BwletinMarchnad Organig CymruRhif 58, 14 Tachwedd 2007 |
BulletinOrganic Market WalesNo. 58, 14 November 2007 |
|
Marchnad Organig Cymru Ffocws ar fusnes Llaeth Grawnfwydydd Cig a da byw ffrwythau a llysiau Newyddion Y farchnad Gwylio'r prisiau adwerthol Adborth |
Organic Market Wales Business focus Dairy Cereals Meat and livestock Fruit and vegetables News Market place Retail price watch Feedback |
|
Gwefan ystadegau organig newydd Mae Canolfan Organig Cymru wedi diweddaru’u gwefan Ystadegau Organig. Croeso i chi gael cipolwg arni. Dilynwch y ddolen www.organic.aber.ac.uk/statistics
Bwyd sy’n cael ei dyfu gartref Bydd YMGYRCH i gynyddu maint y cynnyrch o Gymru sy’n cael ei fwyta yng Nghymru yn cael ei lansio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn y Flwyddyn Newydd. Bydd ymrwymiad polisi ynglŷn â chaffael cyhoeddus yn cyd-fynd ag ymgyrch i godi proffil bwyd o Gymru yn y sector twristiaeth a lletygarwch. Cyhoeddwyd y fenter sy’n gysylltiedig â chynllun ffermio organig Cymru gan Weinidog Materion Gwledig Cymru, Elin Jones, yng nghynhadledd flynyddol Canolfan Organig Cymru yr wythnos ddiwethaf (gweler isod). Western Mail
Newidiadau i Gynllun Ffermio Organig Cymru Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoedd newidiadau i Gynllun Ffermio Organig Cymru er mwyn i symud ffermio organig yn ei flaen yng Nghymru. Amlinellir newidiadau i’r cynllun yn ffeithlen newydd (heb ei chyfieithu eto)
Wyn iach i’w lladd, ond dim i’w bwyta Bydd hyd at 500,000 o ŵyn mynydd o Gymru’n cael eu lladd a’u llosgi yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf er mwyn osgoi trychineb o ran lles yr anifeiliaid. Mae’r cam yn dilyn cyfyngiadau a orfodwyd yn ystod yr achos clwyf traed a genau diweddaraf ac mae lladdfa debyg yn cynnwys hyd at 250,000 o ŵyn bellach yn digwydd yn yr Alban. Guardian
Siop fferm yn dod â’r organig i’r pentre Daw saith mlynedd heb siop bentre i ben yn ne Penfro ar ddechrau’r mis nesaf. Mae’r teulu Rogers wedi penderfynu agor siop fferm a phentre sy’n arbenigo mewn cynnyrch organig lleol. Mae Grant Cefnogi Siopau Gwledig gan Lywodraeth y Cynulliad wedi helpu’r teulu i drawsnewid adeilad fferm yn siop a fydd yn stocio eu cig eidion ac oen organig eu hunain ynghyd â chadwolion cartref a theisennau, pasteion cig a melysion sy’n cael eu gwneud yn lleol. Western Mail
|
New organic statistics website Organic Centre Wales has updated their Organic Statistics website. See www.organic.aber.ac.uk/statistics.
Homegrown food A drive to increase the amount of Welsh produce actually eaten in Wales will be launched by the Welsh Assembly Government in the New Year. A policy commitment on public procurement will be accompanied by a campaign to raise the profile of Welsh food within the tourism and hospitality sector. The initiative is linked to the Organic Farming Scheme for Wales announced by Wales Rural Affairs Minister Elin Jones at the annual conference of Organic Centre Wales last week (see below). Western Mail.
Revisions to the Welsh Organic Farming Scheme The Welsh Assembly Government has announced amendments to the Welsh Organic Farming Scheme in order to progress organic farming in Wales. Changes to the scheme are outlined in an OCW factsheet.
Lambs to be culled, but none for food Up to 250,000 healthy Welsh hill lambs will be culled and incinerated in the next few weeks to avoid a welfare disaster. The move follows restrictions imposed during the latest foot and mouth disease outbreak and a similar cull of up to 250,000 lambs now taking place in Scotland. Guardian.
Farm shop brings organics to village Seven years without a village shop comes to an end for a South Pembrokeshire village at the beginning of next month. The Rogers family has decided to open a farm shop and village stores specialising in organic and local produce. A Welsh Assembly Government Rural Retail Grant has helped the family convert a farm building to house the shop, which will stock their own organic beef and lamb, along with homemade preserves and locally made cakes, meat pies and confectionery. Western Mail.
|
|
Y mis hwn mae’r ffocws ar Grŵp Tyfwyr Cletwr
Grŵp deinamig o dyfwyr organig yw’r Clettwr Growers Group yng Ngheredigion. Mae gan y grŵp 18 o aelodau sydd wedi’u rhannu’n 2 grŵp. Mae hanner y tyfwyr yn gyfrifol am weithredu grŵp marchnadoedd y ffermwyr ac mae’r lleill yn gyfrifol am y broses ardystio. Mae’r grŵp wedi’i ardystio gan y Soil Association trwy gynllun grŵp (dylid nodi nad yw’r cynllun hwn bellach ar gael i grwpiau newydd). Sefydlwyd y grŵp gan Mike Carpenter ym 1999. Roedd Mike Carpenter wedi bod yn arolygydd gyda’r Soil Association am nifer o flynyddoedd pan benderfynodd ymuno â grŵp o ffermwyr.
Yn ôl Andy Blair, ysgrifennydd, sefydlwyd y grŵp yn wreiddiol i leihau costau ardystio i’r cynhyrchydd (un o ganlyniadau ardystio grŵp). Fodd bynnag, trwy fod yn rhan o’r grŵp, cododd cyfleoedd eraill megis gwerthu cynnyrch ar y cyd. “Fel grŵp rydych yn gallu gwerthu amrywiaeth ehangach o gynnyrch” meddai Andy Blair. Bu’r grŵp wrthi’n gwerthu’u cynnyrch trwy farchnad y ffermwyr Aberystwyth a marchnad y ffermwyr Llambed. Mae pawb yn rheoli’r stondinau yn eu tro. “Beth sy’n braf am werthu’ch cynnyrch trwy’r farchnad yw’ch bod yn cael adborth uniongyrchol amdano gan eich cwsmeriaid”.
