BwletinMarchnad Organig CymruRhif 65, 17 Mehefin 2008 |
BulletinOrganic Market WalesNo. 65, 17 June 2008 |
|
Marchnad Organig Cymru Llaeth Grawnfwydydd Cig a da byw ffrwythau a llysiau Newyddion Y farchnad Gwylio'r prisiau adwerthol Adborth |
Organic Market Wales Dairy Cereals Meat and livestock Fruit and vegetables News Market place Retail price watch Feedback |
|
Cyfarwyddiadur Masnachol Organig Cymreig Mae cyfarwyddiadur cyflenwyr bwyd organig Cymreig, ar gyfer y sector lletygarwch a chaffael cyhoeddus, bellach ar gael gan y Ganolfan. Gellwch ofyn am gopi rhad o fewn Cymru, neu'i lawrlwytho o'r wefan. Mae'n cynnwys DVD am gaffael cyhoeddus organig (gweler hefyd isod).
Arallgyfeirio i arddwriaeth organig? Lansiwyd arweiniad technegol i ffermwyr sy’n ystyried arallgyfeirio i gynhyrchu ffrwythau a llysiau yn Fferm Peepout, Hwlffordd ar 15 Mai. Mae’r arweiniad ar gael ar ddiwedd mis Mehefin oddi ar wefan Canolfan Organig Cymru www.organic.aber.ac.uk
Caffael cyhoeddus Mae’r DVD ar gaffael bwyd organig cyhoeddus bellach ar gael i'w wylio yn fan hyn.
Digwyddiadau 21-24 Gorffennaf 2008, Sioe Amaethyddol Cymru 2008 yn Llanelwedd. 6 a 7 Medi, 2008 Gŵyl Bwyd Organig y Soil Association 2008 ym Mryste.
|
Welsh Organic Trade Directory A new directory of Welsh organic food suppliers, aimed at the hospitality sector and public procurement, is now available from OCW. You may request a free copy within Wales, or download it from the website. It contains a DVD on organic public procurement (see also below).
Diversifying into organic horticulture? A technical guide for farmers considering diversifying into fruit and vegetable production was launched at Peepout Farm, Haverfordwest, on 15 May. The guide is available from the Organic Centre Wales website www.organic.aber.ac.uk
Public procurement OCW's DVD on organic public food procurement can now be viewed here
Events 21-24 July 2008, Royal Welsh Show 2008 in Builth Wells. 6, 7 September, 2008 Soil Association's Organic Food Festival 2008 in Bristol
|
|
Y galw yn cynyddu yn yr Almaen Mae’r farchnad ar gyfer llaeth ac iogyrt organig yn yr Almaen wedi parhau i ddatblygu mewn ffordd egniol, yn ôl y ganolfan ZMP sy’n adrodd ar y farchnad yn yr Almaen. Mae’n sôn am gynnydd rhwng 24 a 30% mewn llaeth ffres, iogyrt naturiol ac iogyrt ffrwythau yn chwarter cyntaf 2008. Mae’r gwahaniaeth o ran pris rhwng cynhyrchion organig a chonfensiynol wedi gostwng. Ffynhonnell: ZMP www.zmp.de
Kingshay yn adrodd Syrthiodd pris llaeth 0.52cyl (1.5%) ar gyfartaledd rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2008 i’w gyfartaledd presennol sef 34.37cyl. Dengys canlyniadau blynyddol fod pris llaeth ar gyfartaledd wedi cynyddu 7.71cyl (28.9%) o’r 26.66cyl ar gyfartaledd ym mis Mawrth 2007. Am fwy o wybodaeth ar y cynnyrch llaeth, protein a chanran y braster, cliciwch yma.
