Bwletin

Marchnad Organig Cymru

Rhif 69,  16 Hydref 2008

Bulletin

Organic Market Wales

No. 69,  16 October 2008

Mynd yn syth at yr adran:

 

Marchnad Organig Cymru   Caffael cyhoeddus  Llaeth   Grawnfwydydd   Cig a da byw   ffrwythau a llysiau  Newyddion    Y farchnad    Gwylio'r prisiau adwerthol  Adborth

Go straight to section

 

Organic Market Wales   Public procurement  Dairy   Cereals   Meat and livestock  Fruit and vegetables  News    Market place    Retail price watch  Feedback

Marchnad Organig - Cymru

 

Yn ôl i'r brig

 

Porc Fferm y Rug yn ennill gwobr

Enillodd porc o fferm stad y Rug y categori Cig a Physgod yng Ngwobrau Bwyd Organig y Soil Association 2008. www.soilassociation.org/foodawards

 

Tesco a blas ar Gymru

Yn ystod y Bythefnos Bwyd Cymreig (20 Medi – 5 Hydref 2008), bu cyflenwyr lleol yn ymweld â’r siop Tesco agosaf i gynnig cyfle i gwsmeriaid flasu bwyd a diod leol. Mae brandiau Cymreig gan gynnwys llaeth organig Calon Wen yn cymryd rhan. Manylion

 

Cynllun Ffermio Organig

Yn ôl e-fwletin y Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer mis Medi 2008, mae 1013 o ffermwyr yng Nghymru wedi gwneud cais i ymuno â’r Cynllun Ffermio Organig diwygiedig. Yn amodol ar ddilysu’r ceisiadau hyn, dyma gynnydd o 78% yn nifer y ffermwyr organig yng Nghymru ers Ionawr 2007.

 

Digwyddiadau

21 Hydref Digwyddiad Llaeth Cymreig, Maes y Sioe, Caerfyrddin, manylion i’w cadarnhau

23 Hydref Cynhadledd Cynhyrchwyr Organig: Wynebu’r Dyfodol, wedi’i threfnu ar y cyd â Ffederasiwn Cymdeithasau Glaswelltir Cymru. Lawrlwythwch rhaglenffurflen ragarchebu Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Llanelwedd Canolfan Organig Cymru 01970 622248

23–27 Hydref Salone del Gusto (7fed Cyngres Bwyd Araf Ryngwladol) Twrin, Yr Eidal

6-8 Tachwedd Cyngres Afalau Ryngwladol Interpoma, ‘Yr Afal yn y Byd. Bolzano, Yr Eidal

1-2 Rhag Ffair Aeaf Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru Llanelwedd Canolfan Organig Cymru 01970 622248

 

Mwy o ddigwyddiadau ar www.organic.aber.ac.uk/events

Organic Market - Wales

 

Back to top

 

Award for Rhug Farm pork

Pork from Rhug Estate won the Meat and Fish category in the Soil Association Organic Food Award 2008. www.soilassociation.org/foodawards 

 

Tesco and the taste of Wales

During Welsh Food Fortnight (20 September – 5 October 2008) local suppliers have been visiting their closest Tesco store to offer customers the chance to sample local food and drink. Welsh brands including Calon Wen organic milk are taking part. Details

 

Organic Farming Scheme

According to the Rural Development Plan e-bulletin for September 2008, 1013 farmers in Wales have applied to join the revised Organic Farming Scheme. Subject to successful validation of these applications, this represents a 78% increase in the number of organic farmers in Wales since January 2007.

 

Events

21 Oct Welsh Dairy Event Carmarthen Showground details tbc

23 Oct Organic Producers' Conference: Facing the Future, organized jointly with the Federation of Welsh Grassland Societies. Download programme and booking form. RWAS Llanelwedd. Organic Centre Wales 01970 622248

23–27 Oct Salone del Gusto (7th International Slow Food Congress) Turin, Italy.

6-8 Nov Interpoma International Apple Congress, ‘The Apple in the The World’. Bolzano, Italy

1-2 Dec Winter Fair, RWAS, Llanelwedd. Organic Centre Wales 01970 622248

 

More events at www.organic.aber.ac.uk/events

Marchnad Organig - Llaeth

 

Yn ôl i'r brig

 

Lleihad mewn cynhyrchu llaeth yn y DU

Mae’r haf gwlyb ynghyd â’r tywydd gwael yn ystod rhan gyntaf mis Medi wedi arwain at leihad pellach mewn cynhyrchu llaeth yn y DU. Y diffyg cronnus yn 2008/09 o gwota’r DU yw 872 miliwn litr. Marchnad y cwotâu llaeth:

Prydlesu ~ 0.075 cyl am 4% braster

Prynu ~ 0.29 cyl am 4% braster

The Dairy Group - 01823 444488

 

Tueddiadau’r Farchnad

Ffynhonnell: Prisiau llaeth organig - Soil Association, Confensiynol – Defra / ADAS

Gwybodaeth am brisiau organig

Gwybodaeth bellach gan Dairy Farmers of Great Britain, cliciwch yma. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am y prisiau a’r farchnad

Organic Market - Dairy

 

Back to top

 

Reduction in UK milk production

The wet summer combined with the poor weather in the first half of September has resulted in a further reduction in UK milk production. The cumulative 2008/09 shortfall from UK quota is 872 million litres. Milk quota market:

Leasing ~ 0.075 ppl for 4% fat

Purchase ~ 0.29 ppl for 4% fat

The Dairy Group - 01823 444488

 

Market trends

Source: Organic milk prices - Soil Association, Conventional – Defra / ADAS

 

Organic price information

For price information from Dairy Farmers of Britain, click here. See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information

 

Marchnad Organig - Grawnfwydydd

 

Yn ôl i'r brig

 

Norton Organic Grain yn adrodd

"Ceir adroddiadau bod y cynnyrch yn dda iawn a bod ansawdd y deunydd a dorrwyd yn gynnar yn rhagorol. Rydym yn gobeithio y bydd y parseli a dorrwyd yn ddiweddarach yn cynnal yr ansawdd ac nad yw cnydau a heuwyd yn y gwanwyn eto wedi dioddef yn ormodol, ond ein hofn wrth i amser fynd yn ei flaen, yw mae’n rhaid bod y potensial o ran ansawdd yn llithro.

    "O’r diwedd mae’r marchnadoedd wedi dechrau sefydlogi ar ôl syrthio’n gyson yn ystod mis Mai, Mehefin a Gorffennaf. Tra y gellir priodoli hyn yn rhannol i’r oedi yn y cynhaeaf, daeth un o’n cystadleuwyr â pheth grawn rhad a oedd yn tarddu o’r Môr Du ar ddechrau mis Awst gan ei ollwng ar y farchnad am ryw £15 o dan bris y farchnad ar y pryd. Dyma osod y cywair arthaidd ac mae prynwyr wedi bod wrthi’n prynu o’r llaw i’r genau. Fodd bynnag, rydym yn credu efallai fod y farchnad bellach wedi gweld yr iselfannau a gobeithiwn weld gwelliant gweddol ar ôl y cynhaeaf pryd bynnag y daw hwnnw.

 

Prisiau ar gyfartaledd o’r fferm, a gyflenwyd gan Norton Organic Grain, Organic Arable a Gleadell: Gwenith organig - £230.00 Barlys organig - £225.00 Ceirch organig (melino) - £210.00 Ceirch organig (porthiant) - £190.00 Rhygwenith organig - £220.00 Ffa organig - £292.50 Yn cael eu troi’n organig Gwenith/Barlys/Ffa, Llai £10

Organic Inform

Am wybodaeth, cysylltwch â Norton Organics ar 01787 210966

 

Gwybodaeth am brisiau organig

Mae Organic Grain Link yn cynhyrchu cylchlythyr marchnata cnydau misol. I dderbyn hwn, dylech danysgrifio yn www.organicgrainlink.co.uk/regframe.html. Gweler hefyd www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml am fwy o wybodaeth am brisiau a’r farchnad

 

Organic Market - Cereals

 

Back to top

 

Norton Organic Grain reports

“Yields have been reported as very good and the quality of early cut material has been excellent. We hope that the later cut parcels will retain quality and that spring sown crops have not yet suffered too much but as time goes by we fear that quality potential must be slipping.”

    “Markets have at last begun to stabilise after falling steadily during May, June and July. While some of this is due in part to the delayed harvest, a competitor brought in some cheap Black Sea origin grain in early August and dumped it on the market at some £15 under the prevailing market. This set the bearish tone and consumer buyers have been adopting a hand to mouth buying strategy ever since. We do, however, think the market may now have seen the lows and we hope to see a modest improvement post harvest whenever that may be.

 

Ex farm averages, supplied by Norton Organic Grain, Organic Arable and Gleadell:

Organic Wheat - £230.00; Organic Barley - £225.00; Organic Oats (milling) - £210.00; Organic Oats (feed) - £190.00; Organic Triticale - £220.00 ;Organic Beans - £292.50; In conversion Wheat/Barley/Beans, Less £10.