Heblaw am farchnadoedd y ffermwyr, mae gan y rhan fwyaf o’r tyfwyr farchnadoedd eraill hefyd. Bydd rhai ohonynt yn gwerthu’u cynnyrch trwy Calon Wen, Face of Flwers, Organics to go ac Organic Fresh Food Company ac mae gan rai ohonynt eu cynlluniau blychau llysiau eu hunain.
Yn ddiweddar, cyhoeddodd y grŵp daflen yn cynnwys trosolwg o’r tyfwyr yn y grŵp. Rhoddir y daflen hon i’w cwsmeriaid. Dywedir ei bod yn helpu i gynyddu’r galw. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae rhai o’r tyfwyr wedi arallgyfeirio i dyfu cnydau eraill, megis Coed Nadolig organig ac wyau ac mae rhai wedi dechrau ychwanegu gwerth at y cynnyrch trwy brosesu. Enghreifftiau o hyn yw ceuled lemwn a phaté madarch.
Maent yn edrych tua’r dyfodol yn gadarnhaol iawn gan obeithio parhau i dyfu a gwerthu cynnyrch organig am amser maith i ddod, ac mae rhai’n edrych i gynyddu’u cynnyrch. Yn ôl Andy Blair: “Mae nifer o dyfwyr cyswllt gan Clettwr Growers Group, tyfwyr sydd mewn cysylltiad â’r grŵp ac sydd weithiau’n darparu peth cynnyrch nad oes gan y grŵp eu hunain. Mae’r tyfwyr cyswllt hyn yn aros i un o aelodau’r grŵp i adael. Maent yn awyddus i ymuno. Yn anffodus, ni chawn ond 10 aelod i bob grŵp.”
Mae Andy a Paul yn annog tyfwyr i weithio gyda’i gilydd. “Mae’n anodd cynnal dilyniant y cynnyrch a tharo ymlaen â’n gilydd, “ meddent, “ond rydym yn mwynhau cydweithio’n arw iawn. Mae gweithio â’n gilydd wedi ein helpu i farchnata ein cynnyrch ac wedi golygu ein bod yn gallu rhannu gwybodaeth.” Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwybod mwy amdanom gysylltu ag Andy Blair ar 01545 571344. |
Organic Market - Business focus
The business focus is on Clettwr Growers Group this month
The Clettwr Growers Group is a dynamic group of organic growers in Ceredigion. The group has in total 18 members which are divided into two groups. Half of the growers are responsible for the functioning of the farmers’ market group and the others are responsible for the certification process; the group is certified by the Soil Association via a group scheme (please note that this scheme is no longer available for new groups). The group was founded by Mike Carpenter in 1999. Mike Carpenter had been an inspector of the Soil Association for a number of years when he decided to join a group of farmers.
Andy Blair, secretary of the group, says that the group was initially set up to reduce certification costs to the producer (a result of group certification). However, by being part of the group other opportunities arose, such as selling produce together. “As a group you are able to sell a wider range of produce” says Andy Blair. The growers have been selling their produce via Aberystwyth farmers’ market and Lampeter farmers’ market. They have a rota to manage the stalls. “What is good about selling your produce via the market is that you get direct feedback from your customers about the produce”.
The majority of growers have, besides the farmers’ markets, other market outlets as well. Some of them sell part of their produce via Calon Wen, Face of Flowers, Organics to Go and Organic Fresh Food Company and some have their own vegetable box scheme.
Recently, the group produced a leaflet with an overview of the growers within the group. They provide this to their customers. They say that this helps increase the demand. In recent years, some of the producers have been diversifying into growing other crops, such organic Christmas trees and eggs, and some have started adding value to the produce by processing. Examples of the latter are lemon curd and mushroom pate.
They look at the future very positively and hope to continue growing and selling organic produce for a long time to come and some are looking to increase their produce. Andy Blair says: “Clettwr Growers Group has a number of associates, growers who are in contact with the group and sometimes provide some produce the group does not have themselves. The associates are waiting for one of the group members to drop out. They are keen to enter the group. Unfortunately, we can only have 10 members per group.“
Both Andy and Paul encourage growers to work together. They say “It is a challenge to keep the continuity of produce and get on with each other, but we very much enjoy working with each other.” “Working together has helped us market our produce and has allowed us to share knowledge”. Anybody interested in knowing more about us can get in contact with Andy Blair on 01545 571344. |
|
Llaeth organig yn mynd i’r ysgol Bydd y cwmni llaeth organig o Sir Benfro, Trioni Cyf. yn cyflenwi llaeth organig â blas i blant ysgol yn ne Cymru. Bydd llwyddiant Trioni Cyf. wrth gael eu cynnwys yn y contract fframwaith ar gyfer Consortiwm Prynu Cymru – sy’n trafod caffael ar gyfer awdurdodau unedol ar draws de Cymru, yn gweld ei nwyddau llaeth organig â blas, Daioni, ar gael mewn ysgolion ar draws Abertawe a Chastell Nedd Port Talbot gyda’r posibilrwydd o gael ei ddefnyddio gan bob un o’r 12 cyngor dan sylw. “Rydym i gyd ar ben ein digon ein bod wedi ennill y tendr yma i gyflenwi ysgolion yn ardal Consortiwm Prynu Cymru gyda’n nwyddau Daioni, a gafodd eu datblygu er mwyn darparu diod iachus, faethlon i bobl ifanc,” meddai cyd-sefydlydd a rheolwr cyfarwyddwr Trioni, Laurence Harris. Datganiad i'r wasg
Gwobrau caws Bu Wythnos Caws Gwledydd Prydain yn golygu llwyddiant i wneuthurwyr caws Cymru a fu ymhlith prif enillwyr y gwobrau yng Ngwobrau Caws Gwledydd Prydain. Gweloddd y gwobrau blynyddol 667 o gawsiau’n cystadlu o 175 o wneuthurwyr caws, gyda 98 yn dod o Gymru. Aeth teitl y Caws Cymreig Gorau a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a Gwobr Dougal Campbell i Pantysgawn Fine Foods o’r Fenni. Llwyddo y cwmni o Sir Fynwyd i gipio dwy fedal aur ac un efydd am eu cawsiau. Datganiad i'r wasg