Cynnydd pris Dairy Crest Bydd cynhyrchwyr Daily Crest sydd ar gontractau organig yn derbyn 1 gyl yn ychwanegol. Mae’r codiadau’n dilyn ar sodlau’r prisiau llaeth-am-gaws uwch a gyhoeddwyd y mis diwethaf. Meddai’r cyfarwyddwr prynu llaeth, Arthur Reeves: “Unwaith eto, rhaid i ni ofyn i’n holl gwsmeriaid dalu rhagor. Mae parhau i gynyddu prisiau fel rydym yn ei wneud ers dros flwyddyn bellach, yn dipyn o her!” Farmers Guardian
Morrisons yn cyhoeddi codiad prisiau Mae Morrisons wedi cyhoeddi y bydd ei holl laeth ffres safonol o dan label y cwmni’n dod o ffynonellau rhanbarthol a hefyd yn cael ei werthu’n rhanbarthol o ddiwedd mis Mehefin 2008. Hefyd, dywedodd yr archfarchnad y bydd yn talu 1gyl yn fwy i broseswyr ar gyfaint y llaeth sy’n cael ei gynhyrchu a fydd yn cael ei drosglwyddo’n uniongyrchol i’r ffermwyr. www.dairycodatum.org.uk
Wyau organig "Dylai cynhyrchwyr i’r farchnad wyau organig anelu at aros yn ddigon mawr i oroesi, ond yn ddigon bach i ofalu." Wrth siarad yn y Ffair Foch a Dofednod yn ddiweddar yn Stoneleigh, dywedodd Patrick Bourns o Barringfon Farm Estates fod defnyddwyr yn aml yn cael eu diflasu gan fusnesau wyau organig masnachol mawr. "Dydyn ni ddim eisiau mynd mor fawr na fydd defnyddwyr eisiau prynu ein hwyau ddim mwy. Rydym eisiau helaethu’r cynnig ymhellach,” meddai. Sylwodd ymhellach fod y farchnad wyau organig yn ei chael yn anodd ar hyn o bryd ac nid yw mor ddiogel ag y byddai oherwydd cynnydd yng nghostau’r porthiant Farmers Weekly
Llaeth gosod organig Mae’r llaeth gosod organig cyntaf erioed bellach ar gael gan Volac International dan yr enw Volac CeimoBlue. Mae’r powdwr seiliedig ar faidd yn cynnwys fformiwleiddiad o 23% protein, 18% olew.. Ffynhonnell: Ymgynghorydd ADAS
Gwybodaeth am brisiau organig Am fwy o wybodaeth am brisiau gan Dairy Farmers of Britain, cliciwch yma. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad
|
Demand in Germany increases The market for organic milk and yoghurt in Germany has continued to develop dynamically, reports the German Market Report Centre (ZMP). It reports an increase of between 24 and 30% of fresh milk, natural yoghurt and fruit yoghurt in the first quarter of 2008. The price difference between conventional and organic products has decreased. Source: ZMP www.zmp.de
Kingshay reports The average milk price fell by 0.52ppl (1.5%) between February and March 2008 to a current average of 34.37ppl. Annual results show the average milk price has increased by 7.71ppl (28.9%) from an average of 26.66ppl in March 2007. For more information on milk yield, protein and fat percentage please follow this link.
Dairy Crest increase The price paid to Dairy Crest producers on organic contracts will receive an additional 1ppl. The increases follow on the heels of the higher milk-for-cheese prices announced last month. Milk purchasing director Arthur Reeves said: “We again have to ask all our customers to pay more. To continually increase prices, as we have been doing for over a year now, is a real challenge”. Farmers Guardian.
Morrisons announces price increase Morrisons has announced that all its own label standard fresh milk will be sourced and sold regionally from the end of June 2008. The supermarket also stated it will pay 1ppl more to processors on the volume of milk purchased which is to be passed directly to farmers. www.dairycodatum.org.uk.
