Bwletin

Marchnad Organig Cymru

Rhif 64,  8 May 2008

Bulletin

Organic Market Wales

No. 64,  8 Mai 2008

Mynd yn syth at yr adran:

 

Marchnad Organig Cymru     Llaeth   Grawnfwydydd   Cig a da byw   ffrwythau a llysiau  Newyddion    Y farchnad    Gwylio'r prisiau adwerthol  Adborth

Go straight to section

 

Organic Market Wales     Dairy   Cereals   Meat and livestock  Fruit and vegetables  News    Market place    Retail price watch  Feedback

Marchnad Organig - Cymru

 

Yn ôl i'r brig

 

Arolwg o Gynhyrchwyr Organig

Mae canlyniadau Arolwg Cynhyrchwyr Organig 2007 Canolfan Organig Cymru bellach ar gael. Maent yn dangos bod arwynebedd y tir o dan reolaeth organig yng Nghymru wedi cynyddu 16% yn 2007 ac erbyn hyn ceir 90 000 ha ar 800 o ddaliadau neu 6.3% o arwynebedd tir amaethyddol Cymru. Gyda thros 300 o ffermwyr wedi gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Ffermio Organig newydd eleni, gallai ffermio organig dyfu i ffurfio 8-10% o amaethyddiaeth Cymru. Bydd hyn yn creu cyfleoedd newydd i’r sector organig, ond bydd angen cynllunio gofalus. Gweler datganiad i'r wasg a lawrlwytho'r adroddiad.

 

Busnesau Organig Cymru ar y teledu

Y mis diwethaf, adroddodd Marchnad Organig Cymru fod Welsh Farm Organics yn cyflwyno’i gynnyrch ar sianel deledu QBC. Erbyn hyn mae Calon Wen hefyd yn cyflwyno ei Ecobaciau ar y teledu. Mae Calon Wen yn lansio ymgyrch hysbysebu genedlaethol ar y teledu yng Nghymru. Daw hyn wrth i’r ecobaciau gael eu lansio mewn 43 o siopau Tesco yng Nghymru. Seren yr hysbyseb yw’r fuwch gartŵn ynghyd â dau aderyn sy’n dangos sut i ddefnyddio’r ecobaciau. Fe’i dangosir ar S4C ac ITV Cymru ddiwedd mis Ebrill tan ddechrau mis Mai. www.calonwen-cymru.com/eco-pak/ 

 

Arallgyfeirio i arddwriaeth organig?

Mae arweiniad technegol i ffermwyr sy’n ystyried arallgyfeirio i gynhyrchu ffrwythau a llysiau i’w lansio yn Peepout Farm, Hwlffordd ar 15 Mai, gweler digwyddiadau. Bydd yr arweiniad ar gael yn www.organic.aber.ac.uk o’r dyddiad hwnnw. Datganiad i'r wasg

 

Digwyddiadau

26 a 27 Mai, 2008. Y Fforwm Marchnata Organig yn Warsaw Am fwy o wybodaeth, edrychwch ar www.organic-marketing-forum.org 15 Mai, 2008. Cyfleoedd mewn garddwriaeth organig – digwyddiad ar gyfer tyfwyr a chynhyrchwyr da byw sy’n ystyried arallgyfeirio. Peepout Farm, Portfield Gate, Hwlffordd, Sir Benfro SA62 3LS Tony Little Canolfan Organig Cymru 01970 622248.

6, 7 Medi 2008 Gŵyl Fwyd Organig y Soil Association 2008 ym Mryste

 

Organic Market - Wales

 

Back to top

 

Organic producer survey

The results of OCW’s 2007 Organic Producer Survey are now available. They show that the area of land under organic management in Wales increased by 15% in 2007 and now amounts to 90,000 ha on 800 holdings, or 6.3% of Welsh agricultural area. With more than 300 farmers having applied to join the new Organic Farming Scheme this year, organic farming could grow to 8-10% of Welsh agriculture. This will create new opportunities for the organic sector, but will require careful planning. See press release and download report.