Pôl Defnyddwyr Omsco Prif gasgliadau pôl blynyddol defnyddwyr llaeth organig 2007 oedd mai pryderon ynglŷn â lles anifeiliaid a’r amgylchedd sy’n parhau i ysgogi prynu llaeth organig -- Yr wythnos hon mae Cydweithfa Cyflenwyr Llaeth Organig (OMSCo) wedi cyhoeddi canlyniadau’i pôl ymhlith defnyddwyr ar gyfer 2007. Bu dros 2300 o ddefnyddwyr yn cymryd rhan a datgelodd yr ymchwil fod dros hanner y defnyddwyr yn yr arolwg (55%) yn prynu llaeth organig yn rheolaidd*, gyda bron i 40% yn nodi lles anifeiliaid fel y prif ffactor sy’n eu hysgogi i’w brynu. Er gwaethaf ei boblogrwydd, pan holwyd ynglŷn â phris nid oedd un ym mhob pedwar yn ymwybodol ei bod yn costio llai na £1 yr wythnos i deulu o bedwar newid i laeth organig. www.omsco.co.uk
Data cynhyrchu llaeth organig Dengys data Kingshay ar gyfer buchesau organig ostyngiad yn y cynnyrch y fuwch) rhwng mis Gorffennaf a mis Awst 2007. Mae ffigwr o fis Awst sy’n dangos 20 litr y dydd yn llai na mis Gorffennaf ond 1.4 litr y dydd yn fwy na mis Awst 2006. Roedd pris y llaeth ym mis Awst, 29.29 cyl, i fyny 3.9% ar fis Gorffennaf a 7.3% yn uwch na mis Awst y llynedd. Cynyddodd braster menyn a phrotein ym mis Awst yn 3.91% a 3.34% yn y drefn honno Gwelir gwelliant ar fis Gorffennaf gan ddangosyddion mis Awst; cynyddodd nifer y buchod mewn buches 3.4% o 177 ym mis Gorffennaf i 183 ym mis Awst 2007. Gallai hyn helpu i gynyddu cynhyrchu organig yn gyffredinol. Mae hefyd yn 5.8% uwchben ffigwr mis Awst 2006, sef 173. Am fwy o wybodaeth, dylech ddilyn y ddolen. Manylion
Y galw am laeth organig “yn ffynnu” Yn ôl Cymdeithas Cynhyrchwyr Llaeth yr Alban (SOMPA), bydd y galw am laeth organig yn gallu amsugno tua 70-90 miliwn o litrau’n ychwanegol y flwyddyn nesaf. Wrth siarad mewn cynhadledd Coleg Amaethyddol yr Alban yn Dunkeld, meddai Stuart Martin, cynrychiolydd SOMPA, y dylid rheoli ehangu cynhyrchu llaeth organig yn ofalus i osgoi sefyllfa “ffyniant methiant”. Y ffordd i sicrhau hyn fyddai trwy gydweithrediad. Mae cynhyrchu organig yn y DU yn methu o hyd â diwallu’r galw, mae mewnforion o Ddenmarc, Gwlad Belg a’r Iseldiroedd yn helpu i gyflenwi’r galw ond o hyd nid yw’r galw yn y sector corfforaethol a chyhoeddus yn cael ei ddiwallu. Organic Inform
|
Organic milk goes to school Pembrokeshire dairy company, Trioni Ltd, will be supplying organic flavoured milk to schoolchildren in South Wales. Trioni’s successful inclusion in the framework contract for the Welsh Purchasing Consortium - which handles procurement for unitary authorities across South Wales - will see its Daioni range of organic flavoured milk available in schools across Swansea and Neath Port Talbot with the potential to be used by all 12 councils. “We are all absolutely delighted to have secured this tender to supply schools in the Welsh Purchasing Consortium area with our Daioni products, which were developed to provide a healthy, nutritious drink for young people.” said Trioni’s co-founder and managing director, Laurence Harris. Press release
Cheese awards British Cheese Week was very successful for Welsh cheese makers who were among the top trophy winners at the British Cheese Awards. The annual awards saw 867 cheeses entered from 175 cheese makers, with 98 entries from Wales. The Best Welsh Cheese title, sponsored by the Welsh Assembly Government, and the Dougal Campbell Trophy went to Abergavenny Fine Foods’ Pantysgawn Organic. The Monmouthshire company also picked up two gold and three bronze medals for its cheeses. Press release
Omsco’s consumer poll The main conclusion of the 2007 organic milk consumer poll was that animal welfare and environmental concerns continue to drive organic purchase. The Organic Milk Suppliers Cooperative (OMSCo) this week announces the results of its 2007 consumer poll. Over 2300 consumers took part and the research revealed that over half of consumers surveyed (55%) regularly buy organic milk, with nearly 40% citing animal welfare as the main driving factor for purchase. Despite its popularity, when quizzed on price, one in four were not aware that it costs less than £1 a week for a family of four to switch to organic milk. www.omsco.co.uk
Organic milk production data Kingshay data for Organic herds show a decrease in yield per cow between July and August 2007. An August figure of 20 litres/day is 0.1 litres/day less than July but 1.4 litres/day more than August 2006. The milk price for August of 29.29ppl is 3.9% up on July and 7.3% higher than August last year. Butterfat and protein increased in August to respectively 3.91% and 3.34%. Indicators for August show an improvement on July; the average number of cows in a herd increased 3.4% from 177 in July to 183 in August 2007. This could help to increase overall organic production. It is also 5.8% above the August 2006 figure of 173. For more information please follow the link. Details
Demand for organic milk “booming” The Scottish Organic Milk Producers Association (SOMPA) says demand for organic milk will be able to absorb an extra 70-90 million litres next year. Speaking at a Scottish Agricultural College conference in Dunkeld, Stuart Martin, a representative from SOMPA, said that expansion of organic milk production should be managed carefully, to avoid a “boom or bust” scenario. The way to achieve this would be through co-operation. Organic production in the UK is still unable to meet demand. Imports from Denmark, Belgium and Holland help to supply demand but supplies are still unable to meet corporate and public sector demand. Organic Inform
|
|
Marchnad Organig - Grawnfwydydd
Mae Norton Organic Grain yn adrodd bod y farchnad wedi ymdawelu.. Mae’r rhan fwyaf o ffermwyr yn defnyddio eu porthiant neu borthiant ffermwr cyfagos i fwydo eu da byw. Yn y flwyddyn newydd, disgwylir i’r galw gynyddu unwaith eto. Yn gyffredinol, mae cnwd y gaeaf wedi ymsefydlu’n dda.