Organic eggs “Producers from the organic egg market should aim to stay big enough to survive but small enough to care.” Speaking recently at the Pig and Poultry Fair in Stoneleigh, Patrick Bourns of Barrington Farm Estates said that consumers were often put off by large commercial organic egg businesses. "We don't want to get so big that consumers don't want to buy our eggs anymore. We want to further enhance the offer," he said. He commented that the organic egg market was struggling at the moment and it isn't as secure as it was due to rising feed costs. Farmers Weekly
Organic milk replacer The first ever organic milk replacer is now available from Volac International, called Volac ZelmoBlue. The whey based powder has 23% protein, 18% oil formulation. Source: ADAS consultant
Organic price information For more price information from Dairy Farmers of Britain, click here. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information |
|
Marchnad Organig - Grawnfwydydd
Norton Organic Grain yn adrodd “Yn ddi-os amseroedd rhyfedd iawn yw’r rhain o safbwynt economaidd. Mae’r argyfwng credyd rhyngwladol ynghyd â phrisiau olew carlamus wedi cael effaith ddiamheuol ar economi’r DU. Mae’r cynnydd cryf ym mhrisiau grawn sydd heb eto gael ei fwydo i brisiau bwyd manwerthu gan fod y rhan fwyaf o broseswyr a chynhyrchwyr bwyd yn contractio neu’n sicrhau cyflenwadau o ddefnyddiau crai am hyd at flwyddyn ymlaen llaw. Mae’r diffyg hyder cyffredinol yn yr economi yn golygu ei bod yn amgylchedd anodd os am wthio drwodd godiadau prisiau ar y lefel fanwerthu; yn enwedig pan fydd angen i’r llywodraeth gadw gafael gadarn ar chwyddiant o dan amgylchiadau anodd iawn. Nid yw hyn yn gwneud dim oll i helpu i’r farchnad rawn ddatblygu ar gyfer y tymor o ran cnydau confensiynol nac organig, a bu’r mis diwethaf yn hynod dawel o ran busnes newydd. Yn sicr, mae’n ddiddorol nodi ym mis Mai a Mehefin yn ystod y ddau dymor diwethaf, cafwyd diddordeb mawr o hyd gan ddefnyddwyr a oedd eisiau sicrhau cyflenwad defnydd crai organig am flwyddyn ymlaen llaw. Yn sicr nid dyna fel y mae eleni. Fodd bynnag, mae hefyd yn wir dweud, ar ôl cynhaeaf gwael iawn yn 2007, nid ydym dan ein sang o ran gwerthwyr chwaith! Mae cydbwysedd y farchnad yn fregus, bydd prynwyr yn aros i’r pwysau i brynu gynyddu adeg y cynhaeaf ac nid yw cynhyrchwyr âr ar frys i werthu ar ôl gweld prisiau’n codi tua £100/t ar ôl y cynhaeaf y llynedd.” Nid yw’r prisiau’n debygol o ostwng (llawer iawn) yn ôl Nigel Gossett,. Dylai cynhyrchwyr da byw ystyried ailgyfrifo eu treuliau porthiant. Yn yr un modd â phedair blynedd yn ôl, pan oedd pris llaeth yn isel, dylai ffermwyr chwilio i ddefnyddio porfwyd a glaswellt yn y ffordd orau bosibl. Y prisiau presennol (wedi’u cyflenwi) yw: gwaddodion soia £540-620 (y gwerth isaf yn tarddu o Tsieina a’r gwerth uchaf yn tarddu o’r Eidal). Am fwy o wybodaeth, dylech gysylltu â Norton Organics ar 01787 210966
Gwybodaeth am brisiau organig Mae Organic Grain Link yn cyhoeddi cylchlythyr marchnata cnydau misol. Gallwch danysgrifio yn www.organicgrainlink.co.uk/regframe.html
Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad
|
Norton Organic Grain reports “There is no doubt that we are in quite extraordinary times from an economic perspective. The international "credit crunch" combined with spiralling oil prices are undoubtedly having an impact on the U.K. economy. The strong rise in world grain prices has not yet been fed into retail food prices as most food processors and manufacturers contract or hedge their raw material supplies for up to a year ahead. The general lack of confidence in the economy makes for a difficult environment in which to push through price rises at the retail level; especially when the government needs to keep a firm grip on inflation in a very difficult environment. None of this does anything to help the grain market develop for the new season, for either the conventional or organic crops, and the last month has been extremely quiet for new business. It is certainly interesting to note that during May and June of the last two seasons we had continued strong interest from consumers wanting to secure organic raw material supply for a year ahead. That is certainly not the case this year. However, it is also true to say that, after a very poor harvest in 2007, we are not inundated with sellers either! The market is in a delicate balance, buyers will wait for selling pressure to build at harvest and arable producers are not in a hurry to sell after seeing prices rise by around £100/t after harvest last year”. Prices are not likely to decrease (a lot) according to Nigel Gossett. Livestock producers should consider re-calculating their feed expenses. Just as four years ago, when the milk price was low, farmers should look at optimizing use of forage and grass. Current Prices (delivered) are: Feed Wheat £310/ tonne, Feed Barley £300/tonne, lucerne £355/tonne, oats £270-280/tonne and soya expeller £540-620 (lower value Chinese origin and higher value Italian origin). For more information please contact Norton Organics on 01787 210966
Organic price information Organic Grain Link produces a monthly crop marketing newsletter. Please subscribe at www.organicgrainlink.co.uk/regframe.html.