Organic Inform

For information please contact Norton Organics on 01787 210966

 

Organic price information

Organic Grain Link produces a monthly crop marketing newsletter. To receive this please subscribe at www.organicgrainlink.co.uk/regframe.html.

See also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml for more price and market information

 

Marchnad Organig - Cig a da byw

 

Yn ôl i'r brig

 

 

 

Ffynonellau: :Prisiau cig oen ac eidion organig – Cynhyrchwyr Graig; Prisiau confensiynol – AHDB

Y prisiau organig yw’r pris sylfaenol ar gyfartaledd a dderbyniwyd gan aelodau Graig Producers, ac eithrio costau cyflenwi, treth, tyniadau eraill gan y lladd-dy a ffioedd caffael.

 

Graig Farm Producers yn adrodd

Yn ôl Nigel Elgar “Yn gyffredinol, nid yw’n ymddangos fel pe bai’r argyfwng credyd wedi effeithio hyd yn hyn ar fwyta cig oen. Yn rhagweld marchnad gadarn i gig oen ar ôl y Nadolig. Mae’r galw am fuchod i’w difa’n gryf oherwydd y galw am friwgig organig. Am wybodaeth bellach ynglŷn ag aelodaeth, cysylltwch â’r swyddfa ar 01597 851704. www.graigproducers.co.uk 

 

ABP yn nodi newid o ran sut mae pobl yn prynu

Yn ôl Steve Thompson, Anglo British Processors, pris cyfredol cig eidion organig yw £3.00kg ar y bachyn o’i gymharu â £2.75 yn gonfensiynol. Meddai Steve: “Cafwyd newid nodedig yn yr hyn mae’r defnyddwyr yn ei brynu o ran cig eidion oherwydd yr argyfwng credyd, gyda defnyddwyr yn newid o ddarnau safon uchel i’r darnau mwyaf economaidd megis briwgig. Dyma’r patrwm ar draws y marchnadoedd organig a chonfensiynol, hynny yw, yr holl ffordd ar draws y diwydiant. Yn ogystal, cafwyd newid o’r organig a’r cig eidion traddodiadol sydd wedi’i fagu’n breim i gig eidion confensiynol.”

 

Arwerthiannau Da Byw Organig

Cynhelir arwerthiannau organig nesaf Livestock Sales y Trallwng ar 20 Hydref ac 17 Tachwedd. Galwch 01938 553438 am fanylion.

Mae Canolfan Da Byw Caerfyrddin yn cynnal arwerthiannau organig yn rheolaidd. Am fanylion ffoniwch 01267 236268 neu Huw Evans ar 07976 328177 neu e-bostiwch carmarthen@auctionmarts.com

 

Adroddiadau’r Farchnad

Dolgellau – Marchnadoedd Ffermwyr (RG Jones) Cyf, Medi 26 prisiau organig: Mamogiaid Blwydd Llŷn Organig hyd at £40.00; Mamogiaid Llŷn Organig hyd at £36.00; Meheryn Texel Organig Blwydd hyd at 200ginis. Adroddiad marchnad llawn

Organic Market - Meat and livestock

 

Back to top

 

 

 

Sources: Organic lamb and beef prices - Graig Producers; Conventional prices – AHDB.

Organic prices represent average base price received by Graig Producer members, excluding delivery costs, levy, other abattoir deductions and procurement fees.

 

Graig Farm producers report

Nigel Elgar reports “Overall lamb consumption does not appear so far to have been affected by the credit crunch. Envisaging a firm market for organic lamb after Xmas. Demand for organic cull cows is strong because of the demand for organic mince.” For further information on membership contact the office on 01597 851704. www.graigproducers.co.uk 

 

ABP note changes in buying behaviour

According to Steve Thompson of Anglo British Processors the current price of organic beef is £3.00/kg deadweight compared to £2.75 conventional. He comments, “There has been a marked change in consumer purchase with beef due to the credit crunch with consumers switching from high quality cuts to the more economy cuts such as mince. This has been both across the organic markets and conventional markets i.e. right across the industry. In addition there has been a switching over from organics and traditionally prime reared beef to conventional beef.”

 

Organic livestock auctions

Welshpool Livestock Sales’ next organic auctions are on 20 October and 17 November. Call 01938 553438 for details.

Carmarthen Livestock Centre holds regular organic auctions. For details call 01267 236268 or Huw Evans on 07976 328177 or e-mail carmarthen@auctionmarts.com.

