arddangosfa a blwyddyn ar ôl yr un gyntaf, bu 242 o arddangoswyr yn cyflwyno’u cynhyrchion i dros 9,143 o ymwelwyr (2007: 7.290) masnachol, gan gynnwys rhai o’r byd cynhyrchu a diwydiant a’r sector masnach a gwasanaethau.Organic Market Info

 

Adroddiad ar fanwerthu organig arbenigol Ewrop 2008

Mae tîm rhyngwladol o arbenigwyr yn y farchnad organig, yn llunio proffil o farchnadoedd ffyniannus mewn 27 o wledydd. O Norwy i Gyprus, o Bortiwgal i Dwrci, o Wlad Pwyl i Rwmania mae gwerthiant organig yn ffynnu ac mae’r adroddiad newydd yn dangos y grymoedd sylfaenol, arweinwyr y maes a gwahanol safbwyntiau ynglŷn â’r twf yma Organic Market Info

 

Ffermio organig Sbaen ar gerdded

Rhwng 2000 a 2005, dyblodd arwynebedd y tir dan reolaeth organig yn Sbaen o 381,000 i 807,500 hectar. Yn ystod y deng mlynedd diwethaf, mae nifer y ffermwyr organig yn Sbaen wedi cynyddu dros bump o weithiau i 18,226. Mae’r rhan fwyaf yn ffermio yn Andaliwsia lle y ceir dros hanner y tir sydd wedi’i neilltuo ar gyfer ffermio organig yn Sbaen. Yn 2007, datblygwyd cynllun gan Weinyddiaeth Amaeth Andaliwsia i ysgogi ffermio organig yn y rhanbarth hwn yn fwy byth. Er bod ffermio organig yn ffynnu yn Sbaen, y canran swyddogol o boblogaeth Sbaen sy’n prynu bwyd organig yw 0.9% yn ôl Gweinyddiaeth Amaeth Andaliwsia. “Mae’r rhan fwyaf ohono’n cael ei allforio i ogledd-orllewin Ewrop.” meddai Juan José Siriano yn adran organig y Weinyddiaeth Amaeth yn Seville. “Felly, mae’n rhaid i ni greu mwy o gydbwysedd rhwng cynhyrchu a defnyddio bwyd organig yn Sbaen trwy greu marchnad fewnol.” Organic Market Info

Organic Market - News updates

 

Back to top

 

Organic sales in UK continue to grow

Market research company Nielsen and the British Retail Consortium (BRC) surveyed more than 1,000 consumers about their personal finances and spending intentions. The study revealed that premium brand and organic food sales were still growing even though confidence among British consumers was extremely low. Organic produce remained a key part of the marketplace even though consumers had less money to spend. Sainsbury’s said growth in organic sales was ‘fuelling its current growth spurt’ while market research company Mintel revealed that, despite the credit crunch, it expected the organic market to grow 44% by 2012. The Soil Association expects a 10% growth expected this year - four to five times more than the general food market experiences in a good year. www.farmersguardian.com

 

BioFach China 2008

Successful second edition BioFach China, took place in the Everbright Convention and Exhibition Center in Shanghai for the second time from 29-31 May 2008 and was a great success. A year after the premiere, 242 exhibitors presented their products for more than 9,143 trade visitors from producers, industry, trade and the service sector (2007: 7,290) on the three days of the exhibition. Organic Market Info

 

The specialised organic retail report Europe 2008

An international team of organic market specialists profiles the booming markets in 27 countries. From Norway to Cyprus, from Portugal to Turkey, from Poland to Romania, organic sales boom and the new report shows the underlying forces, the protagonists and perspectives of this growth. Organic Market Info.

 

Spanish organic farming takes off

Between 2000 and 2005, organic land area in Spain doubled from 381,000 to 807,500 hectares. In the last ten years, the number of Spanish organic farmers has increased more than five fold, to 18,226. Most farm in Andalusia where more than half of the land dedicated to organic farming can be found in Spain. In 2007, the Andalusian Ministry of Agriculture developed a plan to stimulate organic farming in this region even more. Although organic farming is booming in Spain, the official percentage of the Spanish population who buy organic food is about 0.9% according to the Andalusian Ministry of Agriculture. "Most of it is exported to Northwest-Europe," says Juan José Soriano, at the organic department of the Ministry of Agriculture in Seville. "So we must create more balance between production and consumption of organic food in Spain by creating an internal market." Organic Market Info.  