See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information
|
|
Marchnad Organig - Cig a da byw
Cynnydd yn y galw am gywion ieir organig Mor uchel fu’r galw am gyw iâr o wledydd Prydain nes bu prinder yn y cyflenwad, yn enwedig yn y sectorau buarth ac organig yn ôl James Hook o PD Hook. Farmers Guardian
Marchnad Da Byw Organig Aberhonddu’n adrodd Yn ystod yr arwerthiant da byw ddydd Iau 15 Mai 2008, gwerthwyd 68 o wartheg stôr yn hawdd. Mae galw cryf am dda byw organig. Gwerthwyd pymtheg ar hugain o fustych am £610 y pen ar gyfartaledd (177c/kg pwysau byw) gyda £780 y pen yn uchafbris (220c/kg pwysau byw) ar gyfer 4 bustach Limousin croes a oedd yn pwyso 415kg. £554 y pen (165c/kg) oedd y pris y 33 heffer ar gyfartaledd gydag uchafbris o £685 y pen (196c/kg pwysau byw) ar gyfer heffrod Limousin croes a oedd yn pwyso 350kg.
Arwerthiannau Da Byw Organig Cynhelir arwerthiannau organig nesaf McCartney’s 10 Gorffennaf a 21 Awst. Ffoniwch 01874 622386 am fanylion. Cynhelir arwerthiannau organig nesaf Livestock Sales y Trallwng 8 Medi, 20 Hydref a 17 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 am fanylion. Bydd Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiant da byw organig ar 18 Gorffenaf. Am fanylion ffoniwch 01267 236238 neu Huw Evans ar 0797 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com.
Gwybodaeth am brisiau organig Pris sylfaen cig eidion ar hyn o bryd yw £3.40 ar y bachyn o’i gymharu â £2.60 ar gyfer cig eidion confensiynol (ffynhonnell) (ABP 11 Mehefin). Cig oen £2.90+/kg pwysau ar y bachyn Porc £2.30+/kg pwysau ar y bachyn. Gweler cylchlythyr y Soil Association. |
Organic Market - Meat and livestock
Increased demand for organic chickens Demand has been so high for British chicken that there has been a shortfall in supply, especially in the free-range and organic sectors, according to James Hook of PD Hook. Farmers Guardian
Brecon’s Organic Livestock Market Report During the livestock auction on 15 May 2008, 68 store cattle were sold easily. There is a strong demand for organic livestock. Thirty-five steers were sold for on average £610 per head (177p/kg liveweight), with a maximum of £780 per head (220p/kg liveweight) for four Limousin cross steers which weighed 415kg. The 33 heifers present averaged at £554 per head (165p/kg lw) and topped at £685 per head (196p/kg lw) for four Limousin cross heifers weighing 350kg.
Organic livestock auctions McCartney's next organic auctions will be held on 10 July and 21 August. Call 01874 622386 for details. Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 8 September, 20 October and 17 November. Call 01938 553438 for details. Carmarthen Livestock Centre will hold an organic livestock auction on 18 July. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.
Organic price information Current beef base price is £3.40/kg dead weight compared to £2.60 for conventional (source: (ABP at 11 June). Lamb £2.90+/kg dead weight Pork £2.30+/kg dead weight. see Soil Association newsletter
|
|
Marchnad Organig - Ffrwythau a llysiau
Nid yw prisiau’n rhwystro gwerthiant organig Rhaid i ffermwyr organig weithio ar ddatblygu teyrngarwch defnyddwyr yn hytrach na chanolbwyntio ar dorri costau, yn ôl arolwg o ganfyddiadau siopwyr ynglŷn â ffrwythau a llysiau organig. Canfu’r ymchwil a gynhaliwyd gan Ysgol Fusnes Swydd Gaint, er bod cynhyrchwyr a manwerthwyr o’r farn fod prisiau’n effeithio ar benderfyniadau pobl wrth brynu, nid oedd cost yn ffactor a oedd yn rheoli penderfyniadau 16% siopwyr wrth brynu ffrwythau a llysiau organig. Farmers Weekly
Organics to Go yn adrodd Mae Organics to Go yn parhau i chwilio am gyflenwadau newydd ar gyfer eu cynlluniau blychau. Os oes gennych lysiau a ffrwythau organig i’w gwerthu neu os hoffech eu gwerthu yn y dyfodol, dylech gysylltu â Roger Hallam ar 01568 669020 neu edrychwch ar www.organicstogo.info. Y prisiau cyfredol (o’r fferm) (17 Mehefin 2008) yw: Bresych (gwanwyn) 75c yr un Moron 50c/kg Tatws £16/25kg Tatws newydd £18/25kg Sbigoglys £3/kg Letys 70c yr un Calabrese £1.50/kg Courgette £1/kg Ffa melyn £1.50/kg Ciwcymbyr 65c yr un.