 

Welsh Organic Businesses on TV

Last month Organic Market Wales reported that Welsh Farm Organics is presenting its products on QBC TV channel. Now Calon Wen will also present its Eco Paks on Television. Calon Wen are launching a Wales-wide TV advertising campaign. The move comes as the Eco Paks are launched across 43 Tesco stores in Wales. The advertisement stars their cartoon cow together with two birds showing how to use the Eco Paks. It will be screened on both S4C and ITV Wales end April/ beginning of May. www.calonwen-cymru.com/eco-pak/

 

Diversifying into organic horticulture?

A technical guide for farmers considering diversifying into fruit and vegetable production is to be launched at Peepout Farm, Haverfordwest, on 15 May (see events). The guide will be available at www.organic.aber.ac.uk from that date. Press release.

 

Events

26 and 27 May, 2008. The Organic Marketing Forum in Warsaw For more information please look at www.organic-marketing-forum.org 

15 May, 2008. Opportunities in organic horticulture event for existing growers and livestock producers considering diversification. Peepout Farm, Portfield Gate, Haverfordwest, Pembs SA62 3LS Tony Little OCW 01970 622248

6, 7 September, 2008 Soil Association's Organic Food Festival 2008 in Bristol

 

Marchnad Organig - Llaeth

 

Yn ôl i'r brig

 

Gwneuthurwyr Caws Llanboidy’n adrodd

“Rydym yn gwneud caws tŷ fferm traddodiadol cyffrous, sydd wedi ennill gwobrau am ei flasau cyfoethog a chynnil ers 25 o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae Sue Jones bellach wedi penderfynu ymddeol ac mae’r cwbl ar werth. Mae’r busnes nod masnach Caws Organig Cilowen ar werth ynghyd â’r ryseitiau a’r wybodaeth berthnasol am gwsmeriaid. Ffoniwch 01994 448303

 

Cyfleoedd i gyflenwi’r sector cyhoeddus

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn chwilio am ffynonellau llaeth buwch ffres o fis Medi 2008 ymlaen. Dylai’r rheiny sydd â diddordeb mewn tendro gysylltu â’r Uned Gyd-gaffael, Y Ganolfan Ddinesig, at sylw Bill Carr, DU-Casnewydd NP20 4UR. Ffôn. (44-1633) 23 34 18 neu e-bostio bill.carr@newport.gov.uk.

 

OMSCo’n adrodd

Mae’r Gydweithfa Cyflenwi Llaeth Organig (OMSCo) yn lansio arweinlyfr di-dâl newydd i annog defnyddwyr i newid i laeth organig. Mae’r arweiniad, Cheap Changes, yn cynnwys y prif tips i arbed arian a chyngor. Mae Cheap Changes yn ffurfio rhan o strategaeth farchnata eang Organic for £1 OMSCo, sy’n hyrwyddo’r ffaith y gall teulu o bedwar newid i laeth organig am lai na £1. Bydd y tips arbed arian yn ffurfio rhan o weithgareddau marchnata OMSCo yn ystod yr haf. www.omsco.co.uk

 

Gwybodaeth am brisiau organig

Pris llaeth organig ym mis Chwefror oedd: 35c/litr Dairy Farmers of Britain a Milk Link 33-34c/litr. (yn ôl y Farmers Weeekly. Am fwy o wybodaeth am brisiau gan Dairy Farmers of Britain, cliciwch yma.

 

Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a marchnata

 

Organic Market - Dairy

 

Back to top

 

Llanboidy Cheesemakers reports

 “We have been making exciting award winning traditional farmhouse cheeses with rich and subtle flavours for the past 25 years.” However Sue Jones has now decided to retire and all is up for sale. The trademarked Cilowen Organic Cheese business is for sale along with recipes and relevant customer information. Phone 01994 448303.

 

Opportunities to supply the public sector

Newport City Council is looking to source fresh cows' milk from September 2008 onwards. Those interested to tender should contact Joint Procurement Unit, Civic Centre, Attn: Bill Carr, UK-Newport NP20 4UR. Tel. (44-1633) 23 34 18 or e-mail bill.carr@newport.gov.uk for more details.