 

Marchnad Organig - Gwylio'r prisiau adwerthol

 

Yn ôl i'r brig 

 

Prisiau Organig Cyfredol (2 Gorffennaf 2008)

 

Tatws (1.5 kg) Tesco £ 0.99 Sainsbury: £1.25 Morrisons: £1.49 

Llaeth (2 pints) Tesco £0.98 Sainsbury: £0.98 Morrisons: £0.98 Asda £0.98

Tshiops cig oen (kg) Tesco £11.42 Sainsbury: £12.98 Asda £12.47

Stêc ffiled eidion  (kg) Tesco £25.99 Sainsbury: £27.48 Asda £22.99

Briwgig eidion  (500kg) Tesco £2.79 Sainsbury: £2.79 Asda £2.19

Stêc syrlwyn eidion  (kgsmall) Tesco £18.49 Sainsbury: £19.89 Asda £17.68

 

Am fwy o fanylion gweler https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml 

 

Organic Market - Retail price watch

 

Back to top

 

Current Organic Prices (2 July 2008)

Potatoes (1.5 kg) Tesco £ 0.99 Sainsbury: £1.25 Morrisons: £1.49 

Milk (2 pints) Tesco £0.98 Sainsbury: £0.98 Morrisons: £0.98 Asda £0.98

Lamb (chops) (kg) Tesco £11.42 Sainsbury: £12.98 Asda £12.47

Beef fillet steak (kg) Tesco £25.99 Sainsbury: £27.48 Asda £22.99

Beef mince (500kg) Tesco £2.79 Sainsbury: £2.79 Asda £2.19

Beef sirloin steak (kgsmall) Tesco £18.49 Sainsbury: £19.89 Asda £17.68

 

For more details see https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml 

 

Marchnad Organig - y Farchnad

 

Yn ôl i'r brig

 

Gweler hefyd www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php

 

Ar werth

Lloi a Gwartheg Sugno Organig – gwerthu wrth ymddeol – gwartheg hirgorn yn bennaf (yn gyflo neu wrth droed) ynghyd â tharw stoc (hirgorn). Cysylltwch â David a Pam Williams ar 01437-781234 neu e-bostiwch info@bumpylane.co.uk am fwy o fanylion gan gynnwys ffotograffau.

15 o heffrod pedigri Simental gwasod organig. Cysylltwch â Nic neu Nadia Gwynne: 01239 831220. [08/07/08]

Tarw Du Cymreig organig 18 mis. Ffoniwch 01982 551848 neu e-bostiwch mbsnead@tiscali.co.uk [02/07/08]

Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251.

Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com  neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk.

Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. 

Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).

 

Yn eisiau

Pori gaeaf ar gyfer 150-200 o ŵyn beinw o fis Hydref tan ganol mis Mawrth/Ebrill. Ffoniwch Alun neu Siôn 01650 531366. [07/07/08]

Angen Arch Moch ar frys ar gyfer hwch dorrog (ar fin bwrw’i moch bach)! Cysylltwch â Jack Cokbryn (ger Llambed) ar 01570 470672. [04/07/08]

Tir yn Sir Gaerfyrddin/Penfro/Ceredigion. Rhwng 5 a 20 erw (gwnaiff ychydig brysgwydd coediog y tro’n iawn.) Wedi’i ardystio neu heb ei droi’n organig eto. 600’ uwchlaw’r môr neu’n is. E-bostiwch Debbie Rees - rees.debbie@yahoo.com; [04/07/08]

 

I’w rhentu

Tenantiaeth Busnes Fferm ar gynnig am gyfnod sefydlog, o fis Medi 2009 ar ddaliad organig sefydledig (er 1992) 145 o erwau glân, gan gynnwys ffermdy, amrywiaeth o adeiladau modern yn bennaf a pharlwr saethben. Ei lleoli ar arfordir gogledd Penfro, Mae’r tir sy’n weddol wastad yn elwa oherwydd tymor tyfu cynnar. Fe’ch cynghorir i archwilio’n cynnar. Ffôn: 07831 582718 E-bost: tom.latter@btopenworld.com [23/06/2008]

 

Amrywiol

Tail dofednod organig, am ddim i’r casglwr oddeutu 150 i 200 tunnell. Bydd yn barod tua'r wythnos gyntaf neu'r ail wythnos ym mis Hydref. Cysylltwch â Jenny ar 07967 260458, lleoliad Caerffili CF83 4FG. [03/07/08]

Mae Graig Producers Cymru a’r Gororau wedi cynrychioli’i 280 o aelodau gan farchnata eu da byw, ers dros 10 mlynedd. Mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol â Graig Producers South West and Caledonian Organics gan harneisio nerth marchnata dros 500 o aelodau sy’n ffermio’n organig. Ceir llawer iawn o fanteision i aelodaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.graigproducers.co.uk neu am fanylion i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk.  [hysbyseb barhaol]

 

Rhoddodd Ail Gynllun Gweithredu Organig Cymru bwyslais arbennig ar y swyddogaeth bwysig a gyflawnir gan y grwpiau cynhyrchu. Mae Grŵp Strategaeth Organig a Chanolfan Organig Cymru’n cynnig eu cefnogaeth gan argymell y dylai cynhyrchwyr bob amser ystyried y budd posibl a gynigir gan grwpiau marchnata cynhyrchwyr yn enwedig wrth ymdrin ag adwerthwyr lluosog.