Gwybodaeth am brisiau organig Am fwy o fanylion a phrisiau mewn garddwriaeth, gweler gwefan y Soil Association. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml. |
Organic Market - Fruit and vegetables
Price no barrier to organic sales Organic farmers need to work on developing consumer loyalty rather than concentrating on cutting costs, a survey into shopper’s perceptions of organic fruit and vegetables has found. The research, carried out by Kent Business School, found that although producers and retailers thought price affected people’s purchasing decisions, only 16% of shoppers were driven by cost when buying organic fruit and vegetables. Instead, health, safety and taste were the key factors leading people to buy organic produce. Farmers Weekly.
Organics to Go reports Organics to Go continues to look for new suppliers for their box schemes. If you have organic fruit and/or vegetables to sell or would like to sell in the future, please contact Roger Hallam on 01558 669020 or look at www.organicstogo.info. Current prices (ex-farm) (17 June 2008) are: Cabbage (spring) 75p each Carrots 50p/kg Potatoes £16/25kg New potatoes £18/25kg Spinach £3/kg Lettuce 70peach Calabrese £1.50/kg Courgette £1/kg Broadbeans £1.50/kg Cucumber 65p each
Organic price information For more details and prices see the Soil Association website. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml. |
|
Lansio Grŵp Organig Newydd Lansiwyd y Bwrdd Masach Organig (OTB) yn Uwchgynhadledd Flynyddol y Food and Drink Innovation Nerwork yn y DU yn Birmingham ym mis Mai. Mae’r corff newydd wedi’i sefydlu gan 10 aelod sefydlol o’r sector organig bwytadwy ac anfwytadwy a byddant yn edrych ar y ffyrdd gorau i wella marchnata’r brand organig i’r defnyddiwr. Yn ôl sefydlydd a chadeirydd y Bwrdd, Lizzie Van, sefydlydd y cwmni bwyd organig i blant Organix, mae’r [Bwrdd] yn agored i gynhyrchwyr, pacwyr, mewnforwyr a dosbarthwyr ac nid yw’n cystadlu â’r Soil Association na chyrff ardystio organig eraill. ffynhonnell: Fresh Produce Journal.
Amaethyddiaeth Organig yn y Byd "The World of Organic Agriculture 2008", crynodeb o ystadegau a gyhoeddir yn flynyddol sy’n adrodd ar ddatblygu amaethyddiaeth organig yn fyd-eang. Y wlad gyda’r arwynebedd mwyaf o dan reolaeth organig yw Awstralia, a ddilynir gan Tsieina a’r Ariannin. Yn Tsieina, er enghraifft, roedd yna ryw 2.3 miliwn ha o dir organig yn 2006 yn cael eu ffermio gan 1600 o gwmnïau amaethyddol. Y gyfran organig o dir amaethyddol oedd 0.41%, Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar www.fibl.org.
