|
DATGANIAD I'R WASG
16/4/08
Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd: DVD i ysgolion
Yn anffodus o aml, nid yw
plant yn deall o le mae’u bwyd yn dod, ond gall ymweld â ffermydd, garddio a
choginio eu helpu i ddeall sut mae bwyta’n iach a gofalu am yr amgylchedd. Dyna
neges DVD newydd, a gomisiynwyd gan Ganolfan Organig Cymru a FACE Wales, a fydd
yn cael ei lansio gan Elin Jones, sef yr AC dros Geredigion a’r Gweinidog dros
Faterion Gwledig, yng Ngwesty TyGlyn a fferm Blaencamel, Ciliau Aeron, ddydd
Gwener 18 Ebrill.
‘Gobeithio y bydd y DVD yn ysbrydoli athrawon i fanteisio ar yr holl gyfleodd
sydd ar gael i blant ddysgu o brofiad uniongyrchol am gynhyrchu bwyd, megis
ymweld â fferm neu farchnad ffermwyr, neu dyfu bwyd ar dir yr ysgol,’ meddai
Jane Powell o Ganolfan Organig Cymru a FACE Cymru.
Cafodd y DVD dwyieithog 7-munud ei gynhyrchu a’i gyfarwyddo gan Nick Rebbeck,
Swyddog Addysg gyda Dysgu ar y Fferm. Mae’n dilyn nifer o ysgolion cynradd, gan
gynnwys Llandysul, Llanilar, Llwyn-yr-Eos a Thregaron, wrth iddynt gael blas ar
brofiad ‘Dysgu ar hyd y gadwyn fwyd’. Mae hyn yn cwmpasu ymweliadau â ffermydd,
garddio, ymweld â marchnad ffermwyr ar dir yr ysgol, paratoi a choginio llysiau
ar y Bws Coginio a noddwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, a mwynhau cinio ysgol
o fwyd lleol.
Mae’n gorffen gyda chymeradwyaeth gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu
Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt AC, ac mae’n ategu sawl prosiect y Cynulliad, gan
gynnwys Blas am Oes, y cynllun bwyd ysgolion. Dosberthir y DVD i ysgolion ar
draws Cymru yn rhad ac am ddim. Cyllidwyd y cynhyrchiad gan RAFAEL, prosiect yr
UE i hybu ‘bwyd go iawn’ yn ardal yr Iwerydd.
Mae taflen wybodaeth sy’n cyd-fynd â’r DVD ac sy’n rhoi manylion am ystod o
sefydliadau sydd yn gallu helpu ysgolion, gan gynnwys prosiect PABA ym Mhowys,
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Eco-Sgolion, a’r Cynllun Ysgolion Iach.
Diwedd
Gwybodaeth bellach:
Jane Powell, Canolfan Organig Cymru/FACE Cymru, Prifysgol
Aberystwyth, Ffon. 01970 621530, e-bost jnp@aber.ac.uk.
Nick Rebbeck, Swyddog Addysg, Dysgu ar y Fferm, 01570 470470, 07977 904949.
e-bost nick.rebbeck@virgin.net
Nodiadau i olygyddion
1. Gellir edrych ar y DVD yn fan hyn:
www.organic.aber.ac.uk/cymraeg/schools neu ofyn i Ganolfan Organig Cymru am
gopi.
2. Am fwy o wybodaeth am Ganolfan Organig Cymru, gweler
www.organic.aber.ac.uk.
3. Mae FACE Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â
Chanolfan Organig Cymru, Dysgu ar y Fferm a Phrosiect PABA i hybu dealltwriaeth
am ffermio a chefn gwlad ymhlith ysgolion. Am fwy o wybodaeth gweler
www.face-cymru.org.uk.
4. Mae Dysgu ar y Fferm yn cysylltu ysgolion a grwpiau
lleol yng Ngheredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro ac Abertawe â’r ‘Dosbarth
Awyr Agored’ gan ddarparu ymweliadau ag ysgolion ac â ffermydd wrth eu gwaith, i
ddysgu disgyblion o ble mae bwyd yn dod a sut mae’n cael ei gynhyrchu. Gweler
www.learningonthefarm.org.uk
Yn ôl i dudalen
datganiadau i'r wasg
|