 

Omsco reports

The Organic Milk Suppliers Cooperative (OMSCo) is launching a new free guide to encourage consumers to make the switch to organic milk. The guide, Cheap Changes, contains top money saving tips and advice. Cheap Changes forms part of OMSCo’s wider ‘Organic for £1’ marketing strategy, promoting the fact that a family of four can switch to organic milk for less than £1. The money saving tips will form part of OMSCo’s summer marketing activities. www.omsco.co.uk

 

Organic price information

The organic milk price in February was 35p/litre; Dairy Farmers of Britain and Milk Link 33-34p/litre. (as quoted by Farmers Weekly) For more price information from Dairy Farmers of Britain, click here. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information

 

Marchnad Organig - Grawnfwydydd

 

Yn ôl i'r brig

 

Canlyniadau Arolwg Cynhyrchwyr Organig

Dangosodd Arolwg Canolfan Organig Cymru o Gynhyrchwyr mai gwenith a barlys oedd y cnydau âr a dyfir helaethaf gyda thros 300 ha yr un., Fe’u dilynir gan geirch yn 250 ha a rhygwenith sydd ar tua 80 ha. Prynai cynhyrchwyr sypiau bach o gnydau grawn strêt a phrotein, bron y cwbl yn organig, gyda’r rhan fwyaf o’r porthiant sy’n cael ei brynu ar ffurf porthiant cyfansawdd gyda phris o £258/t ar gyfartaledd am borthiant organig; cafwyd 11% a oedd yn cael ei droi’n organig am £200/t ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mynegwyd cryn bryder ynglŷn â phrisiau porthiant yn cynyddu i £350/t neu’n uwch yn 2008. Porthir y rhan fwyaf o gynhyrchu âr gartref a dywedodd 31% o’r cynhyrchwyr y byddent yn tyfu mwy yn 2008 oherwydd prisiau uchel porthiant a brynir. Er gwaethaf y prisiau deniadol, yn ôl pob golwg, i gynhyrchwyr âr, maent yn pryderu am y pris uchel a diffyg ymddangosiadol hadau grawn organig ynghyd â’r anawsterau wrth dyfu cnydau âr yn hinsawdd a thopograffeg Cymru. Mwy o wybodaeth ar www.organic.aber.ac.uk

 

Norton Organic Grain yn adrodd

Mae’r farchnad yn parhau’n dawel. Mae ffermwyr da byw yn rhedeg ar hen gontractau cnydau y bydd y mwyafrif ohonynt wedi darfod erbyn diwedd mis Ebrill. Yn ôl Nigel Gossett o Norton Organic Grain: “Mae prisiau yn y farchnad gonfensiynol wedi syrthio’n sylweddol. Ymddengys fod y bwlch rhwng y pris ar gyfer grawn organig a grawn confensiynol wedi ehangu’n sylweddol eto.” Prisiau presennol y dunnell (wedi’i dosbarthu) yw:

 Gwenith porthiant £320

 Barlys porthiant £305-310

 Rhygwellt £255-260.

 Gwaddodion soia £550-650; gyda’r soia rhataf (£550) yn dod o Tsieina a’r drutaf (£650) o’r Eidal. Mae Nigel Gossett yn pwysleisio er bod y soia o Tsieina’n rhatach, nid yw’r cyflenwi mor ddibynadwy a cheir mwy o risgiau.

Am fwy o wybodaeth, dylech gysylltu â Norton Organics ar 01787 210966

 

Gwybodaeth am brisiau organig

Mae Organic Grain Link yn cyhoeddi cylchlythyr marchnata cnydau misol. Gallwch danysgrifio yn www.organicgrainlink.co.uk/regframe.html

 

Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad

 

Organic Market - Cereals

 

Back to top

 

Organic Producer Survey results

The OCW Organic Producer Survey showed that wheat and barley were the most widely grown arable crops at over 300 ha each, followed by oats at 250 ha and triticale at approximately 80 ha. Producers purchased small quantities of straight cereal and protein crops; nearly all organic, with the majority of purchased feed bought as compound feed at an average price of £258/t for organic feed; 11% as in-conversion status at an average of £200/t.However significant concerns were expressed about feed prices increasing to £350/t or more in 2008. Most arable production is home-fed and 31% of producers said they would be growing a larger area in 2008 due to the high price of purchased feed. Despite these potentially attractive prices, arable producers were concerned at the high price and lack of availability of organic cereal seed, and also the difficulties of growing arable crops in the climate and topography of Wales. More information at www.organic.aber.ac.uk

 

Norton Organic Grain reports

The market continues to be quiet. Livestock farmers are running on old crop contracts of which the majority will have ended by the end of April. Nigel Gossett of Norton Organic Grain says: “Prices in the conventional have dropped considerably”. “It seems that the gap between the price for organic and conventional cereals has widened again.” Current prices (delivered) per tonne are:

 Feed wheat £320

 Feed barley £305-310

 Lucerne £255-260.