Prisiau cyfredol y farchnad rawn yw: Prisiau cyfredol i’r rheini sy’n prynu grawn: Gwenith porthiant: £300+ Ceirch: £280+ Barlys: £305+ Ffa: £305+ I’r rheini sydd â diddordeb mewn gwerthu grawn a chodlysiau organig, dylech fynd i Organic Inform am brisiau cywirach.
Am fwy o wybodaeth, dylech gysylltu â Norton Organic Grain ar 01787 210 899 neu edrychwch ar www.nortonorganic.co.uk |
Norton Organic Grain reports the market has quieted down. The majority of farmers are using their own feed or feed from a nearby farmer to feed their livestock. In the new year the demand is expected to increase again. Overall, the establishment of the winter crop is good.
Current prices on the organic grain market are: Current prices for those buying organic cereals: Feed Wheat: £300+ Oats: £280+ Barley: £305+ Beans: £305+ For those interested in selling organic cereals and pulses, please see Organic Inform for more accurate prices.
For more information please contact Norton Organic Grain, on 01787 210 899 or look at www.nortonorganic.co.uk. |
|
Marchnad Organig - Cig a da byw
Ffermwyr moch gwledydd Prydain yn mynd yn brin? Yn ôl ffermwyr moch, maent yn wynebu cynnydd enfawr ym mhris porthiant ar adeg pryd y mae gwerth eu hanifeiliaid wedi plymio yn dilyn yr achosion clwy traed a genau diweddaraf. Maent yn rhybuddio oni bai bod yr archfarchnadoedd yn codi eu prisiau ac yn bwydo’u harian yn ôl i’r cynhyrchwyr, bydd ffermwyr moch yn diflannu ar raddfa eang. Mewn llythyr i'r Telegraph, ysgrifennodd Stephen Curtis, prif weithredwr y prif fridwyr moch ACMC: “Oni bai bod camau yn cael eu cymryd yn gyflym, rydym yn debyg o weld ymadawiad torfol."
Prisiau Da Byw Cyfredol y DU Eidion 280-300c y kg ar y bachyn (pris sylfaen) Heffrod stôr 140-150c+ y kg pwysau byw Bustych stôr 140-150c+ y kg pwysau byw Cig Oen 310-320c y kg ar y bachyn Porc 240c y kg ar y bachyn Cyw iâr (contract) 140c+ yr aderyn Cyw iâr (uniongyrchol) 550-600c y kg ar y bachyn Wyau SA (contract) 140p+ y dwsin Wyau SA (uniongyrchol) 250-300c y dwsin Mwy o wybodaeth ar gael gan y Soil Association
Arwerthiannau Da Byw Organig Cynhelir arwerthiant nesaf McCartney's ar 6 Rhagfyr. Ffoniwch 01874 622386 am fanylion. Cynhelir arwerthiant organig nesaf Livestock Sales y Trallwng yn ngwanwyn 2008. Ffoniwch 01938 553438 am fanylion. Cynhelir arwerthiant organig nesaf Canolfan Da Byw Caerfyrddin ar 16 Tachwedd. Am fanylion digwyddiadau yn y dyfodol ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bost carmarthen@auctionmarts.com.
|
Organic Market - Meat and livestock
British pig farmers may become scarce Pig farmers say they face huge increases in the price of feed at a time when the value of their animals has plummeted following the recent foot and mouth outbreak. They warn that unless supermarkets raise prices and feed the money back to producers, there will be a widespread disappearance of pig farmers. In a letter to the Telegraph, Stephen Curtis, the chief executive of the leading pig breeders ACMC, said: "Unless action is taken quickly, we're likely to see a mass exodus."
Current UK livestock prices Beef 280-300p per kg dead weight (base price) Stores heifers 140-150p+ per kg live weight Stores steers 140-150p+ per kg live weight Lamb 310-320p per kg dead weight Pork 240p per kg dead weight Chicken (contract) 140p+ per bird Chicken (direct) 550-600p per kg dead weight SA eggs (contract) 140p+ per dozen SA eggs (direct) 250-300p per dozen More information from the Soil Association.
Organic Livestock Auctions McCartney's next organic auction will be held on 6 December.. Call 01874 622386 for details. Welshpool Livestock Sales’ next organic auction will be in spring 2008. Call 01938 553438 for details. Carmarthen Livestock Centre's next organic auction will be held on 16 November. For details of future events call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com. |
|
Marchnad Organig - Ffrwythau a llysiau
Grŵp Tyfwyr Llysiau Maes Cymru Mae chwe thyfwr wedi dod at ei gilydd i arallgyfeirio i lysiau a dyfir yn y maes i gyflenwi Fenmarc Foods â chynnyrch o ansawdd ar gyfer eu marchnad gartref yng Nghymru. Mae Rhwydwaith Garddwriaeth Cymru ar y cyd â chyrff eraill yn cynorthwyo’r tyfu gan gynnig cyngor a chefnogaeth i alluogi tyfu bwyd o ansawdd da i’w danfon i Fenmarc Prepared Foods Ltd. yn ogystal â helpu’r tyfwyr i greu Llysiau Wedi’u Brandio o Gymru. Plannwyd y cnydau gwreiddiol gan dyfwyr clwstwr ar ddiwedd gwanwyn 2007. Bydd lansio llysiau’r maes rhanbarthol mewn siopau bwyd yn digwydd ym mis Hydref a Thachwedd eleni. Ar gyfer tymor 2008, bydd tyfwyr yn cynyddu eu cynnyrch gan gyflwyno cnydau pellach yn ôl galw’r farchnad ar y pryd. Am fwy o wybodaeth am weithgareddau’r Rhwydwaith, dylech ddilyn y ddolen: www.horticulturenetworkwales.co.uk.