Organic Market - Marketplace

 

Back to top

 

See also www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php

 

For Sale

Organic Suckler Cattle and Calves - retirement sale of mainly pedigree Longhorn cattle (in-calf or with calf at foot) together with stock bull (Longhorn). Contact David and Pam Williams on 01437-781234 or email info@bumpylane.co.uk for more details including photos.

15 pedigree organic Simmental bulling heifers. Contact Nic or Nadia Gwynne: 01239 831220. [08/07/08]

Organic Welsh Black Bull 18 months. Contact tel: 01982 551848 or email mbsnead@tiscali.co.uk [02/07/08]

Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert]
Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk.  [permanent advert]

Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert]
Organic pure bred Shetland sheep – all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. Pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge). [permanent advert]

 

Wanted

Winter grazing for our 150-200 ewe lambs from October till mid March/April. Call Alun or Sion 01650 531366. [07/07/08]

Soon to farrow sow desperately requires a pig ark! Please contact Jack Cockburn (nr Lampeter) on 01570 470672. [04/07/08]

Land wanted Carmarthenshire/Pembrokeshire/Ceredigion. About 5 to 20 acres (some woodland/scrub ok.) Certified or not yet converted. 600' altitude or below. Please email Debbie Rees - rees.debbie@yahoo.com. [04/07/08]

 

To let

Farm Business Tenancy offered for fixed term, from September 2009, on established organic holding (since 1992) of 145 clean acres, including farm house, range of predominantly modern buildings and herringbone parlour. Situated near north Pembrokeshire coast, the relatively level land benefits from an early growing season. Early inspection advised. Tel: 07831 582718 Email: tom.latter@btopenworld.com [23/06/2008]

 

Miscellaneous

Organic poultry manure, free to collector, around 150 to 200 ton, will be ready around 1st or 2nd week in October. Jenny on 07967 260458, Caerphilly CF83 4FG.

Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk.  [permanent advert]

 

The second Welsh Organic Action Plan placed special emphasis on the important role played by producer groups. The Organic Strategy Group and Organic Centre Wales offer their support and recommend that producers should always consider the potential benefits offered by producer marketing groups, particularly when dealing with multiple retailers.

Hwn oedd y cylchlythyr gwybodaeth farchnata misol gan Ganolfan Organig Cymru. Llwyfan yw’r e-fwletin hwn ar gyfer rhannu gwybodaeth am dueddiadau’r farchnad a chynhyrchu rhwng busnesau organig yng Nghymru. Rydym yn gobeithio eich bod yn ei gael yn fuddiol a chroesawn unrhyw adborth, eitemau newyddion, neu hysbysebion ar gyfer y rhifyn nesaf. Gweler ôl-rifynnau yn www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin

This was the monthly market intelligence newsletter from Organic Centre Wales. This e-bulletin is a platform for sharing information on market trends and production between organic businesses in Wales. We hope that you find it useful and we welcome any feedback, news items, or advertisements for the next issue. See back numbers at www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin.

 

Adborth

 

EITEMAU NEWYDDION Anfonwch eich eitemau newyddion, adborth a hysbysebion at david.frost@adas.co.uk.

 

Er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin yma, ni all Canolfan Organig Cymru a’i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail unrhyw un o’u cyhoeddiadau

 

Yn ôl i'r brig

Feedback

 

NEWS ITEMS Please send your news items, feedback and advertisements to david.frost@adas.co.uk.

 

While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of any of its publications..

 

Back to top

I danysgrifio i’r bwletin hwn, dylid anfon neges at Jane Powell. Gellwch hefyd danysgrifio i e-fwletin Cymru Organig sy’n ymddangos ar ddechrau pob mis yn cynnwys y newyddion organig diweddaraf yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Gweler www.organic.aber.ac.uk/bulletin

To subscribe to this bulletin send a message to Jane Powell. You can also subscribe to the Organic Wales e-bulletin, which appears at the beginning of each month featuring the latest organic news in Wales, the UK and beyond. See www.organic.aber.ac.uk/bulletin