 Soya expeller £550-650; with the cheaper (£550) soya coming from China and the more expensive (£650) from Italy; Nigel Gossett stresses that although the Chinese soya is cheaper, delivery is less reliable and there is more risk involved.

For more information please contact Norton Organics on 01787 210966

 

Organic price information

Organic Grain Link produces a monthly crop marketing newsletter. Please subscribe at www.organicgrainlink.co.uk/regframe.html

 

See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information

 

Marchnad Organig - Cig a da byw

 

Yn ôl i'r brig

 

Graig Producers yn adrodd

“Mae prisiau ar gyfer cig oen yn gryf gan adlewyrchu bod cyflenwad y cynnyrch yn edwino yn y DU. Gwaethygwyd prinder y cyflenwad yn y DU eleni gan ddiffyg cydweithrediad yn y gadwyn fwyd wrth anfon y negesau cywir yn ddigon buan i ennyn hyder prynwyr mewn siopau. Mae archfarchnadoedd eisiau gwarantu cyflenwad trwy’r flwyddyn, ond nid yw galw o’r brig i lawr fel hyn yn gweithio yn y farchnad arbenigol hon. Mae Adroddiad Curry, ynghyd â llawer un arall, dros y blynyddoedd, wedi pwysleisio’n fanwl y ffyrdd o sicrhau enillion cynaliadwy ar hyd y gadwyn fwyaf a dyma’r dull a ddefnyddid gan Graig Producers erioed. Mae angen i ni feithrin cysylltiadau â’r gadwyn fwyd gyfan o’r archfarchnad i aelodau unigol grwpiau cynhyrchu i sicrhau bod cyflenwadau cig oen organig o’r DU ar gael 365 diwrnod y flwyddyn am brisiau cynaliadwy i bawb yn y gadwyn. Y ffordd i hwyluso hyn yw i bob cynhyrchydd organig farchnata trwy grwpiau marchnata annibynnol.” www.graigfarm.co.uk

 

Deunydd pacio y gellir ei gompostio

Mae siopau Sainsbury’s yn Yr Alban bellach yn gwerthu eu cywion ieir cyfan SoOrganic mewn hambyrddau y gellir eu compostio er mwyn lleihau deunydd pacio sy’n mynd i domennydd tirlenwi. Organic Inform  

 

Gwybodaeth am brisiau organig

Pris sylfaenol presennol cig eidion yw £3.40/kg ar y bachyn o’i gymharu â £2.65 am gig confensiynol (ffynhonnell: (ABP 1f Mai) Cig Oen £2.90+/kg ar y bachyn Porc £2.30+/kg ar y bachyn

Gweler Northern Organic Newsletter.  Ceir mwy o wybodaeth am brisiau da byw gan y Soil Association.

 

Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am y pris a’r farchnad

 

Arwerthiannau da byw

Bydd arwerthiannau da byw McCartney's yn cael eu cynnal nesaf ar 10 Gorffenaf a 21 Awst. Ffoniwch 01874 622386 i gael manylion.

Bydd arwerthiannau organig Gwerthiannau Da Byw'r Trallwng yn cael eu cynnal ar 8 Medi, 20 Hydref a 17 Tachwedd. Ffoniwch 01938 553438 i gael manylion.

Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiannau organig rheolaidd. I gael manylion, ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com.

 

Organic Market - Meat and livestock

 

Back to top

 

Graig Producers report

“Prices for lamb are strong, reflecting the dwindling supplies of UK produce. The situation of a shortage of UK supplies this year was made worse by a lack of cooperation in the food chain to send out the right messages soon enough to give store buyers confidence. Supermarkets want guaranteed supply throughout the year but the 'top down' approach to procurement does not work in this niche market. The Curry Report, along with many others over the years, spelled out the solutions for sustainable returns throughout the food chain and is an approach that has always been taken by Graig Producers. We need to build relationships with the whole food chain from supermarket to independent producer group members to ensure supplies of UK organic lamb are available 365 days of the year at sustainable prices for everyone in the chain. The way to help this happen is for all organic producers to market through independent marketing groups.” www.graigfarm.co.uk

 

Compostable packaging

Sainsbury’s Scottish stores now sell its SoOrganic whole chickens in compostable trays to reduce packaging waste going to landfill. www.organicinform.org/newsitem.aspx?id=481 

 

Organic price information

Current beef base price is £3.40/kg dead weight compared to £2.65 for conventional (source: (ABP at 1st of May) Lamb £2.90+/kg dead weight Pork £2.30+/kg dead weight. See Northern Organic Newsletter. More livestock price information to be obtained from the Soil Association.