Cymdeithas Tyfwyr Sir Gaerfyrddin Sefydlwyd Cymdeithas Tyfwyr Sir Gaerfyrddin yn 2005 gan dyfwyr lleol a oedd yn teimlo y gallent, trwy gydweithio â’i gilydd, godi proffil y sector garddwriaethol lleol yn y sir. (Cynrychiolir y sector organig gan Manse Organics Ltd.). Mae’r grŵp wedi sefydlu gwefan, buont yn paratoi arweiniad i lwybr planhigion a sefydlwyd rhaglen o ffeiriau planhigion ganddynt yn neuadd y pentre, Bronwydd, Gerddi Aberglasney, Amgueddfa Caerfyrddin, Plas Newton ac yn yr Ardd Fotaneg Genedlaethol. Am fwy o wybodaeth, gweler www.carmarthenshiregrowers.co.uk.
Phoenix yn taro bargen ag Abel & Cole Mae’r cwmni cyflenwi ffrwythau a llysiau organig Abel & Cole wedi gwerthu cyfran o’r busnes i’r cwmni ecwiti preifat Phoenix Equity Partners mewn dêl sy’n prisio’r busnes tua £30m – £40,. Mae’r cwmni wedi symud i gyflenwi peth cig, pysgod a mayonnaise ochr yn ochr â’i lysiau organig er mwyn cystadlu â chwmnïau tebyg i Tesco, Sainsbury a Waitrose. Meddai daliwr trwydded y Soil Association, Keith Able: “Dwi eisiau mynd â nwyddau at fwy o bobl, i gael mwy o bobl i fwyta ein bwyd, a chael mwy o ffermwyr yn tyfu bwyd i ni." Daily Telegraph Business
Organics to go yn adrodd Mae Organics to Go yn parhau i chwilio am gyflenwyr newydd ar gyfer eu cynlluniau blychau. Os oes gennych ffrwythau a/neu lysiau organig i’w gwerthu neu os hoffech eu gwerthu yn y dyfodol, dylech gysylltu â Roger Hallam ar 01558 669020 neu edrychwch ar www.organicstogo.info. Y prisiau cyfredol (o’r fferm) (5 Tachwedd) yw: Tatws £9-10/25kg; Blodfresych £0.80/kg; Letys 60c y pen; Maip £60c/kg; Sbigoglys £2.50/kg; Moron 45-50c/kg; Pannas 70c/kg; Nionod 75c/kg; Betys £50c/kg Cennin £1.20/kg; Brocoli £1.40/kg Afalau bwyta £1.30/kg; Bresych £60c/kg
Am fwy o fanylion a phrisiau gweler y Soil Association
|
Organic Market - Fruit and vegetables
Welsh Field Veg Growers Group Six growers have come together to diversify into field-grown veg to supply Fenmarc Foods with quality produce for the Welsh home market. Horticulture Network Wales (HNW) together with other organisations are assisting growers with advice and support to be able to grow good quality food for delivery to Fenmarc Prepared Foods Ltd, as well as assisting the growers to create branded Welsh vegetables. Cluster growers planted initial crops in late spring 2007. The launch of regional field vegetables in food stores will take place in October and November of this year. For the 2008 season the growers will increase production and introduce further crops as dictated by the prevalent market at the time. For more information about the activities of HNW see www.horticulturenetworkwales.co.uk.
The Carmarthenshire Growers Association The Carmarthenshire Growers Association was established in 2005 by local growers who felt that by working together, they could raise the profile of the local horticulture sector in the county. (The organic sector is represented by Manse Organics Ltd.) The group started a website, compiled a plant trail guide and established a programme of plant fairs at Bronwydd village hall, Aberglasney Gardens, Carmarthen Museum, Newton House and at the National Botanic Garden. For more information please follow the link www.carmarthenshiregrowers.co.uk.
Phoenix delivers on Abel & Cole deal Organic fruit and vegetable delivery company Abel & Cole has sold a stake in the business to private equity firm Phoenix Equity Partners in a deal that values the business at £30m-£40m. The company has moved into delivering some meat, fish and mayonnaise alongside its organic vegetables to take on the likes of Tesco, Sainsbury and Waitrose. Soil Association licensee Keith Able said, "I want to take our wares to more people, get more of them eating our food, and more farmers growing for us." Daily Telegraph Business
Organics to go reports Organics to Go continues to look for new suppliers for their box schemes. If you have organic fruit and/or vegetables to sell or would like to sell in the future, please contact Roger Hallam on 01558 669020 or look at www.organicstogo.info. Current prices (ex-farm) (5 November) are: Potatoes £9-10/25kg; Cauliflower £0.80/kg; Lettuce 60p/head; Swedes £60p/kg; Spinach £2.50/kg; Carrots 45-50p/kg; Parsnips 70p/kg; Onions 75p/kg; Beetroot £50p/kg; Leek £1.20/kg; Broccoli £1.40/kg; Eating apples £1.30/kg; Cabbage £60p/kg.
More price information from the Soil Association. |
|
Sut mae fferm deuluol yn tyfu’n fferm teuluoedd Disgrifia’r Western Mail hanes fferm deuluol Trioni. “Mewn gwirionedd, nid yw Laurence Harris wir yn credu yn y fferm deuluol draddodiadol, lle mae’r wraig yn gweithio am ddim, nad yw’r ffermwr yn costio’i gyflog ac ni all neb fforddio gymryd hoe.”