 

Market reports

Dolgellau - Farmers Marts (RG Jones) Ltd, Sept 26 organic prices: Organic Lleyn Yrl Ewes to £40.00; Organic Lleyn Ewes to £36.00; Yrl Organic Texel Rams to 200gns. Full market report

 

Organic price information

More livestock price information can be found at www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml 

Marchnad Organig - Ffrwythau a llysiau

 

Yn ôl i'r brig

 

Organics to go yn adrodd

Mae Organics to Go yn parhau i chwilio am gyflenwyr newydd ar gyfer eu cynlluniau blychau. Os oes gennych ffrwythau a/neu lysiau i’w gwerthu neu os hoffech werthu yn y dyfodol, cysylltwch â Roger Hallam ar 01558 669020 neu edrychwch ar www.organicstogo.info.

    Y prisiau cyfredol (o’r fferm) 6 Hydref y 2008) yw: bresych 45c yr un moron 50c/kg tatws £8/25kg sbigoglys£3.50/kg letys 70c yr un calabrese£1.60/kg maip 50c/kg pannas 80c/kg

 

Ffocws ar yr organig yn Interpoma

Bydd diwrnod olaf cyngres afalau Inerpoma eleni yn Bolzano, Yr Eidal yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar Gynhyrchu a’r Farchnad Organig. Cyngres Afalau Ryngwladol Interpoma; “Yr Afal yn y Byd” 6-8 Tachwedd 2008. Manylion

 

Mwy o gynhyrchu afalau yn East Malling

Mae East Malling Research wedi ymuno â Norman Collett Cyf. i ffurfio partneriaeth a fydd yn gweld ymestyn arwynebedd ffermio organig EMR dros y pedair blynedd nesaf. Freshinfo News 11 Hydref 2008 www.freshinfo.com

 

Astudiaeth organig yn Iwerddon

Mae gweinidog Iwerddon dros Fwyd a Garddwriaeth yn lansio astudiaeth dichonoldeb organig yn rhanbarth Kerry, yn ôl yr Irish Times. Freshinfo News 11 Hydref 2008

 

Llawryfon Organig

Mae dail llawryf organig Cymreig yn cael eu defnyddio gan gogyddion yr Almaen sy’n ffafrio eu blas mwyn ar gyfer seigiau pysgod. http://markets.electronicfrost.co.uk  – gan glicio ‘sylwadau’.

 

Tyfwyr a Chynllun y Taliad Sengl – erbyn 31 Rhagfyr 2008

Gall tyfwyr fod yn gymwys am y Cynllun y Taliad Sengl os buont yn cynhyrchu ffrwythau a llysiau yn 2007. I’r rheini sydd heb hawl gyfredol i Daliad Sengl, dyma gyfle i wneud cais. Rhaid i’r rheini sy’n ceisio anfon eu henwau, cyfeiriad a Chyfeirnod Cwsmer (CRN) os oes un ganddynt i’r Is-adran Taliadau Gwledig, Swyddfa Ranbarthol Caernarfon neu e-bostiwch agriculture.caernarfon@wales.gsi.gov.uk yn fuan. Rhaid i bob cais gael ei ddychwelyd erbyn 31 Rhagfyr 2008. Ni fydd ond un cyfle i wneud cais am hawl. Gellir cael manylion cymhwysedd i dyfwyr llysiau yn fan hyn.

 

Gwybodaeth am brisiau organig

Am fwy o wybodaeth a phrisiau garddwriaeth gweler hefyd http://www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml

Organic Market - Fruit and vegetables

 

Back to top

 

Organics to go reports

Organics to Go continues to look for new suppliers for their box schemes. If you have organic fruit and/or vegetables to sell or would like to sell in the future, please contact Roger Hallam on 01558 669020 or see www.organicstogo.info.

    Current prices (ex-farm) (6 Oct 2008) are: cabbage 45p each, carrots 50p/kg, potatoes £8/25kg, spinach£3.50/kg, lettuce 70p each, calabrese £1.60/kg, swede 50p/kg, parsnip 80p/kg.

 

Focus on organics at Interpoma

The final day of this year’s Interpoma apple congress in Bolzano, Italy will be devoted to ‘Organic Production and the Market’. Interpoma International Apple Congress, ‘The Apple in the The World’, 6-8 November 2008. Details  

 

More organic apple production at East Malling

East Malling Research has joined with Norman Collett Ltd to form a partnership that will see the extension of EMR's organic farming acreage over the next four years. Freshinfo News 11 October 2008  www.freshinfo.com.

 

Organic study launched for Irish region

Ireland's minister for food and horticulture is launching an organic feasibility study in the region of Kerry, according to the Irish Times. Freshinfo News 11 October 2008

 

Organic E Bay

Welsh organic bay leaves are being used by top German chefs who prefer their mild flavour for fish dishes. See http://markets.electronicfrost.co.uk – and click ‘comments’ bottom left.