See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information

 

McCartney's next organic auctions will be held on 10 July and 21 August. Call 01874 622386 for details.

Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 8 September, 20 October and 17 November. Call 01938 553438 for details.

Carmarthen Livestock Centre hold regular organic auctions. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.

Marchnad Organig - Ffrwythau a llysiau

 

Yn ôl i'r brig

 

Bwydydd Organig Calon Wen yn adrodd

Nid yw Bwydydd Organig Calon Wen bellach yn gwerthu ffrwythau a llysiau organig. Maent wedi trosglwyddo’i holl fasnach ffrwythau a llysiau organig i’r Organic Fresh Food Company yn Llambed. Mae Cydweithfa Llaeth Organig Calon Wen yn parhau i werthu cynnyrch llaeth.

 

Organics to Go yn adrodd

Mae Organics to Go yn parhau i chwilio am gyflenwyr newydd i’w cynlluniau blychau. Os oes gennych lysiau a ffrwythau organig i’w gwerthu neu os hoffech eu gwerthu yn y dyfodol, dylech gysylltu â Roger Hallam ar 01558 669020 neu edrychwch ar www.organicstogo.info. Y prisiau cyfredol (o’r fferm) (11 Ebrill 2008) yw: Bresych (gwanwyn) 75c yr un; Blodfresych £0.75-0.80/y pen; Moron 50c/kg; Cennin £1.30/kg; Tatws £9-10/25kg; Sbigoglys £3/kg; Letys 70c/yr un Brocoli porffor £2/kg.

   Yn ôl Roger Hallam, mae prisiau ffrwythau a llysiau sydd wedi’u mewnforio wedi cynyddu tua 20% yn ddiweddar%. Nid oes fawr o newid ym mhrisiau organig y DU.

 

Gwybodaeth am brisiau organig

Am fwy o fanylion a phrisiau mewn garddwriaeth, gweler gwefan y Soil Association. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml.

Organic Market - Fruit and vegetables

 

Back to top

 

Calon Wen Organic Foods reports

Calon Wen Organic Foods no longer sells organic fruit and vegetables. It has passed all its organic fruit and vegetable trade on to the Organic Fresh Food Company in Lampeter. Calon Wen Organic Milk Co-operative continues to sell dairy products.

 

Organics to go reports

Organics to Go continues to look for new suppliers for their box schemes. If you have organic fruit and/or vegetables to sell or would like to sell in the future, please contact Roger Hallam on 01558 669020 or see www.organicstogo.info. Current prices (ex-farm) (11 April 2008) are:

Cabbage (spring) 75p each; Cauliflower £0.75-0.80/each; Carrots 50p/kg; Leek £1.30/kg; Potatoes £9-10/25kg; Spinach £3/kg; Lettuce 70p/each; Sprouting broccoli £2/kg.

    According to Roger Hallam, imported fruit and vegetable prices have increased recently by approximately 20%. There is little change in UK organic prices.

 

Organic price information

For more details and prices in Horticulture see the Soil Association website and the Northern Organic Newsletter. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml.

Marchnad Organig - Newyddion

 

Yn ôl i'r brig

 

Adroddiad Manwerthu Arbenigol Organig Ewrop 2008

Mae adroddiad Newydd gan Ecozept, BioVista a’r Organic Retailers Association yn dadansoddi’r farchnad fwyd organig mewn 27 o wledydd Ewropeaidd. Er ei fod yn canolbwyntio ar fanwerthwyr organig arbenigol, mae’r adroddiad yn darparu trosolwg fesul gwlad sy’n cynnwys marchnadoedd bwyd, mewnforion ac allforion cenedlaethol, sianelau dosbarthu, canrannau’r farchnad, brandiau llwyddiannus a datblygiadau i’r dyfodol www.ecozept.de