Bwyd organig mewn meysydd awyr Mae bwyd organig Organic To Go ar gael yn Maes Awyr Rhyngwladol Los Angeles a chan un lleoliad ym Maes Awyr Rhyngwladol San Diego. Yn ôl yr Airport Revenue News 2007 Fact Book, gwariodd teithwyr $3.2 biliwn ar fwyd a diodydd mewn meysydd awyr yn 2006. Penderfynodd Organic to Go ddefnyddio’r farchnad honno i ehangu’i werthiant. Gweler www.organictogo.com neu Organic Market Info
“Llaeth iachach” gan fuchod organig Mae llaeth gan wartheg organig sy’n bwyta glaswellt ffres yn fwy tebygol o fod yn well i’ch iechyd, yn ôl astudiaeth newydd gan Brifysgol Newcastle. Roedd y llaeth organig hwn yn cynnwys mwy o asidau brasterog buddiol megis omega-3 ac asid linoleig cyfunedig, a elwir yn CLA9, na llaeth sy’n cael ei gynhyrchu ar ffermydd llaeth masnachol dwys. Manylion
Shell yn buddsoddi mewn cynhyrchu cotwm organig Mae Sefydliad Shell yn cydweithio â’r manwerthwr ffasiwn Ewropeaidd C&A ac Organic Exchange dros gefnogi ffermwyr organig. Ar hyn o bryd maent yn gweithio â 30,000 o ffermwyr. Organic Monitor
Ofn prinder llaeth Mae streic yn un o’r cymdeithasau defnyddio llaeth mwyaf yn Ewrop, yn cael sgil-effeithiau ar draws y cyfandir. Mae IG Milch, y gymdeithas laeth Awstriaidd wedi galw ar ffermwyr i docio cyflenwi llaeth yn ei hanner i brotestio yn erbyn prisiau isel llaeth. Mae Bwrdd Llaethwyr yr Iseldiroedd yn dweud wrth ei 4,000 o aelodau i gadw llaeth ar y fferm ac mae yna brotestiadau yng ngwlad Belg, Lwcsembwrg a Ffrainc. The Times
Kenya: Tyfwyr yn symud at ffermio organig Gydag amodau llym EREGAP wedi’u gorfodi gan yr Undeb Ewropeaidd mae nifer cynyddol o ffermwyr bach yn troi at ffermio organig i sicrhau marchnadoedd ar gyfer eu cynnyrch ffres. Y cymhelliad ar gyfer amaethyddiaeth organig yn bennaf yw lleihau costau a gwella iechyd defnyddwyr. Yn ôl y ffermwyr, mae amaethyddiaeth organig yn lleihau eu costau dros 50 y cant wrth i bris gwrteithiau confensiynol gynyddu. www.allafrica.com
Bwydydd Arla yn cynyddu pris llaeth organig Dywed Bwydydd Nordig Arla ei fod yn am gynyddu’r cyflenwad llaeth gan y ffermwyr sy’n aelodau er mwyn mynd i’r afael â phryder cynyddol ynglŷn â chyflenwi organig, yn enwedig yn ei farchnadoedd yn Sweden a Denmarc. Food Navigator
|
New Organic Group Launch The Organic Trade Board (OTB) was launched at the Food and Drink Innovation Network's Annual UK Organics Summit in Birmingham in May. The new organisation has been set up by 10 founder members from both the edible and non-edible organic sector and will look at the best ways to enhance and market the organic brand to the consumer. Says OTB founder and chair Lizzie Vann, founder of children's food company Organix, "[The Board] is open to producers, packers, importers and distributors and does not compete with the Soil Association or other certification organisations". source: Fresh Produce Journal
Organic Agriculture in the World “The World of Organic Agriculture 2008”, a compendium of statistics published annually, reports on the worldwide development of organic agriculture. The country with the largest area under organic management is Australia, followed by China and Argentina. In China, for example, there were some 2.3 million ha of organic land in 2006, farmed by 1600 agricultural companies. The organic share of agricultural land was 0.41 %. For more information please consult www.fibl.org
US organic retailer sells at airports Organic To Go’s organic food is available at Los Angeles International Airport and from one location at San Diego International Airport. The Airport Revenue News 2007 Fact Book states that travellers spent $ 3.2 billion on food and beverages in 2006 at airports. Organic To Go decided to use that market to expand its sales. See www.organictogo.com or Organic Market Info.
'Healthier milk' from organic cows Milk from organic cattle that eat a fresh grass diet is likely to be better for your health, according to a new study by the University of Newcastle. This organic milk contained more good fatty acids such as omega-3 and conjugated linoleic acid known as CLA9 than milk produced at intensive commercial dairy farms. Details.
Shell Invests in organic cotton production Shell Foundation is collaborating with Europe's fashion retailer C&A and Organic Exchange to work for the support of organic farmers. They are currently working with 30,000 farmers. Organic Monitor
Milk shortages feared A strike in Europe's biggest milk-consuming society is having a knock-on effect across Europe. IG Milch, the Austrian dairy association, has called on farmers to cut deliveries by half to protest against low milk prices. The Dutch Dairymen Board is telling its 4,000 members to keep milk on the farm and there are protests in Belgium, Luxembourg and France. The Times
Kenya: Growers shift to organic farming With the stringent EUREGAP conditions imposed by the European Union, an increasing number of smallholder farmers are turning to organic farming to secure markets for their fresh produce. The motivation for organic agriculture is mainly to reduce costs and improve the health of consumers. The farmers say organic agriculture reduces their costs by over 50% as the price of conventional fertilisers increases. www.allafrica.com.