Amaethyddiaeth organig ym Mwlgaria Dim ond eleni yr ymunodd Bwlgaria â’r UE, ond ar hyn o bryd mae’n profi cynnydd bychan ond cyson mewn cynhyrchu organig sy’n dechrau ennill ei blwyf, yn fwyaf nodedig yn amrywiaeth y llysiau, gwin, perlysiau a mêl sydd ar gael. Cyflwynwyd amaethyddiaeth organig i Fwlgaria ym 1990 pan y cafodd tir amaethyddol yn blotiau bach a’u dosbarthu ymhlith y boblogaeth ar ôl cwymp comiwnyddiaeth. Bu’r UE yn ogystal â llywodraeth Bwlgaria’n annog y trosiad i ffermio organig gan roi cymorthdaliadau i ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd organig. A bod yn fanwl gywir, 2006 oedd y flwyddyn pryd y cyflwynwyd SAPARD (Rhaglen Dderbyn Arbennig ar gyfer Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig) ym Mwlgaria wrth baratoi ar gyfer derbyn y wlad i’r Undeb Ewropeaidd, er mwyn i ffermwyr dderbyn cymorth ariannol yn ystod y cyfnod trosi tair blynedd ar gyfer troi’n organig. Ar hyn o bryd, mae 90% o holl fwyd organig Bwlgaria, yn cael ei allforio i aelod-wladwriaethau mwy cyfoethog yr UE. Amcangyfrifir fod tua 90% o’r defnyddiau crai’n dod o “helfeydd gwyllt.”. Mwy
Amaethyddiaeth organig yn Rwmania Mae pwysigrwydd ffermio organig yn cynyddu yn Rwmania. Yn ôl data newydd a gyhoeddwyd ym mis Mai, mae cyfanswm o 3,092 o ffermwyr a masnachwyr bwyd organig wedi’u cofrestru yn 2006 (amcangyfrif: 3400). Cynyddodd yr arwynebedd sy’n cael ei ffermio’n organig o 110,300 ha i 143,000 ha yn ystod y llynedd (amcangyfrif ar gyfer 2006 170,000 ha). Fodd bynnag, mae niferoedd go-iawn yn debycach o fod yn uwch ac felly yn agosach at yr amcangyfrifon blaenorol gan fod rhai ffermwyr organig ardystiedig heb eu cofrestru â’r llywodraeth. Ar ben hynny, mae rheoli organig yn cynnwys 38,000 ha o ‘helfeydd gwyllt. Mwy
Mae’n swyddogol, mae bwyd organig yn well i chi Mae canlyniadau i astudiaeth fawr ar fwyd organig wedi canfod ei fod yn fwy maethlon na chynnyrch arferol a gall helpu i ymestyn bywydau pobl. Cafodd yr astudiaeth fod ffrwythau a llysiau organig yn cynnwys cymaint â 40% yn fwy o wrthocsidyddion sydd, yn ôl y gwyddonwyr, yn credu yn gallu torri perygl cancr ac afiechyd y galon, lladdwyr mwyaf gwledydd Prydain. Mae ganddynt hefyd lefelau uwch o ran mwynau llesol megis haearn a sinc. The Times
Adroddiad newydd Organic Exchange Rhyddhawyd uchafbwyntiau o’r adroddiad sydd ar ddod gan Organic Exchange yn y Gynhadledd a’r Farchnad flynyddol a fynychwyd gan dros 330 o weithwyr proffesiynol o 39 o wledydd gan gynrychioli’r gadwyn gyflenwi ffibrau byd-eang. Yn ôl Organic Exchange Organic Cot ton Market Retort 2007”, cynyddodd gwerthiant cotwm organig ar draws y byd 85% i $1.1 biliwn yn 2006. ac rhagamcenir y byddant yn cynyddu 83% i $1.9 biliwn erbyn diwedd 2007. Mwy
|
How a family farm grew into a farm of families The Western Mail describes the history of Trioni’s family farm. “In fact farmer Laurence Harris does not really believe in the traditional family farm, where the wife works for nothing, the farmer does not cost his wages and no-one can afford to take a break.”
Organics in new member states: Bulgaria Bulgaria joined the EU only this year, but it is currently experiencing a small but constantly increase in organic production which is gaining in importance, most notably in the range of vegetables, wine, herbs and honey. Organic agriculture was introduced to Bulgaria in 1990, when agricultural land was divided into small plots and distributed among the population after the fall of the communism. The EU as well as the government of Bulgaria encouraged the transition to organic farming and subsidised organic farmers and food producers. To be precise it was in 2006 when SAPARD (Special Accession Programme for Agriculture and Rural Development) was introduced in Bulgaria in preparation of accession of the country to the European Union, that farmers receive financial support during the three-year conversion period to organic farming. Currently, 90% of all Bulgarian organic food is exported to wealthier EU member states. It is assumed that currently about 60% of raw materials come from ‘wild collection’. More
Organics in new member states: Romania The importance of organic farming is growing in Romania. According to new data published in May, a total of 3,092 organic farmers and food traders were registered in 2006 (estimation: 3400. The organically farmed area increased from 110,400 ha to 143,000 ha during the last year (estimation for 2006: 170,000 ha). However, actual numbers are likely to be higher and thus closer to the previous estimations since some certified organic farmers are not registered with the government. Furthermore, organic management includes 38,000 ha of ‘wild collection’. More
Official: organic really is better Results from a big study into organic food has found that it is more nutritious than ordinary produce and may help to lengthen people's lives. The study found that organic fruit and vegetables contained as much as 40% more antioxidants, which scientists believe can cut the risk of cancer and heart disease, Britain’s biggest killers. They also had higher levels of beneficial minerals such as iron and zinc. The Times
New Organic Exchange Report Highlights from the forthcoming report of Organic Exchange were released at the Annual Conference and Marketplace attended by over 330 professionals from 39 countries representing the entire global organic fibre supply chain. According to the "Organic Exchange Organic Cotton Market Report 2007," global retail sales for organic cotton products increased 85% to $ 1.1 billion in 2006, and are projected to increase 83% to $ 1.9 billion by the end of 2007. More
|
|
Marchnad Organig - Gwylio'r prisiau adwerthol
Prisiau Organig Cyfredol (3 Tachwedd 2007) Tatws Tesco £1.58/2.5 kg ↓↓ Sainsbury: - Morrisons: - Llaeth Tesco £0.92/2beint Sainsbury: £0.92 Morrisons: £0.92 Oen (tshiops) Tesco £13,49/kg Sainsbury: £11.98 ↓ Morrisons: - Stêc ffiled Eidion Tesco £22.99 Sainsbury: £25.19 ↑↑ Morrisons: - Briwgig eidion Tesco £4.38/kg Sainsbury: £4.98 Morrisons: £4.39 Stecen syrlwyn eidion (bach) Tesco £8.24 ↓↓ Sainsbury: £16.95↑↑ Morrisons: -
Am fwy o fanylion gweler https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml |
Organic Market - Retail price watch
Current Organic Prices (3 November 2007) Potatoes Tesco £1.58/2.5 kg ↓↓ Sainsbury: - Morrisons: - Milk Tesco £0.92/2pints Sainsbury: £0.92 Morrisons: £0.92 Lamb (chops) Tesco £13,49/kg Sainsbury: £11.98 ↓ Morrisons: - Beef fillet steak Tesco £22.99 Sainsbury: £25.19 ↑↑ Morrisons: - Beef mince Tesco £4.38/kg Sainsbury: £4.98 Morrisons: £4.39 Beef sirloin steak (small) Tesco £8.24 ↓↓ Sainsbury: £16.95↑↑
For more details see https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml.