 

Growers: register for the SPS by 31 December

Growers may be eligible for the Single Payment Scheme if they produced fruit and vegetables in 2007. For those with no current entitlement to Single Payment this is an opportunity to apply. Applicants need to send their name, address, and Customer Reference Number (CRN) if they have one to Rural Payments Division, Caernarfon Divisional Office, or e-mail agriculture.caernarfon@wales.gsi.gov.uk soon. All applications must be returned by 31 December 2008. There will only be one opportunity to apply for entitlement. Eligibility details for vegetable growers can be found here.  

 

Organic price information

For more details and prices in horticulture see also www.organic.aber.ac.uk/markets/miwales.shtml

 

Marchnad Organig - Newyddion

 

Yn ôl i'r brig

 

Planet Organic yn ehangu yn Llundain

Mae’r archfarchnad Planet Organic wedi agor siopau mewn dau leoliad newydd. Bellach mae gan y cwmni bum cangen yn Llundain gan gynnwys y rhai newydd yn Islington a Muswell Hill. Planet Organic oedd archfarchnad ardystiedig gyflawn gyntaf y DU pan agorodd ei siop flaengar yn Notting Hill yn Llundain ym 1995. Mae gan Planet Organic gynlluniau i agor siopau pellach. www.planetorganic.com 

 

Melysion organig

Cynyddodd nifer y lansiadau cynnyrch ar gyfer melysion organig yn Ewrop chwe gwaith rhwng 2006 a 2008. Cofnododd ddadansoddwyr y farchnad, Mintel, 86 o lansiadau cynnyrch yn Ewrop ym maes melysion organig yn ystod y 12 mis blaenorol a 79 eraill yn yr UDA. Mae twf digidau dwbl ar gyfer y farchnad organig €25.8 biliwn fyd-eang yn cyferbynnu’n llwyr â’r amcangyfrif diweddaraf o 2 y cant yn unig ar gyfer y farchnad felysion yn y DU yn unig. Food Navigator

 

Bwytai Bro Riverford

Mae Riverford yn cynllunio “bwytai bro” i ganol trefi a fydd yn gweini prydau o fwyd fforddiadwy gan ddefnyddio cynnyrch ffres. Yn ôl Guy Watson, sefydlydd Riverford Organic Vegetables, mae o am ddod â’r ethos o ran bwyta’n dymhorol ac yn ffres i gynulleidfa ehangach – gan gael gwared â’r myth mai bwyd drud yw bwyd organig. Stori

 

Offer IFOAM ac UN ar gyfer cywerthedd organig

Mae ymdrech i gydgordio masnach mewn cynnyrch organig rhwng marchnadoedd sydd â gwahanol safonau ac amodau amgylcheddol wedi dwyn ffrwyth, wrth lansio dau offeryn i bennu cywerthedd rhwng safonau. FoodNavigator

Organic Market - News updates

 

Back to top

 

Planet Organic expands in London

Planet Organic supermarket has opened stores in two more locations. The company now has five branches in London including the new ones in Islington and in Muswell Hill. Planet Organic was the UK’s first fully certified organic supermarket when it first opened its flagship store in Notting Hill, London, in 1995. Planet Organic has plans to open further stores. www.planetorganic.com 

 

Organic sweets

New product launches for organic sweets in Europe increased by a factor of six from 2006 to 2008. Market analysts Mintel recorded 86 European product launches in the organic sweets arena in the previous 12 months and a further 79 in the USA. Double digit growth rates for the burgeoning €25.8 billion global organic market contrast sharply with estimated market growth of just 2 per cent for the confectionery market in the UK alone. Food Navigator 

 

Riverford Neighbourhood Restaurants

Riverford is planning town centre "neighbourhood restaurants" serving affordable meals using freshly-grown produce. Guy Watson, founder of Riverford Organic Vegetables says he wants to bring the seasonal and fresh dining ethos to a wide audience – and etch away the myth that organic food is expensive food. Story  

 

IFOAM and UN tools for organic equivalence

An effort to harmonise trade in organic produce between markets with different standards and environmental conditions has yielded fruit, with the launch of two tools to establish equivalence between standards. FoodNavigator

 

Marchnad Organig - Prisiau adwerthol

 

Yn ôl i'r brig 

 

Prisiau Organig Cyfredol

Tatws (1.5 kg) Tesco £0.99 Sainsbury: £1.25 Morrisons: £1.11 Asda - N/F

Cig oen (tshiop) (kg) Tesco £12.95 Sainsbury: £13.98 Morrisons: - N/F Asda £12.12

Stêc ffiled eidion (kg) Tesco £27.48 Sainsbury: £27.48 Morrisons: - N/F Asda £22.99