Arla foods increases the price of organic milk The Nordic Arla Foods says it is looking to increase the supply of milk from its member farmers to tackle growing concern over organic supply, particularly in its Swedish and Danish markets. Food Navigator.
|
|
Marchnad Organig - Gwylio'r prisiau adwerthol
Prisiau Organig Cyfredol Tatws (2.5 kg) Tesco d/b Sainsbury: d/b Morrisons: - Llaeth (2 beint) Tesco £0.98 Sainsbury: £0.98 Morrisons: £0.98 Cig oen (tshiops)) (kg) Tesco £11.42 ↓↓ Sainsbury: £12.98 ↓ Cig Eidion Stêc Ffiled (kg) Tesco £22.99 ↓ Sainsbury: £26.99↑ Briwgig eidion (kg) Tesco £4.38 ↓ Sainsbury: £5.58 Stêc syrlwyn eidion (bach) Tesco £17.68 Sainsbury: £19.39
Am fwy o fanylion gweler https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml
|
Organic Market - Retail price watch
Current Organic Prices Potatoes (2.5 kg) Tesco n/a Sainsbury: n/a Morrisons: - Milk (2 pints) Tesco £0.98 Sainsbury: £0.98 Morrisons: £0.98 Lamb (chops) (kg) Tesco £11.42 ↓↓ Sainsbury: £12.98 ↓ Beef fillet steak (kg) Tesco £22.99 ↓ Sainsbury: £26.99↑ Beef mince (kg) Tesco £4.38 ↓ Sainsbury: £5.58 Morrisons: - Beef sirloin steak (small) Tesco £17.68 Sainsbury: £19.39↑
For more details see https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml
|
|
Gweler hefyd www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php
Ar werth Lloi eidion wedi’u diddyfnu ar gael. Rhai wedi’u magu’n lloi sugno hefyd. HenfforddX a BazadaiseX. Amrywiaeth oedran. Cysylltwch ag Owen yn Lawrenny Farms. owenlp@onetel.com neu 07976647497 neu 02921250261. [02/06/08] 6 o heffrod eidion wedi prifio’n dda gartref ar werth ym mis Awst pryd y byddant yn hollol organig – erbyn yr adeg honno byddant yn 18 i 20 mis oed. Fe wnânt sugnwyr bach da, rhai eisoes yn gofyn tarw. Am fwy o wybodaeth ffoniwch Chris 01269 871060 neu chrstmrry@tiscali.co.uk, [29/05/08] Gwartheg Henffordd Organig. Stoc a buchod ifanc gyda lloi i’w canlyn. Cysylltwch â Stuart ar 01686 440674 neu e-bostiwch Dolfachlynda@aol.com [28/05/08] Defaid Llanwennog Organig – ŵyn, ŵyn blwydd a mamogiaid ag ŵyn. I gyd wedi’u magu uwchlaw 1000 o droedfeddi. Ffôn 01686 440674 neu e-bostiwch Dolfachlynda@aol.com [28/05/08] Ystafell oer tua 16\"x 8\" 18 mis oed yn unig, cyflwr rhagorol £4250 neu’r cynnig agosaf. Rhewgist maint canolig £100. Wagen Fforch Godi Kamatsu FG15T-15 4.5M DUPLEX MAST, cyflwr rhagorol. I gyd dros ben i’r gofynion. Cysylltwch â Dai 07977 922958. [28/05/08] Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251. Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk. Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).