 

Man gwerthu amgen i gynnyrch organig Mae dwy ysgolion yn yr Alban wedi ymuno â Bee-Organic, cyflenwr cynnyrch organig yn Birkhill. Yn ystod prosiect peilot llwyddiannus, mae Bee-Organic wedi cyflenwi blychau ffrwythau a llysiau organig y gall rhieni eu codi ar yr un pryd ag y byddant yn casglu’u plant ar ddiwedd y diwrnod ysgol. Erbyn hyn mae Bee-Organic yn bwriadu ymestyn y cynllun i ysgolion sydd â diddordeb ledled Yr Alban. The Herald

 

Defnyddwyr yn dewis organig Dengys eitem yn The Grocer fod bron 24% o ddefnyddwyr yn Llundain yn cadw llygad yn agored am gynnyrch organig a bod 14% o ddefnyddwyr yn dweud bod organig yn ffactor pwysig yn eu harferion siopa. The Grocer

 

Pobl y Swistir yn gwario’r mwyaf ar gynnyrch organig

Mae pob unigolyn yn y Swistir yn gwario 102 EUR y flwyddyn ar fwyd organig. Fe’u dilynir gan Ddenmarc lle y gwerir 80 EUR y pen bob blwyddyn. Mae Awstria gyda 64 EUR yn dal i guro’r Almaen gyda 56 EUR a gwledydd Prydain (47 EUR), Sweden (42. EUR). Y Belgiaid (23 EUR), y Gwyddelod (16 EUR) a Sbaen (2 EUR) sy’n gwario’r lleiaf ar gynnyrch organig. Mae’r ffigurau’n cyfeirio at 2008 (2005 i Iwerddon). Am fwy am Iwerddon, gweler rhifyn diweddaraf yr Organic Market Manual 2008 a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan ZMP. www.zmp.de

 

Ffermio organig yn tyfu yn California

Mae bellach dros 500,000 erw o dir yn cael eu defnyddio at ffermio a chynhyrchu da byw organig yn California (202,350), yn ôl Ffermwyr Organig Ardystiedig California. Mae The Central Valley Business Times yn adrodd fod yr arwynebedd wedi tyfu 129% yn ystod y ddwy flynedd diwethaf. Ym 2007, cynyddodd yr arwynebedd 57,000 ha sef twf o 41%. Yn 2007, tyfodd yr arwynebedd organig 52% ar gyfer ceirch, 49% ar gyfer reis a 39% ar gyfer grawnwin bwyta. www.centralvalleybusinesstimes.com

Organic Market - News updates

 

Back to top

 

Specialised Organic Retail Report Europe 2008

A new report from Ecozept, BioVista and the Organic Retailers Association analyses the organic food market in 27 European countries. Although focusing on specialist organic retailers, the report provides a country by country overview covering national food markets, imports and exports, distribution channels, market shares, successful brands and future developments. www.ecozept.de

 

Alternative outlet for organic produce

Two Scottish schools have joined forces with Bee-Organic, an organic produce supplier. During a successful pilot project, Bee-Organic has supplied organic fruit or vegetable boxes that parents can pick up at the same time they collect their children at the end of the school day. Bee-Organic now plans to extend the scheme to interested schools throughout Scotland. The Herald.  

 

Consumers choosing organic

A feature in The Grocer shows that nearly 24% of consumers in London look out for organic produce and 14% of consumers say that organic is a major factor in their purchasing habits. The Grocer

 

Swiss spend most on organic produce

Every Swiss person spends 102 EUR a year on organic food, closely followed by Denmark with 80 euros per head per year. Austria with 64 EUR is still ahead of Germany with 56 EUR, and the British (47 EUR), Swedes (42 EUR). The Belgians (23 EUR), Irish (16 EUR) and Spaniards (2 EUR) spend least on organic produce. The figures refer to 2006 (2005 for Ireland). For more information see the new edition of the Organic Market Manual 2008 recently published by ZMP. www.zmp.de

 

Organic farming grows in California

The area used for organic farming and livestock production in California has passed 500,000 acres (202,350 ha), report California Certified Organic Farmers. The Central Valley Business Times reports that the area grew by 129 % in the last two years. In 2007, the area increased by 57,000 ha representing a 41 % growth. In 2007, the organic acreage grew by 52 % for oats, 49 % for rice and 39 % for table grapes. www.centralvalleybusinesstimes.com