Briwgig eidion (500kg) Tesco £2.95 Sainsbury: £2.99 Morrisons: - Asda £2.00

Stêc syrlwyn eidion (kg bach) Tesco £18.48 Sainsbury: £19.89 Morrisons: - Asda £18.48

 

Am fwy o fanylion gweler https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml 

 

Organic Market - Retail price watch

 

Back to top

 

Current Organic Prices

Potatoes (1.5 kg) Tesco £0.99 Sainsbury: £1.25 Morrisons: £1.11 Asda - N/F

Lamb (chops) (kg) Tesco £12.95 Sainsbury: £13.98 Morrisons: - N/F Asda £12.12

Beef fillet steak (kg) Tesco £27.48 Sainsbury: £27.48 Morrisons: - N/F Asda £22.99

Beef mince (500kg) Tesco £2.95 Sainsbury: £2.99 Morrisons: - Asda £2.00

Beef sirloin steak (kgsmall) Tesco £18.48 Sainsbury: £19.89 Morrisons: - Asda £18.48

 

 

For more details see https://secure.tesco.com/todayattesco/pricecheck.shtml 

 

Marchnad Organig - y Farchnad

 

Yn ôl i'r brig

 

Gweler hefyd www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php

 

Ar werth

3 buwch sugno gyda lloi mis oed i’w canlyn. cysylltwch â M Wakelin 01974 241676 neu 07855 151407. [13/10/08]

150 o Wartheg Stôr o’r Ansawdd Gorau mewn Marchnadoedd Ffermwyr, Marchnad Dolgellau ddydd Gwener, 24 Hydref. Catalogau ar gael ar gais. Ffôn: 01341 422334. [8/10/08]

750 o ieir sydd wedi gorffen dodwy gyda digon o fywyd ynddynt o hyd, yn ddi-dâl i’w casglu o Gas-gwent ar ddiwedd Tachwedd. Galwch Colin a Jacquie ar 01291 689305 neu e-bostiwch c_bull@btconnect.com.  [07/10/08]

Gwenith organig cynhaeaf 2008, wedi’i sychu hyd at 15t ar gael. Ardal y Drenewydd/Y Trallwng. Cysylltwch â Rob Owen 07787 378713. [07/10/08]

Gwlân organig (Du neu Wyn Mynydd Cymreig). Deunydd ynysu organig da ar gyfer cartrefi sy’n eco-gyfeillgar. 01550 777425 neu e-bostiwch glanmarlais@freeuk.com. [01/09/08]

Lloi organig, Aberdeen Angus, Belgian Blue, Henffordd a Limousin yn bennaf, o Fuches Friesian Prydeinig sy’n lloia drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â Robert Fear 01545 570251.

Meheryn Meatlinc ar werth – yn glir o’r Ysfa. Yn gofnodedig o dan Gynllun Epilio’r Comisiwn Cig a Da Byw. Meheryn ar gael i’w gweld a’u gweithio o ER & JE VINES - 01989 720289 neu e.vines@burtonfarm.com  neu ewch at ein gwefan www.meatlinc.co.uk.

Porthiant anifeiliaid yn addas ar gyfer da byw organig seiliedig ar farlys a cheirch organig. Cysylltwch â: Tom neu Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. 

Defaid Shetland o frîd organig – pob oed, gwryw a beinw – bob amser ar gael. Amrywiaeth eang o liwiau sy’n cynhyrchu gwlân i’w nyddu â llaw. Cig blasus at ddant cigyddion bridiau prin. Yn wyna’n hawdd, yn famau da. Llogi maharen. pcdixon@waitrose.com Ffôn: 01454 299236. (De Swydd Gaerloyw yn agos at Bont Hafren).

 

Yn eisiau

Lloi heffer Lim x FR wedi’u geni rhwng Mawrth-Mai 08, hefyd heffrod gwasod Lim x FR Mawrth – Mai 07, yn cael eu troi’n organig, neu’n hollol organig. Pumsaint, gogledd Caerfyrddin 01558 650 361. [13/10/08]

Ŵyn stôr organig Galwch Matthew Brown ar 07973 857978. [07/10/08] Tac yn eisiau dros y gaeaf i 300-400 o famogiaid/ŵyn beinw. Ddiwedd mis Hydref tan ddiwedd mis Mawrth gogledd canolbarth Cymru. Galwch Wyn ar 01678 540621. [30/09/08]

Pori i 200 o famogiaid o ganol mis Hydref hyd at 1 Mawrth 2009. 07974 820305. [26/09/08]

 