|
|
Gweler hefyd www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php
Ar werth 8 o wartheg sugno (Hereford/BB/ lim). Gyda lloi wrth droed, wedi'u geni ddiwedd Mehefin/Gorffenaf i darw Du Cymreig. Ffoniwch Hugh Cory 07885 637932 neu 01446 760264 (Caerdydd) Tarw Blonde Aquitane X Limousin DOB 03/02/97 Tarw distaw iawn. Ardderchog i greu stoc. Da ar heffrod. Yn gwerthu dim ond am ein bod yn newid i yrr pedigri. Cysylltwch â Steve Watkins 01600 780478 neu e-bostiwch ruthwatkins01@aol.com. Ger Y Fenni, Sir Fynwy. [2/11/07] Gwellt organig, beliau bychain. Ardystiwyd gan QWFC. Cysylltwch ag Alayne Perrott 01267-290268 (Sir Gaerfyrddin). 6 o ŵyn benyw Torddu organig, clefyd y crafu 1/2. Brîd lliwiedig traddodiadol, cig blasus. Gwydn iawn. Delfrydol ar gyfer fferm fach organig. Alayne Perrott ar 01267-290268 (Sir Gaerfyrddin). 15 o ŵyn stôr gwryw Torddu organig o ansawdd da. Ganwyd Chwef.–Ebrill, clefyd y crafu 1/2. Cysylltwch ag Alayne Perrott ar 01267-290268 [29/10/07] Tarw Du Cymreig ifanc organig (pedigri). Ganwyd 18.1 07 ardal Llanfair ym Muallt. 01982 551848 neu e-bostiwch mbsnead@tiscali.co.uk. [29/10/07] Moch organig. Cysylltwch ag Wyn Hughes ar 01650531263 / e-bost: pops.hughes@virgin.net. [26/10/07] Gwellt Haidd Organig. Oddeutu 100 o feliau crwn ar gael. Ffoniwch Matthew 07971 424654. [24/10/07] Gwenith Organig. Oddeutu 12 tunnell ar gael. Sampl sych, glân. Ffoniwch Matthew 07971 424 654. [24/10/07] 50 a rhagor o feliau silwair organig – dim glaw, dim mwd, wedi gwywo’n dda. Lleoliad – rhwng Brechfa a Llanybydder 01267 202291 howard.dare@tiscali.co.uk. [23/10/2007] 24 o ŵyn benyw Llŷn pedigri. Wedi eu profi am glefyd y crafu. Ardal Llandrindod. Sandy neu Nigel Dodman 01544 350407 [22/10/2007] Tarw Henffordd pedigri traddodiadol. Chwe blwydd oed. Distaw a dof. Gwydn a hydrin. Yn rhoi bod i loi o ansawdd ardderchog. Gweler y lluniau o un o’i loi 2007 ar ein gwefan www.treberfedd.co.uk. Cysylltwch â Jack Cockburn 01570 470672, Treberfedd, Dihewyd, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, SA48 7NW. [22/10/07] Haidd organig wedi eu rholio mewn symiau bychain. Y prynwr i gasglu o Glynfyw, Abercych, Boncath, Sir Benfro SA37 0HF. Ffoniwch 01239 841676. [13/10/07]. Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251. Sbinychod organig Cymreig o dras ar werth drwy'r adeg. Llinach ardderchog. Yn wydn ac yn hawdd eu trin. Wedi'u geni a'u magu ar 1000 troedfedd. Baeddod ifainc hefyd ar gael.. Neil a Patricia Plume ger Llanymddyfri 01550 740670 neu farm@penrhiwuchaf.co.uk Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk. Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).
Yn Eisiau 50 i 120 erw o dir organig o ansawdd da - i’w osod o Ebrill nesaf. Gogledd Cymru. Cysylltwch â Siôn 01650 531366. [29/10/07] Gwartheg a defaid cadw. Ffoniwch Richard Bowker- 07973 565690. [26/10/07] Gwartheg magu neu heffrod. Cyflo os yn bosibl. Organig neu CBS. Byddai limosin neu limo x Ffrisiad Brydeinig yn ddymunol. Ffoniwch Matthew 07971 424654. [24/10/07]
I'w osod Tir pori dros y gaeaf ar gyfer defaid. 60 erw o iseldir, gwyndynnydd meillion coch, ger Y Gelli ar gael yn awr tan fis Ebrill. Wedi ei ffensio a’i ddyfrhau’n dda. Ffoniwch John Lewis 01497 851228. [16/10/07]
Amrywiol Rydym angen cynhyrchwr/masnachwr llysiau a ffrwythau organig yn ein marchnad fisol lwyddiannus a gynhelir ym Mhenclawdd, Abertawe SA4 3FJ. Cysylltwch ag Andy a.spowart@btopenworld.com Ffôn. 01792850147. [15/10/07] Mae Graig Producers Cymru a’r Gororau wedi cynrychioli’i 280 o aelodau gan farchnata eu da byw, ers dros 10 mlynedd. Mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol â Graig Producers South West and Caledonian Organics gan harneisio nerth marchnata dros 500 o aelodau sy’n ffermio’n organig. Ceir llawer iawn o fanteision i aelodaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.graigproducers.co.uk neu am fanylion i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk. [hysbyseb barhaol]
Rhoddodd Ail Gynllun Gweithredu Organig Cymru bwyslais arbennig ar y swyddogaeth bwysig a gyflawnir gan y grwpiau cynhyrchu. Mae Grŵp Strategaeth Organig a Chanolfan Organig Cymru’n cynnig eu cefnogaeth gan argymell y dylai cynhyrchwyr bob amser ystyried y budd posibl a gynigir gan grwpiau marchnata cynhyrchwyr yn enwedig wrth ymdrin ag adwerthwyr lluosog. |
See also www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php