 

Marchnad Organig - Gwylio'r prisiau adwerthol

 

Yn ôl i'r brig 

 

Prisiau Organig Cyfredol (30 Ebrill 08)

Llaeth (2 beint) Tesco £0.98 Sainsbury: £0.98 Morrisons: £0.98

Cig Oen (tshiops) (kg) Tesco £13.48 Sainsbury: £13.98

Ffiled Cig Eidion (kg) Tesco £24.99 ↑ Sainsbury: £24.99↑

Briwgig (kg) Tesco £5.58 ↑↑ Sainsbury: £5.58 ↑ Morrisons: £4.39

Stêc syrlwyn cig eidion (bach) Tesco £17.69 ↑ Sainsbury: £17.69↑

 

Am fwy o fanylion gweler https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml 

 

Organic Market - Retail price watch

 

Back to top

 

Current Organic Prices (30 April 08)

Milk (2 pints) Tesco £0.98 Sainsbury: £0.98 Morrisons: £0.98

Lamb (chops) (kg) Tesco £13.48 Sainsbury: £13.98 Morrisons: -

Beef fillet steak (kg) Tesco £24.99 ↑ Sainsbury: £24.99↑

Beef mince (kg) Tesco £5.58 ↑↑ Sainsbury: £5.58 ↑ Morrisons: £4.39

Beef sirloin steak (small) Tesco £17.69 ↑ Sainsbury: £17.69

 

For more details see https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml

Marchnad Organig - y Farchnad

 

Yn ôl i'r brig

 

Gweler hefyd www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php

 

Ar werth

Offer gwneud caws ar werth – pastureiddiwr llaeth modern, cawswasg, mowldiau, byrddau, trolïau, rheseli cadw caws, boeler olew diwydiannol cyfunol, a llawer yn rhagor. Ffoniwch 01994 448303. [01/05/08]

Mae gwneuthurwyr caws Llanboidy yn rhoi’r gorau iddi ac y mae busnes Caws Organig Cilowen ar werth ynghyd â’r holl rysetiau a gwybodaeth berthnasol i gwsmeriaid, ayyb. Ffoniwch 01994 448303. [01/05/08]

Ceirch gwanwyn (8 tunnell) a gwenith gaeaf (12 tunnell) Ffoniwch 01686 625619 neu 07787 378713. [25/04/08]

Heffer Ffrisia Organig newydd ddod â llo. Natur hyfryd ac yn edrych am gartref newydd clud! Profwyd y gyrr am y ddarfodedigaeth ym mis Ebrill 2008, ac fe’u cafwyd yn gwbl glir. Lleolwyd yng NGHAERFYRDDIN. Ffoniwch Philip Thomas ar 01267 237191 neu 07813 192693. [21/04/08]

Tarw Du Cymreig ifanc. Ganed Ionawr 07- Wedi tyfu’n dda ac o frid pur. Cysylltwch ag M B Snead 01982 551848 , e-bost mbsnead@tiscali.co.uk; [21/04/08]

Dwy Heffer Ddu Gymreig, newydd ddod â llo. Mr Morgan, Sanclêr. 07970 178598. [14/4/08]

Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251.

Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com  neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk.

Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. 

Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).

 

Yn eisiau

Sheep tack for winter 08/09, improved Welsh ewes and ewe lambs. Please contact Irwel on 01558 650361 (Pumsaint/Carms).

 

Amrywiol

Dau fyfyriwr ifanc o’r Almaen yn chwilio am brofiad gwaith ar fferm organig. 12 Gorffennaf hyd at ddechrau mis Awst Isabel a Rasmus Hagedorn, info@dgp-praevention.de.

Mae Graig Producers Cymru a’r Gororau wedi cynrychioli’i 280 o aelodau gan farchnata eu da byw, ers dros 10 mlynedd. Mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol â Graig Producers South West and Caledonian Organics gan harneisio nerth marchnata dros 500 o aelodau sy’n ffermio’n organig. Ceir llawer iawn o fanteision i aelodaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.graigproducers.co.uk neu am fanylion i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk.  [hysbyseb barhaol]

 

Rhoddodd Ail Gynllun Gweithredu Organig Cymru bwyslais arbennig ar y swyddogaeth bwysig a gyflawnir gan y grwpiau cynhyrchu. Mae Grŵp Strategaeth Organig a Chanolfan Organig Cymru’n cynnig eu cefnogaeth gan argymell y dylai cynhyrchwyr bob amser ystyried y budd posibl a gynigir gan grwpiau marchnata cynhyrchwyr yn enwedig wrth ymdrin ag adwerthwyr lluosog.