I'w osod

Tenantiaeth Busnes Fferm ar gynnig am gyfnod penodedig o fis Medi 2009, ar ddaliad organig sefydledig (er 1992) o 145 o erwau glân gan gynnwys ffermdy, cyfres o adeiladau (modern yn bennaf) a pharlwr saethben. Wedi’i lleoli ger arfordir gogledd Pendro ar dir gweddol wastad sy’n elwa o dymor tyfu cynnar. Arolwg cynnar yn fuddiol. Ffôn: 07831 582718 E-bost: tom.latter@btopenworld.com  [10/10/08]

Ffermdy hyfryd â/heb hyd at 17 erw o dir pori a siediau. Ar y ffin rhwng Sir Benfro a Sir Gâr ger Arberth. I’w osod am gyfnod hir neu fyr. 5 llofft, 2 ystafell ymolchi, £725 y mis, ychwanegion at y tŷ i’w trafod. Ffôn.01437 563255. [07/10/08]

Tac defaid ar gael i 200 o ŵyn beinw ddiwedd mis Hydref tan 1 Mawrth 2009. Fferm wedi’i ffensio’n ddwbl, yn lân o ran defaid yn yr haf. Ardal Dinbych. Iwan 07966 440 498 neu 01745 550 409. [26/09/08]

 

Amrywiol

Gwasanaeth dal tyrchod daear – Gallwn reoli tyrchod daear ar dir eich fferm yn llwyddiannus heb ddefnyddio unrhyw gemegau. Maglwyr profiadol dros ganol a gorllewin Cymru. Geirda ar gael ar gais gan Dr Matthew Rogers. 07720 734129. [13/10/08]

Mae Graig Producers Cymru a’r Gororau wedi cynrychioli’i 280 o aelodau gan farchnata eu da byw, ers dros 10 mlynedd. Mae hefyd yn gweithredu fel rhan o Rwydwaith Cenedlaethol â Graig Producers South West and Caledonian Organics gan harneisio nerth marchnata dros 500 o aelodau sy’n ffermio’n organig. Ceir llawer iawn o fanteision i aelodaeth. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.graigproducers.co.uk neu am fanylion i wneud cais, ffoniwch 01597 851704, neu e-bostiwch producers@graigfarm.co.uk.  [hysbyseb barhaol]

 

Rhoddodd Ail Gynllun Gweithredu Organig Cymru bwyslais arbennig ar y swyddogaeth bwysig a gyflawnir gan y grwpiau cynhyrchu. Mae Grŵp Strategaeth Organig a Chanolfan Organig Cymru’n cynnig eu cefnogaeth gan argymell y dylai cynhyrchwyr bob amser ystyried y budd posibl a gynigir gan grwpiau marchnata cynhyrchwyr yn enwedig wrth ymdrin ag adwerthwyr lluosog.

Organic Market - Marketplace

 

Back to top

 

See also www.soilassociation.org/organicmarketplace and www.organicfarmers.org.uk/classifieds/index.php

 

For Sale

Three suckler cows with month old calves at foot. contact M Wakelin 01974 241676 or 07855 151407. [13/10/08]

150 Top Quality Store Cattle at Farmers Marts, Dolgellau Market on Friday, 24th October. Catalogues available on request. Tel: 01341 422334. [8/10/08]

750 end of lay hens with lots of life left, free to collect from Chepstow in late November. Call Colin and Jacquie on 01291 689305 or email c_bull@btconnect.com. [07/10/08]

Organic Wheat from 2008 harvest, has been dried, up to 15t available. Newtown/Welshpool area. Contact Rob Owen 07787 378713. [07/10/08]

Organic wool (Black or White Welsh Mountain). Good organic insulation material for eco-friendly homes (Organic since 2000). 01550 777425 or email glanmarlais@freeuk.com. [01/09/08]

Organic calves, mainly Aberdeen Angus, Belgian Blue, Hereford and Limousin, from all year round calving British Friesian Dairy herd. Contact Robert Fear 01545 570251 [permanent advert]
Meatlinc rams for sale - Scrapie free, MV accredited, MLC Sire Reference Scheme fully recorded. Rams available for viewing and work from ER & JE VINES - 01989 720289 or e.vines@burtonfarm.com or visit our website www.meatlinc.co.uk.  [permanent advert]

Animal feeds suitable for organic livestock based on organic barley and oats. Contact: Tom or Eva Cowcher, Llandysul, 01559 363200. [permanent advert]
Organic pure bred Shetland sheep – all ages, male and female - always available. Wide range of colours producing fine wool for handspinners. Tasty meat, prized by rare breed butchers. Easy lambers, good mothers. Ram hire. Pcdixon@waitrose.com Tel: 01454 299236. (South Gloucestershire - close to Severn Bridge). [permanent advert]