For Sale 8 suckler cows (Hereford/BB/ lim).with calves at foot born in end of June /July to a Welsh Black bull. Please phone Hugh Cory 07885 637932 or 01446 760264 (Cardiff) Blonde Aquitane X Limousin Bull DOB 03/02/97 Very quiet bull. Excellent stockgetter. Good on heifers Only selling because changing to pedigree herd Contact Steve Watkins 01600 780478 e mail ruthwatkins01@aol.com Location.Nr Abergavenny Monmouthshire. [2/11/07] Organic hay, small bales. QWFC certified. Contact Alayne Perrott 01267-290268 or alayne@perrott3.freeserve.co.uk (Carms). [29/10/07] 6 organic registered Badger Face Welsh Mountain (Torddu) ewe lambs, scrapie 1/2. Traditional coloured breed, tasty meat. Very hardy, Ideal for organic smallholding. Alayne Perrott on 01267-290268 or alayne@perrott3.freeserve.co.uk(Carms). [29/10/07] 15 good quality organic Badger Face Welsh Mountain (Torddu) male store lambs, born Feb–April, scrapie 1/2. Contact Alayne Perrott on 01267-290268 or alayne@perrott3.freeserve.co.uk(Carms). [29/10/07] Organic young black welsh pedigree bull. Born 18.1 07 Builth Wells area. 01982 551848 or email mbsnead@tiscali.co.uk. [29/10/07] Organic pigs contact wyn hughes on 01650531263 / e mail pops.hughes@virgin.net [26/10/07] Organic Barley Straw. Approx 100 round bales available. Call Matthew 07971 424654. [24/10/07] Organic Wheat. Approx 12 tons available. Clean dry sample. Call Matthew 07971 424 654. [24/10/07] 50 plus bales well made organic silage – no rain, no mud, well wilted located between Brechfa and Llanybyther 01267 202291 howard.dare@tiscali.co.uk; [23/10/2007] 24 Pedigree Lleyn ewe lambs. Scrapie tested. Llandrindod Area. Sandy or Nigel Dodman 01544 350407 [22/10/2007] Pedigree traditional hereford bull (converted breeding stock). Six years old quiet and docile, hardy, easy to handle, easy calving and throws excellent quality calves. See pictures of one of his 2007 calves on our website www.treberfedd.co.uk . Contact: Jack Cockburn 01570 470672. Treberfedd, Dihewyd, Lampeter, Ceredigion, SA48 7NW. [22/10/07] Rolled organically grown barley in small quantities. Buyer collects from Clynfyw, Abercych, Boncath, Pembrokeshire SA37 0HF. Contact 01239 841676. [13/10/07]. Organic calves, mainly
Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round
calving British Friesian Dairy herd.
Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert] Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk. [permanent advert] Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and
oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent
advert]
Wanted 50 to 120 acres of quality organic land to let from next April. North Wales area. contact Sion 01650 531366. [29/10/07] Store cattle and sheep. Ring Richard Bowker- 07973 565690. [26/10/07] Suckler cows or heifers. Preferably in calf. Organic or CBS. Would prefer limosin or limo x british friesian. Call Matthew 07971 424654. [24/10/07]
To let Winter grazing for sheep. 60 acres lowland red clover leys near Hay-on-Wye available now until April. Well fenced and watered. Tel John Lewis 01497 851228. [16/10/07]
Miscellaneous Organic fruit and veg producer/trader required at our monthly award winning market held in Penclawdd, Swansea SA4 3FJ. Contact Andy a.spowart@btopenworld.com tel. 01792850147. [15/10/07] Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk. [permanent advert]
The second Welsh Organic Action Plan placed special emphasis on the important role played by producer groups. The Organic Strategy Group and Organic Centre Wales offer their support and recommend that producers should always consider the potential benefits offered by producer marketing groups, particularly when dealing with multiple retailers. |
|
Hwn oedd y cylchlythyr gwybodaeth farchnata misol gan Ganolfan Organig Cymru. Llwyfan yw’r e-fwletin hwn ar gyfer rhannu gwybodaeth am dueddiadau’r farchnad a chynhyrchu rhwng busnesau organig yng Nghymru. Rydym yn gobeithio eich bod yn ei gael yn fuddiol a chroesawn unrhyw adborth, eitemau newyddion, neu hysbysebion ar gyfer y rhifyn nesaf. Gweler ôl-rifynnau yn www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin |
This was the monthly market intelligence newsletter from Organic Centre Wales. This e-bulletin is a platform for sharing information on market trends and production between organic businesses in Wales. We hope that you find it useful and we welcome any feedback, news items, or advertisements for the next issue. See back numbers at www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin.
|
|
EITEMAU NEWYDDION Anfonwch eich eitemau newyddion, adborth a hysbysebion at david.frost@adas.co.uk.
Er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin yma, ni all Canolfan Organig Cymru a’i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail unrhyw un o’u cyhoeddiadau
|
NEWS ITEMS Please send your news items, feedback and advertisements to david.frost@adas.co.uk.
While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of any of its publications..
|
|
I danysgrifio i’r bwletin hwn, dylid anfon neges at majordomo@aber.ac.uk gyda’r gair ‘subcribe list-organic-market-wales’ (heb y dyfynodau) yng nghorff y neges. Os oes gennych unrhyw broblemau, cysylltwch â Jane Powell. Gellwch hefyd danysgrifio i e-fwletin Cymru Organig sy’n ymddangos ar ddechrau pob mis yn cynnwys y newyddion organig diweddaraf yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Gweler www.organic.aber.ac.uk/bulletin. |
To subscribe to this bulletin send a message to majordomo@aber.ac.uk with the words ‘subscribe list-organic-market-wales’ (no inverted commas) in the body of the message. If you have any problems contact Jane Powell. You can also subscribe to the Organic Wales e-bulletin, which appears at the beginning of each month featuring the latest organic news in Wales, the UK and beyond. See www.organic.aber.ac.uk/bulletin. |