Yn eisiau Yn eisiau’n ddirfawr – pori dros y gaeaf ar gyfer 170 i 200 o ŵyn beinw mynydd Cymreig rhwng canol mis Hydref a chanol/diwedd mis Mawrth. Ystyriaeth i unrhyw ardal. Galwch Alun neu Siôn ar 01650 531366. [28/05/08]
I’w rhentu Pori organig - 11 mis - 20 erw, Caersws, canolbarth Cymru. Ffôn. 01686 688231. [02/06/08]
Mae Graig Producers Cymru a’r Gororau wedi cynrychioli’i 280 o aelodau gan farchnata eu da byw, ers dros 10 mlynedd. Mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol â Graig Producers South West and Caledonian Organics gan harneisio nerth marchnata dros 500 o aelodau sy’n ffermio’n organig. Ceir llawer iawn o fanteision i aelodaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.graigproducers.co.uk neu am fanylion i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb barhaol]
Rhoddodd Ail Gynllun Gweithredu Organig Cymru bwyslais arbennig ar y swyddogaeth bwysig a gyflawnir gan y grwpiau cynhyrchu. Mae Grŵp Strategaeth Organig a Chanolfan Organig Cymru’n cynnig eu cefnogaeth gan argymell y dylai cynhyrchwyr bob amser ystyried y budd posibl a gynigir gan grwpiau marchnata cynhyrchwyr yn enwedig wrth ymdrin ag adwerthwyr lluosog. |
See also www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php
For Sale Weaned beef calves available. Some suckler reared calves also. HerefordX and BazadaiseX. A range of ages. Contact Owen at Lawrenny Farms. owenlp@onetel.com or 07976647497 or 02921250261. [02/06/08] Six well grown homebred beef heifers for sale in august when they will be fully organic - will then be 18 to 20 months will make nice sucklers some are already bulling. More info tel chris 01269 871060 or chrstmrry@tiscali.co.uk [29/05/08] Organic hereford cattle. Young stock and cows with calves at foot. Contact Stuart on 01686 440674 or email Dolfachlynda@aol.com [28/05/08] Organic Llanwenog sheep - lambs, yearlings and ewes with lambs. All reared above 1000feet. Tel 01686 440674 or email Dolfachlynda@aol.com [28/05/08] Cold room approx 16\"x 8\" only 18 months old excellent condition £4250 ono. Chest freezer med size £100. Forklift truck Kamatsu FG15T-15 4.5M DUPLEX MAST, excellent condition. All surplus to requirements. contact Dai 07977 922958. [28/05/08] Organic calves, mainly
Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round
calving British Friesian Dairy herd.
Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert] Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and
oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent
advert]
Wanted Desperately wanted - winter grazing for 170 to 200 welsh mountain ewe lambs from mid Oct to mid/end March. Will consider any area. Call Alun or Sion on 01650 531366. [28/05/08]
To let Organic Grazing - 11 Months - 20 Acres, Caersws, Mid Wales. Tel. 01686 688231. [02/06/08]
Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk. [permanent advert]
The second Welsh Organic Action Plan placed special emphasis on the important role played by producer groups. The Organic Strategy Group and Organic Centre Wales offer their support and recommend that producers should always consider the potential benefits offered by producer marketing groups, particularly when dealing with multiple retailers. |
|
Hwn oedd y cylchlythyr gwybodaeth farchnata misol gan Ganolfan Organig Cymru. Llwyfan yw’r e-fwletin hwn ar gyfer rhannu gwybodaeth am dueddiadau’r farchnad a chynhyrchu rhwng busnesau organig yng Nghymru. Rydym yn gobeithio eich bod yn ei gael yn fuddiol a chroesawn unrhyw adborth, eitemau newyddion, neu hysbysebion ar gyfer y rhifyn nesaf. Gweler ôl-rifynnau yn www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin |
This was the monthly market intelligence newsletter from Organic Centre Wales. This e-bulletin is a platform for sharing information on market trends and production between organic businesses in Wales. We hope that you find it useful and we welcome any feedback, news items, or advertisements for the next issue. See back numbers at www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin.
|
|
EITEMAU NEWYDDION Anfonwch eich eitemau newyddion, adborth a hysbysebion at david.frost@adas.co.uk.
Er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin yma, ni all Canolfan Organig Cymru a’i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail unrhyw un o’u cyhoeddiadau
|
NEWS ITEMS Please send your news items, feedback and advertisements to david.frost@adas.co.uk.
While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of any of its publications..
|
|
I danysgrifio i’r bwletin hwn, dylid anfon neges at Jane Powell. Gellwch hefyd danysgrifio i e-fwletin Cymru Organig sy’n ymddangos ar ddechrau pob mis yn cynnwys y newyddion organig diweddaraf yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Gweler www.organic.aber.ac.uk/bulletin. |
To subscribe to this bulletin send a message to Jane Powell. You can also subscribe to the Organic Wales e-bulletin, which appears at the beginning of each month featuring the latest organic news in Wales, the UK and beyond. See www.organic.aber.ac.uk/bulletin. |