 

Wanted

Lim x Fr heifer calves born Mar-May 08, also Lim x FR bulling heifers Mar-May 07. in conversion or fully organic, Pumsaint, North Carms 01558 650 361. [13/10/08]

Organic store lambs. Call Matthew Brown on 07973 857978. [07/10/08] Winter tack wanted for 300-400 ewes/ewe lambs. End of October until end of March. North or Mid Wales. Call Wyn on 01678 540621. [30/09/08]

Grazing for 200 ewes from mid October to 1st March 2009. 07974 820305. [26/09/08]

 

To let

Farm Business Tenancy offered for fixed term, from September 2009, on established organic holding (since 1992) of 145 clean acres, including farm house, range of predominantly modern buildings and herringbone parlour. Situated near north Pembrokeshire coast, the relatively level land benefits from an early growing season. Early inspection advised. Tel: 07831 582718 Email: tom.latter@btopenworld.com  [10/10/08]

Lovely Farmhouse with/out up to 17acres grazing and sheds. Pembs/Carms border near Narberth. Long or short let. 5 bedrooms, 2 bathrooms, £725/month house, extras negotiable.Tel.01437 563255. [07/10/08]

Sheep tack available for 200 ewe lambs, end Oct until March 1st 2009. Farm double fenced, clean of sheep in summer. Denbigh area. Iwan 07966 440 498 or 01745 550 409. [26/09/08]

 

Miscellaneous

Mole trapping service - We can control your farmland moles successfully without using any chemicals. Experienced trappers covering mid and west Wales. References available upon request from Dr. Matthew Rogers. 07720 734129. [13/10/08]

Graig Producers Wales & Borders has represented the interests of its 280 members and marketed their livestock for over 10 years. It also operates as part of a National Network with Graig Producers South West and Caledonian Organics, with the collaborative marketing power of over 500 organic farming members. There are many advantages to membership. For more information go to www.graigproducers.co.uk or for application details please ring 01597 851704, or e-mail producers@graigfarm.co.uk.  [permanent advert]

 

The second Welsh Organic Action Plan placed special emphasis on the important role played by producer groups. The Organic Strategy Group and Organic Centre Wales offer their support and recommend that producers should always consider the potential benefits offered by producer marketing groups, particularly when dealing with multiple retailers.

Hwn oedd y cylchlythyr gwybodaeth farchnata misol gan Ganolfan Organig Cymru. Llwyfan yw’r e-fwletin hwn ar gyfer rhannu gwybodaeth am dueddiadau’r farchnad a chynhyrchu rhwng busnesau organig yng Nghymru. Rydym yn gobeithio eich bod yn ei gael yn fuddiol a chroesawn unrhyw adborth, eitemau newyddion, neu hysbysebion ar gyfer y rhifyn nesaf. Gweler ôl-rifynnau yn www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin

This was the monthly market intelligence newsletter from Organic Centre Wales. This e-bulletin is a platform for sharing information on market trends and production between organic businesses in Wales. We hope that you find it useful and we welcome any feedback, news items, or advertisements for the next issue. See back numbers at www.organic.aber.ac.uk/markets/mibulletin.

 

Adborth

 

EITEMAU NEWYDDION Anfonwch eich eitemau newyddion, adborth a hysbysebion at david.frost@adas.co.uk.

 

Er bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau cywirdeb yr wybodaeth yn y bwletin yma, ni all Canolfan Organig Cymru a’i phartneriaid dderbyn cyfrifoldeb am ganlyniadau unrhyw gamau a gymerir ar sail unrhyw un o’u cyhoeddiadau

 

Yn ôl i'r brig

Feedback

 

NEWS ITEMS Please send your news items, feedback and advertisements to david.frost@adas.co.uk.

 

While every effort is made to ensure the accuracy of the information in this bulletin, Organic Centre Wales and its partners cannot accept responsibility for the consequences of any actions taken on the basis of any of its publications..

 

Back to top

I danysgrifio i’r bwletin hwn, dylid anfon neges at Jane Powell. Gellwch hefyd danysgrifio i e-fwletin Cymru Organig sy’n ymddangos ar ddechrau pob mis yn cynnwys y newyddion organig diweddaraf yng Nghymru, y DU a thu hwnt. Gweler www.organic.aber.ac.uk/bulletin

To subscribe to this bulletin send a message to Jane Powell. You can also subscribe to the Organic Wales e-bulletin, which appears at the beginning of each month featuring the latest organic news in Wales, the UK and beyond. See www.organic.aber.ac.uk/bulletin