Organic Market - Marketplace

 

Back to top

 

See also www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php

 

For Sale

Cheesemaking equipment for sale – modern milk pasteuriser, cheese press, moulds, tables, trolleys, cheese storage racks, Combi industrial oil boiler plus much more. Phone 01994 448303. [01/05/08]

Llanboidy Cheesemakers are ceasing production and the trademarked Cilowen Organic Cheese business is for sale along with recipes and relevant customer information, etc. Phone 01994 448303. [01/05/08]

Spring oats (8 ton) and winter wheat (12 ton) Contact 01686 625619 or 07787 378713. [25/04/08]

Freshly calved Organic Freisian heifer. Lovely nature, very quiet to handle and milk. Looking for a nice new home!! Perfectly clear TB Herd Test April 2008. Located in CARMARTHEN. Please feel free to telephone Philip Thomas on 01267 237191 or 07813 192693. [21/04/08]

Young Welsh Black Bull. Born Jan 07- Well Grown, Pure breed. contact M B Snead 01982 551848 , email mbsnead@tiscali.co.uk; [21/04/08]

Two pedigree Welsh Black heifers, freshly calved. Mr Morgan, St Clears. 07970 178598. [14/4/08]

Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert]
Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk.  [permanent advert]

Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert]
Organic pure bred Shetland sheep – all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. Pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge). [permanent advert]

 

Wanted

Sheep tack for winter 08/09, improved Welsh ewes and ewe lambs. Please contact Irwel on 01558 650361 (Pumsaint/Carms).[06/05/08]

 

Miscellaneous

Two young German students seek work experience on an organic farm, 12 July to early August. Isabel and Rasmus Hagedorn, info@dgp-praevention.de.

Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk.  [permanent advert]

 

The second Welsh Organic Action Plan placed special emphasis on the important role played by producer groups. The Organic Strategy Group and Organic Centre Wales offer their support and recommend that producers should always consider the potential benefits offered by producer marketing groups, particularly when dealing with multiple retailers.

Hwn oedd y cylchlythyr gwybodaeth farchnata misol gan Ganolfan Organig Cymru. Llwyfan yw’r e-fwletin hwn ar gyfer rhannu gwybodaeth am dueddiadau’r farchnad a chynhyrchu rhwng busnesau organig yng Nghymru. Rydym yn gobeithio eich bod yn ei gael yn fuddiol a chroesawn unrhyw adborth, eitemau newyddion, neu hysbysebion ar gyfer y rhifyn nesaf. Gweler ôl-rifynnau yn www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin

This was the monthly market intelligence newsletter from Organic Centre Wales. This e-bulletin is a platform for sharing information on market trends and production between organic businesses in Wales. We hope that you find it useful and we welcome any feedback, news items, or advertisements for the next issue. See back numbers at www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin.

 

Adborth

 

EITEMAU NEWYDDION Anfonwch eich eitemau newyddion, adborth a hysbysebion at david.frost@adas.co.uk.

 

Er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin yma, ni all Canolfan Organig Cymru a’i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail unrhyw un o’u cyhoeddiadau

 

Yn ôl i'r brig

Feedback

 

NEWS ITEMS Please send your news items, feedback and advertisements to david.frost@adas.co.uk.

 

While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of any of its publications..

 

Back to top

I danysgrifio i’r bwletin hwn, dylid anfon neges at Jane Powell. Gellwch hefyd danysgrifio i e-fwletin Cymru Organig sy’n ymddangos ar ddechrau pob mis yn cynnwys y newyddion organig diweddaraf yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Gweler www.organic.aber.ac.uk/bulletin

To subscribe to this bulletin send a message to Jane Powell. You can also subscribe to the Organic Wales e-bulletin, which appears at the beginning of each month featuring the latest organic news in Wales, the UK and beyond. See www.organic.aber.ac.uk/bulletin